
Mae’r astudiaeth achos hon yn seiliedig ar y bennod The Student-led Planning of Tourism and Hospitality Education: The Use of Wicis to Enhance Student Learning gan Dr Mandy Talbot (Ysgol Funes Aberystwyth) a gyhoeddwyd yn The Routledge Handbook of Tourism and Hospitality Education, ac yn cynnwys detholiadau ohoni.
Pa offeryn ydych chi’n ei ddefnyddio a pham?
Defnyddiodd Dr Mandy Talbot wicis Blackboard i hwyluso ‘prosiect dysgu cydweithredol dan arweiniad myfyrwyr (…) ar y modiwl ail flwyddyn gradd baglor: datblygu twristiaeth ryngwladol. (…) Roedd gwaith cwrs y modiwl yn gofyn i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bach i nodi a gwerthuso’r strategaethau datblygu twristiaeth oedd yn cael eu dilyn mewn cyrchfannau twristaidd penodol a’u cymharu â’r dulliau a ddefnyddid mewn mannau eraill. Oherwydd natur gydweithredol a rhyngweithiol yr aseiniad, yr offeryn gwe mwyaf addas oedd y wici.’
Pam ddewisoch chi’r offeryn hwn?
Cyn cyflwyno’r wicis ‘roedd myfyrwyr yn ymgymryd â’r ymarfer trwy greu a rhoi cyflwyniad PowerPoint grŵp 15 munud i’r dosbarth, gyda 10 munud arall ar gyfer cwestiynau.’ Newidiodd Dr Mandy Talbot fformat yr aseiniad er mwyn:
- ‘Gwella cydlynrwydd gwaith grŵp y myfyrwyr: Mae fformat wici yn rhoi gofod gwaith cydweithredol i fyfyrwyr ddatblygu eu gwaith’
- ‘Cynnig mwy o gyfle i fyfyrwyr ryngweithio â gwaith grwpiau eraill: Trwy fformat wici gall myfyrwyr ymweld â chyflwyniadau ei gilydd dros gyfnod estynedig. Mae gan dudalennau wici hefyd flychau ar gyfer sylwadau sy’n galluogi myfyrwyr i holi a chynnal trafodaeth ar y safleoedd eraill.’
- ‘Datblygu sgiliau TG myfyrwyr: Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i greu a strwythuro tudalennau gwe’.