Recordiadau ac adnoddau Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu 2021 bellach ar gael!

A dyna ni! Dros dridiau a hanner o gyflwyniadau, y naill ar ôl y llall, gan dros 40 o gyflwynwyr a chyda 150 a mwy o gynadleddwyr yn bresennol. Hoffem ni yn yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ddiolch yn fawr i bawb a gyfrannodd ac a ymunodd â ni yn ein cynhadledd flynyddol dysgu ac addysgu fwyaf hyd yma.

Peidiwch â phoeni os na fu modd ichi fod yn bresennol – mae’n bleser gennym gyhoeddi bod yr holl recordiadau bellach ar gael ar dudalen rhaglen y Gynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu.

Os oeddech yn bresennol yn y gynhadledd eleni, byddai’n dda gennym glywed eich adborth. Llenwch Arolwg Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu 2021. Rydym yn dechrau ar ein paratoadau ar gyfer ein degfed Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu a bydd eich adborth o gymorth inni sicrhau mai’r gynhadledd hon fydd yr orau eto!

Yr wythnos yma byddaf yn ysgrifennu blog neu ddau am y gynhadledd, felly os nad ydych wedi ei weld eisoes, mynnwch gip ar ein blog a chofrestrwch i gael diweddariadau gan dîm yr Uned. Yn olaf, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl gyflwynwyr a chynadleddwyr – fyddai’r gynhadledd ddim yn bosibl heb eich cyfraniad!

Gweminar Vevox: Sut i ddefnyddio Vevox yn eich ystafell ddosbarth hybrid

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld nifer ohonoch yn ein cynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol – yr eilwaith i ni ei chynnal ar-lein.

Rydym wedi gwneud newid bach i’r trefniadau. Ar 30 Mehefin, 2yp – 2.45yp, byddwn yn cysylltu â gweminar Vevox ar sut i ddefnyddio meddalwedd pleidleisio Vevox mewn ystafell ddosbarth hybrid:

Yn y weminar ryngweithiol hon, byddwn yn trafod sut y gellir defnyddio Vevox mewn dosbarthiadau hybrid i gynorthwyo dysgu gweithredol beth bynnag fo lleoliad eich myfyrwyr. Yn ymuno â ni ar y panel mae Carol Chatten, Swyddog Datblygu Technoleg Dysgu ym Mhrifysgol Edge Hill, Dr. Robert O’Toole, Cyfarwyddwr Cynnydd a Phrofiad Myfyrwyr NTF, Cyfadran Celf Prifysgol Warwick a Carl Sykes SFHEA, Uwch Dechnolegydd Dysgu CMALT ym Mhrifysgol De Cymru.

Byddwn yn ceisio rhannu storiâu llwyddiant cwsmeriaid ac enghreifftiau i ddangos sut y gall Vevox gefnogi amgylchedd dysgu cymysg a sut y gallwch amlhau ymgysylltiad, rhyngweithiad ac adborth myfyrwyr mewn lleoliad hybrid. Fe edrychwn ar y thema o amlbwrpasedd a pha mor bwysig yw hyn i allu darparu gwir brofiad dysgu cynhwysol.

Gallwch archebu lle ar-lein i fynychu’r gynhadledd: https://aber.onlinesurveys.ac.uk/pagda2021

Mae ein rhaglen lawn ar-gael ar-lein.

Gallwch ddarllen mwy am Vevox, ein meddalwedd pleidleisio a brynwyd yn ddiweddar: https://www.aber.ac.uk/cy/is/it-services/elearning/offerpleidleisio/

Gwahoddiad: Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth 2021

Keynote announcement banner

Rydym yn edrych ymlaen ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni sydd lai na mis i ffwrdd, 29 Mehefin – 2 Gorffennaf 2021.

Fel yr ydych wedi darllen o bosibl, cynhelir y Gynhadledd eleni ar-lein drwy Teams felly gallwch ymuno am gymaint neu chyn lleied o’r gynhadledd ag y dymunwch.

Gallwch lawrlwytho’r rhaglen lawn ac archebu eich lle ar-lein .

Rydym yn ddiolchgar o gael nifer o siaradwyr allanol eleni.

Bydd ein prif siaradwr, Dr Chrissi Nerantzi, yn siarad am addysgeg agored a hyblyg. Ym Met Manceinion, datblygodd Chrissi’r rhaglen datblygu proffesiynol FLEX, rhaglen seiliedig ar ymarfer a drwyddedir yn agored sy’n ymgorffori llwybrau ymgysylltu ffurfiol ac anffurfiol.  Hi yw sylfaenydd y gymuned traws-sefydliadol Creativity for Learning in Higher Education, y gweminarau Teaching and Learning Conversations (TLC), yn ogystal â nifer o fentrau eraill. Gallwch ddarllen mwy am Chrissi ar ein blog

Read More

Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Trydydd siaradwr gwadd – Dr Dyddgu Hywel

Keynote announcement banner

Mae’n bleser gyda ni gyhoeddi ein trydydd siaradwr allanol i Gynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni, Dr Dyddgu Hywel, uwchddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Astudiodd Dyddgu gwrs ‘BSc (Anrh.) Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig’ ym Mhrifysgol Bangor, graddiodd gyda gradd ddosbarth cyntaf. Bu’n ddarlithydd a thiwtor pwnc Dylunio a Thechnoleg Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, cyn cael ei phenodi’n athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Gyfun Rhydywaun.

Mae wrth ei bodd yn gweithio fel uwchddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd erbyn hyn, ac yno ers dros saith mlynedd bellach, gyda’i harbenigedd mewn defnydd effeithiol o ddulliau addysgu, y defnydd o dechnoleg, ymgysylltiad ag iechyd a lles myfyrwyr. Yn dilyn 8 mlynedd o chwarae rygbi dros ei gwlad yn y crys coch, mae wedi mabwysiadu sawl dull effeithiol o fyw’n iach, cadw meddylfryd positif a meistroli cydbwysedd cywir rhwng bywyd a gwaith.

Bydd gweithdy Dyddgu yn ffocysu ar flaenoriaethu iechyd a lles staff. Bydd y gweithdy o fudd i holl staff academaidd y brifysgol, i adnabod dulliau effeithiol o warchod eu hiechyd a lles personol, yn ogystal â darparu gofal bugeiliol i’r holl fyfyrwyr.

Amcanion y gweithdy:

  • Cyfle i fyfyrio ar eich iechyd a lles personol
  • Ystyried y cydbwysedd cywir rhwng bywyd pob dydd, a phwysau gwaith
  • Adnabod rôl addysgwyr mewn iechyd a lles myfyrwyr
  • Adnabod dulliau rheoli straen, agwedd a meddylfryd positif personol
  • Mabwysiadu dulliau rheoli amser a blaenoriaethu
  • Hybu adnoddau Cymraeg ar gyfer ymlacio a myfyrdod effeithiol

Bydd Dyddgu yn cyflwyno ar-lein drwy gyfrwng y Gymraeg a byddwn yn darparu cyfieithu ar y pryd.

Cynhelir y nawfed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol ar-lein rhwng dydd Mawrth 29 Mehefin a dydd Gwener 2 Gorffennaf. Gallwch archebu lle drwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon.

Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol – wedi’i hestyn am ddiwrnod ychwanegol

Keynote announcement banner

Rydyn ni’n dechrau edrych ymlaen at ein nawfed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu. Mae’r alwad am gynigion bellach wedi cau – diolch i bawb a gyflwynodd gynnig.

Oherwydd nifer y cynigion a ddaeth i law, byddwn nawr yn dechrau’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu amser cinio dydd Mawrth 29 Mehefin a bydd yn rhedeg tan brynhawn dydd Gwener 2 Gorffennaf.

Mae gennym nifer o siaradwyr allanol ar draws y pedwar diwrnod a byddwn yn parhau i bostio diweddariadau drwy ein blog o siaradwyr arfaethedig. Mae’n bleser gennyf gyhoeddi ein bod yn cynnal ein sesiwn Gymraeg gyntaf a fydd yn cael ei chyfieithu ar y pryd.

Rydym hefyd wedi trefnu panel arbennig ar y prynhawn dydd Mawrth ar arferion Dysgu o Bell, a bydd myfyrwyr o’r Ysgol Addysg a’r Adran Seicoleg yn cynnal sesiynau yn seiliedig ar eu profiadau o ddysgu drwy gydol y pandemig.

Cyhoeddir y rhaglen lawn yn fuan.

Cynhelir y gynhadledd ar-lein drwy Teams (a defnyddir Zoom ar gyfer y sesiynau yn Gymraeg).

Gallwch archebu eich lle ar-lein nawr drwy’r ffurflen hon.

Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Ail siaradwr gwadd: Andy McGregor, JISC

Keynote announcement banner

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein hail siaradwr allanol ar gyfer Cynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni: Andy McGregor, Andy yw Cyfarwyddwr Technoleg Addysg ar gyfer JISC. 

Bydd gweithdy Andy’n canolbwyntio ar ddyfodol asesu ac mae’n seiliedig ar bapur JISC: The future of assessment: five principles, five targets for 2025, sy’n gosod pum targed ar gyfer y pum mlynedd nesaf i ddatblygu asesu i fod yn fwy dilys, hygyrch, wedi’i awtomeiddio’n briodol ac yn ddiogel.

Mae Andy yn gyfrifol am reoli portffolio JISC o brosiectau datblygu ac ymchwil sy’n datblygu gwasanaethau newydd i helpu prifysgolion a cholegau i wella addysg ac ymchwil.

Yn ogystal ag Andy, y siaradwr gwadd eleni yw Dr Chrissi Nerantzi o Brifysgol Fetropolitan Manceinion.

Cynhelir y nawfed gynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol ar-lein rhwng dydd Mercher 30 Mehefin a dydd Gwener 2 Gorffennaf. Gallwch archebu lle drwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon.

Dilynwch y blog hwn i gael rhagor o gyhoeddiadau.