Offer Blackboard ar gyfer Gwaith Grŵp (Blogpost 5): Aseinidau

Group Work Banner

Aseiniadau Grŵp Blackboard i Hyfforddwyr

https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Assignments/Create_and_Edit_Assignments/Group_Assignments

Cyn gosod gwaith grŵp

Ni fyddwch yn dymuno i’ch myfyrwyr ystyried gweithgareddau grŵp yn waith prysur. Os nad yw gwaith grŵp yn hyrwyddo eich amcanion dysgu ac yn cynnig gwerth, ystyriwch dechnegau addysgu amgen. Defnyddiwch waith grŵp yn unig ar gyfer prosiectau na all myfyriwr unigol eu gwneud cystal yn annibynnol a’u gorffen erbyn y dyddiad a nodir.

Mae gwaith ymchwil yn dangos bod myfyrwyr yn gweithio’n galetach os bydd eraill yn dibynnu arnynt. Er mwyn annog cyd-ddibyniaeth, crewch aseiniadau grŵp sy’n gofyn i’r myfyrwyr rannu’r gwaith er mwyn cwrdd â’r amcan, cwestiynu a herio syniadau ei gilydd, a rhannu adborth ac anogaeth.

Cyn ymgorffori gwaith grŵp i’ch cwrs, ystyriwch y cwestiynau hyn:

  • A fydd y gwaith grŵp yn hyrwyddo amcanion y cwrs?
  • Pa ddeunydd rhagarweiniol neu wybodaeth am adnoddau i’r grŵp allaf eu darparu i helpu myfyrwyr i lwyddo?
  • Sut bydd y grwpiau’n cael eu ffurfio?
  • A fyddwch yn cynnwys y myfyrwyr wrth gynllunio’r grwpiau?
  • Sut byddaf yn asesu dysgu myfyrwyr ac yn sicrhau atebolrwydd unigolion? A fydd angen cyflawniadau grŵp arnaf?
  • Sut byddaf yn ymdrin â phryderon a phroblemau?

Aseiniadau Grŵp Blackboard i Fyfyrwyr

Rhai Ystyriaethau cyn dechrau arni

Rhaid i grŵp cwrs fodoli cyn y gallwch greu aseiniadau grŵp ar ei gyfer.

  • Bydd myfyrwyr sy’n perthyn i fwy nag un grŵp sy’n derbyn yr un aseiniad yn gallu cyflwyno’r aseiniad hwn fwy nag unwaith. Efallai y bydd yn rhaid ichi roi gradd gyffredinol i’r myfyrwyr hyn am yr aseiniad.
  • Ni fydd gan fyfyrwyr sydd heb gofrestru ar yr adeg y cyflwynir yr aseiniad grŵp fynediad at y cyflwyniad hwnnw. Dim ond gweld bod y cyflwyniad wedi digwydd fydd y myfyrwyr hyn.
  • Ni fydd y myfyrwyr y byddwch yn eu dileu o’r grŵp yn gallu gweld aseiniadau’r grŵ Gallant weld eu cyflwyniadau drwy My Grades.
  • Os byddwch yn golygu’r aseiniad rhwng y dyddiad creu a’r dyddiad y mae’n ddyledus, gall y grŵp cyfan golli’r gwaith sydd eisoes ar y gweill.
  • Os byddwch yn dileu grŵp o’r aseiniad ar ôl i’r myfyrwyr ddechrau cynnig ond cyn iddynt ei gyflwyno, byddant yn colli mynediad at yr aseiniad ac yn colli’u gwaith.

Rydych yn creu aseiniad grŵp yn yr un ffordd ag y byddwch yn creu aseiniad i fyfyrwyr ei gwblhau’n annibynnol. Wrth greu aseiniad grŵp, bydd eitem llyfr graddau yn cael ei greu yn awtomatig. Gallwch greu aseiniadau grŵp mewn meysydd cynnwys, modiwlau dysgu, cynlluniau gwersi, a ffolderi. Bydd yr aseiniad grŵp yn ymddangos yn y maes cwrs y’i crëwyd ynddo ac ar hafan y grŵp.

Rhai nodiadau am farcio Aseiniadau Grŵp Blackboard

  • Wrth farcio aseiniad grŵp gan ddefnyddio Inline Grading, bydd y marc edinol a roddir yn cael ei anfon yn awtomatig ar gyfer holl fyfyrwyr y grŵp ac yn weladwy yn y Grade Centre. Fodd bynnag, gallwch addasu marciau myfyrwyr unigol, os bydd angen.
  • Ni ellir cymhwyso marciau unigol ar gyfer aseiniadau grŵp dienw, ac ni fydd hi’n bosibl  adnabod myfyrwyr unigol.

Offer Blackboard ar gyfer Gwaith Grŵp (Blogpost 4): Trafodaethau

Group Work Banner

Trafodaethau Blackboard i Hyfforddwyr

https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Interact/Discussions

Mae manteision unigryw yn perthyn i drafodaethau ar-lein. Gan fod myfyrwyr yn gallu cymryd amser i ystyried cyn iddynt bostio eu syniadau, mae’n bosibl y byddwch yn gweld mwy o sgyrsiau ystyrlon. Gallwch arsylwi wrth i’r myfyrwyr ddangos eu gafael ar y deunydd a chywiro camsyniadau. Gallwch ymestyn eich oriau swyddfa a chyrraedd myfyrwyr yn fwy aml yn ystod yr wythnos er mwyn i’r dysgu fod yn barhaus.

Mae datblygu ymdeimlad o gymuned ymhlith y myfyrwyr yn hanfodol ar gyfer profiad ar-lein llwyddiannus. Gyda thrafodaethau ar-lein, gall aelodau’r cwrs atgynhyrchu’r trafodaethau grymus sy’n digwydd yn yr ystafell ddosbarth draddodiadol.

Ar gyfer grwpiau cwrs llai, gallwch hefyd gynnig trafodaethau grŵp, a fydd ar gael i aelodau’r grŵp yn unig.

Trafodaethau Blackboard i Fyfyrwyr

https://help.blackboard.com/Learn/Student/Interact/Discussions

Mewn trafodaethau, gallwch rannu syniadau am ddeunyddiau’r dosbarth. Yn Blackboard Learn, gall aelodau’r cwrs gynnal trafodaethau ystyrlon sy’n digwydd yn yr ystafell ddosbarth draddodiadol, ond gyda manteision cyfathrebu anghydamserol. Nid oes yn rhaid i’r sawl sy’n cymryd rhan fod yn yr un lleoliad na’r un parth amser, a gallwch gymryd amser i ystyried eich ymatebion yn ofalus.

Gallwch ddefnyddio trafodaethau ar gyfer y tasgau hyn:

  • Cwrdd â’ch cyd-fyfyrwyr ar gyfer cydweithredu a rhyngweithio.
  • Holi cwestiynau am aseiniadau gwaith cartref, gwaith darllen, a chynnwys cyrsiau.
  • Dangos eich dealltwriaeth neu’r ffordd y byddwch yn defnyddio deunyddiau cwrs.

Gweler Cwestiynau a Holir yn Aml Aberystwyth ar Drafodaethau:

faqs.aber.ac.uk a chwilio “Trafodaeth”

Offer Blackboard ar gyfer Gwaith Grŵp (Blogpost 3): Wicis

Group Work Banner

Wicis Blackboard i Hyfforddwyr

https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Interact/Wikis

Mae wicis yn galluogi aelodau’r cwrs i gyfrannu at ac addasu un neu ragor o dudalennau o ddeunyddiau sy’n gysylltiedig â’r cwrs ac yn ffordd o rannu a chydweithredu. Gall aelodau’r cwrs greu a golygu tudalennau yn gyflym, ac olrhain newidiadau ac ychwanegiadau, sy’n caniatáu cydweithredu effeithiol rhwng llawer o awduron. Gallwch greu un neu fwy o wicis er mwyn i holl aelodau’r cwrs gyfrannu ato a wicis y gall grwpiau penodol eu defnyddio er mwyn cydweithredu.

Gall holl aelodau’r cwrs hefyd ddefnyddio’r offer wicis i gofnodi gwybodaeth a gweithredu fel ystorfa ar gyfer gwybodaeth y cwrs. Mae wici cwrs yn ffynhonnell wybodaeth helaeth a grëwyd gan aelodau’r cwrs. Gall wicis helpu i feithrin cymuned o gydweithredu a dysgu. Mae rhyngweithio cymdeithasol yn cynyddu wrth gyfnewid gwybodaeth.

Manteision defnyddio wicis

Gall wicis helpu aelodau’r cwrs i greu ystorfa wybodaeth ar y cyd. Wrth i’r wybodaeth ehangu, gallwch ddisgwyl rhyw elfen o ddifrifoldeb a sefydlogrwydd i’r wici.

Trwy eu defnyddio’n benodol, gallwch ddefnyddio wicis ar gyfer y dibenion addysgiadol hyn:

  • Darparu amgylchedd hawdd ei ddefnyddio ar gyfer cyfathrebu
  • Hyrwyddo cydweithredu yn hytrach na chystadlu
  • Meithrin agwedd gymdeithasol a rhyngweithiol at ddysgu
  • Datblygu partneriaethau er mwyn elwa o gryfderau eraill
  • Amlhau sgiliau datblygu rhwydweithiau, ymddiriedaeth, a negodi
  • Darparu cefnogaeth ac adborth prydlon
  • Darparu un man ar gyfer chwilio, diweddaru, a chael mynediad at wybodaeth yn rhwydd ac yn gyflym
  • Cynyddu a datblygu’r posibilrwydd o greadigrwydd, naturioldeb, ac arloesedd drwy ddefnyddio meddwl myfyriol

Wicis Blackboard i Fyfyrwyr

https://help.blackboard.com/Learn/Student/Interact/Wikis

Offer cydweithredol yw wici sy’n eich galluogi i gyfrannu at ac addasu un neu ragor o dudalennau o ddeunyddiau sy’n gysylltiedig â cwrs. Mae’r wici yn darparu ardal er mwyn cydweithredu ynghylch y cynnwys. Gall aelodau’r cwrs greu a golygu tudalennau wici sy’n ymwneud â’r cwrs neu â grŵp cwrs.

Gall hyfforddwyr a myfyrwyr roi sylwadau, a gall eich hyfforddwr raddio gwaith unigolion.

image of wikis

Gweler Cwestiynau a Holir yn Aml Aberystwyth ar Wicis:

faqs.aber.ac.uk a chwilio “Wicis”

Offer Blackboard ar gyfer Gwaith Grŵp (Blogpost 2): Blogiau

Group Work Banner

Blogiau Blackboard i Hyfforddwyr

https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Interact/Blogs

Dyddiadur ar-lein personol yw blog sy’n cael ei ddiweddaru’n gyson, gyda’r bwriad o’i rannu ag eraill. Mae gan y rhan fwyaf o flogiau nodwedd ar gyfer cynnig sylwadau, er mwyn i bobl allu ymateb i syniadau ei gilydd. Mae blogiau yn annog myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn glir. Gall blogiau hefyd fynd i’r afael â’r angen i ymestyn gwahanol agweddau ar ddysgu cymdeithasol. O safbwynt yr hyfforddwr, mae blogiau yn ffordd effeithiol o gael blas ar weithgareddau’r myfyrwyr ac yn ffordd o rannu’r wybodaeth a’r deunyddiau a gesglir.

Mae’r hyfforddwyr yn creu ac yn rheoli blogiau yn Blackboard Learn, a dim ond defnyddwyr sydd wedi’u cofrestru all weld a chreu blogiau a chyflwyno sylwadau. Mae blogiau yn debyg i ddyddiaduron, a gallwch eu defnyddio ar gyfer aseiniad y byddwch yn ei raddio neu er mwyn casglu barn a gwybodaeth heb bennu gradd.

Blogiau Blackboard i Fyfyrwyr

https://help.blackboard.com/Learn/Student/Interact/Blogs

Eich dyddiadur ar-lein personol yw blog. Gall pob cofnod yn eich blog gynnwys unrhyw gyfuniad o eiriau, lluniau, dolenni cyswllt, amlgyfrwng, clytweithiau [mashups], ac atodiadau. Mae blogiau yn ffordd effeithiol ichi rannu gwybodaeth a deunyddiau a grëwyd a chasglu yn y cwrs. Gallwch bostio blogiau newydd ac ychwanegu sylwadau at flogiau sydd eisoes yn bodoli. Defnyddiwch eich blog i fynegi eich syniadau a’u rhannu â’r dosbarth.

Fel perchennog blog, gallwch greu cofnod a gall eich hyfforddwr a’ch cyd-fyfyrwyr ychwanegu sylwadau. Gall cwrs neu grŵp hefyd fod yn berchen ar flog. Yn yr ardal grŵp, gall holl aelodau’r grŵp greu cofnodion ar gyfer yr un blog, a’i ddatblygu. Gall unrhyw aelod o’r cwrs ddarllen a chyflwyno sylwadau ar flog grŵp, ond ni all greu cofnod os nad yw’r defnyddiwr yn aelod o’r grŵp. Gall eich hyfforddwr hefyd gynnig sylwadau a graddio cofnodion.

Gweler Cwestiynau a Holir yn Aml Aberystwyth ar Flogiau:

faqs.aber.ac.uk a chwilio “Blogiau”

Offer Blackboard ar gyfer Gwaith Grŵp (Blogpost 1)

Group Work Banner

Grwpiau Blackboard i Hyfforddwyr

https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Interact/Course_Groups

Mae dysgu cydweithredol yn cynnig llawer mwy o fanteision na hyfforddiant traddodiadol. Dengys yr astudiaethau fod myfyrwyr, wrth weithio mewn tîm, yn datblygu agweddau cadarnhaol, yn datrys problemau’n fwy effeithiol, ac yn profi mwy o falchder wrth lwyddo.

Gallwch drefnu’r myfyrwyr mewn grwpiau er mwyn iddynt ryngweithio â’i gilydd a chyflwyno eu gwybodaeth wrth ddysgu i werthfawrogi safbwynt eraill.

Gallwch greu grwpiau cwrs un ar y tro neu mewn setiau.

Yn yr Original Course View, mae gan bob grŵp ei hafan ei hun â dolenni cyswllt i’w cysylltu ag offer i helpu’r myfyrwyr i gydweithio. Dim ond chi ac aelodau’r grŵp all ddefnyddio offer y grŵp.

Yn y Control Panel, ehangwch yr adran Users and Groups a dewis Groups. Ar y tudalen Groups, gallwch weld a golygu eich grwpiau presennol, a chreu grwpiau newydd a setiau grwpiau.

Grwpiau Blackboard i Fyfyrwyr

https://help.blackboard.com/Learn/Student/Interact/Groups

Gall hyfforddwyr greu grwpiau o fyfyrwyr o fewn eu cyrsiau. Mae’r grwpiau fel arfer yn cynnwys nifer bychan o fyfyrwyr ar gyfer grwpiau astudio neu brosiectau. Mae gan y grwpiau hyn eu meysydd cydweithredu yn y cwrs er mwyn iddynt allu cyfathrebu a rhannu ffeiliau.

Bydd eich hyfforddwr yn eich gosod mewn grŵp neu’n eich galluogi i ddewis y grŵp y dymunwch ymuno ag ef. Bydd eich hyfforddwr yn dewis pa offer cyfathrebu a chydweithredu fydd ar gael i’r grŵp.

Picture showing Groups under the menu item groups

Gweler Cwestiynau a Holir yn Aml Aberystwyth am greu grwpiau:

Sut mae creu grŵp i fyfyrwyr yn Blackboard? (Staff)

faqs.aber.ac.uk/534 neu chwiliwch am “grwpiau”

Fforwm Dysgu o Bell Ychwanegol

Distance Learner Banner

Yn sgil eich sylwadau, rydym wedi penderfynu cynnal Fforwm Dysgu o Bell ychwanegol.

Goruchwylio o Bell

Dyddiad: 11.03.2020

Amser: 14:00-15:30

Lleoliad: E3, Ystafell Hyfforddiant E-ddysgu

Mae’r fforwm hwn yn cynnig cyfle i bobl drafod yr arfer dda ar draws y Brifysgol ar sawl cynllun a modiwl dysgu o bell. I’r rhai ohonoch sydd eisoes yn goruchwylio o bell, gobeithiwn y byddwch yn gallu rhannu eich arbenigedd a’ch gwybodaeth â’r rhai sy’n llai cyfarwydd â’r broses. 

Archebu lle ar-lein: https://stafftraining.bis.aber.ac.uk/sd/list_courses.php

Cadwch y Dyddiad: Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu

Mae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi dyddiad yr 8fed Gynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu. Cynhelir y gynhadledd o ddydd Llun 7 Medi hyd ddydd Mercher 9 Medi 2020.

Cadwch lygad am Alwadau am Gynigion a chyhoeddi thema’r gynhadledd yn ddiweddarach y fis hwn. Yn ôl ein harfer, byddwn yn diweddaru ein tudalennau gwe ynghylch y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn ogystal â’n blog er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi ynghylch sut mae pethau’n datblygu.