Ardaloedd Ymarfer ar gael i’r holl staff addysgu

Practice Modules

:cy]Rydym wedi creu Ardaloedd Ymarfer ar gyfer staff sy’n addysgu. Ardaloedd yw’r rhain ar gyfer rhoi cynnig ar holl wahanol nodweddion Blackboard a llwytho deunyddiau ymlaen llaw heb weithio ar fodiwl Blackboard byw.

Er mwyn cael mynediad i’r Ardal Ymarfer, mewngofnodwch i Blackboard, a sgroliwch lawr i Fy Nghyfundrefnau. Fe welwch eich modiwl ymarfer gyda’r cod PRAC_username.

Os byddwch yn datblygu rhywbeth yn eich ardal ymarfer gallwch gopïo’r cynnwys i fodiwl byw. Mae’r Cwestiynau Cyffredin isod yn trafod copïo:

Hefyd, ceir llawer mwy o Gwestiynau Cyffredin a Chanllawiau i’ch cefnogi wrth ddefnyddio Blackboard, yn ogystal â rhagor o wybodaeth ar ein gwefan.

Gan mai cyrsiau ymarfer yw’r rhain, nid ydych yn cofrestru ac mae rhai eitemau na ellir eu copïo, megis:

  • Mannau cyflwyno Turnitin
  • Eitemau sy’n galluogi rhyddhau ymaddasol
  • Eitemau wedi’u hasesu sy’n gysylltiedig â’r ganolfan raddau
  • Grwpiau Blackboard

Mae croeso ichi ddefnyddio eich cwrs ymarfer ar unrhyw adeg. Nid yw’r ardaloedd ymarfer yn ddarostyngedig i Gopi Gwag o Gwrs a bydd y cynnwys yn trosglwyddo ymlaen bob blwyddyn.

Os oes gennych gwestiynau, mae pob croeso ichi gysylltu â ni.

Galwad am Gynigion: Cynhadledd Dysgu ac Addysgu 2020

Gwahoddir staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig a myfyrwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer 8fed Cynhadledd Dysgu ac Addysgu, Dydd Llun 7 Medi – Dydd Mercher 9 Medi 2020.

Gallwch gyflwyno a gweld yr alwad am gynigion yma.

Mae thema’r gynhadledd eleni, Cyfoethogi’r Cwricwlwm: Ysgogi Dysgu a Bywiogi’r Addysgu yn adlewyrchu’r ymroddiad sydd gan staff Prifysgol Aberystwyth i wella profiad dysgu eu myfyrwyr. Dyma dair prif gangen y gynhadledd eleni:

  • Creu Cymuned Ddysgu
  • Datblygu Lles yn y Cwricwlwm
  • Ymgorffori Dysgu Gweithredol
  • Gweithio gyda Myfyrwyr fel Partneriaid

Mae croeso i staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig, a myfyrwyr gynnig sesiynau ar unrhyw bwnc sy’n berthnasol i ddysgu, yn enwedig os ydynt yn canolbwyntio ar ymgorffori a defnyddio technoleg wrth ddysgu. Mae croeso i chi gyflwyno pynciau eraill, hyd yn oed os nad ydynt yn cyd-fynd ag un o’r canghennau uchod.

Rydym yn annog cyflwynwyr i ystyried defnyddio fformatau amgen sy’n cyd-fynd â’r hyn a drafodir yn eu sesiynau. Gan hynny, ni fyddwn yn gofyn am fformat cyflwyno safonol, ond gofynnwn i chi gynnwys fformat, hyd y sesiwn ac unrhyw ofynion eraill a fo gennych wrth i chi wneud eich cynnig isod.

Gofynnwn i chi lenwi’r ffurflen hon erbyn 26 Mehefin 2020. 

Anelwn at roi gwybod i chi am ganlyniad eich cais erbyn 25 Mai 2020. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Datblygu ac Addysgu am eddysgu@aber.ac.uk, neu ffonio ar estyniad 2472.

Gweithdai Kate Exley

Mae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi y bydd Dr Kate Exley yn cynnal dau weithdy ddydd Mawrth 24 Mawrth. 

Mae Dr Exley yn Uwch Swyddog Datblygu Staff ym Mhrifysgol Leeds ac yn Ymgynghorydd Addysg Uwch. Mae ganddi arbenigedd penodol mewn Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch, Asesu ac Achredu, Arolygu Myfyrwyr Ymchwil ac Adolygu Gyrfaoedd, a Chynllunio Cyrsiau a Newid yn y Cwricwlwm.

Mae’r gweithdai hyn wedi’u cynllunio’n benodol er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r prosiectau Dysgu Gweithredol sydd ar y gweill ac sy’n rhan o Strategaeth Dysgu ac Addysgu 2019-2022. Bydd y gweithdai’n canolbwyntio ar Ddysgu Gweithredol wrth ddysgu grwpiau bach a mawr. Mae’r gweithdai’n agored i holl aelodau cymuned y Brifysgol ond argymhellwn yn gryf y dylai aelodau o staff sy’n cyfrannu at gyflwyno’r prosiectau Dysgu Gweithredol fod yn bresennol, neu eu bod yn enwebu rhywun i fod yno ar eu rhan. 

Er mwyn sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl fod yn bresennol, bydd y gweithdy’n cael ei gynnal ddwywaith – unwaith am 9.30am-12pm ac eto am 12.30-3pm.  Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig ac argymhellir eich bod yn archebu eich lle.

Er mwyn archebu, rhowch eich manylion yn y ffurflen ar-lein hon a nodwch pa weithdy yr hoffech fod yn bresennol ynddo.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y gweithdai hyn ebostiwch udda@aber.ac.uk.