Gwneud addysgu yn yr ystafell ddosbarth yn rhyngweithiol gyda thechnoleg

Yn y blogbost hwn byddwn yn edrych ar sut y gellir defnyddio technoleg i roi cyfle i fyfyrwyr roi adborth ar feddyliau a syniadau neu weithio’n rhithiol mewn grwpiau cydamserol. O ystyried bod myfyrwyr yn cael eu hannog i wynebu i’r un cyfeiriad mewn ystafelloedd addysgu, bydd gwaith grŵp yn her benodol mewn ystafelloedd addysgu.

Rydym yn argymell eich bod yn annog myfyrwyr i ddod â’u dyfeisiau eu hunain. Bydd hyn yn rhoi mwy o opsiynau i chi adeiladu’r drafodaeth grŵp honno. Os nad oes gan eich myfyrwyr fynediad at ddyfais, yna cyfeiriwch nhw at gg@aber.ac.uk. Os ydych chi am i fyfyrwyr ddefnyddio eu dyfeisiau eu hunain, rhowch wybod iddyn nhw ymlaen llaw.

Defnyddiwch Vevox i fyfyrwyr gyflwyno crynodeb o’u trafodaethau

Offer pleidleisio yw Vevox. Dyma rai gweithgareddau dysgu y gallech eu hystyried, neu gallwch ddyfeisio rhai eich hun:

  • Meddwl a rhannu unigol – Rhowch dasg taflu syniadau neu ddatrys problemau fer i fyfyrwyr, gofynnwch iddyn nhw feddwl am funud neu ddwy ac yna defnyddio Vevox i rannu eu syniadau. Mae hyn yn gweithio’n dda yn yr ystafell ddosbarth, ar-lein, neu mewn amgylchedd HyFlex.
  • Pwynt aneglur neu bwyntiau cofio allweddol – Ar ddiwedd y ddarlith, gofynnwch i’r myfyrwyr bostio naill ai eu pwynt mwyaf aneglur neu eu pwyntiau cofio allweddol o’r ddarlith. Os ydych chi’n defnyddio pwyntiau cofio allweddol, mae hyn nid yn unig yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi am ba mor dda roedden nhw’n deall y cynnwys, ond hefyd yn atgyfnerthu dysgu’r myfyrwyr trwy ymarfer adalw. Da i athrawon a myfyrwyr!
  • Trafodaeth grŵp ac adborth – Os ydych chi’n defnyddio grwpiau o chwech lle mae myfyrwyr yn llwyddo i drafod cwestiwn wrth wynebu ymlaen (ie, rydyn ni’n gwybod bod hyn yn her!), gallwch ofyn i bob grŵp gyflwyno eu prif negeseuon trwy Vevox i’r dosbarth cyfan eu gweld. Mae hyn yn caniatáu ichi gyfuno’r dysgu gan bob grŵp yn ystod yr amser yn y dosbarth.
  • Gwirio dealltwriaeth cyn ac ar ôl addysgu – Mae myfyrwyr yn dysgu orau os gallant gysylltu gwybodaeth newydd â gwybodaeth flaenorol. Gofynnwch gwestiynau i’r myfyrwyr ar ddechrau’r ddarlith i ysgogi’r wybodaeth honno, ac yna gofynnwch gwestiynau ar y diwedd i’w hatgyfnerthu. Gall hyn helpu myfyrwyr i gydnabod cymaint y maent wedi’i ddysgu o’r ddarlith ac atgyfnerthu eu dysgu ar yr un pryd.

Read More

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 23/9/2021

Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.  

Digwyddiadau a gweminarau ar-lein  

Adnoddau a chyhoeddiadau

Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.

Gweminar Vevox: ‘Co-creating expectations with Vevox’

Fel rhan o’n tanysgrifiad sefydliadol i Vevox, mae modd i ni fynychu gweminarau a gynhelir gan Vevox. Am 2yp ddydd Iau 30 Medi bydd Vevox yn cynnal gweminar o’r enw ‘Co-creating expectations with Vevox’. Bydd y weminar yn cael ei redeg gan Tom Langston, sy’n arbenigwr Dysgu ac Addysgu Digidol ym Mhrifysgol Portsmouth.

Bydd y weminar yn cynnig syniadau ynghylch sut y gellir defnyddio pleidleisio (digidol ac “analog”) i ennyn cyfranogiad myfyrwyr, cyngor ymarferol ynglŷn â strwythur trafodaethau, a defnyddio’r swyddogaeth Holi ac Ateb fel bod modd i fyfyrwyr rannu’r hyn y maent wedi’i ddysgu a gofyn cwestiynau.

Cofrestrwch ar gyfer y weminar hon ar-lein.

Cofrestrwch ar gyfer y sesiwn hyfforddi: Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Vevox.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Vevox, gweler ein tudalennau gwe ar Offer Pleidleisio.

Canlyniadau’r Arolwg Profiad Mewnwelediad Digidol

Yn ystod y gwanwyn eleni, cynhaliodd Prifysgol Aberystwyth arolwg cenedlaethol Jisc i ddeall profiadau digidol myfyrwyr. Cawsom ymateb gan dros 1,000 o fyfyrwyr, yn dweud wrthym am eu hagweddau tuag at dechnoleg mewn dysgu ac addysgu a’u profiadau o’r dechnoleg honno. Dyma rai o ganfyddiadau allweddol yr arolwg hwn.

Crynodeb o’r ystadegau allweddol

CWESTIWNEIN DATA %DATA’R DU %DATA CYMRU %
Amgylchedd dysgu ar-lein wedi’i gynllunio’n dda404144
Cefnogaeth i ddefnyddio’ch dyfais eich hun605456
Yn gallu cael mynediad i systemau/gwasanaethau ar-lein o unrhyw le676867
Deunyddiau dysgu ar-lein wedi’u cynllunio’n dda565354
Ansawdd y dysgu ar-lein a’r dysgu digidol ar y cwrs696668
Cefnogaeth i ddysgu heb fod ar-lein/oddi ar y campws575153
Yn gallu cael gafael ar yr holl wasanaethau cymorth yr oedd arnoch eu hangen ar-lein514950
Faint o gefnogaeth a gawsoch i ddysgu ar-lein586162
  • Mae’r data yn ymwneud â chanran y myfyrwyr a oedd yn cytuno â’r datganiadau a nodwyd.
  • Dangosir hefyd y cymariaethau meincnodi.
  • Mae pump o’r wyth ystadegyn allweddol yn uwch ar gyfer Prifysgol Aberystwyth nag ar gyfer sefydliadau eraill yn y DU a Chymru.
  • Mae’r tueddiadau cyffredinol yr un fath ag ar gyfer sefydliadau eraill yn y DU a Chymru (mae’r meysydd lle cafodd PA ganlyniadau is yn rhai isel yn genedlaethol).

Chi a’ch sefyllfa ddysgu ar hyn o bryd

Technolegau Cynorthwyol

  • Dywedodd 17% o’r rhai a ymatebodd eu bod wedi defnyddio o leiaf un math o dechnoleg gynorthwyol.
  • Dywedodd 13% o’r myfyrwyr hyn ein bod wedi cynnig cefnogaeth iddynt ddefnyddio technolegau cynorthwyol.

Problemau wrth ddysgu ar-lein


Llwyfannau a gwasanaethau digidol yn eich sefydliad


Technoleg wrth ichi ddysgu

Gwella ansawdd dysgu ar-lein a dysgu digidol

Gofynnwyd i’r myfyrwyr pa un peth y dylem ei wneud i wella ansawdd y dysgu ar-lein a’r dysgu digidol. Cwestiwn testun rhydd oedd hwn, ac aethom ati i’w ddadansoddi er mwyn canfod themâu. Dyma rai o’r themâu cyffredin:

  • Crybwyllodd 42% welliannau i gynllun a threfn y dysgu ar-lein
  • Crybwyllodd 14% ddysgu ar-lein mwy difyr a rhyngweithiol
  • Crybwyllodd 12% fwy o ymwneud â myfyrwyr eraill
  • Crybwyllodd 11% fwy o sesiynau dysgu byw
  • Crybwyllodd 10% well darpariaeth ddigidol
  • Crybwyllodd 9% fwy o ymwneud â’r darlithwyr
  • Crybwyllodd 6% gynyddu sgiliau a gallu digidol

Agweddau cadarnhaol ar ddysgu ar-lein

Gofynnwyd i’r myfyrwyr pa agwedd ar ddysgu ar-lein fu fwyaf cadarnhaol iddynt hwy – os oedd yna agwedd gadarnhaol. Cwestiwn testun rhydd oedd hwn, ac aethom ati i’w ddadansoddi er mwyn canfod themâu. Dyma rai o’r themâu cyffredin:

  • Crybwyllodd 54% hyblygrwydd
  • Crybwyllodd 27% fynediad i ddeunyddiau ac adnoddau
  • Crybwyllodd 12% gyswllt â’r darlithwyr
  • Crybwyllodd 10% fuddiannau o ran lles ac anableddau
  • Crybwyllodd 7% ddysgu difyr a rhyngweithiol
  • Crybwyllodd 7% dechnoleg ddigidol
  • Crybwyllodd 6% gyswllt â’r myfyrwyr eraill

Agweddau negyddol ar ddysgu ar-lein

Gofynnwyd i’r myfyrwyr pa agwedd ar ddysgu ar-lein fu fwyaf negyddol iddynt hwy – os oedd yna agwedd negyddol. Cwestiwn testun rhydd oedd hwn, ac aethom ati i’w ddadansoddi er mwyn canfod themâu. Dyma rai o’r themâu cyffredin:

  • Crybwyllodd 45% ddiffyg ysgogiad neu ymwneud
  • Crybwyllodd 23% gynllun a threfn y dysgu ar-lein
  • Crybwyllodd 21% ddiffyg ymwneud cymdeithasol
  • Crybwyllodd 14% faterion lles
  • Crybwyllodd 14% broblemau â systemau TG
  • Crybwyllodd 9% ddiffyg cyswllt â staff
  • Crybwyllodd 6% ddiffyg sgiliau ymarferol

Ansawdd cyffredinol y dysgu ar-lein a’r dysgu digidol ar y cwrs

Dywedodd 69% ein bod yn dda neu’n well na hynny

Datblygu eich sgiliau digidol

Cefnogaeth ac arweiniad i ddatblygu sgiliau digidol

I BA RADDAU YR YDYCH YN CYTUNO EIN BOD WEDI RHOI’R PETHAU CANLYNOL ICHI:PA % CYTUNOCYMRU % CYTUNOY DU % CYTUNO
Cefnogaeth i ddysgu ar-lein/oddi ar y campws575153
Arweiniad ynghylch y sgiliau digidol sy’n angenrheidiol ar gyfer eich cwrs404143
Asesiad o’ch sgiliau digidol a’ch anghenion hyfforddiant222628

I ble y mae myfyrwyr yn mynd i gael cymorth?

Dysgu’n effeithiol ar-lein

Gofynnwyd i’r myfyrwyr pa un peth y dylem ei wneud i’ch helpu i ddysgu’n effeithiol ar-lein. Cwestiwn testun rhydd oedd hwn, ac aethom ati i’w ddadansoddi er mwyn canfod themâu. Dyma rai o’r themâu cyffredin:

  • Crybwyllodd 35% welliannau i gynllun a threfn y dysgu ar-lein
  • Crybwyllodd 14% well mynediad i’r darlithwyr
  • Crybwyllodd 14% ddysgu ar-lein mwy difyr a rhyngweithiol
  • Crybwyllodd 13% fwy o hyfforddiant a chymorth gyda sgiliau a thechnoleg ddigidol
  • Crybwyllodd 8% fwy o gymorth gyda materion lles
  • Crybwyllodd 8% well mynediad i adnoddau a deunyddiau
  • Crybwyllodd 6% well darpariaeth ddigidol

Beth oedd barn y myfyrwyr am y gefnogaeth a gawsant i ddysgu ar-lein?

Dywedodd 58% ein bod yn dda neu’n well na hynny

Trefnu cynnwys Blackboard – Cyngor Defnyddiol gan Fyfyrwyr (Llysgenhadon Dysgu)

Ysgrifennwyd gan Erin Whittaker, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Yn sgil gweithgaredd profi defnyddioldeb y prosiect Llysgenhadon Dysgu, cefais fy annog i ysgrifennu fy mlog am rwyddineb a hygyrchedd dod o hyd i wybodaeth benodol a drafodir mewn darlithoedd a seminarau yn seiliedig ar gynllun cronolegol a labeli eu ffeiliau. Ar ôl gwneud fy ffordd trwy ddau fodiwl enghreifftiol nad oeddwn i wedi eu gweld o’r blaen ac un arall o fodiwl a ddilynais yn yr 2il flwyddyn, sylwais mai’r cynlluniau modiwl mwyaf hygyrch a hawdd llywio drwyddynt oedd y rhai lle’r oedd y wybodaeth a’r deunyddiau ar gyfer darlithoedd a seminarau wedi eu labelu yn ôl wythnos a theitl y pwnc, yn hytrach na dim ond yn ôl rhif y seminar benodol honno; h.y. ‘Seminar: Wythnos 2 – Dysgu am Benodoldeb ‘>’ Seminar 2 ‘. Roedd labelu’r ffeiliau fel hyn yn golygu bod dod o hyd i’r wybodaeth a gyflwynwyd yn y seminarau a’r darlithoedd penodol hynny yn broses fwy syml a chyflym na gorfod chwilio drwy amryfal gyflwyniadau PowerPoint seminarau er mwyn dod o hyd i wybodaeth benodol.

Yn ogystal, y ffolder fwyaf amlwg ar gyfer cadw recordiadau Panopto y ddarlith a’r seminar a’r sleidiau PowerPoint cysylltiedig fyddai ‘Deunyddiau Dysgu’ yn fy marn i. Byddai’n lle da hefyd i’r deunyddiau ychwanegol fel Rhestr Ddarllen Aspire, gweithdai, sesiynau tiwtorial, ac amserlen gyffredinol y modiwl hwnnw. Byddwn yn argymell, fodd bynnag, os oes nifer fawr o ffeiliau ar gyfer seminarau a darlithoedd h.y. mwy na thair ffeil yr wythnos, eu bod yn cael eu rhoi mewn ffolder ar wahân o dan y teitl ‘Darlithoedd/ Seminarau’ yn y golofn ffolderi ar y chwith, ynghyd â chopi o’r Rhestr Ddarllen Aspire.

Read More

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 16/9/2021

Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.  

Digwyddiadau a gweminarau ar-lein  

Adnoddau a chyhoeddiadau

Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.

Ydy eich modiwlau Blackboard yn siarad iaith y myfyriwr? – Llysgenhadon Dysgu

Ysgrifennwyd gan Angela Connor, Seicoleg

Fe wn y gallai swnio’n rhyfedd i holi a yw eich modiwlau Blackboard yn siarad iaith eich myfyrwyr. Gallaf eich clywed yn dweud “Wrth gwrs eu bod nhw”. Yn amlwg, rydych chi’n llwytho deunyddiau i fyny yn Gymraeg a Saesneg. Ond nid am hynny rwy’n sôn. I sicrhau bod Blackboard yn hygyrch i gynifer o fyfyrwyr â phosib mae angen i ni roi ein hunain yn eu hesgidiau hwy am ychydig ac edrych ar y dyluniad a’r cynnwys yn wrthrychol i weld a yw’r deunyddiau wedi’u gosod yn y ffordd orau i garfan benodol er mwyn iddyn nhw allu deall eich modiwlau’n rhwydd.

Dywedir yn aml mewn addysg os byddwch yn addasu eich cyflwyno i’r rheini sydd ag anghenion ychwanegol, byddwch yn ei gwneud yn haws i bawb. Efallai y gellid cymhwyso’r ethos hon yn nhermau Blackboard, gan roi’r holl fyfyrwyr mewn sefyllfa i gyflawni eu potensial llawn gyda chyn lleied o straen â phosibl.

Heb os, mae rhai elfennau mewn modiwl Blackboard yn galw am ffurfioldeb a phroffesiynoldeb, fel Arfer Academaidd Annerbyniol, a llawlyfr y modiwl. Mae’r llawlyfr yn gweithredu bron fel cytundeb contract rhwng cydlynydd y modiwl a’r myfyriwr, a’r ffordd arall, gan ei fod yn amlinellu’n glir yr hyn y bydd y modiwl yn ei gyflwyno a’r hyn sy’n ddisgwyliedig gan y myfyrwyr yn eu tro. Ond trwy osgoi jargon addysgol lle bo modd, neu ei gyflwyno’n raddol, gallwch helpu i godi hyder eich myfyrwyr a’u gwneud yn gyfarwydd â’r termau hyn. Er enghraifft, faint o fyfyrwyr oedd wir yn deall y termau “cydamserol” ac “anghydamserol” a hyrddiwyd i mewn yn sydyn i fyd addysg y llynedd? A phan oedden nhw’n ddealledig, a oedden nhw’n cael eu drysu gyda rywbeth arall tebyg o dro i dro? Fe wn i mi gael fy nal unwaith neu ddwy.

Read More

Croeso i staff newydd sy’n ymuno â Phrifysgol Aberystwyth

Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ydym ni. Rydym ni’n rhan o’r Gwasanaethau Gwybodaeth. Rydym ni’n gweithio gyda staff ar draws y brifysgol i gefnogi a datblygu dysgu ac addysgu. Rydym ni’n cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau i gyflawni hyn.

Mae’r holl wybodaeth fyddwch chi ei hangen ar dudalennau gwe’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Yn ddiweddar rydym ni wedi gweithio’n ddwys gyda chydweithwyr academaidd i ddatblygu datrysiadau i bandemig Covid 19. Bydd ein tudalennau gwe Cefnogi eich Addysgu yn eich helpu gydag amrywiol ddatrysiadau addysgu.

Rydym ni’n ysgrifennu blog gyda’r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.

Os bydd angen i chi gysylltu â ni gallwch wneud hynny ar un o ddau gyfeiriad ebost:

udda@aber.ac.uk (am gwestiynau addysgegol a chynllunio, neu i drefnu ymgynghoriad) neu

eddysgu@aber.ac.uk (am ymholiadau technegol ynghylch ein harlwy e-ddysgu a restrir isod)

Read More

Cefnogaeth ar gyfer Dysgu Wyneb yn Wyneb

Wrth inni symud tuag at ddysgu wyneb yn wyneb eto, hoffem atgoffa’r staff nad ydynt ar eu pen eu hunain o ran ailaddasu i ddysgu wyneb yn wyneb, a allai newid eto o ran maint y grwpiau, y dulliau o ddarparu’r dysgu, cadw pellter, a masgiau. Bydd yr eitem hon ar ein blog yn trafod yr offer arferol yn yr ystafelloedd dysgu a sut i ymdrin â disgwyliadau myfyrwyr, yn ogystal â chyfeirio’r staff tuag at adnoddau perthnasol ar gyfer yr agweddau hynny.   

Offer Arferol yr Ystafelloedd Dysgu 

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth wedi datblygu canllawiau ar ddefnyddio’r offer dysgu arferol yn yr ystafelloedd dysgu canolog. Gallwch wylio rhestr o fideos sy’n arddangos yr offer yn yr ystafelloedd dysgu

Mae’n bosibl y bydd trefn fanylach o ran hylendid a phrotocolau Iechyd a Diogelwch yn dal i fod ar waith ym mis Medi, felly sicrhewch fod gennych y wybodaeth ddiweddaraf yn eu cylch, gan gynnwys systemau unffordd mewn adeiladau, amseroedd cyrraedd/gadael graddol ar gyfer staff a myfyrwyr, gorsafoedd glanhau, a chynlluniau eistedd.  

Mae arnom eisiau atgoffa’r staff hefyd o bolisi recordio darlithoedd y Brifysgol – fe allai dychwelyd at ddysgu wyneb yn wyneb olygu dychwelyd at recordio darlithoedd byw. Bydd nifer o fanteision i wneud recordiadau o ddarlithoedd wrth i ni fynd nôl i ddysgu wyneb yn wyneb. Os bydd myfyrwyr yn methu bod yn bresennol mewn darlith oherwydd salwch gallant ddal i fyny â’r gwaith yn haws. Ac os yw myfyrwyr yn gwybod bod recordiadau o ddarlithoedd ar gael, gallant osgoi dod i ganol pobl os nad ydynt yn teimlo’n hwylus. Mae’r cwbl hyn yn ein cynorthwyo â’r gwaith o warchod iechyd a lles pawb ledled y Brifysgol. Os ydych yn ansicr o gwbl, edrychwch eto ar ein rhestr o fideos ar Panopto. 

Efallai nad yw eich adran mewn ystafell ddysgu ganolog, a bod offer gwahanol i’r offer canolog arferol ar gael. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r asesiadau risg perthnasol ar gyfer eich mannau dysgu a gwiriwch sut orau i’w rhoi ar waith gyda’r person priodol yn eich adran.   

Read More

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 8/9/2021

Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.  

Digwyddiadau a gweminarau ar-lein  

Adnoddau a chyhoeddiadau

Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.