Beth sydd angen i ni ei ystyried wrth gynllunio ar gyfer addysgu yn 2021/22?

Mae bron yn amser paratoi ar gyfer addysgu yn 2021/22. Er bod llawer o ansicrwydd o hyd ynghylch yr hyn y byddwn yn gallu ei ddarparu, hoffem rannu rai pwyntiau gyda chi sy’n werth eu hystyried wrth gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae’r pwyntiau hyn yn codi o’n myfyrdodau a’n profiadau o gefnogi staff a myfyrwyr dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf, yn ogystal ag ystyriaethau gan gydweithwyr ar draws y sector.

Sut fyddwn ni’n mesur i ba raddau mae myfyrwyr yn ymgysylltu?

Mae’r hyn mae ymgysylltiad myfyrwyr yn ei olygu a sut rydym ni’n ei fesur wedi newid dros y flwyddyn ddiwethaf. O’r blaen mae’n bosibl y byddem ni’n mesur ymgysylltiad myfyrwyr drwy edrych ar eu cyfranogiad yn ystod sesiynau wyneb yn wyneb neu fonitro eu presenoldeb. Ers i ni fod yn addysgu ar-lein, rydym ni efallai’n talu mwy o sylw i ystadegau Panopto, eu cyfranogiad mewn gweithgareddau rhyngweithiol ar Blackboard a sgwrsio yn Teams. Gall egluro’r hyn mae ymgysylltu’n ei olygu i chi a sut rydych chi am ei fesur mewn fformat cyflwyno sy’n debygol o fod yn newydd i chi a’ch myfyrwyr, eich helpu i werthuso eich dulliau a helpu myfyrwyr i ddeall yr hyn a ddisgwylir ganddynt (Love & El Hakim, 2020).

Beth fydd ei angen ar ein myfyrwyr?

Yn ystod y pandemig fe wyddom fod llawer o fyfyrwyr yn dioddef unigedd, yn astudio mewn amrywiol amgylcheddau cartref ac yn brwydro gyda gorbryder a chymhelliad. O hyn ymlaen bydd angen i ni roi ystyriaeth i hyn a chydbwyso’r angen cynyddol am oriau cyswllt a chymdeithasoli gydag arferion addysgegol gorau. Er na allwn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf gyda sicrwydd, mae’n hanfodol ein bod yn darparu ymdeimlad o strwythur i’n myfyrwyr lle bo’n bosibl. Un o’r arferion gorau a bwysleisiwyd dros y misoedd diwethaf yw creu ‘mapiau’ sy’n dweud wrth y myfyrwyr beth sydd angen iddyn nhw ei wneud ac erbyn pryd. Thema arall sy’n ymddangos ar draws y sector yw adeiladu cymuned o ddysgwyr i fynd i’r afael ag unigedd.

Sut fyddwn ni’n rheoli disgwyliadau myfyrwyr?

Dyw rheoli disgwyliadau myfyrwyr byth yn hawdd a gall fod yn fwy heriol fyth dros y flwyddyn nesaf. Un ffordd o reoli disgwyliadau’n effeithiol yw drwy gynnal sgwrs barhaus gyda myfyrwyr a gallu addasu lle bo’n bosibl. Mae trin myfyrwyr fel partneriaid wrth gynllunio eu dysgu hefyd yn cynnwys esbonio pam ein bod yn eu haddysgu yn y ffordd a wnawn, hyd yn oed os nad dyma oedden nhw’n ei ddisgwyl. Yn olaf, mae sgaffaldio eu dysgu ym mha bynnag ffurf mae’n digwydd yn debygol o gynyddu eu boddhad.

Sut fydd ein rôl fel addysgwyr a gweithwyr addysg proffesiynol yn newid?

Mae dull yr ystafell ddosbarth wyneb i waered a hyrwyddwyd gan ein sefydliad yn ystod y flwyddyn academaidd hon yn newid dynameg grym yn yr ystafell ddosbarth. Mae’n caniatáu mwy o ddewis i fyfyrwyr o ran sut a phryd maen nhw’n dysgu. Mae hefyd yn gosod mwy o bwyslais ar diwtoriaid fel mentoriaid a hwyluswyr yn hytrach na darlithwyr. Yn y dyfodol, mae’n debygol y bydd y berthynas rhwng myfyrwyr a staff yn trawsnewid ymhellach. Fel y nodwyd yn gynt, gallai fod yn gyfle i weithio mewn partneriaeth gyda myfyrwyr, gan ganiatáu iddynt fod yn asiantau eu profiad dysgu eu hunain.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*