Defnyddio Skype for Business ar gyfer Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu

 Mae’r Grŵp E-ddysgu wedi bod yn cynorthwyo cydweithwyr yn yr Adran Addysg i ddefnyddio Skype for Business er mwyn cyflwyno gweminar i fyfyrwyr TAR sydd allan ar leoliad mewn ysgolion. Mae’r weminar yn cynnig cymorth i fyfyrwyr ynghylch eu haseiniadau.

Mae Skype for Business ar gael i bob aelod o’r Brifysgol yn rhan o becyn Office 365. Yn ogystal â chreu cyfarfodydd rhithiol, mae hefyd yn eich galluogi i gyflwyno ystafelloedd dosbarth rhithiol o’ch swyddfa eich hun ar amser sy’n gyfleus i chi. Mae’n hawdd iawn i fyfyrwyr fewngofnodi i’r weminar – yr unig beth sydd angen iddynt ei wneud yw bod wedi’u cysylltu â’r Rhyngrwyd.

Yn ogystal â chreu ystafell ddosbarth ar-lein, mae gan Skype for Business nodweddion ychwanegol hefyd a allai fod o ddefnydd. Gellir recordio cyfarfodydd Skype for Business a’u huwchlwytho i  Panopto. Yn ogystal â hyn, mae ganddo nodweddion rhyngweithiol y gellir eu defnyddio gan gyfranogwyr yn y sesiwn ei hun. Mae’r nodweddion hyn yn cynnwys meddalwedd pleidleisio:

Mae gan Skype for Business hefyd wasanaeth gwibnegeseua er mwyn i gyfranogwyr y weminar allu gofyn cwestiynau ac ymateb i ymholiadau trwy gydol y sesiwn.

Mae cynlluniau ar y gweill i ymchwilio i weithgareddau dysgu ac addysgu gwahanol y gall Skype for Business eu cynorthwyo, gan gynnwys cael ei ddefnyddio ar gyfer sesiwn adolygu arbennig.

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio Skype for Business ar gyfer gweithgareddau dysgu ac addysgu, gan gynnwys gweminarau, mae’r Grŵp E-ddysgu’n cynnal sesiwn hyfforddi ar 18 Rhagfyr, 3yp-4yp yn E3, Ystafell Hyfforddi E-ddysgu. Bydd y sesiwn yn trafod sut i drefnu cyfarfod Skype for Business, sut i lwytho cyflwyniad, sut i ddefnyddio nodweddion rhyngweithiol y feddalwedd a sut i recordio’r sesiwn. Gallwch archebu lle ar y sesiwn ar-lein yma.

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio Skype for Business ac nad oes modd i chi ddod i’r sesiwn hyfforddi, e-bostiwch y Grŵp E-ddysgu a byddwn yn barod iawn i drefnu ymgynghoriad. Mae ein Canllaw Skype for Business ar gael ar ein gweddalennau.

Cyflwynwch eich Modiwl Blackboard am Wobr Cwrs Nodedig

Mae cyfnod cyflwyno ceisiadau am y Gwobrau Cwrs Nodedig bellach wedi dechrau. Y dyddiad cau i wneud cais yw 12 yp 1af Chwefror 2019. I gyflwyno cais, lawrlwythwch ffurflen gais fan hyn a darllenwch y cyfarwyddiadau sydd ar ein gweddalennau.

Cynlluniwyd y Wobr Cwrs Nodedig i gydnabod arfer canmoladwy ym modiwlau Blackboard. Ers ei lansio yn 2013, gwobrwywyd 5 o fodiwlau canmoladwy, cafodd 8 gymeradwyaeth uchel a 3 arall eu cymeradwyo.

Eleni mae’r gwobrau ychydig yn wahanol. Er bod y Wobr yn dal i gael ei seilio ar Gyfarwyddyd Rhaglen Cwrs Nodedig Blackboard, gwnaethom rai addasiadau er mwyn pwysleisio’r dulliau rhyngweithiol y gellir defnyddio Blackboard i ddarparu amgylchedd dysgu cymysg i fyfyrwyr. Ar ben hyn, rhoddwyd pwys ychwanegol ar y meini prawf hygyrchedd er mwyn sicrhau bod pawb sy’n dysgu yn gallu cael defnydd o fodiwlau Blackboard.

Byddwn yn cynnal sesiynau hyfforddi i’r rhai sy’n ystyried cyflwyno cais am y Wobr ddydd Mercher 12 Rhagfyr, 3pm-4pm yn E3, Ystafell Hyfforddi E-ddysgu a dydd Mawrth 8 Ionawr, 3pm-4pm. Gallwch archebu lle trwy fynd i dudalennau archebu cwrs y GDSYA.