Vevox: Meddalwedd Pleidleisio’r Brifysgol

Mae gan y Brifysgol drwydded Vevox i’r holl staff a myfyrwyr ei defnyddio.
Meddalwedd Pleidleisio yw Vevox sy’n caniatáu i gyfranogwyr ddefnyddio eu dyfeisiau symudol i ymateb i gwestiynau.
Yn Semester 1, cynhaliwyd dros 300 o sesiynau Vevox, gyda thros 10,000 o gyfranogwyr a 1,500 o arolygon barn.
Mewn cyd-destunau dysgu ac addysgu, gallwch ddefnyddio Vevox i wneud eich addysgu yn fwy rhyngweithiol, gan roi cyfle i fyfyrwyr fyfyrio ar eu dysgu, ymateb i gwestiynau, darparu syniadau, a chyfnerthu eu dealltwriaeth.
Nid yw Vevox wedi’i gyfyngu i weithgareddau dysgu ac addysgu. Gallwch hefyd ddefnyddio Vevox mewn cyfarfodydd a gweithgareddau estyn allan i gynfasio barn, helpu i wneud penderfyniadau, a rhoi cyfle i gydweithwyr roi adborth.
Mae gwahanol fathau o gwestiynau ar gael:

  • Amlddewis
  • Cwmwl Geiriau
  • Graddio Testun
  • Rhifol
  • Sgorio
  • Plot XY
  • Pinio delwedd

Gallwch hefyd gynnal arolygon.

Mae’r nodwedd Cwestiwn ac Ateb yn rhoi cyfle i gydweithwyr adael i’r myfyrwyr ofyn cwestiynau ac i chi ymateb iddynt yn fyw yn y sesiwn.

Mae’r nodwedd hon yn ddefnyddiol ar gyfer technegau asesu yn yr ystafell ddosbarth, megis y pwynt mwyaf dryslyd ac adolygu cysyniadau allweddol.

Gyda’r nodwedd Cwestiwn ac Ateb, gall cyfranogwyr hefyd uwchbleidleisio sylwadau er mwyn i chi fynd i’r afael â chwestiynau. Gellir defnyddio’r nodwedd ddefnyddiol hon hefyd ar gyfer cyflwynwyr allanol a gweithgareddau cynadledda.

Gallwch gynnal dadansoddiadau ar eich arolygon barn i weld ymateb cyfranogwyr.

Fel sefydliad, mae gennym nifer o astudiaethau achos. Gweler ein neges flog flaenorol ar astudiaethau achos Vevox.

Os yw Vevox yn newydd i chi, mae gennym sesiwn hyfforddi ar 26 Ionawr am 11:00 ar-lein trwy Teams. Gallwch archebu lle drwy ein tudalen archebu DPP.

Mae gennym hefyd dudalen we sy’n ymroddedig i Vevox.

Mae ein holl ddiweddariadau Vevox blaenorol ar gael ar y blog UDDA.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).

Rhoi’r gorau i ddefnyddio AirServer

Ni fydd AirServer, y feddalwedd a ddefnyddir i gysylltu dyfeisiau symudol ag offer yn yr ystafell addysgu, yn cael ei ddefnyddio bellach.

Dros y blynyddoedd, nid yw AirServer wedi gallu darparu ar gyfer gwahanol fathau o ddyfeisiau symudol.

Gellir defnyddio Microsoft Teams i gysylltu’ch dyfeisiau tabled ag offer yr ystafell addysgu. Edrychwch ar ein Cwestiwn Cyffredin: Sut mae cysylltu tabled / dyfais symudol â pheiriant mewn ystafell addysgu?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Gwasanaethau Gwybodaeth (gg@aber.ac.uk).

Diweddariad Panopto ar gyfer Staff: Medi 2023

Fel rhan o brosiect Blackboard Ultra ehangach, mae integreiddiad Panopto wedi’i uwchraddio i weithio gyda Blackboard Ultra. Mae hyn wedi rhoi cyfle i ni wneud rhai newidiadau a gwelliannau.

Mynediad i Panopto

Gallwch nawr gael mynediad i weinydd Panopto trwy Panopto.aber.ac.uk

Ffolderi Panopto

Mae ffolderi Panopto bellach wedi’u trefnu yn ôl y flwyddyn academaidd.

Mae staff wedi gofyn sawl gwaith bod eu ffolderi Panopto ar gyfer eu cyrsiau Blackboard yn cael eu trefnu yn ôl blwyddyn academaidd yn hytrach nag fel rhestr hir. Rhoddodd y gwaith uwchraddio gyfle i ni ailstrwythuro ein ffolderi yn ôl y gofyn.

Bydd ffolderi blwyddyn lefel uchaf yn ymddangos yn llwyd, ond bydd gennych fynediad i’ch ffolderi Panopto o fewn y ffolderi hyn o hyd.

Pan fyddwch chi’n agor recordydd Panopto mewn ystafell addysgu

Gallwch naill ai ddod o hyd i’r ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi drwy’r ffolderi neu chwilio am y ffolder Panopto yr ydych am recordio ynddi.

I ddod o hyd i’r ffolder Panopto yr ydych am recordio ynddi drwy’r ffolderi:

  • Cliciwch ar y botwm cwymplen yn y maes Folder.
  • Cliciwch ddwywaith ar ffolder blwyddyn academaidd i’w ehangu.
    or
  • Cliciwch ar y saeth cwymplen i’r chwith o’r ffolder blwyddyn academaidd i’w ehangu.
  • Dewiswch y ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi.
gif animeiddiedig o gael mynediad i ffolder Panopto yn y Recordydd Panopto.

I chwilio am y ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi.

  • Yn y maes Folder dechreuwch deipio cod modiwl neu enw’r ffolder Panopto yr ydych am recordio ynddi
  • Dewiswch y ffolder yr hoffech recordio ynddi.
gif animeiddiedig o gael mynediad i ffolder Panopto drwy ddefnyddio’r adnodd chwilio yn y Recordydd Panopto.

Rhannu recordiadau Panopto o flynyddoedd blaenorol.

I rannu recordiadau Panopto o ffolderi Panopto blynyddoedd blaenorol, copïwch y recordiadau i ffolder blwyddyn gyfredol y cwrs. Mae hyn yn rhoi mynediad i bob myfyriwr sydd wedi cofrestru ar flwyddyn gyfredol y cwrs yn Blackboard i weld y recordiadau. Gweler y Cwestiynau Cyffredin hwn.

My Folder

Erbyn hyn mae gan bawb ffolder yn Panopto o’r enw My Folder y gallant recordio ynddi. Yn y Recordydd Panopto gellir dod o hyd iddi o dan Quick Access.

Mae My Folder yn ddefnyddiol ar gyfer recordiadau nad yw staff neu fyfyrwyr eisiau eu rhannu ag eraill ar unwaith neu pan na allant ddod o hyd i ffolder addas i recordio ynddi.

Gellir symud recordiadau o My Folder i ffolder Panopto arall yn ddiweddarach. I gopïo neu symud recordiad Panopto Gweler y Cwestiwn Cyffredin hwn.

Newidiadau i’r ategyn PowerPoint Vevox

Mae Vevox, adnodd pleidleisio a gefnogir gan y Brifysgol, wedi diweddaru ei ategyn PowerPoint.

O fis Medi 2023, dylai cydweithwyr sy’n defnyddio’r ategyn ddefnyddio’r fersiwn diweddaraf.

Gweler ein Cwestiwn Cyffredin am wybodaeth ynghylch sut i ddefnyddio’r ategyn PowerPoint newydd.

Yn ein neges flog ddiweddar, gwnaethom ysgrifennu am y cynhyrchydd cwestiynau deallusrwydd artiffisial newydd.

Os yw Vevox yn newydd i chi yna edrychwch ar ein deunyddiau cymorth a’n negeseuon blog blaenorol.

Byddwn hefyd yn cynnal sesiwn hyfforddi ddydd Llun 18 Medi, 14:00-15:00. Cynhelir y sesiwn hon gan gydweithwyr o Vevox. Archebwch eich lle ar-lein.

Mae Vevox yn ffordd wych o sicrhau bod eich addysgu yn rhyngweithiol ac yn datblygu dysg y myfyrwyr.

Newidiadau i’r Ystafelloedd Dysgu: Ailgyflwyno Meicroffonau Gwddf

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn gweithio i ailgyflwyno meicroffonau gwddf yn yr ystafelloedd dysgu.

I’r rhai sydd newydd ddod i’r sefydliad, neu a hoffai gael eu hatgoffa, mae meicroffonau gwddf yn cael eu cysylltu â’r systemau sain yn yr ystafelloedd dysgu, yn cael eu gwisgo am wddf y cyflwynydd, ac fe ellir eu defnyddio at wneud recordiadau Panopto ac ar gyfer cyfarfodydd Teams. Edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin ar sut mae defnyddio Meicroffonau Gwddf.

Gwybodaeth Iechyd a Diogelwch

Mae ailgyflwyno meicroffonau gwddf yn golygu bod angen dilyn canllawiau hylendid ychwanegol:

  • Mae glanhau’r dwylo yn rheolaidd yn helpu i rwystro salwch a heintiau rhag cael eu lledaenu; cofiwch olchi’ch dwylo’n rheolaidd a defnyddio’r hylif diheintio dwylo pan ddewch i mewn i’r adeiladau.
  • Er mwyn sicrhau cyn lleied o gyswllt â phosib, dim ond un unigolyn ddylai ddefnyddio’r meicroffon gwddf mewn sesiwn ddysgu
  • Dylid sychu’r meicroffon â weips sy’n gweithio’n effeithiol yn erbyn COVID-19 fel y byddwch yn ei wneud gydag offer eraill, cyn ac ar ôl i chi eu defnyddio
  • Er bod y meicroffon gwddf yn rhoi mwy o ryddid i’r staff i symud o gwmpas yr ystafell ddysgu, rydym yn annog y staff i gynnal pellter corfforol, sef 2 fetr o leiaf, lle y bo modd, ac i gadw at arferion hylendid dwylo da, cyn defnyddio’r meicroffon gwddf, ac wedyn  (yn unol â’r hyn a nodir yn Asesiad Risg COVID Prifysgol Aberystwyth Hydref 2021) 
  • Yn y rhan fwyaf o ystafelloedd, fe fydd y meicroffonau ar y desgiau darlithio yn aros ac fe fydd modd eu defnyddio o hyd (os bydd y staff yn aros yn agos at y ddesg). Ond mewn nifer fechan o ystafelloedd, dim ond meicroffon gwddf fydd ar gael.

Sut y bydd yr offer yn cael eu cyflwyno?

Bydd y newidiadau i’r ystafelloedd yn cael eu gwneud yn raddol, felly efallai y byddwch yn sylwi bod y meicroffonau gwddf wedi’u hailgyflwyno yn fuan. Bydd yr holl feicroffonau gwddf wedi’u gosod yn barod erbyn dechrau’r dysgu yn Semester 2.

Defnyddio’r meicroffonau gwddf yn Panopto

Gellir defnyddio’r meicroffonau gwddf wrth wneud eich recordiadau Panopto. Pan gychwynnwch Panopto, newidiwch y meicroffon i Neck Mic drwy glicio ar y ddewislen ddisgyn sydd tua’r dde i’r maes Audio yn Panopto recorder:

Screen Grab of Panopto Settings

This image shows the Panopto settings. The second option is Audio which is highlighted with a dropdown menu. This arrow needs to be clicked to choose a different microphone.

Defnyddio’r meicroffon gwddf mewn cyfarfodydd Teams

Gellir defnyddio’r meicroffon gwddf mewn cyfarfodydd Teams. I newid eich meicroffon yn Teams:

Dewiswch y botwm ar gyfer mwy o ddewisiadau, sef “…” :

Screen Grab of Teams Meeting Options

This screen grab shows the options on the top right handside of the screen available in a Teams meeting.

Highlighted is the ... option which stands for more options.

Ac wedyn y Gosodiadau Offer / Device Settings

O dan feicroffon dewiswch Enw’r Meicroffon.

Mwy o Gymorth

Mae ein Canllawiau i’r Ystafelloedd Dysgu, 2021-22 yn rhoi braslun o sut i ddefnyddio’r offer yn yr ystafelloedd dysgu. Os ydych yn cael anawsterau ag offer mewn ystafell ddysgu sydd ar yr amserlen ganolog, codwch y ffôn ac fe gewch eich cysylltu â’r gweithdy.

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau (gg@aber.ac.uk).