Llysgenhadon Dysgu – Beth yw modiwl Blackboard wedi’i gynllunio’n dda? – Canfyddiadau Prosiect

Yn yr wythnos yn dechrau 12 Gorffennaf cynhaliodd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu y prosiect Beth yw modiwl Blackboard wedi’i gynllunio’n dda? Dewiswyd 9 myfyriwr yn Llysgenhadon Dysgu i weithio gyda ni. Roedd y grŵp yn cynnwys: un myfyriwr Hanes israddedig 3edd flwyddyn, un myfyriwr Astudiaethau Plentyndod israddedig 3edd flwyddyn, dau fyfyriwr israddedig Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol 2il flwyddyn, un myfyriwr Economeg israddedig 3edd flwyddyn, un myfyriwr Hawliau Dynol a Chyfraith Ddyngarol Ryngwladol uwchraddedig, un myfyriwr 3edd flwyddyn a dau fyfyriwr 2il flwyddyn Seicoleg israddedig.

Trwy gydol y prosiect bu’r myfyrwyr yn gweithio ar y tasgau canlynol, yn annibynnol ac yn rhan o’r grŵp:

  • taflu syniadau am yr hyn mae’n ei olygu i fodiwl fod wedi’i gynllunio’n dda
  • cynhyrchu rhestr o eitemau y dylid eu cynnwys mewn modiwl Blackboard
  • categoreiddio’r rhestr o eitemau
  • cymryd rhan mewn profion defnyddioldeb ar ddau fodiwl Blackboard sy’n bodoli eisoes
  • rhoi taith i ni drwy fodiwl Blackboard yn eu hadran oedd yn un hylaw
  • ysgrifennu blog byr ar un agwedd ar gynllun modiwl sy’n bwysig iddyn nhw gydag awgrymiadau ymarferol i staff addysgu
  • nodi problemau cyffredin mewn modiwlau Blackboard, myfyrio ar eu heffaith, a chreu set o argymhellion ynglŷn â’u datrys
  • cynnig newidiadau i Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn cyhoeddi canfyddiadau’r prosiect yn cynnwys blogiau gan y Llysgenhadon eu hunain. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Angela, Erin, Katie, Ammaarah, Elisa, Lucie, Charlotte, Gabriele a Nathalia am eu gwaith caled ar y prosiect. Credwn y bydd yr holl staff yn ystyried y canfyddiadau yr un mor ddefnyddiol ag y gwnaethom ni.

Wrth i fy nghyfnod i fel Arbenigwr Dysgu Ar-lein yr Uned ddod i ben, rwy’n hynod o falch a diolchgar i allu gorffen drwy gynnal y prosiect hwn. Rydw i wir yn credu y dylai cynnwys myfyrwyr yn weithredol wrth gynllunio eu dysgu fod yn flaenoriaeth ac rwy’n gobeithio am fwy o gyfleoedd ar gyfer partneriaethau staff-myfyrwyr. Hoffwn ddiolch i’r holl staff y cefais gyfle i weithio gyda nhw dros y misoedd diwethaf, diolch am eich gwaith ysbrydoledig a’ch ymrwymiad parhaus i ddarparu’r profiad gorau bosibl i’n myfyrwyr.

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 28/7/2021

Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.  

Digwyddiadau a gweminarau ar-lein  

Adnoddau a chyhoeddiadau

Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.

Astudiaethau Achos Offer Blackboard Rhyngweithiol – Wicis

Distance Learner Banner

Mae’r astudiaeth achos hon yn seiliedig ar y bennod The Student-led Planning of Tourism and Hospitality Education: The Use of Wicis to Enhance Student Learning gan Dr Mandy Talbot (Ysgol Funes Aberystwyth) a gyhoeddwyd yn The Routledge Handbook of Tourism and Hospitality Education, ac yn cynnwys detholiadau ohoni.

Pa offeryn ydych chi’n ei ddefnyddio a pham? 

Defnyddiodd Dr Mandy Talbot wicis Blackboard i hwyluso ‘prosiect dysgu cydweithredol dan arweiniad myfyrwyr (…) ar y modiwl ail flwyddyn gradd baglor: datblygu twristiaeth ryngwladol. (…) Roedd gwaith cwrs y modiwl yn gofyn i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bach i nodi a gwerthuso’r strategaethau datblygu twristiaeth oedd yn cael eu dilyn mewn cyrchfannau twristaidd penodol a’u cymharu â’r dulliau a ddefnyddid mewn mannau eraill. Oherwydd natur gydweithredol a rhyngweithiol yr aseiniad, yr offeryn gwe mwyaf addas oedd y wici.’

Pam ddewisoch chi’r offeryn hwn?

Cyn cyflwyno’r wicis ‘roedd myfyrwyr yn ymgymryd â’r ymarfer trwy greu a rhoi cyflwyniad PowerPoint grŵp 15 munud i’r dosbarth, gyda 10 munud arall ar gyfer cwestiynau.’ Newidiodd Dr Mandy Talbot fformat yr aseiniad er mwyn:

  1. ‘Gwella cydlynrwydd gwaith grŵp y myfyrwyr: Mae fformat wici yn rhoi gofod gwaith cydweithredol i fyfyrwyr ddatblygu eu gwaith’
  • ‘Cynnig mwy o gyfle i fyfyrwyr ryngweithio â gwaith grwpiau eraill: Trwy fformat wici gall myfyrwyr ymweld â chyflwyniadau ei gilydd dros gyfnod estynedig. Mae gan dudalennau wici hefyd flychau ar gyfer sylwadau sy’n galluogi myfyrwyr i holi a chynnal trafodaeth ar y safleoedd eraill.’
  • ‘Datblygu sgiliau TG myfyrwyr: Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i greu a strwythuro tudalennau gwe’.

Read More

Hwyl fawr, a diolch am yr holl…

…heriau, awgrymiadau, a dealltwriaeth o nifer wahanol adrannau yn y brifysgol! Rwyf wedi cael amser wrth fy modd dros yr 11 mis diwethaf yn gweithio gyda’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu fel Arbenigwr Dysgu Ar-lein.

Ar ôl dechrau gyda Chynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol 2020, roedd hi’n hyfryd bod yn rhan o’r un digwyddiad yn 2021  tuag at ddiwedd fy nghyfnod yn y swydd hon. Y tro hwn, fe wnes i gyflwyniad (er bod hynny yn fy rôl fel Darlithydd Theatr a Senograffeg gyda ThFfTh) – cewch hyd i recordiad o’r papur hwnnw yma (dim ond Saesneg). Mae’r ddau ddigwyddiad yn cyplysu amser prysur o ddysgu ac addysgu i mi: ar y cyd â’m cydweithwyr hyfryd, fe wnes i gynllunio, datblygu a chyflwyno sesiynau hyfforddi ar bopeth o Blackboard i Vevox. Fe wnes i gefnogi staff o sawl adran wahanol i addasu o ddysgu cymysg wyneb yn wyneb, i ddysgu ar-lein yn unig, ac yn ôl. Nid gor-ddweud yw dweud fy mod wedi fy syfrdanu gan yr ymroddiad, y penderfyniad a’r dyfeisgarwch a ddangoswyd gan ein cydweithwyr ledled y brifysgol. Rwy’n siŵr y bydd yr adnoddau a gynhyrchwyd gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn parhau i gefnogi staff wrth i ni wynebu blwyddyn academaidd arall a fydd o bosibl yn llawn addasiadau angenrheidiol. Cadwch lygaid ar y tudalennau Hyfforddiant Staff – byddaf fi’n sicr yn eu defnyddio.

Wrth i mi a’m cydweithwyr, sy’n arbenigo ym maes Dysgu Ar-lein, symud ymlaen i heriau eraill, roeddwn eisiau manteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl gydweithwyr yn y Gwasanaethau Gwybodaeth, ac yn arbennig i’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu, am fod mor groesawgar a chaniatáu i mi feithrin gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o’r gwaith amlochrog y mae’r adran yn ei wneud. Diolch o galon i gyd!

Diweddariadau i’r Polisi E-gyflwyno ac E-adborth

Banner for Audio Feedback

Mae’r Polisi E-gyflwyno a ddiweddarwyd wedi’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwella Academaidd. Gallwch ddarllen y polisi wedi’i ddiweddaru ar ein Tudalennau E-gyflwyno.

Diben y polisi wedi’i ddiweddaru oedd sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’n Polisi Cipio Darlithoedd a rhoi gwell eglurder am ei gwmpas a’r gofynion gan staff a myfyrwyr. 

Un newid mawr a fydd yn effeithio ar greu mannau cyflwyno Turnitin yw cyflwyno polisi sy’n rhoi dewis i’r myfyriwr gyflwyno nifer o weithiau cyn y dyddiad cau, a hefyd gweld eu hadroddiad gwreiddioldeb yn Turnitin. Wrth greu’r man cyflwyno yn Turnitin, dewiswch y gosodiadau canlynol:

  • Creu Adroddiadau Tebygrwydd i Fyfyrwyr – Ar unwaith (gellir arysgrifennu tan y Dyddiad Dyledus)
  • Caniatáu i fyfyrwyr weld Adroddiadau Tebygrwydd – Ie

Mae’r polisi wedi’i ddiweddaru’n amlinellu:

  • Cwmpas yr E-gyflwyno a’r E-adborth
  • Sut mae ein technolegau E-gyflwyno’n defnyddio eich data chi a’ch myfyrwyr
  • Awgrymiadau ar gyfer cyflwyno gwaith yn electronig, cynnwys dyddiadau cau, rhoi cyfle i’r myfyrwyr ymarfer cyflwyno.
  • Graddio a disgwyliadau adborth
  • Cyflwyno traethodau hir yn electronig
  • Cyfnodau Cadw
  • Hawlfraint
  • Sut yr ymdrinnir â methiannau TG
  • Cyfarwyddyd hygyrchedd i staff a myfyrwyr
  • Y gefnogaeth sydd ar gael

Mae’n ein tudalen E-gyflwyno’n amlinellu’r holl gymorth a’r hyfforddiant sydd ar gael i staff ar e-gyflwyno. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch sut i ddefnyddio’r offer hyn anfonwch e-bost atom ar (eddysgu@aber.ac.uk).

2020/21 Siaradwyr ac Adnoddau Allanol

Fel rhan o raglen DPP eleni, cawsom groesawu nifer o siaradwyr gwadd a’n cyflwynodd i safbwyntiau newydd ac arbenigedd unigryw ar amrywiol agweddau ar ddysgu ac addysgu. Er mwyn paratoi am y flwyddyn sydd i ddod, hoffem eich atgoffa o rai o’r pynciau a drafodwyd a’r adnoddau sydd ar gael i chi. Ein gobaith yw, trwy ddatblygu ar y sesiynau hyn a sesiynau eraill a drefnwyd i chi gan yr Uned eleni, y byddwch yn teimlo’n barod i addasu ac arloesi wrth addysgu.

Yr Athro Ale Armellini: The Journey towards Active Blended Learning

Rhannodd prif siaradwr gwadd cynhadledd yr haf diwethaf, yr Athro Ale Armellini, ei fewnwelediad a’i gyngor ar ddysgu arloesol ac addysgeg ar-lein.

Recordiad


Dr Naomi Winston: From Transmission to Transformation: Maximising Student Engagement with Feedback

Yng Nghynhadledd Fach gyntaf y flwyddyn, cawsom gyfle i wrando ar Dr Naomi Winstor oedd yn dadlau mai mater o ddyluniad, yn y bôn, yw cynyddu’r defnydd a wneir gan fyfyrwyr o adborth, ac y gellir trawsffurfio rhan y myfyrwyr mewn asesiad trwy roi cyfleoedd iddynt ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i ddefnyddio adborth yn effeithiol, a rhoi cyfleoedd iddynt ddefnyddio adborth,.

Recordiad


Frederika Roberts: Flourishing at Aberystwyth – Putting Positive Education into Practice

Ym mhrif araith y Gynhadledd Fach hon, dysgodd y gynulleidfa am elfennau allweddol seicoleg gadarnhaol yng nghyd-destun addysg uwch a strategaethau ymarferol er mwyn gwella eu lles eu hunain.

Recordiad


Kate Lister: Online Communities and Student Well-being

Edrychodd Kate Lister o Advance HE ar greu cymunedau digidol effeithiol a all gyfrannu at roi ymdeimlad o berthyn a phwrpas i fyfyrwyr, hyrwyddo cysylltiadau ystyrlon, a rhoi cefnogaeth heb ddibynnu ar y campws.

Recordiad


Dr Kate Exley: Taking your (PowerPoint) Lectures Online

Cafodd Dr Kate Exley ei gwahodd i gyflwyno gweithdy ar y dasg o symud darlithoedd, a arferai gael eu cyflwyno mewn darlithfeydd ac ystafelloedd dosbarth mawr, er mwyn eu cyflwyno ar-lein.

Crynodeb


Dr Sally Brown a Dr Kay Sambell – Improving assessment and feedback processes post-pandemic: authentic approaches to improve student learning and engagement.

Yn ystod ein Gŵyl Fach ar asesu, arweiniodd Dr Sally Brown a Dr Kay Sambell weithdy a gynlluniwyd i atgyfnerthu’r hyn a ddysgwyd yn ystod y newidiadau cymhleth a wnaed gan academyddion y llynedd, ac edrych yn fanwl ar y syniad o ddulliau asesu dilys.

Dolen i’r recordiadau a’r adnoddau


Yr Athro Mick Healey a Dr Ruth Healey: Engaging students through student-staff partnership

Gwahoddwyd yr Athro Mick Healey a Dr Ruth Healey i gyflwyno gweithdy ynglŷn â phartneriaethau rhwng myfyrwyr ac aelodau staff, a chawsant eu holi ynghylch cael myfyrwyr i gymryd rhan yn y prosiectau a’r darpariaethau rydym yn eu cyflwyno ar hyn o bryd.

Recordiad


Dr Dyddgu Hywel: Blaenoriaethu Iechyd a Lles Staff

Roedd siaradwr gwadd cyntaf Cynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni yn sôn am flaenoriaethu iechyd a lles staff.

Recordiad


Andy McGregor: What will assessment look like in five years?

Cawsom gyfle hefyd i wrando ar Andy McGregor o JISC yn sôn am ddyfodol asesu. Sgwrs yn seiliedig ar bapur JISC: The future of assessment: five principles, five targets for 2025, sy’n gosod pum targed am y bum mlynedd nesaf er mwyn datblygu asesu i fod yn fwy dilys a hygyrch, a’i awtomeiddio’n briodol ac yn ddiogel.

Recordiad


Dr Chrissi Nerantzi: Breaking Free

Yn olaf, cafodd y brif araith yng nghynhadledd eleni ei chyflwyno gan Dr Chrissi Neratzi a siaradodd am addysgeg agored a hyblyg.


Joe Probert ac Izzy Whitley: Using Vevox to engage learners.

Cyflwynodd Joe Probert ac Izzy Whitley o Vevox, sef meddalwedd pleidleisio’r brifysgol, sesiwn ar sut i ddefnyddio pleidleisio’n effeithiol er mwyn ennyn diddordeb dysgwyr.  

Recordiad

Copïo Cwrs 2021-2022

Bob blwyddyn, mae’r Grŵp E-ddysgu’n creu modiwlau newydd yn Blackboard yn barod ar gyfer addysgu’r flwyddyn nesaf. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22 penderfynodd yr adrannau’n fewnol a fyddai’r modiwlau’n cael eu gadael yn wag neu a fyddai’r cynnwys yn cael ei gopïo. Bydd modiwlau ar gyfer 2021-2022 ar gael o ddechrau mis Awst. 

Bydd modiwlau staff yn yr adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ac IBERS yn cael eu creu’n wag. Rydym wedi paratoi’r Cwestiynau Cyffredin hyn gyda chanllawiau manwl ar gopïo gwahanol elfennau o un modiwl i’r llall yn Blackboard.

Bydd modiwlau pob adran arall yn cael eu copïo. Fel rhan o’r broses copïo cwrs, ni chaiff yr offer a’r cynnwys canlynol eu copïo:

  • Cyflwyniadau Turnitin  
  • Aseiniadau Blackboard  
  • Cyhoeddiadau
  • Blogiau
  • Cyfnodolion  
  • Wicis
  • Recordiadau a dolenni Panopto
  • Cyfarfodydd Teams. 

Hoffem gynorthwyo staff i baratoi eu modiwlau gymaint ag y gallwn. Rydym yn hapus i drefnu ymgynghoriad dros Teams. I wneud hynny, anfonwch e-bost at elearning@aber.ac.uk

Gwella Hygyrchedd – gwersi a ddysgwyd o ymagwedd gyfunol

Cawsom amrywiaeth eang o gyflwyniadau drwy gydol y gynhadledd. Un thema a ddaeth i’r amlwg i mi oedd y ffordd roedd defnydd o ddull dysgu cyfunol yn cynnig gwell hygyrchedd yn benodol drwy deilwra cynnwys modiwlau i weddu i anghenion myfyrwyr. Ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym ni’n falch fod gennym ystod mor amrywiol o fyfyrwyr ac rydym yn darparu dull addysgu cynhwysol. Mae rhai o’r ffyrdd mae ein cyrsiau wedi’u haddasu mewn ymateb i’r amgylchiadau addysgu heriol drwy gydol y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar wella hygyrchedd i’n myfyrwyr.

Cafwyd sgwrs wych gan Neil Taylor o’r Adran Cyfrifiadureg ar ei brofiadau’n creu adnoddau gwe rhyngweithiol hygyrch. Roedd yn ceisio datrys dryswch ynglyn â lleoliad dogfennau roedd wedi’u creu i ddarparu gwybodaeth ar gyfer traethodau hir trydedd flwyddyn. Datblygodd sphinx-doc oedd yn casglu’r holl wybodaeth mewn un lle ac mewn fformat fwy hygyrch. Roedd yn gallu ffurfweddu gwahanol themâu a ffontiau i gyd-fynd ag anghenion y myfyrwyr. Roedd sgwrs Neil yn pwysleisio pwysigrwydd dyluniad rhyngwyneb y dudalen gwe i sicrhau hygyrchedd eang.  I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld y cyflwyniad.   

Rhoddodd aelodau o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol gyflwyniad oedd yn cyflwyno achos o blaid y model hyflex. Dr Louise Marshall, Dr Malte Urban a’r Athro Matt Jarvis oedd yn arwain y cyflwyniad oedd yn gwerthuso manteision y model addysgu hyflex. Roedd myfyrwyr yn gwerthfawrogi hyblygrwydd y dull addysgu ar-lein, oedd yn golygu os oedden nhw’n absennol oherwydd ynysu, salwch neu amgylchiadau eraill, eu bod yn dal i allu ymgysylltu â’r cynnwys a mynychu sesiynau. Siaradodd dau fyfyriwr o’r adran, Alex a Louise, am eu profiadau cadarnhaol o’r model hyflex a sut roedd yn gwella hygyrchedd a chynhwysiant. Rhaid cyfaddef mai hwn oedd un o fy hoff gyflwyniadau, felly os cewch chi gyfle, gwrandewch arno. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld y cyflwyniad.  

Cafwyd cyflwyniad gan Dr Tristram Irvine-Flynn o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau’r Ddaear ar greu Teithiau Maes 3D i Gadair Idris. Ysbrydolwyd hyn i ategu rôl gwaith maes mewn modiwlau Daearyddiaeth. Drwy addasu adnoddau mae’r adran wedi creu amgylchedd mwy hygyrch a phrofiad dysgu gweithredol. Mae’n adnodd dysgu gwych gyda llawer o botensial i gynyddu ac ehangu ei ddefnydd. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld y cyflwyniad.  

Roedd cyflwyniad Kittie Belltree, Mary Glasser, Cal Walters-Davies, a Caroline White o’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd yn ymwneud ag effeithiau dysgu cyfunol ar fyfyrwyr niwroamrywiol. Nodwyd nad oedd profiad pob myfyriwr o ddysgu cyfunol yn arbennig o fanteisiol a bod rhai myfyrwyr niwroamrywiol yn ei chael yn anodd addasu i’r dulliau newydd o ddysgu ac addysgu. Yn y cyflwyniad cafwyd gwybodaeth gan y gwasanaeth hygyrchedd ar ffyrdd y gall staff gefnogi myfyrwyr niwroamrywiol a helpu i sicrhau bod cynnwys eu modiwlau’n hygyrch. Hefyd cafwyd canllaw defnyddiol ar gyfer addysgu cynhwysol. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld y cyflwyniad. 

Rwy’n credu mai’r hyn mae’r symud cyflym i’r model hyflex wedi’i ddangos yw’r defnydd ehangach posibl o ddulliau gwahanol o addysgu. Mae wedi arwain at ddarlithwyr yn gallu rhoi cais ar gyflwyno dulliau mwy beiddgar o addysgu ac asesu. Mae wedi cynnig cyfle i adrannau fyfyrio ar y ffordd y caiff cynnwys cyrsiau ei gyflwyno ac wedi dysgu rhai gwersi a sgiliau allweddol y gellir eu defnyddio i ddatblygu cynnwys cyrsiau ymhellach.

Astudiaethau Achos ar Offer Rhyngweithiol Blackboard – Profion

Mae’r ail astudiaeth achos ar ddefnyddio offer rhyngweithiol Blackboard yn dangos defnydd effeithiol o brofion ar gyfer asesiadau adolygol a ffurfiannol gan Dr Ruth Wonfor o IBERS.

  • Pa offeryn ydych chi’n ei ddefnyddio a sut?

Rwy’n defnyddio profion Blackboard un ai ar gyfer profion adolygol neu brofion ffurfiannol yn y rhan fwyaf o’m modiwlau.

  • Pam dewis yr offeryn hwn?

Rydw i wedi dewis defnyddio profion Blackboard am amrywiaeth o resymau. O ran y profion adolygol, rydw i wedi eu defnyddio mewn modiwl i’r flwyddyn gyntaf ar anatomeg a ffisioleg. Mae’r modiwl hwn yn rhoi llawer o wybodaeth sylfaenol ar fywydeg elfennol a ddefnyddir gan y myfyrwyr ym modiwlau’r dyfodol, felly roedd arna i eisiau cynllunio asesiad a fyddai’n fodd i roi prawf ar amrywiaeth eang o bynciau ar draws y modiwl sy’n bodloni canlyniadau dysgu eithaf eang. Mae profion aml-ddewis wedi gweithio’n dda iawn ar gyfer hyn ac mae’n cyd-fynd yn dda â’r gwaith rwy’n ei wneud yn y modiwl i geisio annog y myfyrwyr i ddefnyddio cardiau fflach i ddysgu. Mae budd y cardiau fflach yn amlwg i’r myfyrwyr yn y prawf hwn.

Ar gyfer yr asesiadau ffurfiannol, rydw i wedi dewis defnyddio profion Blackboard am amrywiaeth o resymau. Yn y gorffennol, rydw i wedi tueddu i’w defnyddio fel ffordd i fyfyrwyr brofi eu dealltwriaeth ar ddiwedd pwnc. Ond, yn ystod y cyfnod o ddysgu ar-lein rydw i wedi dechrau eu defnyddio i ofyn cwestiynau y byddwn i wedi eu gofyn yn y ddarlith i wneud yn siŵr bod pawb yn deall. Mae hyn wedi bod yn wych er mwyn fy helpu i strwythuro’r addysg a gwneud yn siŵr nad yw’r myfyrwyr yn brysio ymlaen i adrannau newydd heb ddeall yn iawn beth oedd angen iddynt ei wneud yn yr adran flaenorol.

  • Sut wnaethoch chi gynllunio’r gweithgaredd gyda’r offeryn hwn?

Rwy’n cynllunio’r profion Blackboard yn unol â’u defnydd yn llwyr. Mae’r profion adolygol yn eithaf anhyblyg gyda chwestiynau aml-ddewis yn unig. Rwy’n tueddu i ddefnyddio cwestiynau safonol eu ffurf; dewis yr ateb cywir i gwestiwn, dewis y datganiad cywir neu ofyn at ba strwythur yn y ddelwedd mae saeth yn pwyntio. Yn ystod cyfnod Covid-19 pan oedd y myfyrwyr yn sefyll y profion hyn gartref, rydw i wedi bod yn cynnwys rhywfaint o gwestiynau ateb byr yn y prawf aml-ddewis hefyd. Mae’r cwestiynau hyn wedi gweithio’n dda iawn er mwyn atal myfyrwyr rhag chwilio am yr ateb i bob cwestiwn aml-ddewis ac wedi rhannu’r marciau’n dda.

Rwy’n defnyddio ystod ehangach o opsiynau ar gyfer y profion ffurfiannol er mwyn cyd-fynd â’r hyn rydw i eisiau i’r myfyrwyr ei ddysgu. Er enghraifft, rydw i wedi defnyddio’r cwestiynau paru ar ôl mynd trwy’r derminoleg, fel bod yn rhaid i’r myfyrwyr baru’r termau â’r disgrifiad cywir. Rydw i hefyd yn ceisio defnyddio’r adborth i’r cwestiynau ffurfiannol hyn i annog y myfyrwyr i lywio eu dysg eu hunain. Felly yn hytrach na dweud wrth y myfyrwyr eu bod wedi ateb cwestiwn yn anghywir a rhoi’r ateb cywir iddynt, rwy’n defnyddio’r adborth i gyfeirio’r myfyrwyr at y sleid neu’r rhan o’r ddarlith lle mae’r ateb i’w gael. Y gobaith yw bod hyn yn eu hannog i strwythuro mwy ar eu gwaith dysgu ac adolygu.

Yn olaf, yn ystod y cyfnod o ddysgu ar-lein rydw i’n gweld bod rhyddhau deunyddiau’n ymaddasol (adaptive release) ar y cyd â’r profion BB yn fuddiol iawn er mwyn strwythuro pynciau. Byddaf yn aml yn dechrau rhai darlithoedd trwy adolygu rhywfaint o wybodaeth y dylai’r myfyrwyr fod wedi ei astudio yn y modiwlau blaenorol sy’n sail i’r pwnc y byddwn yn ei astudio yn y sesiwn honno. Felly rydw i wedi defnyddio profion BB i wneud y gwaith adolygu hwn. Rwy’n defnyddio’r adborth i gyfeirio’r myfyrwyr at wybodaeth bellach os oes angen iddynt roi sglein ar eu dealltwriaeth ac yna’n defnyddio dull rhyddhau deunyddiau’n ymaddasol i ryddhau’r pwnc iddynt ar ôl iddynt roi cynnig ar y cwis adolygu yn unig. Mae’r myfyrwyr yn cael cyfarwyddiadau clir er mwyn gallu rhoi cynnig ar y cwis a byddant wedyn yn cael mynd ymlaen i bwnc y ddarlith. Roedd hyn i weld yn gweithio’n dda ac felly rwy’n gobeithio dal ati gyda hyn er mwyn rhoi’r gorau i adolygu yn y darlithoedd a threulio mwy o amser yn defnyddio’r wybodaeth a ddysgir yn y darlithoedd.

  • Beth yw barn eich myfyrwyr am yr offeryn hwn?

Rydw i wedi cael adborth eithaf da gan y myfyrwyr ar y profion BB. Mae llawer ohonynt wedi sôn eu bod yn eu helpu i astudio a mynd dros bynciau er mwyn deall lle mae angen iddynt ymdrechu fwy gyda’u hastudiaeth bellach. Rydw i hefyd wedi helpu i leihau gorbryder myfyrwyr ynglŷn â’r profion adolygol terfynol trwy ddefnyddio profion ffurfiannol trwy gydol y modiwl. Gan fod y prawf adolygol rwy’n ei ddefnyddio yn un ar fodiwl y flwyddyn gyntaf yn semester 1, mae’r myfyrwyr yn aml yn eithaf pryderus ynglŷn â’r hyn i’w ddisgwyl ar lefel prifysgol. Gallaf felly eu cyfeirio at y profion ffurfiannol fel enghreifftiau o lefel y cwestiynau y bydd disgwyl iddynt eu hateb yn yr arholiad.

  • Oes gennych chi unrhyw gyngor defnyddiol i bobl sydd eisiau defnyddio’r offeryn hwn?

Fy mhrif gyngor fyddai rhoi digon o amser i chi’ch hun i lunio’r profion. Mae’r cam cychwynnol o ysgrifennu cwestiynau ac adborth da i’r myfyrwyr yn cymryd peth amser. Ond ar ôl i chi dreulio’r amser hwnnw, mae’r profion yn barod i’w defnyddio bob blwyddyn. Heb os, mae’n werth yr amser a dreulir er mwyn helpu’r myfyrwyr ac i gael syniad o’u dealltwriaeth, a gweld lle gall fod angen rhoi mwy o eglurhad ar bynciau. Gwnewch yn siŵr hefyd eich bod yn sefyll y profion eich hun! Wrth wneud y prawf fy hun, rydw i wedi sylwi ar ambell i gamgymeriad neu gwestiynau sydd angen bod yn fwy eglur ac mae’n ddefnyddiol iawn er mwyn gweld sut bydd fformat terfynol y cwestiynau yn ymddangos i’r myfyrwyr.

Hoffem ddiolch i Dr Ruth Wonfor am rannu ei phrofiadau o ddefnyddio profion Blackboard.

Os hoffech chi ddysgu mwy am brofion, rhowch gip ar yr wybodaeth yn Blackboard Tests – Creating Online Assessment Activities for your Students a’r Cwestiynau Cyffredin.

Os ydych chi’n bwriadu defnyddio profion Blackboard yn ddull o arholi ar-lein, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk.

Enillwyr Gwobr Cwrs Nodedig yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol

Gwobr ECA

Roedd yn bleser gweld cynifer o wynebau yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu rithwir eleni. Un o’r uchafbwyntiau imi oedd gallu dathlu’r pump a enillodd Wobr Cwrs Nodedig. Ers cychwyn y pandemig, nid ydym wedi gallu cydnabod ein henillwyr yn ystod y seremonïau graddio fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Felly, mae sesiwn gwobrwyo’r enillwyr yn ein galluogi ni i rannu’r arferion gwych a blaengar yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Rydym ar fin dechrau llunio ein cyrsiau ar gyfer blwyddyn academaidd 2021-22. Felly, os oes angen ysbrydoliaeth arnoch, ewch ar y teithiau o gwmpas y gwahanol fodiwlau drwy ddilyn y dolenni yn y testun isod.

Enillydd:

Dr Hanna Binks, Yr Adran Seicoleg: PS11320: Introduction to Research Methods

Mae’r modiwl craidd blwyddyn gyntaf hwn yn rhoi’r sgiliau y mae eu hangen ar fyfyrwyr i’w cynnal drwy gydol eu gradd Seicoleg. O ganlyniad i’r modd arloesol y cynlluniwyd y gwaith asesu, y cynnwys dwyieithog, y drefn dda oedd ar bethau a’r cyfathrebu clir â myfyrwyr, Hanna oedd enillydd y gystadleuaeth eleni. Os ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth i’ch helpu chi i ddod â’r canlyniadau dysgu, y gwaith asesu a’r cynnwys ynghyd, edrychwch ar y modiwl hwn. Mynnwch gip ar y daith o gwmpas modiwl PS11320.

Read More