Hygyrchedd – Defnyddio Adnoddau Allanol

Wrth ddefnyddio adnoddau allanol megis dogfennau PDF neu sganiau a fideos yn eich gweithgareddau addysgu a dysgu, mae’n bwysig gwirio pa mor hygyrch ydyn nhw a sicrhau y bydd pob myfyriwr yn gallu eu defnyddio. Mae hyn yn hanfodol os ydych yn dibynnu arnynt i gefnogi gweithgaredd dysgu, oherwydd fel arfer nid yw’n bosibl i chi olygu adnodd allanol o’r fath. Os nad yw’r eitem yr hoffech ei defnyddio yn hygyrch iawn, yna edrychwch am ddewis arall, fel arall bydd rhai myfyrwyr yn cael eu heithrio.

Gellir defnyddio’r cyfarwyddyd yn y Rhestr wirio hygyrchedd PA i werthuso pa mor hygyrch yw adnodd allanol.

Dewiswch y deunydd mwyaf hygyrch sydd ar gael – os nad yw’r unig adnodd sydd ar gael yn hygyrch, meddyliwch yn ofalus am sut rydych chi’n darparu’r wybodaeth honno i fyfyriwr a allai ei chael hi’n anodd ei defnyddio.

Dogfennau PDF / sganiau

Mae sganiau o ddogfennau ysgrifenedig, neu sganiau heb adnabyddiaeth nodau gweledol (OCR) o lyfrau, cylchgronau ac ati yn anhygyrch i bobl sydd angen defnyddio darllenwyr sgrin, testun chwyddedig ac ati. Lle bynnag y bo modd, defnyddiwch sganiau a dogfennau PDF darllenadwy ag adnabyddiaeth nodau gweledol. Gallwch siarad â Thîm Digido’r Gwasanaethau Gwybodaeth ynghylch cael sganiau priodol o ddeunyddiau. Os ydych chi’n defnyddio sganiau o ddogfennau wedi’u hysgrifennu â llaw, gallech ddarparu trawsgrifiad o’r cynnwys.

Mae canllaw Prifysgol Chicago ar adnabyddiaeth nodau gweledol a dogfennau PDF yn ddefnyddiol os ydych chi eisiau gwybod mwy am hyn (noder ei fod yn cynnwys dolenni i wasanaethau a meddalwedd nad ydynt ar gael yn PA; mae hefyd ar gael yn Saesneg yn unig).

Fideos

Gwiriwch fod gan y fideo yr ydych am ei ddefnyddio gapsiynau neu is-deitlau. Er enghraifft, os ydych chi’n defnyddio YouTube, mae yna eicon Subtitles/Closed Captions yng nghornel chwith isaf y sgrin.

Sgrinlun o reolyddion fideo YouTube gyda’r eicon Subtitles/Closed Captions wedi’i amlygu.

Gwiriwch ansawdd y sain a gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu ei glywed a’i ddeall ar lefel sain resymol.

Os nad oes capsiynau, neu os yw ansawdd y sain yn wael, a yw’n bosib darllen gwefusau’r actorion neu’r cyflwynwyr?

Mae llawer o recordiadau teledu yn Box of Broadcasts yn cynnwys trawsgrifiad, felly mae hwn yn lle da i ddod o hyd i fideo. Cofiwch fod rhai o raglenni’r BBC hefyd yn cael eu darlledu gyda dehonglwyr iaith arwyddion.

Os yw fideos yn defnyddio testun i gyfleu ystyr, gwnewch yn siŵr bod ganddo ffontiau clir a chefndir da.

Osgowch fideos gyda llawer o oleuadau sy’n fflachio a delweddau sy’n symud yn gyflym – os na allwch osgoi defnyddio fideo sy’n cynnwys hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhybuddio myfyrwyr (ac yn darparu esboniad neu fideo amgen lle bo hynny’n bosibl).

Mae gwefan W3C ar gynnwys sain a fideo hefyd yn ddefnyddiol. Er ei fod wedi’i gynllunio ar gyfer pobl sy’n creu sain a fideo, mae’n rhoi rhai awgrymiadau i chi o bethau i chwilio amdanynt wrth ddewis adnoddau.