Cynhadledd Fer: Realiti Rhithwir – Deunyddiau Ar Gael

Virtual reality image

Ar 28 Mawrth, cynhaliodd yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu ei chynhadledd fer wyneb yn wyneb gyntaf eleni.

Thema’r gynhadledd oedd Realiti Rhithwir. Mae deunyddiau’r gynhadledd bellach ar gael ar ein tudalennau gwe.

Dechreuodd y gynhadledd â’r brif araith a draddodwyd gan Chris Rees, Pennaeth Gweithredol yr Uned Creadigrwydd a Dysgu Digidol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Soniodd Chris am sut mae’r Drindod Dewi Sant wedi bod yn defnyddio dwy ystafell drochi newydd (yn Abertawe a Chaerdydd). Yno, mae’r gweithgareddau yn amrywio o hyfforddiant campfa rhithwir i brofiadau pensaernïol a hyfforddiant iechyd a diogelwch.

Aethpwyd ymlaen i glywed sut mae cydweithwyr yn y Brifysgol yn defnyddio Realiti Rhithwir ar hyn o bryd yn eu dysgu a’u haddysgu. Esboniodd Amanda Jones a Bleddyn Lewis sut mae’r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd yn defnyddio Ysbyty Rhithwir Cymru. Mae Steve Atherton o’r Ysgol Addysg yn defnyddio Realiti Rhithwir mewn sawl modiwl, gan gynnwys gosod myfyrwyr mewn gwahanol gyd-destunau addysg – o wersylloedd ffoaduriaid i leoliadau addysg Montessori. Ar ôl cinio, cynhaliodd Helen Miles ac Andra Jones (Cyfrifiadureg) a Rebecca Zerk (Prosiect Dewis Choice / y Gyfraith a Throseddeg) weithdy a oedd yn amlinellu’r heriau a’r buddion sydd ynghlwm wrth Realiti Rhithwir. Cafwyd cyfle hefyd i gael blas ar brosiect Dewis Choice gan ddefnyddio pensetiau Realiti Rhithwir.

Yr hyn a ddaeth i’r amlwg yn ystod y digwyddiad oedd bod llawer o gydweithwyr yn defnyddio Realiti Rhithwir yn eu dysgu a’u haddysgu. Rydyn yn bwriadu creu lle i gydweithwyr ddod at ei gilydd i drafod eu dulliau o ymdrin â Realiti Rhithwir. Rydym wedi creu safle Teams. Os oes gennych ddiddordeb mewn Realiti Rhithwir ac os hoffech gael eich ychwanegu at y safle Teams, e-bostiwch yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu (udda@aber.ac.uk)

Cynhadledd Fer: Cyhoeddi rhaglen

Virtual reality image

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi’r rhaglen ar gyfer ei Chynhadledd Fer ar Realiti Rhithwir a gynhelir ddydd Mawrth, 28 Mawrth.

Mae modd archebu’ch lle ar y digwyddiad nawr. Cynhelir y gynhadledd fer hon wyneb-yn-wyneb yn B23, Adeilad Llandinam rhwng 11:00 a 16:00. 

Bydd y Gynhadledd Fer yn dechrau am 11:00 gyda sesiwn gan Chris Rees o Brifysgol y Drindod Dewi Sant. Ceir mwy o wybodaeth yn y postiad ar ein blog sy’n cyhoeddi mai Chris yw ein siaradwr gwadd.

O 11:45 ymlaen, bydd Amanda Jones a Bleddyn Lewis o’r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd yn Adran y Gwyddorau Bywyd yn dangos yr hyn maent yn ei wneud gyda’u myfyrwyr yn eu sesiwn Embracing Virtual Reality within Healthcare Education for student nurses.  

Am 12:30, bydd Steve Atherton o’r adran Addysg yn cyflwyno’r sesiwn VR in Education.

Bydd egwyl ginio rhwng 13:00 a 14:00. Ni fyddwn yn darparu bwyd yn y digwyddiad hwn ond mae croeso i chi ddod â’ch cinio gyda chi.

Rhwng 14:00 a 16:00 bydd Sarah Wydall, Helen Miles, Rebecca Zerk, ac Andra Jones yn darparu gweithdy 2 awr yn sôn am y cam nesaf wrth gloriannu sut y gellir defnyddio rhithrealiti fel offer hyfforddi. Mae’r sesiwn hon wedi’i chyfyngu i 15 o bobl – y cyntaf i’r felin gaiff falu a byddwch chi’n gallu cofrestru amdani ar fore’r gynhadledd.

Mae’r rhan fwyaf o’r sesiynau’n ymarferol ac yn rhyngweithiol – bydd cyfle i chi roi cynnig ar realiti rhithwir a gweld sut mae staff yn ei ddefnyddio wrth ddysgu.

Bydd crynodebau a’r rhaglen lawn ar gael ar ein tudalennau gwe maes o law.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (udda@aber.ac.uk).

Galw am Gynigion: Cynhadledd Fer: Realiti Rhithwir

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi’r Gynhadledd Fer nesaf. Ddydd Mawrth 28 Mawrth bydd yr Uned yn cynnal ein cynhadledd fer nesaf wyneb yn wyneb.

Bydd y gynhadledd hon yn canolbwyntio ar Realiti Rhithwir, gan adeiladu ar un o’r sesiynau o Gynhadledd Dysgu ac Addysgu’r llynedd.

Bydd cydweithwyr o bob rhan o’r Brifysgol yn dangos sut maent yn defnyddio Realiti Rhithwir yn eu gweithgareddau addysgu ac ymchwil – ac yn cynnig cyngor o’r dylunio i’r integreiddio.

Os oes gennych ddiddordeb i gyfrannu yn y digwyddiad, llenwch y ffurflen ar-lein hon. Cyflwynwch eich cynnig cyn 17 Chwefror 2023.

Mae archebion eisoes ar agor – gallwch archebu’ch lle ar-lein.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (udda@aber.ac.uk).