
Ceisiadau ar gyfer Gwobr Cwrs Nodedig Blackboard eleni ar agor. Mae’r GCN yn cael ei barnu ar draws 4 categori:
- Cynllun y Cwrs
- Rhyngweithio a Chydweithio
- Asesu
- Cymorth i Fyfyrwyr
Gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno 3 arfer sy’n sefyll ar wahân ar gyfer eu Cwrs i helpu i fframio eu cais cyn hunanasesu eu cwrs – gall hyn fod yn naratif 1,000 o eiriau neu’n recordiad Panopto 8 munud o hyd. Yn dilyn yr hunanasesiad, caiff y cyrsiau eu marcio hefyd gan banel o arbenigwyr.
Er mwyn helpu i baratoi ar gyfer ceisiadau, cynhelir dau weithdy ar:
- 9 Rhagfyr 2026, 14:10 – 15:00
- 14 Ionawr 2027, 11:10 – 12:00
Gellir archebu lle drwy’r dudalen archebu ar-lein.
Gellir lawrlwytho ffurflenni cais o’n tudalennau gwe.
Rhaid ebostio ceisiadau wedi’u cwblhau at eddysgu@aber.ac.uk cyn 12 canol dydd ddydd Gwener 27 Ionawr 2027. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses hon, cysylltwch â’r Tîm Addysg Ddigidol (eddysgu@aber.ac.uk).
