Croeso, Luke Butler – Swyddog Addysg Ddigdol

Helo!  Fy enw i yw Luke ac yn ddiweddar rwyf wedi ymuno â’r Tîm Addysg Ddigidol fel Swyddog Addysg Ddigidol. Rwy’n edrych ymlaen at gynorthwyo staff a myfyrwyr gydag ymholiadau addysg ddigidol, sicrhau bod gwybodaeth yn glir, a chyfrannu at y tîm ehangach!

I roi ychydig o fy nghefndir – deuthum i Aberystwyth yn 2022 i astudio BA mewn Gwneud Ffilmiau yn y brifysgol, lle roeddwn i’n arbenigo mewn sgiliau ymarferol a damcaniaethol ym maes sinematograffeg a golygu gyda ffocws ar greu darnau cyfnod. Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb yn y gwaith a’r ymdrech sydd ynghlwm â dod â ffilm a theledu yn fyw. Fy mhrosiect diwedd blwyddyn oedd ffilm wedi’i gosod yn y 1960au ac a oedd yn canolbwyntio ar ‘frwydr y bandiau’ rhwng label recordio a gollodd eu safle rhif un i fand newydd enwog! Mae gen i gefndir mewn dylunio graffeg hefyd.

Yn ddiweddar, rwyf wedi cwblhau gradd meistr mewn Gwyddor Ymddygiad yma ym Mhrifysgol Aberystwyth lle roedd llawer o’m prosiectau yn canolbwyntio ar ddatblygu ymyriadau ar gyfer ymddygiadau cadarnhaol sy’n gysylltiedig ag iechyd a gwella ymgysylltiad o fewn lleoliadau heddlu, hamdden ac addysgu. Roedd fy nhraethawd hir meistr yn canolbwyntio ar ddiddordeb ac agweddau cyfredol tuag at ddulliau iechyd atal cenhedlu newydd sy’n dod i’r amlwg a gynlluniwyd ar gyfer dynion, a oedd yn cynnwys gweithio gyda darpar ddefnyddwyr i ymchwilio i ba negeseuon gwybodus am newid ymddygiad oedd fwyaf priodol ar gyfer hysbysebion ac ymyriadau yn y dyfodol i gefnogi cyfrifoldeb a rennir.

Cyn fy rôl yn y Tîm Addysg Ddigidol, gweithiais fel achubwr bywyd ac athro nofio am 8 mlynedd yn y ganolfan chwaraeon yma ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r ganolfan hamdden lle cefais fy magu. Dysgais blant o dair i un ar bymtheg oed yn ogystal ag oedolion a gwirfoddolais fel hyfforddwr cynorthwyol clwb nofio cystadleuol. Roedd hwn yn glwb yr oeddwn yn rhan ohono ers yn 6 oed ac yn ddiweddarach ail-ymunais fel nofiwr meistr.

Mae gen i ddiddordeb brwd mewn nofio ac yn fwy diweddar rwyf wedi symud i nofio dŵr agored gyda’r gobaith o gymryd rhan mewn rasys nofio dŵr agored a gobeithio rhoi cynnig ar dreiathlon cyn bo hir! Y tu allan i’r gwaith rwy’n mwynhau chwaraeon modur a ffotograffiaeth natur, dod o hyd i deithiau cerdded braf gyda fy mhartner, gwersylla, ac unrhyw beth yn yr awyr agored. 

Diolch yn fawr i bawb yr wyf wedi cwrdd â nhw hyd yma am y croeso cynnes! Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd a gweithio gydag aelodau o staff a myfyrwyr dros y misoedd nesaf.

Cytundeb Trwydded Defnyddiwr a Turnitin – diweddariad

Mae’r Tîm Addysg Ddigidol yn darparu diweddariad ar Turnitin a Chytundebau Trwydded Defnyddwyr.

Efallai eich bod wedi clywed am bryderon ynghylch cytundebau trwydded defnyddiwr Turnitin a DA Cynhyrchiol.

Pan fyddwch chi’n mewngofnodi i ddefnyddio Turnitin, mae angen i staff a myfyrwyr dderbyn y telerau cytundeb i ddefnyddio’r llwyfan.

Dros yr haf, cawsom hysbysiad gan Turnitin eu bod yn diweddaru eu cytundeb trwydded, gyda’r bwriad i hyn gael ei gymhwyso i bob defnyddiwr (staff a myfyrwyr).

Yn rhan o’r cytundeb trwydded hwn, cynigiwyd y byddai cyflwyniadau myfyrwyr ac adborth staff yn cael eu defnyddio i hyfforddi modelau iaith mawr.

Roedd gennym ni, ynghyd â gweddill y sector, bryderon am hyn. Roeddem yn anhapus ynghylch sut yr oedd Turnitin yn bwriadu cyflwyno’r diweddariad hwn, heb rybudd, ac ynghylch diogelwch gwaith y myfyrwyr ac adborth y staff.

Gan weithio ochr yn ochr ag UCISA, y corff aelodaeth broffesiynol ar gyfer systemau digidol, TG a gwybodaeth o fewn addysg uwch y DU, a phrifysgolion eraill, fe wnaethom lobïo yn erbyn y newid hwn.

Yn dilyn hyn, ni wnaeth Turnitin gyflwyno’r cytundeb trwydded wedi’i ddiweddaru.

Efallai eich bod wedi gweld bod prifysgolion eraill yn dechrau symud i ffwrdd o Turnitin. Ar gyfer y flwyddyn i ddod, rydym yn parhau i ddefnyddio Turnitin.

O ran ein trwydded ein hunain, rydym yn adnewyddu yn flynyddol, ac mae gennym gontract hyd at fis Gorffennaf 2027. 

Fe wnaethon ni gynnal cynllun peilot rai blynyddoedd yn ôl i edrych ar ddichonoldeb symud i ffwrdd o Turnitin, ond ar yr adeg honno, nid oedd yr offer yn Blackboard yn bodloni ein holl ofynion. Rydym yn cadw llygad agos ar offer paru testun a chyflwyno yn Blackboard i weld a ydynt yn cynnig dewis arall hyfyw i Turnitin.

Rydym yn cwrdd â’n Rheolwr Cyfrif Cwsmeriaid Turnitin yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn, ac rydym yn gallu rhoi adborth ar ein pryderon a’n problemau. Roeddem mewn cysylltiad â nhw ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig i’r cytundeb trwydded. Rydym hefyd yn gweithio gyda chyrff sector sy’n lobïo ac yn eirioli gyda gwerthwyr meddalwedd ar ran sefydliadau AU.

Os byddai’n well gennych beidio â defnyddio Turnitin, mae gan Blackboard Assignment offer cyflwyno a marcio y gallwch eu defnyddio – mae’r holl ganllawiau ar gael ar ein tudalennau gwe, a byddem yn hapus i weithio gydag unrhyw un a hoffai newid i’w ddefnyddio. Mae’n cynnig nifer o fanteision nad oes gan Turnitin – er enghraifft, cyflwyniadau aml-ran ac aseiniadau grŵp. Fodd bynnag, mae rhai cyfyngiadau – y 2 gyfyngiad mwyaf yw nad yw marciau’n cael eu rhyddhau’n awtomatig ar ‘Ddyddiad Postio’ ac nad yw’n bosibl cyflwyno gwaith ar ran myfyrwyr.

Os oes gennych unrhyw bryderon am y diweddariad hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Tîm Addysg Ddigidol ar e-ddysgu@aber.ac.uk.

Partneriaid Modiwl Cymraeg-Saesneg

Ydych chi’n dysgu cwrs Cymraeg sydd wedi’i gyfuno â’r cwrs cyfwerth yn Saesneg? Neu efallai eich bod chi’n gydlynydd modiwl Saesneg sydd wedi’i gyfuno â’i bartner Cymraeg?

Mae Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard eleni yn annog staff i ddefnyddio’r templed Cymraeg dwyieithog ar gyfer cyrsiau Cymraeg / Saesneg wedi’u cyfuno.

Er mwyn hwyluso hyn, mae gennym gwrs templed y gallwch ei ddefnyddio i gopïo eitemau’r templed dwyieithog i’ch cwrs. Os hoffech gael eich ychwanegu, anfonwch e-bost atom ar e-ddysgu@aber.ac.uk. Mae gwybodaeth am sut i gopïo cynnwys yn ein Cwestiynau Cyffredin Sut mae copïo deunydd o un modiwl Blackboard i’r llall?

Gallech hefyd gynnwys elfennau dwyieithog gan ddefnyddio’r Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu – dyma restr o’r eitemau sydd ar gael yn y Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu.

Gwybodaeth am y Modiwl

  • Cipio Darlithoedd (Panopto)
  • SgiliauAber

Asesu ac Adborth

  • Canllawiau Cyflwyno

Mae gwybodaeth am ddefnyddio’r Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu ar gael yn ein Cwestiynau Cyffredin Sut mae ychwanegu eitem o Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu Blackboard at fy nghwrs?

Canllawiau ar seibiant yn Panopto

Policies and Information

Dylai staff fod yn ymwybodol bod Panopto yn parhau i recordio hyd yn oed pan fyddwch chi’n clicio Pause. Ni all myfyrwyr gael mynediad i’r hyn sy’n cael ei recordio yn ystod adran o seibiant, ond gall hyfforddwyr eraill ar y cwrs a gweinyddwyr y system gael mynediad.

Mudwch eich meicroffon os nad ydych eisiau i rywbeth rydych chi’n ei ddweud yn ystod y seibiant gael ei recordio. Cofiwch ei ddad-fudo cyn parhau â’ch darlith.

Hefyd, pan fyddwch chi’n golygu a dileu rhan o recordiad Panopto, mae’r rhan honno yn cael ei chuddio rhag myfyrwyr yn hytrach na’i dileu’n barhaol.

Os oes angen i chi ddileu rhan o recordiad yn barhaol, defnyddiwch y Dewisiadau Cadw (gweler canllaw Panopto ar Sut i ddefnyddio Dewisiadau Cadw – ar gael yn Saesneg yn unig).

Gall parhau i recordio yn ystod seibiant fod yn ddefnyddiol os ydych chi’n anghofio ailgychwyn y recordiad, gan y gallwch sicrhau bod y cynnwys hwnnw ar gael i fyfyrwyr yn ddiweddarach trwy olygu’r recordiad.

Deunyddiau’r 14eg Gynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr Flynyddol ar gael nawr

Rhwng 8 a 10 Medi, cynhaliodd yr Gwasanaethau Llyfrgell Academaidd a Digidol yr 14eg Gynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr Flynyddol.

Mae deunyddiau’r gynhadledd bellach ar gael ar ein tudalennau gwe.

Hoffem ddiolch i’n holl gyfranwyr a’r rhai oedd yn bresennol. Roedd y sesiynau o ansawdd mor uchel.

Rydym eisoes yn cynllunio ein 15fed Gynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr Flynyddol a gynhelir ym mis Gorffennaf 2027 (dyddiad i’w gadarnhau).

Gobeithiwn eich gweld mewn digwyddiad sydd i ddod.

Croeso i Flwyddyn Academaidd 2026-27: Diweddariadau i Blackboard ar gyfer myfyrwyr sy’n dychwelyd

Croeso cynnes i’r myfyrwyr sydd newydd ymuno â ni ac i’r rhai sy’n dychwelyd i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Yn y blogbost hwn, byddwn yn amlinellu’r newidiadau i’n hamgylchedd dysgu digidol, Blackboard, ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd 2026-27.

Os oes angen help arnoch i ddefnyddio Blackboard, gweler ein Canllaw i Fyfyrwyr sydd yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth ddefnyddiol.

Mae gennym hefyd Gwestiynau Cyffredin ar gael ar gyfer yr offer eraill rydym yn cefnogi, gan gynnwys Turnitin ar gyfer cyflwyno gwaith yn electronig a Panopto ar gyfer recordio darlithoedd.

Datganiad Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI)

Ar draws y brifysgol, mae yna ofynion newydd ar gyfer datgan y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol mewn aseiniadau yn ystod blwyddyn academaidd 2026-27. Disgwylir bellach i fyfyrwyr gynnwys y Datganiad-Defnyddio-Offer-AI hwn ar ddiwedd eu haseiniadau. Mae’r datganiad ar ffurf tabl ticio blychau ac mae’n gofyn i fyfyrwyr ddatgan pa fathau o offer a ddefnyddiwyd i’w cynorthwyo gyda’u haseiniad.

Vevox

Vevox yw offeryn pleidleisio Prifysgol Aberystwyth. Mae Vevox yn cynnig profiad rhyngweithiol a chydweithredol i ddysgwyr ac addysgwyr, a gellir ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau megis polau piniwn neu roi cyfleoedd i gyfranogwyr ofyn ac ateb cwestiynau. Gan fod Vevox yn cael ei ddefnyddio ar draws y brifysgol, rydym yn annog myfyrwyr i ddod â dyfais symudol neu dabled i’w dosbarthiadau er mwyn cymryd rhan yn y gweithgareddau Vevox.

Turnitin mewn Aseiniadau Blackboard

Yn ddiweddar, cyflwynwyd diweddariad sy’n galluogi integreiddio Turnitin i Aseiniadau Blackboard ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn ystod 2026-27 rydym yn annog pob aelod o staff sy’n defnyddio Aseiniadau Blackboard ar hyn o bryd i alluogi Turnitin ar aseiniadau priodol. Bydd y prosesau cyflwyno, marcio ac adborth yr un fath ag o’r blaen. Bydd pob agwedd ar y broses, heblaw am yr adroddiad Turnitin, ar gael yn y Gymraeg. Gellir dod o hyd i ganllawiau ar sefydlu a defnyddio Turnitin mewn Aseiniadau Blackboard yn ein Canllaw. Am ragor o wybodaeth am Turnitin mewn Aseiniadau Blackboard, edrychwch ar ein blogbost.

Blackboard Ally

Yn dilyn y cynnydd ar wella’r sgôr hygyrchedd isafswm ar bob modiwl llynedd, mae gwaith yn parhau er mwyn sicrhau bod cynnwys mor gyson â Blackboard Ally â phosibl. Mae Blackboard Ally yn offeryn sydd ar gael i staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth i wella hygyrchedd deunyddiau a chynnwys ar Blackboard. O safbwynt yr addysgwr, mae Ally yn cynnwys nodweddion sy’n galluogi asesu hygyrchedd deunyddiau ac yn cynnig argymhellion ar gyfer fformatau amgen i wella unrhyw feysydd gwan. O safbwynt y myfyriwr, mae Ally yn cynnig nifer o offer i wneud cynnwys yn haws ei ddarllen, ei ddeall ac er mwyn rhyngweithio.

Rhagenwau

Ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod, mae integreiddiad wedi’i ddatblygu rhwng Cofnod Myfyriwr a Blackboard. Mae hyn yn golygu y bydd y rhagenwau a ddewiswch yn Cofnod Myfyriwr yn cael eu diweddaru’n awtomatig yn Blackboard. Bydd gwelededd mwy amlwg i fynegiant rhywedd staff a myfyrwyr yn atgyfnerthu ymrwymiad y brifysgol i amrywiaeth rhywedd a chynhwysiant, yn y dosbarth ac ar-lein.

Mynediad at Gyrsiau

Bydd myfyrwyr yn gallu cael mynediad at eu cyrsiau Blackboard unwaith y byddant wedi cwblhau eu cofrestriad. Mae’r dudalen hon yn cynnwys rhagor o fanylion am y broses gofrestru.

Croeso i aelodau newydd o staff sy’n ymuno â Phrifysgol Aberystwyth 2026-27

Croeso cynnes i aelodau newydd o staff sy’n ymuno â Phrifysgol Aberystwyth

Ein nod yn y blogbost hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am dechnoleg wrth ddysgu ac addysgu, ein darpariaeth o ran hyfforddiant, sianeli cymorth, a digwyddiadau rydyn ni’n eu cynnal.

Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein tudalennau gwe.

Rydyn ni’n ysgrifennu blog sy’n llawn o’r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.

Os oes arnoch angen cysylltu â ni, gallwch wneud hynny trwy ddefnyddio eddysgu@aber.ac.uk.

Cyflwyniad i Offer E-ddysgu

Amgylchedd Dysgu Rhithwir: Blackboard

Mae gan bob modiwl ei gwrs pwrpasol ei hun yn Blackboard. Gall myfyrwyr ddod o hyd i wybodaeth am y modiwl, deunyddiau dysgu, a chanllawiau e-gyflwyno, yn ogystal â dolenni i restrau darllen a recordio darlithoedd.

Mae gan y Brifysgol bolisi Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard ar gyfer pob modiwl.

Gweler ein canllaw i staff i gael rhagor o wybodaeth.

Cipio Darlithoedd: Panopto 

Wrth addysgu wyneb yn wyneb, cofiwch y dylid recordio pob darlith (hynny yw, addysgu lle mae’r ffocws ar wybodaeth sy’n cael ei throsglwyddo gan staff i fyfyrwyr) gan ddefnyddio Panopto, ein meddalwedd recordio darlithoedd.

Gweler manylion ein ⁠Polisi Cipio Darlithoedd

E-gyflwyno: Turnitin a Blackboard Assignment

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i fyfyrwyr gyflwyno’r holl waith testun a phrosesu geiriau yn electronig fel yr argymhellir ym mholisi E-gyflwyno’r Brifysgol.

 Ar gyfer hyn, rydym yn defnyddio ein hadnoddau e-gyflwyno: Turnitin a Blackboard Assignment. Mae Turnitin yn darparu nodwedd paru testun awtomatig. Rydym yn defnyddio Profion Blackboard i gynnal arholiadau ar-lein.

Adnodd Pleidleisio: Vevox

Vevox yw adnodd pleidleisio Prifysgol Aberystwyth.

Gellir defnyddio’r adnodd pleidleisio mewn gweithgareddau dysgu ac addysgu yn ogystal â chyfarfodydd i wneud y sesiwn yn rhyngweithiol ac yn gydweithredol. Mae sawl ffordd wahanol o’i ddefnyddio.

Adnoddau a chymorth pellach

Mae gennym nifer o Ganllawiau a Chwestiynau Cyffredin i’ch helpu i ddefnyddio ein meddalwedd.

Darparu hyfforddiant

Er mwyn cefnogi’r holl staff gyda’u haddysgu rydym yn cynnal cyfres o sesiynau hyfforddi ar draws y meysydd canlynol:

  • Hanfodion E-ddysgu: wedi’i gynllunio ar gyfer cydweithwyr sy’n newydd i’r brifysgol, sy’n addysgu, neu a hoffai gael sesiwn loywi.   Nod y sesiynau hyn yw sicrhau bod cydweithwyr yn gallu bodloni polisïau dysgu ac addysgu digidol y brifysgol.
  • E-ddysgu Uwch: wedi’i gynllunio i adeiladu ar sail y sgiliau a gafwyd yn ein cyfres hanfodion e-ddysgu, bydd cydweithwyr yn creu gweithgaredd neu asesiad sy’n unigryw i’w cyd-destunau dysgu ac addysgu.
  • Rhagoriaeth E-ddysgu: wedi’i gynllunio i gynnig cyfle i gydweithwyr greu cyfleoedd dysgu ac addysgu eithriadol – yn aml rhai unigryw ac yn arwain y sector.

Ceir hyd i fanylion am ein rhaglen DPP flynyddol a gallwch archebu eich lle i fynychu drwy’r dudalen Archebu Cwrs.

⁠Digwyddiadau

Rydyn ni’n rhedeg ystod o ddigwyddiadau, gan gynnwys y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol a Chynadleddau Byr

Mae’r rhain oll yn gyfleoedd gwych i gwrdd â phobl ar draws y brifysgol a thrafod materion a datblygiadau’n ymwneud â Dysgu ac Addysgu   

Edrychwn ymlaen at eich gweld mewn digwyddiad cyn hir. Yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy eddysgu@aber.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.