Jisc Traciwr Digidol

Traciwr Profiad Digidol Myfyrwyr

Eleni, cymerodd Prifysgol Aberystwyth ran am y tro cyntaf yn Nhraciwr Profiad Digidol Myfyrwyr JISC – arolwg ar-lein a luniwyd gan JISC i gasglu gwybodaeth am ddisgwyliadau a phrofiadau myfyrwyr wrth ddefnyddio technoleg.

Pam benderfynon ni gymryd rhan yn y prosiect?

  • Mae’r Traciwr yn offeryn syml sydd wedi’i ddylunio’n dda. Mae’n ganddo hygrededd ledled y sector ac mae’r fethodoleg yn ddibynadwy.
  • Mae’n cynnwys data meincnodi gan sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn ein sector.
  • Dyma’r unig arolwg sy’n canolbwyntio’n llwyr ar y profiad dysgu digidol.
  • Cafodd y sefydliadau a gymerodd ran yn y prosiect gryn dipyn o gymorth gan JISC i addasu, hyrwyddo a dadansoddi’r arolwg.
  • Ac yn bwysig dros ben – roedd eisoes wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg.

Byddwn yn rhannu’r manteision o gymryd rhan yn y prosiect a rhai canfyddiadau allweddol o’r dadansoddiad data ar lefel sefydliadol ac ar lefel y sector yn y negeseuon nesaf 🙂

Y neges nesaf o’r gyfres ar DigiTracker:

Canfyddiadau allweddol a beth oedd yn arbennig o ddiddorol.

Dathlu rhagoriaeth mewn addysgu: Gwobrau Cwrs Eithriadol Blackboard PA

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd enillwyr Gwobrau Cwrs Eithriadol Blackboard yn derbyn eu gwobrau yn ystod seremonïau graddio’r wythnos hon.

Bydd Adam Vellender, Catherine O’Hanlon, Daniel Low a Stephen Chapman, enillwyr Gwobrau Cwrs Eithriadol 2017-2018 yn derbyn eu gwobrau yn ystod seremoni raddio eu hadran. Dangosodd yr holl fodiwlau buddugol safon uchel y dysgu a’r addysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth a gwnaethant ysbrydoli eraill i arloesi ac ymgysylltu’r myfyrwyr ag addysgu gweithredol ac roeddent yn cynnwys nifer o arferion eithriadol.Roedd modiwlau’r enillwyr yn cynnwys nifer o arferion eithriadol a chawsant Wobrau Cymeradwyaeth Uchel.

Bellach yn eu pumed flwyddyn, mae’r Gwobrau Cwrs Eithriadol yn cydnabod rhagoriaeth mewn dylunio cyrsiau, rhyngweithio a chydweithio, asesu a chefnogi dysgwyr. “Mae’r Gwobrau Cwrs Effeithiol yn rhoi cyfle arbennig i staff rannu eu gwaith gyda chydweithwyr eraill, myfyrio ar eu defnydd o offer megis Blackboard, a chael adborth am eu gweithgareddau addysgu gan eu cyfoedion. Rydym yn llongyfarch ein staff Cymeradwyaeth Uchel eleni ac yn annog staff eraill i ystyried cyflwyno eu modiwlau yn y dyfodol. Mae’r Grŵp E-ddysgu’n hapus i roi cyngor a chymorth i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cael gwybod mwy am y Gwobrau Cwrs Eithriadol.” Kate Wright, Rheolwr y Grŵp E-ddysgu

I gael rhagor o wybodaeth gweler.

Cynllunio Amser Segur

Nid yw amser segur ar y systemau yr ydym yn dibynnu arnynt yn beth poblogaidd. Penderfynu pryd i drefnu amser segur ar gyfer Blackboard yw un o benderfyniadau mwyaf anodd y swydd. Mae jyglo’r meysydd gwaith gwahanol yn y Brifysgol yn ogystal â gwneud yn siŵr ein bod yn ymgynghori â’r holl bobl berthnasol yn cymryd llawer o amser. Rydym yn ceisio osgoi gorffen y gwaith cynnal a chadw ar ddydd Gwener – mae’n well sicrhau nad oes problemau’n codi dros y penwythnos pan nad yw’r staff cymorth yma. Yn yr un modd, nid ydym yn gwneud gwaith yn ystod cyfnodau pan fo’r Brifysgol ar gau (mae’n anodd cael cymorth gan gwmnïau meddalwedd oherwydd yn aml iawn maen nhw ar wyliau hefyd).

Rydym yn ceisio trefnu dyddiad – rydym yn gweld pa ymrwymiadau eraill sydd gan bobl, ar lefel y tîm, lefel yr adran a lefel y Brifysgol. Mae yna amseroedd y mae’n rhaid i ni eu hosgoi – ni ellir cael amser segur yn ystod amser dysgu (gan gynnwys y myfyrwyr TAR sy’n dechrau’n gynt ac yn gorffen yn hwyrach nag eraill, yn ogystal â’r rhai sy’n Ddysgwyr o Bell neu sy’n astudio Cyrsiau Dysgu Gydol Oes). Hefyd, mae unrhyw amser pan fo myfyrwyr angen adolygu neu pan fyddant angen defnyddio Blackboard ar gyfer arholiadau allan ohoni. Pan fyddwn ni’n meddwl bod gennym ddyddiad addas, rydym yn gofyn i grŵp llai o unigolion am eu barn – Rheolwyr Athrofeydd, Uwch Reolwyr, AQRO a chysylltiadau allweddol eraill. Os ydyn nhw’n dod o hyd i broblem, rhaid cychwyn o’r cychwyn.

Pan fyddwn wedi cadarnhau dyddiad, byddwn yn dechrau hysbysebu. Rydym bob amser yn rhoi neges ar faner yn Blackboard, yn defnyddio’r E-bost Wythnosol a chyfrifon Twitter a Facebook y Gwasanaethau Gwybodaeth.

Felly nid ydym yn trefnu amser segur Blackboard ar chwarae bach. Rydym yn gofyn i bobl, yn dweud wrth bobl, yn ei drefnu ac yn gwneud ein gorau i leihau ei effaith. Nid ydym bob amser yn cael pethau’n iawn i bawb, ond rydym yn gwneud ein gorau i gydbwyso holl ofynion cystadleuol sefydliad cymhlyg.

Gallwch Gofrestru ar gyfer y Gynhadledd nawr

Gallwch gofrestru nawr ar gyfer y chweched gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol. Eleni bydd y gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn dwyn y thema Mynd â Dysgu Myfyrwyr i’r Lefel Nesaf ac fe’i cynhelir rhwng dydd Mawrth 11 a dydd Iau 13 Medi 2018.

Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd trwy lenwi’r ffurflen ar-lein. 

Eleni, mae gennym raglen gyffrous ac amrywiol o weithgareddau, gweithdai a chyflwyniadau sy’n dangos yr arferion dysgu arloesol a geir yn y Brifysgol. Mae copi drafft o’r rhaglen ar gael yma.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Rhagolwg ar 6ed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu PA: Mynd â Dysgu Myfyrwyr i’r Lefel Nesaf, 11 – 13 Medi

Rydym yn falch o gyhoeddi’r newyddion cyffrous mai’r Athro Jonathan Shaw, Lauren Heywood ac Oliver Wood o Disruptive Media Learning Lab (DMLL) Prifysgol Coventry fydd yn rhoi’r prif anerchiad a darparu gweithdai i’r gynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni. Cyfarwyddwr y DMLL, yr Athro Jonathan Shaw, fydd yn rhoi’r prif anerchiad, a Lauren Heywood ac Oliver Wood, Cynhyrchwyr Arloesol a Chymunedol y DMLL fydd yn darparu gweithdai rhyngweithiol.

Nod DMLL Prifysgol Coventry yw “torri ac ail-wneud y dulliau presennol o ddarparu addysg uwch” ac maent wedi ymrwymo i ysbarduno gwaith arloesol a mabwysiadu dulliau arloesol o gynllunio cwricwla ac ymarfer, a mentrau technoleg addysg. Maent hefyd yn pwysleisio gwerth chwarae yn “rhan bwysig o ddysgu!” Maent yn cynnig cronfa o strategaethau ar gyfer cynyddu rhyngweithio, cynorthwyo â sgiliau datrys problemau ac ysbrydoli dadleuon. Mae eu cronfa i’w chael yma ac mae fideos o’u gwaith i’w gweld yma.

Rydym yn awyddus i glywed y trafodaethau, y syniadau a’r hwyl a gynhyrchir gan Disruptive Media Learning Lab, a gobeithio y byddant yn cynnig inni ddulliau arloesol y gallwn eu rhoi ar waith yn uniongyrchol yn ein dysgu.

Cewch gofrestru am y gynhadledd yma. Gweler ein blog am y newyddion diweddaraf am y gynhadledd. Ceir drafft o amserlen y gynhadledd eleni, a fydd yn canolbwyntio ar Fynd â Dysgu Myfyrwyr i’r Lefel Nesaf ar ein gwefannau cyn hir.

Llun drwy garedigrwydd Disruptive Media Learning Lab, Prifysgol Coventry.

Mae Cyfarwyddwr DMLL, yr Athro Jonathan Shaw, yn ysbarduno gwaith arloesol wrth gynllunio cwricwla, mannau dysgu ac yn arwain ar “roi mentrau technoleg addysg blaengar ar waith”.

Arweinir y gweithdai gan Gynhyrchwyr Arloesol a Chymunedol DMLL Prifysgol Coventry.

Mae Oliver a Lauren yn hybu dysgu gwrthdro a chwareus fel y bydd pobl yn gallu ailystyried y dulliau traddodiadol o ddysgu. Cydweithiant â staff dysgu er mwyn eu helpu i greu “profiadau addysgol newydd, cyffrous a chyfoethog” https://dmll.org.uk/about/.