Canllawiau ar gyfer defnyddio Adborth Clywedol yn Turnitin

Banner for Audio Feedback

Rhagair

Meddalwedd e-gyflwyno yw Turnitin a ddefnyddir gan fyfyrwyr wrth gyflwyno eu gwaith a chan aelodau o staff wrth farcio. Caiff y marcio ei wneud trwy Stiwdio Adborth Turnitin, sy’n cynnwys llawer o nodweddion, megis cyfarwyddiadau, ffurflenni gradd, Quick Marks, crynodebau adborth, a sylwadau y gellir eu mewnosod. Yn y canllaw hwn, byddwn yn edrych yn benodol ar Adborth Clywedol, nodwedd sy’n caniatáu i hyfforddwyr recordio eu crynodebau adborth, a myfyrwyr i wrando yn ôl arnynt.

Mae defnyddio Adborth Clywedol yn cynnig llawer o fanteision, ac rydym yn gweld bod cydweithwyr ar draws y sector yn defnyddio’r nodwedd hon. Mewn astudiaeth ddiweddar ar effaith Adborth Clywedol, a gynhaliwyd gan gydweithwyr ym Mhrifysgol Lerpwl, nodwyd bod ‘ansawdd adborth a boddhad myfyrwyr […] yn uwch ar gyfer adborth clywedol nag ar gyfer adborth ysgrifenedig’ (Voelkel & Mello, 2014.: 29). Yn ogystal â hyn, dangosodd yr astudiaeth nad oes unrhyw wahaniaeth, o ran cynnydd a chyrhaeddiad, rhwng y myfyrwyr a gafodd adborth clywedol a’r rhai a gafodd adborth ysgrifenedig. Serch hynny, amlygodd yr astudiaeth fod myfyrwyr yn fwy tebygol o ailymweld ag adborth ysgrifenedig nag adborth clywedol.

Er mwyn cefnogi’r defnydd cynyddol o Adborth Clywedol, rydym wedi creu’r adnodd hwn i helpu staff i ddarparu adborth effeithiol i’w myfyrwyr. Os gennych ddiddordeb mewn defnyddio adborth clywedol, mae ein tudalennau E-gyflwyno yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â sut i greu mannau cyflwyno aseiniadau a darparu adborth ar Turnitin.

Polisïau ac Ymarfer Gorau

Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae gennym bolisi sy’n ymdrin ag adborth ar asesiadau (3.2.17) sydd i’w gael o dan Asesu Cynlluniau trwy Gwrs yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Mae’r egwyddorion sy’n ymwneud ag adborth yn berthnasol i adborth ysgrifenedig yn ogystal ag adborth clywedol. Nid yw adborth clywedol nac adborth ysgrifenedig yn cael eu trin yn wahanol o dan y polisïau hyn. Dylid strwythuro adborth clywedol yn yr un modd ag adborth ysgrifenedig, neu mewn modd tebyg, gan nodi cryfderau, gwendidau a phwyntiau i’w gwella.  

Yn ogystal â hyn, efallai y bydd y crynodeb o’r cyflwyniad gan Dr Gareth Norris, Dr Heather Norris ac Alexandra Brooks o’r Adran Seicoleg, o’r enw ‘Delivering Feedback through Audio Commentary’ a roddwyd yng Nghynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu 2018, yn ddefnyddiol i chi. Mae recordiad cryno o’r cyflwyniad hwnnw ar gael ar-lein.

Cyngor ar ddefnyddio Adborth Clywedol

1.      Cynlluniwch eich adborth

Rydym ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw adborth i fyfyrwyr, yn enwedig o safbwynt rhoi arweiniad ar sut i wella eu perfformiad mewn aseiniadau yn y dyfodol. Os nad ydych wedi defnyddio Adborth Clywedol o’r blaen, efallai yr hoffech gynllunio’r hyn rydych yn bwriadu ei ddweud – trwy ddefnyddio pwyntiau bwled ar gyfer prif rannau eich adborth, bydd modd i chi gadw’ch ffocws wrth recordio eich adborth.  Yn wahanol i adborth ysgrifenedig, mae’r amser sydd gennych i recordio wedi’i gyfyngu i 3 munud, ac fe all fynd yn eithaf cyflym felly cynlluniwch ymlaen llaw i sicrhau eich bod yn cynnwys eich prif bwyntiau i gyd. Yn yr un modd ag adborth ysgrifenedig, mae’n bwysig bod yr adborth clywedol yn mynd i’r afael â meini prawf yr aseiniad. Gweler y pwynt ynglŷn â chynllunio, ond dylech hefyd nodi’n glir yn eich adborth clywedol pa rannau o’r meini prawf y mae eich adborth yn mynd i’r afael â hwy.

2.      Ystyriwch dôn eich llais

Bydd ychwanegu elfen glywedol i’ch adborth yn golygu y bydd angen i chi ystyried tôn eich llais. Yn aml, wrth roi adborth ar lafar, wyneb-yn-wyneb, gallwn gyfleu mwy o ystyr i’r unigolion, yn ogystal â sylwi ar arwyddion gweledol gan y myfyriwr sy’n derbyn yr adborth. Gydag adborth clywedol, mae’n bwysig cofio y bydd y myfyriwr yn gwrando ar yr adborth ar ei ben ei hun. Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi agweddau cadarnhaol y gwaith, yn ogystal â rhannau y gellir eu datblygu.

3.      Gwrandewch yn ôl ar eich adborth clywedol

Mae bob amser yn rhyfedd gwrando yn ôl arnoch chi’ch hun yn siarad, ond am yr ychydig droeon cyntaf y byddwch yn defnyddio adborth clywedol, gallwch gael teimlad o sut mae’r adborth yn swnio. Bydd gwrando’n ôl ar yr adborth yn caniatáu i chi sicrhau bod yr adborth yn gysylltiedig â’r meini prawf asesu. Yn anffodus, nid oes adnodd golygu ar gyfer adborth clywedol, ond gallwch bob amser ei ddileu a’i ail-recordio. Bydd gwrando’n ôl ar yr adborth hefyd yn caniatáu i chi ystyried a yw’r adborth yn mynd i’r afael â’r meini prawf. Yn ogystal â hyn, bydd modd i chi wneud yn siŵr nad ydych chi wedi recordio unrhyw beth nad oeddech am ei recordio, fel ci yn cyfarth neu larwm tân yn seinio.

4.      Gwnewch yn siŵr bod myfyrwyr yn gwybod sut i gael gafael ar eu hadborth

Er bod myfyrwyr yn aml yn defnyddio Turnitin i gyflwyno eu haseiniadau ac i gael adborth, mae’n bwysig rhoi gwybod i’r myfyrwyr y byddant yn cael adborth clywedol ar eu haseiniadau. Er ein bod yn gweld cynnydd yn nifer y staff sy’n defnyddio adborth clywedol, mae’n bwysig cofio y gallai myfyrwyr fod yn defnyddio’r nodwedd hon am y tro cyntaf. I glywed yr adborth clywedol, bydd rhaid i’r myfyrwyr ddod o hyd i’w haseiniad, ei agor, a chlicio ar y botwm chwarae yn ffenestr y crynodeb adborth:

Fel ag unrhyw adborth arall, gwnewch yn siŵr bod myfyrwyr yn gwybod sut i gysylltu â chi os oes ganddynt unrhyw ymholiadau ynglŷn â’u hadborth.

Dyma rai awgrymiadau technegol i’ch helpu i ddefnyddio’r nodwedd adborth clywedol:

  • Defnyddiwch Chrome neu Firefox i gael mynediad i Turnitin
  • Bydd neges yn ymddangos yn gofyn a ydych chi am gadw’r adborth – gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hyn trwy glicio ar yr eicon cadw
  • Peidiwch â thoglo rhwng aseiniadau a chofiwch gau’r aseiniad ar ôl i chi orffen ei farcio

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â defnyddio adborth clywedol, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu.

Cyfeiriadau

Prifysgol Aberystwyth. 2019. ‘Adran 3: Asesu Cynlluniau trwy Gwrs’ Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Ar gael ar-lein: https://www.aber.ac.uk/en/media/departmental/academicregistry/admissions/academicqualityhandbook/partb-rulesregs/chapterpdfx27s/01.-ALL-IN-ONE—Chapter-3—v3-Sept-2019.pdf. Dyddiad cyrchu diwethaf: 05.11.2019.

Voelkel, S. & Mello, L. 2014.   ‘Audio Feedback – Better Feedback?’ yn Bioscience Education . 22: 1. https://doi.org/10.11120/beej.2014.00022 Tud. 16-30. Dyddiad cyrchu diwethaf: 04.11.2019.

Cynhadledd Fer Cyweirnod: Gwaith (Grŵp) yn yr Oes Ddigidol

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi mai’r Athro John Traxler fydd y prif siaradwr yn ein Cynhadledd Fer.

Bydd y gynhadledd fer yn canolbwyntio ar Waith Grŵp ac Asesiad Grŵp ac fe’i cynhelir ddydd Llun 16 Rhagfyr, 10:30yb-4yp yn B.03,Canolfan Ddelweddu.

Gallwch archebu lle ar y digwyddiad ar-lein

Cynhadledd Fer Cyweirnod: Gwaith (Grŵp) yn yr Oes Ddigidol

Ers troad y ganrif, gwelsom dechnolegau digidol yn esblygu o fod yn ddrud, bregus, prin, tila ac anodd, ac yn aml ddim ond yn sefydliadol, i fod yn rymus, yn hollbresennol, hawdd, rhad a chadarn, a phersonol a chymdeithasol. Yn y cyfnod hwn, maent wedi newid natur y nwyddau, asedau, trafodion a threfniadaeth sy’n creu ein bywydau economaidd; wedi herio agweddau sicr materion, ymlyniadau a phrosesau gwleidyddol; mewn ieithoedd, daeth geirfaoedd, ffurfiau, a thafodieithoedd newydd i’r golwg; maent wedi bwydo braw moesol a chreu dulliau newydd o niweidio, sarhau a chamymddwyn.

Ar ben hynny, maent wedi rhoi i fyfyrwyr y modd a’r cyfle i greu, rhannu, trawsnewid, trafod a chael gafael ar syniadau, delweddau, hunaniaethau a gwybodaeth ac, wrth wneud hynny, wedi rhoi o fewn eu gafael y gallu i fygwth proffesiynau, sefydliadau a dulliau addysg sefydledig, i newid perchnogaeth a rheolaeth yr hyn sy’n wybyddus, pwy sy’n ei wybod a’r ffordd i gaffael yr wybodaeth.

Hwn felly yw’r byd y mae graddedigion yn mynd iddo, byd gwaith wedi’i drawsnewid a phopeth arall mewn bywyd yn ddi-ddiffiniad. Mae Prifysgolion yn mynd â hwy o strwythur a diogelwch yr ysgol i fydoedd lle nad yw’r naill na’r llall ar gael. Sut y gall furfiau pedagogaidd megis asesu a gwaith grŵp gefnogi’r trawsnewid hwn?

Cyflwynwch eich Modiwl Blackboard am Wobr Cwrs Nodedig

Gwobr ECA

Mae cyfnod cyflwyno ceisiadau am y Gwobrau Cwrs Nodedig bellach wedi dechrau. Y dyddiad cau i wneud cais yw 12 yp 31ain Ionawr 2020. I gyflwyno cais, lawrlwythwch ffurflen gais fan hyn a darllenwch y cyfarwyddiadau sydd ar ein gweddalennau.

Cynlluniwyd y Wobr Cwrs Nodedig i gydnabod arfer canmoladwy ym modiwlau Blackboard. Ers ei lansio yn 2013, gwobrwywyd 6 o fodiwlau canmoladwy, cafodd 12 gymeradwyaeth uchel a 3 arall eu cymeradwyo.

Eleni mae’r gwobrau ychydig yn wahanol. Er bod y Wobr yn dal i gael ei seilio ar Gyfarwyddyd Rhaglen Cwrs Nodedig Blackboard, gwnaethom rai addasiadau er mwyn pwysleisio’r dulliau rhyngweithiol y gellir defnyddio Blackboard i ddarparu amgylchedd dysgu cymysg i fyfyrwyr. Ar ben hyn, rhoddwyd pwys ychwanegol ar y meini prawf hygyrchedd er mwyn sicrhau bod pawb sy’n dysgu yn gallu cael defnydd o fodiwlau Blackboard.

Byddwn yn cynnal sesiynau hyfforddi i’r rhai sy’n ystyried cyflwyno cais am y Wobr ddydd Iau 12 Rhagfyr, 2yp-3yp yn E3, Ystafell Hyfforddi E-ddysgu a dydd Gwener 10 Ionawr, 2yp-3yp. Gallwch archebu lle trwy fynd i dudalennau archebu cwrs.

Yr Athro John Traxler – Cyflwyniad yn ein Cynhadledd Fechan

Mini Conference Logo

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi mai’r Athro John Traxler fydd y prif siaradwr yn ein Cynhadledd Fer. Bydd y gynhadledd fer yn canolbwyntio ar Waith Grŵp ac Asesiad Grŵp ac fe’i cynhelir ddydd Llun 16 Rhagfyr.

Mae John Traxler, FRSA, yn Athro mewn Dysgu Digidol yn y Sefydliad Addysg ym Mhrifysgol Wolverhampton. Mae’n un o arloeswyr dysgu symudol, ac mae wedi bod yn gysylltiedig â phrosiectau ers 2001 pan oedd yn gloriannydd ar gyfer m-learning, y prosiect mawr cyntaf yn yr UE. Ef yw Cyfarwyddwr Sefydlol a chyn Is-Lywydd yr International Association for Mobile Learning. Mae’n gyd-olygydd Mobile Learning: A Handbook for Educators and Trainers, a Mobile Learning: the Next Generation, sydd ar gael mewn Arabeg, a gyda’r Athro Agnes Kukulska-Hulme, Mobile Learning and Mathematics, Mobile Learning and STEM: Case Studies in Practice, and Mobile Learning in Higher Education: Challenges in Context, a nifer o areithiau, paneli, papurau, erthyglau a phenodau ar bob agwedd ar ddysgu gyda theclynnau symudol. Mae ei bapurau wedi cael eu dyfynnu dros 6000 o weithiau. Mae wedi gweithio ar nifer o ymgyrchoedd a phrosiectau dysgu digidol. Mae ei dybiaethau presennol yn canolbwyntio llai ar ’ddysgu symudol’ fel o’r blaen, ac yn hytrach ar effaith argaeledd byd-eang technoleg ddigidol bersonol gysylltiol ar berchnogaeth, sylwedd a natur gwybod a dysgu yn ein cymdeithasau. 

Bydd y rhaglen lawn yn cael ei chyhoeddi’n fuan. Yn y cyfamser, gallwch archebu lle ar y digwyddiad ar-lein. Os hoffech gyflwyno cynnig i’r gynhadledd fer eleni, llenwch y ffurflen hon ar-lein cyn dydd Llun 18 Tachwedd.