James Wood: Improving feedback literacy through sustainable feedback engagement practices

Banner for Audio Feedback

Ddydd Mercher 10 Mai, croesawodd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu Dr James Wood o Brifysgol Bangor i roi rhai syniadau ynghylch ymgysylltu a dylunio adborth  myfyrwyr.

Mae’r recordiad o’r sesiwn ar Panopto a gellir lawrlwytho’r sleidiau PowerPoint isod:

Yn y sesiwn, amlinellodd Dr Wood

  • Y newidiadau i gwestiynau adborth yr ACF ar gyfer 2023
  • Diben yr adborth
  • Y symud oddi wrth drosglwyddo adborth i weithredu
  • Rhwystrau i ymgysylltu ag adborth myfyrwyr
  • Sgrinledu eich adborth

Y digwyddiad mawr nesaf ar gyfer yr UDDA yw ein Cynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol sy’n cael ei chynnal rhwng 4 a 6 Gorffennaf. Mae modd archebu lle ar gyfer y gynhadledd nawr.

Os oes gennych unrhyw siaradwyr allanol yr hoffech i’r UDDA eu gwahodd i gyfres y flwyddyn nesaf, e-bostiwch udda@aber.ac.uk gyda’ch awgrym.

Siaradwr Gwadd: James Wood: Improving feedback literacy through sustainable feedback engagement practices 

Mae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi eu siaradwr gwadd nesaf. Ar 10 Mai am 14:00-15:30, bydd James Wood o Brifysgol Bangor yn cynnal sesiwn ar-lein ar wella llythrennedd adborth trwy arferion cynaliadwy ar gyfer ymateb i adborth.

Mae James Wood yn Ddarlithydd Addysg, Asesu ac yn Arweinydd Cyrsiau Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Bangor. Cyn y swydd hon, bu James yn gweithio gyda Choleg y Brenin Llundain, Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Birkbeck, Prifysgol Greenwich, a Phrifysgol Genedlaethol Seoul.

Crynodeb o’r Sesiwn

Er y pwyslais a roddir ar bwysigrwydd adborth i gefnogi dysgu mewn addysg uwch, mae llawer i’w ddysgu o hyd am feithrin sgiliau cynaliadwy ar gyfer gofyn am adborth, ymateb i’r adborth a’i ddefnyddio. Yn ymarferol, mae llawer o fyfyrwyr nad ydynt yn manteisio ar adborth. Hyd yn oed os yw cyrsiau’n cynnig asesiad ffurfiannol mewn egwyddor, dim ond weithiau y bydd dysgwyr yn cymryd sylw ohono neu’n ei ddefnyddio’n effeithiol. Dadleuir yn aml bod angen ‘llythrennedd adborth’ ar fyfyrwyr cyn y gellir mynd i’r afael ag adborth. Fodd bynnag, yn y gweithdy hwn, byddwn yn edrych sut y gall llythrennedd adborth a pharodrwydd i dderbyn adborth ddatblygu. Caiff y myfyrwyr ymgyfarwyddo ag arferion adborth deialogaidd sydd wedi’u cynllunio’n dda ac sy’n cynnig y cyfle i ystyried sut mae dysgu o adborth yn digwydd, y manteision, beth yw ansawdd a sut i’w werthuso, a sut i ddatblygu a gweithredu cynlluniau i gau’r bwlch rhwng cyflawniad presennol a chyflawniad targed. Byddaf hefyd yn trafod sut mae ffactorau cymdeithasol a ffactorau heblaw agweddau dynol ynghlwm wrth allu dysgwyr i ymateb mewn ffyrdd a all gynorthwyo neu gyfyngu ar eu cyfranogiad. Byddaf yn gorffen gyda golwg gyffredinol ar ddefnyddio technolegau i wella gallu dysgwyr i ddefnyddio adborth yn effeithiol a datblygu cysylltiadau â chymunedau a all gynnig cyfleoedd dysgu cydweithredol grymus, yn ogystal â chymorth ac anogaeth emosiynol. 

Cynhelir y gweithdy ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams. Archebwch eich lle ar-lein.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu (udda@aber.ac.uk).

Rhaglen Siaradwyr Gwadd yr UDDA: Cynorthwyo Marcwyr i Ganfod Twyllo ar Gontract

Banner for Audio Feedback

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ein Siaradwr Gwadd nesaf.

Ar 20 Mai 2022 12:30-13:30, bydd Dr Mary Davies, Prif Ddarlithydd yn Ysgol Fusnes Prifysgol Oxford Brookes, a’i chydweithwyr yn cynnal gweithdy ar eu hadnodd rhyngweithiol Contract Cheating Detection for Markers, sy’n gweithio ar sail rhestr wirio o ‘faneri coch’.

Bydd Stephen Bunbury, Uwch Ddarlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Westminster, Anna Krajewska, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ragoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu yn y Bloomsbury Institute, a Dr Matthew Jones, Uwch Ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Greenwich, yn ymuno â Dr Davies.

Nod y gweithdy yw helpu aelodau o staff i ganfod achosion posibl o dwyll ar gontract wrth farcio. Mae’r cyflwynwyr yn aelodau o Weithgor Twyllo ar Gontract Rhwydwaith Uniondeb Academaidd Llundain a De-ddwyrain Lloegr. Dyma’r gweithgor sydd wedi paratoi’r adnodd rhyngweithiol Contract Cheating Detection for Markers, a hynny ar sail rhestr wirio o ‘faneri coch’.

Yn y gweithdy, bydd y cyflwynwyr yn esbonio’r baneri coch sy’n tynnu sylw at enghreifftiau posibl o dwyllo ar gontract, a hynny trwy drafod adrannau o’r rhestr wirio: dadansoddi testun, cyfeirnodi a defnyddio ffynonellau, tebygrwydd ar Turnitin a pharu testun, priodweddau dogfennau, y broses ysgrifennu, cymharu â gwaith blaenorol myfyrwyr, a chymharu â gwaith y garfan o fyfyrwyr. Cewch gyfle i ymarfer defnyddio’r rhestr wirio ac i drafod ffyrdd effeithiol o’ch helpu i ganfod enghreifftiau posibl o dwyllo ar gontract yng ngwaith myfyrwyr.

Mae adnoddau o ddigwyddiadau blaenorol gyda Siaradwyr Gwadd i’w gweld ar ein blog.

Cynhelir y gweithdy ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams. Archebwch eich lle ar-lein.

Cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu os oes gennych unrhyw gwestiynau (udda@aber.ac.uk).

Rob Nash: Deunyddiau Siaradwr Gwadd ar gael

Why is receiving feedback so hard? Screen grab from Rob Nash's talk

Ddydd Gwener 11 Mawrth, croesawodd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu Dr Rob Nash, Darllenydd mewn Seicoleg o Brifysgol Aston. Mae Rob yn arbenigwr mewn adborth a chynhaliodd weithdy sy’n edrych yn benodol ar ffyrdd y gallwn wella a datblygu ymgysylltiad ag adborth.

Mae recordiad o elfennau trosglwyddo’r sesiwn ar gael ar Panopto. Gallwch hefyd lawrlwytho’r sleidiau a ddefnyddiodd.

I’r rhai ohonoch sydd â diddordeb mewn archwilio adborth ymhellach, gallwch edrych ar y cyfeiriadau a ddefnyddiodd Rob yn ei sesiwn:

Ein digwyddiad Siaradwr Gwadd nesaf yw Dr Mary Davies o Oxford Brookes a bydd cydweithwyr eraill yn ymuno â hi i drafod sut y gallwn ganfod twyll contract posibl yn ystod y broses farcio. Cynhelir y gweithdy hwn ar 20 Mai 2022, 12:30-13:30. Mae modd archebu ar gyfer y sesiwn nawr.

Nodyn i’ch atgoffa hefyd bod ein Galwad am Gynigion ar gyfer ein Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol ar agor ar hyn o bryd.

Siaradwr Allanol: Mynd i’r Afael ag Adborth, Dr Robert Nash

Banner for Audio Feedback

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ein siaradwr allanol nesaf.

Ddydd Gwener 11 Mawrth, 10yb-12yp, bydd Robert Nash yn cynnal dosbarth meistr ynglŷn â strategaethau i fynd i’r afael ag adborth.

Mae tudalen archebu Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar agor a gallwch sicrhau eich lle yno.

Bydd y gweithdy’n cael ei gynnal ar-lein trwy Teams ac anfonir dolen atoch cyn y digwyddiad.

Gweler isod ddisgrifiad o’r sesiwn a bywgraffiad y siaradwr.

Disgrifiad o’r sesiwn

Pam nad ydyn nhw’n gwrando ar fy adborth?

Mae’n well gan y rhan fwyaf o bobl berfformio’n dda yn hytrach na pherfformio’n wael, ac un o brif amcanion rhoi adborth i fyfyrwyr yw eu cynorthwyo i wella eu perfformiad.  Pam, felly, mae ein myfyrwyr mor aml yn anwybyddu, yn gwrthwynebu ac yn gwrthod yr adborth a rown iddynt, a beth allwn ni ei wneud am hyn?  Er mwyn rhoi’r gweithdy mewn cyd-destun, byddwn yn ystyried yn gyntaf i ba raddau mae’r problemau hyn yn unigryw i fyfyrwyr. Yn benodol, byddaf yn rhannu ambell ddarlun o feysydd amrywiol mewn seicoleg gymdeithasol sy’n dangos y cymhellion meidrol sydd wrth wraidd osgoi adborth. Gan gadw’r agweddau hyn mewn cof, awn ymlaen i ymchwilio i’r rhwystrau ymddangosiadol a gwirioneddol sy’n cyfyngu ar allu myfyrwyr i fynd I’r afael â’u hadborth yn effeithiol. Byddwn yn ystyried ffyrdd ymarferol y gallwn ni, fel addysgwyr, gyfrannu at oresgyn y rhwystrau hyn. Trwy gydol y trafodaethau, mae cynaliadwyedd yn allweddol: wrth i’r baich gwaith academaidd gynyddu fwyfwy, ni all ein hatebion bob amser gynnwys rhoi mwy o adborth, adborth mwy cyflym, ac adborth mwy cywrain.  Byddaf yn rhannu fy mhrofiadau o geisio rhoi ar waith yr hyn rydw i wedi ei ddysgu wrth addysgu eraill dros gyfnod o bron i ddegawd yn gweithio ar y problemau hyn.

Bywgraffiad y siaradwr

Mae Dr Rob Nash yn Ddarllenydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Aston ac yno, ar y funud, mae’n Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu Israddedigion yn yr Ysgol Seicoleg. Fel seicolegydd arbrofol, prif arbenigedd Rob yw’r cof dynol, yn arbennig y ffordd y mae atgofion yn magu rhagfarn, yn cael eu hystumio a’u ffugio.  Er hyn, mae hefyd yn arwain a chyhoeddi ymchwil ar bwnc adborth mewn addysg, gyda’r pwyslais ar y ffordd mae pobl yn ymateb ac adweithio wrth gael adborth. Mae Rob yn Uwch Gymrawd yn yr Academi Addysg Uwch, yn Gyd-olygydd y cyfnodolyn a adolygir gan gymhreiriaid Legal & Criminological Psychology, ac mae’n un o awduron Developing Engagement with Feedback Toolkit (Higher Education Academy, 2016).

Os oes gennych unrhyw gwestiwn, mae croeso i chi gysylltu â ni (lteu@aber.ac.uk).

Diweddariadau i’r Polisi E-gyflwyno ac E-adborth

Banner for Audio Feedback

Mae’r Polisi E-gyflwyno a ddiweddarwyd wedi’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwella Academaidd. Gallwch ddarllen y polisi wedi’i ddiweddaru ar ein Tudalennau E-gyflwyno.

Diben y polisi wedi’i ddiweddaru oedd sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’n Polisi Cipio Darlithoedd a rhoi gwell eglurder am ei gwmpas a’r gofynion gan staff a myfyrwyr. 

Un newid mawr a fydd yn effeithio ar greu mannau cyflwyno Turnitin yw cyflwyno polisi sy’n rhoi dewis i’r myfyriwr gyflwyno nifer o weithiau cyn y dyddiad cau, a hefyd gweld eu hadroddiad gwreiddioldeb yn Turnitin. Wrth greu’r man cyflwyno yn Turnitin, dewiswch y gosodiadau canlynol:

  • Creu Adroddiadau Tebygrwydd i Fyfyrwyr – Ar unwaith (gellir arysgrifennu tan y Dyddiad Dyledus)
  • Caniatáu i fyfyrwyr weld Adroddiadau Tebygrwydd – Ie

Mae’r polisi wedi’i ddiweddaru’n amlinellu:

  • Cwmpas yr E-gyflwyno a’r E-adborth
  • Sut mae ein technolegau E-gyflwyno’n defnyddio eich data chi a’ch myfyrwyr
  • Awgrymiadau ar gyfer cyflwyno gwaith yn electronig, cynnwys dyddiadau cau, rhoi cyfle i’r myfyrwyr ymarfer cyflwyno.
  • Graddio a disgwyliadau adborth
  • Cyflwyno traethodau hir yn electronig
  • Cyfnodau Cadw
  • Hawlfraint
  • Sut yr ymdrinnir â methiannau TG
  • Cyfarwyddyd hygyrchedd i staff a myfyrwyr
  • Y gefnogaeth sydd ar gael

Mae’n ein tudalen E-gyflwyno’n amlinellu’r holl gymorth a’r hyfforddiant sydd ar gael i staff ar e-gyflwyno. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch sut i ddefnyddio’r offer hyn anfonwch e-bost atom ar (eddysgu@aber.ac.uk).