Mae Prifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yn y prosiect Profiad Mewnwelediad Digidol sy’n ceisio ymchwilio i brofiadau ein myfyrwyr o dechnoleg.
Mae’n galluogi inni gael gwell syniad o sut mae myfyrwyr yn defnyddio technoleg a meincnodi ein canlyniadau yn erbyn sefydliadau Addysg Uwch eraill yn ein sector. Yna gallwn ddefnyddio’r wybodaeth hon i wella profiadau digidol y myfyrwyr.
Ddydd Gwener 11 Mawrth, croesawodd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu Dr Rob Nash, Darllenydd mewn Seicoleg o Brifysgol Aston. Mae Rob yn arbenigwr mewn adborth a chynhaliodd weithdy sy’n edrych yn benodol ar ffyrdd y gallwn wella a datblygu ymgysylltiad ag adborth.
Ein digwyddiad Siaradwr Gwadd nesaf yw Dr Mary Davies o Oxford Brookes a bydd cydweithwyr eraill yn ymuno â hi i drafod sut y gallwn ganfod twyll contract posibl yn ystod y broses farcio. Cynhelir y gweithdy hwn ar 20 Mai 2022, 12:30-13:30. Mae modd archebu ar gyfer y sesiwn nawr.
Gwahoddir staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig a myfyrwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer 10fed Cynhadledd Dysgu ac Addysgu, Dydd Llun 12 Medi – Dydd Mercher 14 Medi.
Dylunio Addysgu Yfory: Arloesi, Datblygu a Rhagoriaeth
Dathlu 10 mlynedd o Gynadleddau Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth
Yn adlewyrchu’r ymroddiad sydd gan staff Prifysgol Aberystwyth i wella profiad dysgu eu myfyrwyr.
Dyma prif gangen y gynhadledd eleni:
Addysgeg gynhwysol a chynaliadwy
Dilysrwydd asesu, asesu dilys, ac ymgysylltu ag adborth
Sgiliau sgaffaldio ar draws y cwricwlwm a thu hwnt
Datblygu cymuned Prifysgol Ddwyieithog
Gweithio gyda myfyrwyr fel partneriaid i ddylunio dysgu
Dysgu gweithredol yn y dirwedd addysg uwch heddiw
Mae croeso i staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig, a myfyrwyr gynnig sesiynau ar unrhyw bwnc sy’n berthnasol i ddysgu, yn enwedig os ydynt yn canolbwyntio ar ymgorffori a defnyddio technoleg wrth ddysgu. Mae croeso i chi gyflwyno pynciau eraill, hyd yn oed os nad ydynt yn cyd-fynd ag un o’r canghennau uchod.
Rydym yn annog cyflwynwyr i ystyried defnyddio fformatau amgen sy’n cyd-fynd â’r hyn a drafodir yn eu sesiynau. Gan hynny, ni fyddwn yn gofyn am fformat cyflwyno safonol, ond gofynnwn i chi gynnwys fformat, hyd y sesiwn ac unrhyw ofynion eraill a fo gennych wrth i chi wneud eich cynnig isod.
Gofynnwn i chi lenwi’r ffurflen hon erbyn 27 Mai 2022.
Anelwn at roi gwybod i chi am ganlyniad eich cais erbyn 17 Mehefin 2022. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Datblygu ac Addysgu am udda@aber.ac.uk.
Ar 21 Mawrth bydd Vevox, meddalwedd pleidleisio’r Brifysgol, yn cael ei ddiweddaru gyda rhywfaint o nodweddion ychwanegol.
Rydym yn falch iawn o allu gweld rhai o’r datblygiadau gan eu bod yn geisiadau yr ydym wedi’u gwneud i Vevox ar eich rhan.
Yn gyntaf, ar gyfer ymarferwyr dysgu o bell a’r rhai sydd am i fyfyrwyr ymgymryd â phleidleisio wrth eu pwysau, mae cwisiau wrth eich pwysau yn cael eu cyflwyno i’r offer arolwg.
Bydd angen i chi greu arolwg ac yna ychwanegu ateb cywir. Gall myfyrwyr wneud hyn yn ddienw neu gallwch ddewis eu hadnabod.
Mae’r byrddau Holi ac Ateb yn dal i gael eu tanddefnyddio rywfaint yma yn PA, ond bydd opsiwn i dagio cwestiynau a sylwadau. Bydd yn ddefnyddiol i’r rhai ohonoch sy’n cyd-gyflwyno cyflwyniad ac sydd am glustnodi cwestiynau penodol i gyflwynydd.
Mae rhagor o wybodaeth am nodweddion newydd Vevox ar gael ar eu blogbost diweddariad.
Rydym mewn cysylltiad rheolaidd â’n rheolwyr cyfrif Vevox. Maent eisoes wedi cynorthwyo i greu agweddau dwyieithog ac wedi estyn allan atom i gael trafodaeth bellach ar sut y gellid datblygu hyn ymhellach. Hefyd, dyma rai o’r ceisiadau am welliannau yr ydym wedi gofyn amdanynt:
Nid yw Vevox wedi’i gyfyngu i weithgareddau dysgu ac addysgu. Gall pob aelod o’r Brifysgol fewngofnodi a defnyddio Vevox. Os ydych chi’n cynnal cyfarfod ac eisiau gosod pôl i’r mynychwyr, gallai Vevox fod yn ddefnyddiol i chi. Edrychwch ar eu hastudiaethau achos diweddar ar sut iwneud cyfarfodydd yn rhyngweithiol gyda Vevox.
Os yw Vevox yn newydd i chi, yna mae gennym ganllawiau arein tudalennau gwe. Mae Vevox yn cynnal sesiynau hyfforddi 15 munud –cofrestru ar-lein. Rydyn ni bob amser yn barod i glywed am unrhyw beth arloesol yr ydych yn ei wneud â Vevox felly cysylltwch â ni os ydych chi’n gwneud rhywbeth cyffrous.
Su’mae! Fy enw i yw Keziah ac ymunais â’r UDDA yn 2022 fel Cynorthwyydd Cymorth, felly byddaf yn cynorthwyo’r tîm mewn amrywiaeth o ffyrdd, o ymdrin ag ymholiadau i gefnogi sesiynau DPP a’r gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol. Deuthum i Aber am y tro cyntaf yn 2012 fel myfyriwr israddedig gyda’r adran Hanes a Hanes Cymru. Ar ôl graddio arhosais i gwblhau MA, cyn treulio cyfnod byr yng Nghaerlŷr. Ar ôl hynny roeddwn yn ddigon ffodus i allu ymgymryd â PhD yma yn ymchwilio i hanes modern cynnar Ceredigion drwy ddefnyddio cofnodion troseddol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn ystod y PhD cefais gyfle i wneud rhywfaint o addysgu o fewn yr adran ac i gymryd rhan yn y rhaglen AUMA. Deuthum yn angerddol am ddod o hyd i ffyrdd newydd o wella addysgu mewn Addysg Uwch, yn enwedig yr agwedd o gydbwyso’r holl elfennau gwahanol sy’n rhan o gynllunio rhaglen werth chweil a diddorol.
Fy meysydd diddordeb presennol y tu allan i’m hymchwil, yw dysgu Cymraeg ac edrych ar ffyrdd o ddefnyddio syniadau am hyfforddiant arweinyddiaeth o fusnes a diwydiant mewn addysgu israddedig i feithrin hyder a menter mewn myfyrwyr. Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi staff a myfyrwyr Aberystwyth yn eu datblygiad parhaus, a chwrdd â phobl newydd o bob cwr o’r brifysgol.
Mae cyfres o sesiynau hyfforddi ar-lein ar 5 a 12 Ebrill wedi’u hychwanegu at y tudalennau UDDA ar gyfer staff sy’n gweithio mewn rolau goruchwylio. Mae croeso i staff fynychu cymaint o sesiynau yn y swît ag y dymunant yn dibynnu ar argaeledd: mae pob sesiwn yn annibynnol. https://stafftraining.aber.ac.uk/sd/list_courses.php
Mae’r sesiynau hyn yn cyd-fynd â “Fframwaith Arfer Goruchwylio Da” UKCGE: mae rhagor o wybodaeth i’w chael yma. Am ymholiadau cysylltwch a Dr Maire Gorman, mng2@aber.ac.uk