Rhagfyr 2023: Diweddariad Blackboard Learn Ultra

Y mis hwn hoffai’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu dynnu sylw at dri o welliannau i Hyfforddwyr yn niweddariad Blackboard Learn Ultra ym mis Rhagfyr.

Opsiynau mewnosod delwedd ychwanegol

Mae delweddau’n helpu i wella dealltwriaeth o gynnwys y cwrs a’r ymgysylltiad ag ef. Mae hyfforddwyr a myfyrwyr eisiau defnyddio delweddau o ansawdd uchel mewn cynnwys a chyflwyniadau. Er mwyn helpu â hyn, mae botwm delwedd newydd wedi’i ychwanegu i’r golygydd cynnwys yn y mannau canlynol:

  • Cyhoeddiadau
  • Cwestiynau Asesu
  • Atebion myfyrwyr ar gwestiynau (uwchlwytho ffeiliau lleol yn unig)
  • Adborth cyflwyno (gwedd safonol)
  • Cofnodion a sylwadau mewn dyddlyfrau

Llun isod: Gwedd hyfforddwr – botwm delwedd ar olygydd cynnwys ar gyfer Cyhoeddiadau

Graddio hyblyg – rheoli didoli ar y tab myfyrwyr

Gall graddio nifer fawr o gyflwyniadau heb ffordd i’w trefnu fod yn ddiflas. Nawr, gall hyfforddwyr gymhwyso gwahanol opsiynau didoli gyda graddio hyblyg:

  • Dyddiad cyflwyno (hynaf – diweddaraf) o’r ymgais ddiweddaraf
  • Dyddiad cyflwyno (hynaf – diweddaraf) o’r ymgais ddiweddaraf
  • Cyfenw (A – Y)
  • Cyfenw (Y – A)
  • Enw Cyntaf (A – Y)
  • Enw Cyntaf (Y – A)
  • Cyfeirnod Myfyriwr (esgynnol)
  • Cyfeirnod Myfyriwr (disgynnol)

Mae’r rhyngwyneb graddio yn storio’r opsiwn didoli a ddefnyddiwyd fwyaf diweddar. Os yw hyfforddwr yn rhoi’r gorau i raddio asesiad ac yn ailddechrau graddio yn ddiweddarach, cymhwysir yr opsiwn didoli olaf.

Hefyd, os ydych yn didoli’r cyflwyniadau yn ôl cyfenw neu statws graddio, mae’r opsiwn didoli a ddewiswyd yn cario drosodd i’r rhyngwyneb graddio.

Llun isod: Opsiynau didoli fel y dangosir o’r tab Myfyrwyr yn y graddio hyblyg.

Eithriadau dyddiadau cyflwyno asesiadau grŵp

Efallai y bydd hyfforddwyr am bennu dyddiadau cyflwyno gwahanol ar gyfer pob grŵp sy’n gweithio ar asesiad grŵp.

Yn y gorffennol, nid oedd unrhyw ffordd i glustnodi dyddiadau cyflwyno amrywiol ar gyfer pob grŵp sy’n gweithio ar asesiad grŵp. Nawr, gall hyfforddwyr neilltuo dyddiad cyflwyno unigryw i bob grŵp gan ddefnyddio’r llif gwaith eithriadau.

Ar y dudalen Cyflwyniadau yn yr asesiad grŵp, gall yr hyfforddwr ychwanegu neu olygu eithriadau ar gyfer grŵp.

Llun isod: Gwedd hyfforddwyr – ychwanegu neu olygu opsiwn eithriadau ar y dudalen Cyflwyniadau asesiad grŵp.

Mae’r panel Eithriadau yn dangos gwybodaeth berthnasol megis enw’r aseiniad ac enw’r grŵp dethol. Mae hyn yn helpu i sicrhau cywirdeb eithriad. Gall hyfforddwyr ddewis dyddiad cyflwyno ar gyfer y grŵp gan ddefnyddio’r dewisydd dyddiad ac amser.

Llun isod: Gwedd hyfforddwyr – panel eithriadau.

Creu Profion Blackboard ar gyfer Arholiadau Ar-lein.

Mae’r gosodiadau ar gyfer profion yn Blackboard Ultra wedi newid yn Blackboard Ultra ac mae’r trefniadau ar gyfer cynnal arholiad wedi’u diweddaru eleni.

Dyma’r prif newidiadau:

  • Gallwch greu un cȏd mynediad yn unig ar gyfer eich arholiad o flaen llaw. Caiff y cȏd hwn ei greu’n awtomatig ar ffurf cȏd rhifiadol 6 digid, pan fyddwch yn dewis yr opsiwn ‘angen cȏd mynediad’ i opsiwn addass ar gyfer pob arholiad ar-lein wyneb yn wyneb.
  • Disgwylir i’r cydlynwyr modiwlau fynychu’r arholiad wyneb yn wyneb ar gyfer eu modiwl (am y 30 munud cyntaf). Os nad yw’n bosibl bod yn bresennol, dylid trefnu eilydd. Mae bod yn gorfforol bresennol ar gyfer yr arholiad yn galluogi cydlynwyr y Modiwl i gynhyrchu ail gȏd mynediad 30 munud ar ôl i’r arholiadau ddechrau ac i gylchredeg y cȏd hwn gyda’r tîm arholiadau.
  • Gall cydlynwyr modiwlau gysylltu â’r swyddfa arholiadau trwy eosstaff@aber.ac.uk cyn diwrnod yr arholiad i ddarganfod pa staff goruchwylio fydd yn bresennol yn ystod eu harholiad i gadw cofnod o’u henwau a’u henwau defnyddiwr.

Rydym wedi paratoi canllawaiau newydd sy’n esbonio’r newidiadau’n llawn: Profion Blackboard ar gyfer Arholiadau Wyneb yn Wyneb. Byddai’n werth clustnodi amser peneodol i ddarllen ac ymgyfarwyddo gyda’r canllawiau wrth i chi barartoi’ch prawf. Gweler isod y gosodiadau prawf yn Blackboard ar gyfer creu cȏd mynediad i’ch arholiad ar-lein:

Yn sgȋl y newidiadau hyn, mae’r tȋm E-ddysgu yn cynnal sesiynau hyfforddi newydd ar ‘Baratoi am Arholiadau Ar-lein’, ar 5 a 11 Rhagfyr. Gellir archebu lle ar Sesiynau Hyfforddiant DPP.

Mae cyfarwyddiadau hefyd ar ffurf Cwestiynau a Ofynir yn Aml ar greu profion Blackboard ar gyfer arholiadau ar-lein. Os ydych angen cymorth ychwanegol mae’r tȋm e-ddysgu ar gael ar sesiynau Teams i drafod eich prawf. Cysylltwch gyda eddysgu@aber.ac.uk.

Bydd y tȋm e-ddysgu ar gael i wiro gosodiadau eich prawf rhwng 4 a 20 Rhagfyr 2023. Cofiwch, nad ydym yn gallu gwiro eich prawf heb amser neu ddyddiad wedi’i gadarnhau.

Cysylltwch gyda eddysgu@aber.ac.uk os oes gennych gwestiynau pellach ar brofion Blackboard.

Tachwedd 2023 Diweddariad Blackboard Learn Ultra

Hoffai’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu dynnu sylw at bump o welliannau i Hyfforddwyr yn niweddariad Blackboard Learn Ultra ym mis Tachwedd. Mae’r gwelliannau hyn mewn tri maes:

  • Gwneud eich cynnwys yn fwy gweledol.
  • Diweddariadau i Brofion.
  • Rheoli eich Llyfr Graddau.

Gwneud eich cynnwys yn fwy gweledol:

1. Opsiwn Mewnosod Delwedd ar gyfer Dogfennau Ultra, Cyfnodolion, Trafodaethau, Ymdrechion Asesu, a Chyrsiau.

Mae delweddau’n chwarae rhan bwysig ym mhrofiad addysg myfyriwr. Mae delweddau’n helpu i wella dealltwriaeth o gynnwys y cwrs a’r ymgysylltiad ag ef. Er mwyn helpu hyfforddwyr i adnabod delweddau o ansawdd uchel yn haws, mae Blackboard wedi ychwanegu botwm delwedd newydd yn y golygydd cynnwys yn y mannau canlynol:

  • Dogfennau Ultra
  • Ysgogiadau cyfnodolion
  • Trafodaethau
  • Negeseuon Cyrsiau

Llun isod: Gwedd hyfforddwr – botwm delwedd newydd ar olygydd cynnwys ar gyfer Dogfennau Ultra.

Sgrinlun o Ddogfen Ultra

Pan gaiff ei ddewis, mae gan yr hyfforddwr yr opsiynau canlynol:

  • Uwchlwytho delwedd trwy ddewis neu lusgo a gollwng.
  • Dewis delwedd heb freindal, o ansawdd uchel o Unsplash.

Llun isod: Gwedd hyfforddwr – Opsiynau ffynhonnell delwedd.

sgrinlun o uwchlwytho delwedd

Gall myfyrwyr hefyd gyrchu’r botwm delwedd newydd ar y golygydd cynnwys yn y meysydd canlynol:

  • Ymatebion trafodaeth.
  • Asesiadau a mewnbynnu cwestiynau prawf.
  • Negeseuon Cyrsiau.

Llun isod: Gwedd myfyrwyr – botwm delwedd newydd ar olygydd cynnwys ar gyfer ymateb i drafodaeth.

Llun isod: Gwedd myfyrwyr – Llusgo a gollwng neu uwchlwytho ffeil delwedd.

Ar ôl dewis y ddelwedd, gall hyfforddwyr a myfyrwyr ail-leoli ffocws a chwyddiad y ddelwedd. Mae yna opsiwn hefyd i newid cymhareb wynebwedd y ddelwedd.

Llun isod: Addasu chwyddiad a ffocws y ddelwedd; gosod cymhareb yr wynebwedd.

Gall defnyddwyr ailenwi’r ddelwedd. Mae’n bwysig ystyried hygyrchedd cynnwys cwrs bob amser. Dylai’r defnyddiwr farcio’r ddelwedd fel addurniadol neu ddarparu testun amgen addas.

Gall hyfforddwyr hefyd osod y wedd a lawrlwytho opsiynau ffeil ar gyfer y ddelwedd. Ar ôl i’r ddelwedd gael ei mewnosod, gall yr hyfforddwr newid maint y ddelwedd.

Diweddariadau i Brofion:

2. Golygu/Ailraddio mewn Cwestiynau

Gall hyfforddwyr sylwi ar gamgymeriad mewn cwestiwn prawf wrth raddio cyflwyniad prawf. Er enghraifft, efallai bod hyfforddwyr wedi dod o hyd i gamsillafu, wedi dewis ateb anghywir, neu eisiau addasu pwyntiau.

Yn y gorffennol, roedd y dewis “Edit / Regrade Quesetions” ar gael wrth raddio cyflwyniadau gan “Fyfyriwr.”  yn unig. Nawr, gall hyfforddwyr hefyd gael mynediad i’r llif gwaith Edit/Regrade  wrth raddio yn ôl cwestiwn.

Llun isod: Gwedd hyfforddwr – opsiwn Edit/Regrade wrth raddio prawf yn ôl cwestiwn.

Llun isod: Gwedd hyfforddwr – golygu cwestiwn gan ddefnyddio’r opsiwn Edit/Regrade.

3. Diweddariadau i gwestiynau sy’n cyfateb: dosbarthu credyd rhannol yn awtomatig a diweddariadau eraill

Mae cwestiynau sy’n cyfateb yn ddefnyddiol ar gyfer profi sgiliau myfyriwr wrth wneud cysylltiadau cywir rhwng cysyniadau cysylltiedig. Mae’r math hwn o gwestiwn hefyd yn gwirio dealltwriaeth myfyrwyr mewn fformat strwythuredig.

Er mwyn gwobrwyo myfyrwyr sy’n dangos dealltwriaeth rannol, mae rhai hyfforddwyr yn dymuno dyfarnu credyd rhannol a/neu negyddol am gwestiynau sy’n cyfateb.

Yn y gorffennol, dewisodd hyfforddwyr opsiwn sgorio:

  • caniatáu credyd rhannol.
  • y cyfan neu ddim byd.
  • tynnu pwyntiau ar gyfer cyfatebiadau anghywir, ond ni all sgôr cwestiwn fod yn negyddol.
  • neu ganiatáu sgôr cwestiwn negyddol.

Roedd yr opsiynau hyn yn gyfyngedig ac, ar adegau, yn creu dryswch i hyfforddwyr.

Nawr, mae credyd rhannol a negyddol yn cael ei droi ymlaen yn ddiofyn. Mae Blackboard yn awto-ddosbarthu credyd rhannol fel canran ar draws y parau cyfatebol. Mae awto-ddosbarthu credyd yn arbed amser i hyfforddwyr. Gall hyfforddwyr olygu’r gwerthoedd credyd rhannol os oes angen i roi mwy neu lai o gredyd i rai parau. Rhaid i’r gwerthoedd ar gyfer credyd rhannol ddod i gyfanswm o 100%.

Os dymunir, gall hyfforddwyr hefyd nodi canran credyd negyddol i unrhyw bâr. Asesir credyd negyddol pan gaiff ei gymhwyso a phan fydd myfyriwr yn camgyfatebu pâr yn unig. Os dymunir, gall hyfforddwyr ddewis caniatáu sgôr negyddol cyffredinol ar gyfer y cwestiwn.

Rydym hefyd wedi gwneud rhai gwelliannau eraill i’r cwestiwn hwn:

  • Ail-eiriodd Blackboard y canllawiau adeiladu cwestiynau a’i symud i swigen wybodaeth.
  • Yn y gorffennol, roedd y dewisiadau ‘Ailddefnyddio ateb’ a “Dileu pâr” y tu ôl i’r ddewislen tri dot. Nawr, mae’r opsiynau hyn yn ymddangos ar ochr dde’r ateb ar gyfer pob pâr.
  • O’r blaen roedd atebion a ailddefnyddiwyd yn ymddangos fel “Reused answer from pair #” yn y maes ateb. Nawr, mae’r ateb ei hun yn cael ei arddangos yn y maes ateb. ‘Reused answer’ o dan yr ateb i’r pâr.
  • ‘Additional answers’ wedi’i ailenwi’n “Distractors.”

Llun isod: Cynllun newydd ar gyfer cwestiwn sy’n cyfateb

Rheoli eich Llyfr Graddau:

4. Gwelliannau i berfformiad gwedd grid y Llyfr Graddau

Mae’n well gan rai hyfforddwyr weithio yng ngwedd grid y llyfr graddau. Er mwyn gwella profiad y defnyddiwr, gwnaethom sawl gwelliant i’r wedd hon. Mae’r gwelliannau hyn yn mynd i’r afael â pherfformiad cyffredinol ac yn lleihau’r amser llwytho.

Senarios profi perfformiad:

  • 25K o gofrestriadau myfyrwyr a 400 o eitemau graddadwy:
    Amser llwytho wedi gostwng o 108 eiliad (tua 2 funud) i 14 eiliad (gwella perfformiad o 87%)
  • 2000 o gofrestriadau myfyrwyr a 400 o eitemau graddadwy:
    Amser llwytho wedi gostwng o 19 eiliad i 8 eiliad (gwella perfformiad o 57%)
  • 40 o fyfyrwyr a 400 o eitemau graddadwy:
    Amser llwytho wedi gostwng o 8 eiliad i 6.8 eiliad (gwella perfformiad o 14.75%)

5. Trefnu rheolyddion ar gyfer Enw Myfyrwyr, Gradd Gyffredinol, Asesiadau, a Cholofnau â Llaw yn y wedd grid.

I ddefnyddio’r wedd grid cliciwch toglo a’r botwm ‘list view’

Mae dewisiadau trefnu yn y llyfr graddau yn darparu profiad graddio mwy effeithlon.

Nawr gall hyfforddwyr ddidoli’r colofnau gwedd grid llyfr graddau canlynol:

  • Enw’r Myfyriwr
  • Gradd Gyffredinol
  • Profion ac Aseiniadau
  • Colofnau â llaw

Gall hyfforddwyr drefnu cofnodion mewn trefn wrth esgynnol neu ddisgynnol a chael gwared ar unrhyw ddull didoli presennol. Mae amlygu porffor ym mhennawd y golofn yn helpu hyfforddwyr i nodi lle mae’r didoli ar waith.

Mae unrhyw ddull didoli a gymhwysir yn esgor ar newid dros dro i drefn didoli pob colofn yng ngwedd grid y llyfr graddau.

Llun isod: Trefnu asesiad yn y wedd grid gyda hidlwyr wedi’u cymhwyso.

Llyfr Graddau Blackboard Learn Ultra

Yn y blogbost hwn byddwn yn edrych yn benodol nodwedd Llyfr Graddau Blackboard Learn Ultra. Y Llyfr Graddau (Gradebook) yw’r enw newydd ar gyfer y Ganolfan Raddau.

Fe’i defnyddir i gadw holl farciau’r myfyrwyr ar Gwrs Blackboard.

Mae’r Llyfr Graddau wedi’ leoli ar ddewislen uchaf bob cwrs.

Cwrs Ultra gyda'r Llyfr Graddau wedi'i amlygu

Mae’r myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y modiwl yn ymddangos yn awtomatig yn y Llyfr Graddau.

Ar ôl mynd i mewn i’r llyfr graddau, gallwch doglo eich gwedd.

Y wedd ragosodedig yw rhestr o eitemau y gellir eu marcio ar un tab a’r myfyrwyr ar un arall:

Gwedd List y Llyfr Graddau

Gallwch doglo’r wedd fel bod yr eitemau y gellir eu marcio a’r myfyrwyr i’w gweld ar yr un pryd.

Gwedd Grid y Llyfr Graddau

Read More

Dogfennau Cydweithredol ar gael yn Blackboard Ultra

Icon Blackboard Ultra

Un o’r gwelliannau newydd gwych sydd gennym yn Blackboard Ultra yw’r gallu i gynnwys dogfennau cydweithredol.

I’r rhai ohonom a wnaeth lawer o’n gwaith dysgu ar-lein yn ystod pandemig Covid, byddwch yn cofio inni glodfori manteision llwytho dogfen gydweithredol yn y sgwrs. Rydym wedi bod yn gweithio ar alluogi hyn yn ein Cyrsiau Blackboard ac rydym yn falch o ddweud bod y nodwedd hon ar gael i chi ei defnyddio yn eich cyrsiau ar gyfer 2023-24.

Mae hyn yn golygu y bydd eich myfyrwyr yn gallu cydweithio y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, ar Blackboard, yn eu hamser eu hunain. Mae 3 math o ddogfen ar gael i fyfyrwyr gydweithio arnynt:

  1. Word
  2. PowerPoint
  3. Excel

Byddwn ni’n defnyddio’r dogfennau cydweithredol ar gyfer dewisiadau eraill yn lle blogiau a wicis. Ond, os ydych chi eisiau i’ch myfyrwyr lunio mapiau meddwl, creu syniadau, neu adeiladu ar sail eu nodiadau ei gilydd, edrychwch ar y dogfennau cydweithredol. Gallech hefyd eu defnyddio i gael myfyrwyr i gofrestru ar gyfer grwpiau. Gallwch ddefnyddio’r nodwedd grŵp mewn cyrsiau Ultra i gyfyngu eitem i fyfyriwr penodol neu grŵp penodol o fyfyrwyr.  Hoffech chi wybod sut i wneud hynny? Edrychwch ar ganllawiau Blackboard ar Microsoft OneDrive a dogfennau cydweithredol.

Blackboard Ultra: Trosolwg o’r Dewisiadau Eraill yn lle Blog

Blackboard Ultra icon

Mae’r postiad blog hwn yn amlinellu’r datrysiadau y mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn gweithio arnynt ar gyfer gweithgareddau Blog. Ar ôl rhoi tro ar y datrysiadau hyn, byddwn yn gweithio ar ddarparu cyfarwyddyd i gydweithwyr.

Y Cefndir

Mae Blogiau yn offer cydweithio a ddefnyddir ar gyfer nifer o weithgareddau a asesir a gweithgareddau na chaiff eu hasesu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Nid yw’r offer ar gael ar hyn o bryd yn Blackboard Ultra (er gwaethaf ein ceisiadau i’w ddiwygio) ac nid yw ar fap datblygu Blackboard.

Mae anargaeledd yr offer Blog wedi’i gynnwys ym mhob rhan o’r broses o wneud penderfyniadau i dynnu sylw at hyn fel risg wrth symud i Blackboard Ultra.

Mae union natur blogiau yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fyfyrio ar eu dysgu, trefnu eu meddyliau a’u syniadau’n gronolegol, a rhoi sylwadau ar negeseuon y naill a’r llall.

Er nad oes blogiau yn Ultra, mae dau ddarn o offer cyfrannu ac ymgysylltu cwbl integredig a fydd yn cynnig dewisiadau eraill: Dyddlyfrau a Thrafodaethau.

Dewis 1: Defnyddio’r offer Dyddlyfr

Er nad yw blogiau’n bodoli yn Blackboard Ultra, mae’r offer dyddlyfr yn parhau. Defnyddir dyddlyfrau mewn ffordd debyg i flogiau ond maent yn breifat rhwng tiwtoriaid cwrs a myfyrwyr. Os gall y gweithgaredd weithredu heb wneud negeseuon myfyriwr yn weladwy i bawb, rydym yn argymell defnyddio’r offer hwn.

Gallwch gael trosolwg o’r offer dyddlyfr trwy wylio hwn Tiwtorial trosolwg dyddlyfr.

Dewis 2: Defnyddio’r offer Trafodaethau

Os oes angen elfen ryngweithiol rhwng myfyrwyr ar y gweithgaredd, rydym yn argymell defnyddio’r teclyn trafod. Yma gallwch greu edefyn, trefnu eich trafodaethau drwy ffolderi, gosod y trafodaethau i’w graddio, annog cyfranogiad myfyrwyr drwy beidio ag edrych ar yr edefyn nes bod y myfyrwyr wedi cwblhau eu postiad cychwynnol.

I gael syniad ynglŷn â sut mae trafodaethau’n gweithio, edrychwch ar hwn fideo arddangos.

Er bod yr offer bwrdd trafod wedi newid, mae ein hegwyddorion ar ddyluniad byrddau trafod ac ymgysylltiad yn aros yr un fath. Edrychwch ar ein neges flog dyluniad bwrdd trafod i gael awgrymiadau a chwestiynau i chi ofyn i’ch hunain wrth ddylunio’r gweithgaredd.

Dewis 3: Defnyddio offer blogio WordPress

Er ein bod yn argymell bod gweithgarwch y bwrdd trafod yn aros ar Blackboard er mwyn sicrhau y gall ymgysylltiad ac asesiad myfyrwyr barhau, mae yna declyn blogio arall a gefnogir gan y Brifysgol: WordPress. Os ydych chi’n meddwl mai WordPress yw’r unig ddewis i chi, rydyn ni’n argymell eich bod chi’n cysylltu â ni’n gyntaf i drafod eich gweithgaredd ac yna fe allwn ni roi cyngor pellach (eddysgu@aber.ac.uk).

Blackboard Ultra: Trosolwg o’r Dewisiadau Eraill yn lle Wici

Blackboard Ultra icon

Mae’r postiad blog hwn yn amlinellu’r datrysiadau y mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn gweithio arnynt ar gyfer gweithgareddau Wici. Ar ôl rhoi tro ar y datrysiadau hyn, byddwn yn gweithio ar ddarparu cyfarwyddyd i gydweithwyr.

Y Cefndir

Mae Wicis yn offer cydweithio a ddefnyddir ar gyfer nifer o weithgareddau a asesir a gweithgareddau na chaiff eu hasesu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Nid yw’r offer ar gael ar hyn o bryd yn Blackboard Ultra (er gwaethaf ein ceisiadau i’w ddiwygio) ac nid yw ar fap datblygu Blackboard.

Mae anargaeledd yr offer Wici wedi’i gynnwys ym mhob rhan o’r broses o wneud penderfyniadau i dynnu sylw at hyn fel risg wrth symud i Blackboard Ultra.

Mae union natur wicis yn gydweithredol ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gyfrannu fel rhan o grŵp. Gall myfyrwyr gynhyrchu adnoddau cyfoethog o ran cyfryngau sy’n cysylltu â chynnwys allanol, fideos, a delweddau. Gellir trefnu’r cynnwys dros nifer o dudalennau, gyda strwythur a roddwyd o flaen llaw gan y tiwtor.

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu nifer o ddewisiadau eraill yn lle Wici. Rhestrir yr opsiynau yn nhrefn ffafriaeth yr UDDA.

Read More

Astudiaethau Achos Offer Blackboard Rhyngweithiol – Wicis

Distance Learner Banner

Mae’r astudiaeth achos hon yn seiliedig ar y bennod The Student-led Planning of Tourism and Hospitality Education: The Use of Wicis to Enhance Student Learning gan Dr Mandy Talbot (Ysgol Funes Aberystwyth) a gyhoeddwyd yn The Routledge Handbook of Tourism and Hospitality Education, ac yn cynnwys detholiadau ohoni.

Pa offeryn ydych chi’n ei ddefnyddio a pham? 

Defnyddiodd Dr Mandy Talbot wicis Blackboard i hwyluso ‘prosiect dysgu cydweithredol dan arweiniad myfyrwyr (…) ar y modiwl ail flwyddyn gradd baglor: datblygu twristiaeth ryngwladol. (…) Roedd gwaith cwrs y modiwl yn gofyn i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bach i nodi a gwerthuso’r strategaethau datblygu twristiaeth oedd yn cael eu dilyn mewn cyrchfannau twristaidd penodol a’u cymharu â’r dulliau a ddefnyddid mewn mannau eraill. Oherwydd natur gydweithredol a rhyngweithiol yr aseiniad, yr offeryn gwe mwyaf addas oedd y wici.’

Pam ddewisoch chi’r offeryn hwn?

Cyn cyflwyno’r wicis ‘roedd myfyrwyr yn ymgymryd â’r ymarfer trwy greu a rhoi cyflwyniad PowerPoint grŵp 15 munud i’r dosbarth, gyda 10 munud arall ar gyfer cwestiynau.’ Newidiodd Dr Mandy Talbot fformat yr aseiniad er mwyn:

  1. ‘Gwella cydlynrwydd gwaith grŵp y myfyrwyr: Mae fformat wici yn rhoi gofod gwaith cydweithredol i fyfyrwyr ddatblygu eu gwaith’
  • ‘Cynnig mwy o gyfle i fyfyrwyr ryngweithio â gwaith grwpiau eraill: Trwy fformat wici gall myfyrwyr ymweld â chyflwyniadau ei gilydd dros gyfnod estynedig. Mae gan dudalennau wici hefyd flychau ar gyfer sylwadau sy’n galluogi myfyrwyr i holi a chynnal trafodaeth ar y safleoedd eraill.’
  • ‘Datblygu sgiliau TG myfyrwyr: Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i greu a strwythuro tudalennau gwe’.

Read More

Astudiaethau Achos ar Offer Rhyngweithiol Blackboard – Profion

Mae’r ail astudiaeth achos ar ddefnyddio offer rhyngweithiol Blackboard yn dangos defnydd effeithiol o brofion ar gyfer asesiadau adolygol a ffurfiannol gan Dr Ruth Wonfor o IBERS.

  • Pa offeryn ydych chi’n ei ddefnyddio a sut?

Rwy’n defnyddio profion Blackboard un ai ar gyfer profion adolygol neu brofion ffurfiannol yn y rhan fwyaf o’m modiwlau.

  • Pam dewis yr offeryn hwn?

Rydw i wedi dewis defnyddio profion Blackboard am amrywiaeth o resymau. O ran y profion adolygol, rydw i wedi eu defnyddio mewn modiwl i’r flwyddyn gyntaf ar anatomeg a ffisioleg. Mae’r modiwl hwn yn rhoi llawer o wybodaeth sylfaenol ar fywydeg elfennol a ddefnyddir gan y myfyrwyr ym modiwlau’r dyfodol, felly roedd arna i eisiau cynllunio asesiad a fyddai’n fodd i roi prawf ar amrywiaeth eang o bynciau ar draws y modiwl sy’n bodloni canlyniadau dysgu eithaf eang. Mae profion aml-ddewis wedi gweithio’n dda iawn ar gyfer hyn ac mae’n cyd-fynd yn dda â’r gwaith rwy’n ei wneud yn y modiwl i geisio annog y myfyrwyr i ddefnyddio cardiau fflach i ddysgu. Mae budd y cardiau fflach yn amlwg i’r myfyrwyr yn y prawf hwn.

Ar gyfer yr asesiadau ffurfiannol, rydw i wedi dewis defnyddio profion Blackboard am amrywiaeth o resymau. Yn y gorffennol, rydw i wedi tueddu i’w defnyddio fel ffordd i fyfyrwyr brofi eu dealltwriaeth ar ddiwedd pwnc. Ond, yn ystod y cyfnod o ddysgu ar-lein rydw i wedi dechrau eu defnyddio i ofyn cwestiynau y byddwn i wedi eu gofyn yn y ddarlith i wneud yn siŵr bod pawb yn deall. Mae hyn wedi bod yn wych er mwyn fy helpu i strwythuro’r addysg a gwneud yn siŵr nad yw’r myfyrwyr yn brysio ymlaen i adrannau newydd heb ddeall yn iawn beth oedd angen iddynt ei wneud yn yr adran flaenorol.

  • Sut wnaethoch chi gynllunio’r gweithgaredd gyda’r offeryn hwn?

Rwy’n cynllunio’r profion Blackboard yn unol â’u defnydd yn llwyr. Mae’r profion adolygol yn eithaf anhyblyg gyda chwestiynau aml-ddewis yn unig. Rwy’n tueddu i ddefnyddio cwestiynau safonol eu ffurf; dewis yr ateb cywir i gwestiwn, dewis y datganiad cywir neu ofyn at ba strwythur yn y ddelwedd mae saeth yn pwyntio. Yn ystod cyfnod Covid-19 pan oedd y myfyrwyr yn sefyll y profion hyn gartref, rydw i wedi bod yn cynnwys rhywfaint o gwestiynau ateb byr yn y prawf aml-ddewis hefyd. Mae’r cwestiynau hyn wedi gweithio’n dda iawn er mwyn atal myfyrwyr rhag chwilio am yr ateb i bob cwestiwn aml-ddewis ac wedi rhannu’r marciau’n dda.

Rwy’n defnyddio ystod ehangach o opsiynau ar gyfer y profion ffurfiannol er mwyn cyd-fynd â’r hyn rydw i eisiau i’r myfyrwyr ei ddysgu. Er enghraifft, rydw i wedi defnyddio’r cwestiynau paru ar ôl mynd trwy’r derminoleg, fel bod yn rhaid i’r myfyrwyr baru’r termau â’r disgrifiad cywir. Rydw i hefyd yn ceisio defnyddio’r adborth i’r cwestiynau ffurfiannol hyn i annog y myfyrwyr i lywio eu dysg eu hunain. Felly yn hytrach na dweud wrth y myfyrwyr eu bod wedi ateb cwestiwn yn anghywir a rhoi’r ateb cywir iddynt, rwy’n defnyddio’r adborth i gyfeirio’r myfyrwyr at y sleid neu’r rhan o’r ddarlith lle mae’r ateb i’w gael. Y gobaith yw bod hyn yn eu hannog i strwythuro mwy ar eu gwaith dysgu ac adolygu.

Yn olaf, yn ystod y cyfnod o ddysgu ar-lein rydw i’n gweld bod rhyddhau deunyddiau’n ymaddasol (adaptive release) ar y cyd â’r profion BB yn fuddiol iawn er mwyn strwythuro pynciau. Byddaf yn aml yn dechrau rhai darlithoedd trwy adolygu rhywfaint o wybodaeth y dylai’r myfyrwyr fod wedi ei astudio yn y modiwlau blaenorol sy’n sail i’r pwnc y byddwn yn ei astudio yn y sesiwn honno. Felly rydw i wedi defnyddio profion BB i wneud y gwaith adolygu hwn. Rwy’n defnyddio’r adborth i gyfeirio’r myfyrwyr at wybodaeth bellach os oes angen iddynt roi sglein ar eu dealltwriaeth ac yna’n defnyddio dull rhyddhau deunyddiau’n ymaddasol i ryddhau’r pwnc iddynt ar ôl iddynt roi cynnig ar y cwis adolygu yn unig. Mae’r myfyrwyr yn cael cyfarwyddiadau clir er mwyn gallu rhoi cynnig ar y cwis a byddant wedyn yn cael mynd ymlaen i bwnc y ddarlith. Roedd hyn i weld yn gweithio’n dda ac felly rwy’n gobeithio dal ati gyda hyn er mwyn rhoi’r gorau i adolygu yn y darlithoedd a threulio mwy o amser yn defnyddio’r wybodaeth a ddysgir yn y darlithoedd.

  • Beth yw barn eich myfyrwyr am yr offeryn hwn?

Rydw i wedi cael adborth eithaf da gan y myfyrwyr ar y profion BB. Mae llawer ohonynt wedi sôn eu bod yn eu helpu i astudio a mynd dros bynciau er mwyn deall lle mae angen iddynt ymdrechu fwy gyda’u hastudiaeth bellach. Rydw i hefyd wedi helpu i leihau gorbryder myfyrwyr ynglŷn â’r profion adolygol terfynol trwy ddefnyddio profion ffurfiannol trwy gydol y modiwl. Gan fod y prawf adolygol rwy’n ei ddefnyddio yn un ar fodiwl y flwyddyn gyntaf yn semester 1, mae’r myfyrwyr yn aml yn eithaf pryderus ynglŷn â’r hyn i’w ddisgwyl ar lefel prifysgol. Gallaf felly eu cyfeirio at y profion ffurfiannol fel enghreifftiau o lefel y cwestiynau y bydd disgwyl iddynt eu hateb yn yr arholiad.

  • Oes gennych chi unrhyw gyngor defnyddiol i bobl sydd eisiau defnyddio’r offeryn hwn?

Fy mhrif gyngor fyddai rhoi digon o amser i chi’ch hun i lunio’r profion. Mae’r cam cychwynnol o ysgrifennu cwestiynau ac adborth da i’r myfyrwyr yn cymryd peth amser. Ond ar ôl i chi dreulio’r amser hwnnw, mae’r profion yn barod i’w defnyddio bob blwyddyn. Heb os, mae’n werth yr amser a dreulir er mwyn helpu’r myfyrwyr ac i gael syniad o’u dealltwriaeth, a gweld lle gall fod angen rhoi mwy o eglurhad ar bynciau. Gwnewch yn siŵr hefyd eich bod yn sefyll y profion eich hun! Wrth wneud y prawf fy hun, rydw i wedi sylwi ar ambell i gamgymeriad neu gwestiynau sydd angen bod yn fwy eglur ac mae’n ddefnyddiol iawn er mwyn gweld sut bydd fformat terfynol y cwestiynau yn ymddangos i’r myfyrwyr.

Hoffem ddiolch i Dr Ruth Wonfor am rannu ei phrofiadau o ddefnyddio profion Blackboard.

Os hoffech chi ddysgu mwy am brofion, rhowch gip ar yr wybodaeth yn Blackboard Tests – Creating Online Assessment Activities for your Students a’r Cwestiynau Cyffredin.

Os ydych chi’n bwriadu defnyddio profion Blackboard yn ddull o arholi ar-lein, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk.

Astudiaethau Achos Offer Rhyngweithiol Blackboard – Byrddau Trafod

Mae’n bleser gennym gyflwyno’r astudiaeth achos gyntaf ar ddefnyddio offer rhyngweithiol Blackboard, sef defnyddio byrddau trafod gan Dr Martine Garland o Ysgol Fusnes Aberystwyth.

Roedd byrddau trafod felly yn ffordd o ail-greu’r drafodaeth y gallem fod wedi’i chael yn y dosbarth, ac yn sgil hynny fe gafwyd dros 900 o bostiadau yn ystod y semester.’

Pa offer ydych chi’n ei ddefnyddio a sut?

Rwy’n defnyddio byrddau trafod ar fodiwl marchnata craidd blwyddyn 1af gyda 97 o fyfyrwyr. Caiff y byrddau trafod eu defnyddio mewn ffordd strwythuredig iawn i roi cyfle i fyfyrwyr gymhwyso theori, model neu fframwaith y maen nhw newydd ddysgu amdano. Yn sgil y dull cyfunol y dechreuwyd ei ddefnyddio mewn ymateb i Covid-19, mi sylwais nad oedd myfyrwyr yn astudio’r cynnwys a recordiwyd yn ei drefn addas, ac nid yn yr wythnos y bwriadwyd iddynt astudio’r pwnc. Roedd hyn yn golygu ei bod yn anodd defnyddio’r sesiynau byw yn MS Teams i wneud ymarferion pwnc-benodol a chreu dadl gan nad oedd llawer o fyfyrwyr wedi astudio’r pwnc eto. Roedd byrddau trafod felly’n ffordd o ail-greu’r drafodaeth y gallem fod wedi’i chael yn y dosbarth, ac yn sgil hynny fe gafwyd dros 900 o bostiadau yn ystod y semester.

Pam wnaethoch chi ddefnyddio’r offer hwn?

Dewisais yr offer hwn gan ei fod yn rhwydd iawn ei ymgorffori yn y strwythur dysgu wedi’i recordio a chyfeirio myfyrwyr ato ar yr adeg berthnasol yn eu hastudiaethau. Roedd gan bob darlith a recordiwyd dri ‘phwynt trafod’ wedi’u cynllunio i gyflawni deilliannau dysgu yn ymwneud â chymhwyso dysgu. Ar ôl gweithio trwy gynnwys dysgu ar-lein ar bwnc, gofynnai’r pwynt trafod iddynt rannu eu profiad neu enghraifft berthnasol, a dechrau sgwrs ddyfnach am gymhwyso damcaniaeth i’r byd go iawn.

Sut wnaethoch chi gynllunio’r gweithgarwch hwn yn defnyddio’r offer hwn?

Yn PowerPoint y ddarlith a recordiwyd, defnyddiais eicon cyson i nodi trafodaeth, yna cynnwys cyfarwyddiadau y dylent oedi’r fideo, gwneud rhai nodiadau, yna pan fyddant wedi gorffen y ddarlith, mynd i’r ‘gofod trafod’ a rhannu eu meddyliau.

Mi wnes i hefyd ddefnyddio swyddogaeth y bwrdd trafod i osod a derbyn gweithgareddau ‘tasg gydweithredol’. Fe allen nhw ddarllen y briff ar frig yr edefyn, ac yna postio allbynnau eu grwpiau yn yr edefyn. Yr enw arno oedd ‘Safle cydweithredu’ ond defnyddio offer y bwrdd trafod yr oedd.

Beth yw barn myfyrwyr am yr offer hwn?

Rwy’n credu ei fod yn gymysg, wnaeth rhai myfyrwyr ddim cymryd rhan o gwbl, er i’r mwyafrif wneud hynny (cofiwch eu bod yn cael marciau am gymryd rhan ac ymgysylltu). Cyfeiriodd sawl myfyriwr at y byrddau trafod yn eu hadborth yn yr holiadur gwerthuso modiwl:

“Roeddwn i wrth fy modd â’r modiwl hwn. Roedd yr athrawes yn rhagorol, ac roedd hi’n glir ei ffocws trwy gydol y modiwl. Y bwrdd trafod oedd rhan orau’r modiwl gan ei fod yn rhoi lle inni gymhwyso’r damcaniaethau. Drwyddi draw, un o’r modiwlau gorau yn fy mlwyddyn gyntaf.”

“Gyda phopeth oedd yn digwydd, mae’r modiwl hwn wedi cael ei redeg yn dda iawn y semester hwn. Mae llawer o gynnwys ar-lein i’w wneud ac mae’r fforymau i fyfyrwyr drafod y pynciau dan sylw wedi ei wneud yn fodiwl difyr iawn.”

A oes gennych unrhyw awgrymiadau i bobl sydd eisiau defnyddio’r offer hwn?

Dylech ei gwneud hi’n glir iawn beth rydych chi’n gofyn iddyn nhw ei wneud a ble gallan nhw ddod o hyd iddo. Anogwch y myfyrwyr i lwytho rhith-ffurf (avatar) fel nad yw’r drafodaeth mor ddi-wyneb. Yn sicr ar gyfer modiwlau blwyddyn 1, ystyriwch ddyfarnu marciau am gymryd rhan ac ymgysylltu â phethau fel byrddau trafod, wici ac ati. Mae adroddiadau Blackboard yn rhoi ffordd gyflym a hawdd i chi weld pwy sy’n gwneud beth, ble a phryd.

Diolch o galon i Dr Martine Garland am rannu’r astudiaeth achos hon. Os hoffech ddysgu rhagor am fwrdd trafod, edrychwch ar bostiad Offer Blackboard ar gyfer Gwaith Grŵp (Blog-bost 4): Trafodaethau a’r cwestiynau a holir yn aml am fyrddau trafod.