Profion Blackboard – Creu Gweithgaredd Asesu Ar-lein i’ch Myfyrwyr

Distance Learner Banner

  • Gellir creu profion a chwisiau ar-lein i’ch myfyrwyr trwy ddefnyddio adnodd profion (Tests) Blackboard. Gallwch ddarparu profion i fod yn ddull ffurfiannol o asesu, yn ddull hunanasesu i fyfyrwyr, neu’n ddull mwy ffurfiol o asesu perfformiad myfyriwr. Yn ddiweddar, mae’r Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu wedi diweddaru ein canllaw ynglŷn â phrofion Blackboard, er mwyn cefnogi staff sy’n darparu gweithgaredd asesu ar-lein i fyfyrwyr. Pam defnyddio Profion Blackboard yn fy modiwl?
    Manteision i Fyfyrwyr
  • Atgyfnerthu’r dysgu. Mae ymchwil wedi dangos bod profion a chwisiau yn adnoddau grymus i hybu dulliau o ddwyn ffeithiau i gof, i gynorthwyo wrth adolygu ac i wella’r dysgu.
  • Adborth gwerthfawr. Gall profion Blackboard roi cyfleoedd ychwanegol ac amrywiol i fyfyrwyr i roi adborth.
  • Darparu cynnwys o’r cyfryngau. Mae modd cynnwys clipiau fideo, delweddau a dolenni at recordiadau ac adnoddau allanol yn y cwestiynau a’r atebion.
      Manteision i Staff
  • Mesur gwybodaeth myfyrwyr. Mae profion Blackboard yn ffordd effeithiol o fesur dirnadaeth a datblygiad myfyrwyr trwy gydol y cwrs, ac i ganfod unrhyw fylchau yn eu gwybodaeth.
  • Marcio sydyn. Caiff y mwyafrif o’r cwestiynau eu marcio ar unwaith gan Blackboard a’u rhoi yn awtomatig yn y Grade Centre.
  • Cronfeydd o gwestiynau i’w hailddefnyddio. Gellir creu cronfa o gwestiynau, y gellir dewis o’u plith ar gyfer aml brofion. Hefyd, gellir allforio cwestiynau a phrofion i’w defnyddio mewn modiwlau eraill.
      Sut mae creu prawf yn Blackboard?
    Dilynwch ein cyfarwyddyd ar greu prawf, ac yna gosod y prawf yn Blackboard. Profion Blackboard i Fyfyrwyr
    Ar ôl ichi greu a gosod eich Prawf, rydym yn argymell eich bod yn rhoi ein canllawiau ar gymryd profion Blackboard i’ch myfyrwyr. Os bydd myfyriwr yn cael trafferthion wrth gymryd y prawf, efallai y bydd angen i chi glirio ymgais y myfyriwr fel y gall ailsefyll y prawf. Os hoffech ragor o wybodaeth o unrhyw fath am y broses neu os oes gennych gwestiynau penodol, cofiwch gysylltu â ni (eddysgu@aber.ac.uk). Os ydych yn bwriadu defnyddio’r profion ar gyfer asesu ffurfiol, cofiwch gysylltu â ni.

Defnyddio Meddalwedd Trydydd Parti ar gyfer Dysgu ac Addysgu

Distance Learner Banner

Wrth i ni symud tuag at gynllunio a darparu dysgu ar-lein, mae angen i ni fod yn greadigol wrth ddefnyddio ein hadnoddau.

Er mai’r cyngor hyd yma yw i ddefnyddio technolegau yr ydych chi a’ch myfyrwyr yn gyfarwydd â hwy, gallai fod rheswm da dros roi cynnig ar lwyfan gwahanol nad yw’n cael ei gefnogi na’i gynnal gan y Brifysgol.

Os ydych chi’n ystyried defnyddio llwyfan gwahanol, cofiwch ystyried datganiadau preifatrwydd y cwmni dan sylw, a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud â data personol (eich data personol chi a’ch myfyrwyr). Er enghraifft, mae meddalwedd fideo-gynadledda Zoom yn cynnwys nifer o nodweddion gwych, yn enwedig o ran creu ystafelloedd i grwpiau llai (breakout rooms). Serch hynny, mae eu datganiad preifatrwydd yn nodi eu bod yn casglu amrywiaeth eang o wybodaeth ynglŷn â threfnydd y cyfarfod yn ogystal â’r cyfranogwyr.

Mae’r un egwyddorion yn berthnasol i feddalwedd pleidleisio trydydd parti. Mewn blogbost blaenorol, nodwyd ei fod yn bwysig bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd i’ch data chi a data eich myfyrwyr. Wrth ddewis llwyfan trydydd parti dylech ystyried:

  • pa ddata personol y mae’r cwmni o dan sylw yn ei gasglu amdanoch chi;
  • pa ddata personol y gallai fod gofyn i’ch myfyrwyr ei ddarparu;
  • sut y caiff eich cyflwyniadau eu storio;
  • sut y caiff eich data ei gadw, ac ymhle.

Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau’n sicrhau ei fod yn hawdd dod o hyd i’w Polisi Preifatrwydd. Ar y rhan fwyaf o safleoedd, gallwch ddod o hyd i ddolen ar waelod yr hafan o dan y pennawd Preifatrwydd.

Rydym ar gael i’ch helpu chi a’ch myfyrwyr i symud i ddysgu ar-lein. Byddwch yn ymwybodol bod ein harbenigedd yn seiliedig ar gefnogi’r technolegau yr ydym yn eu cynnal yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, felly efallai y bydd yn cymryd ychydig yn hirach i’ch cynorthwyo os oes gennych ymholiadau am lwyfannau eraill. Mae llawer o’r egwyddorion a’r arferion gorau o ran dysgu â thechnoleg yn berthnasol pa bynnag lwyfan a ddefnyddiwch, a byddwn yn fwy na pharod i’ch helpu gyda hyn.

Nid dweud na ddylech ddefnyddio’r llwyfannau hyn yr ydym ni, ond yn hytrach rydym am i chi ystyried y goblygiadau o ran eich data chi a data eich myfyrwyr cyn i chi wneud hynny, fel bod modd i chi wneud dewis gwybodus ynghylch sut i ddarparu dysgu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â dysgu ar-lein, cysylltwch â ni ar elearning@aber.ac.uk / 01970 622472.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn a diogelu data a defnyddio meddalwedd trydydd parti, gan gynnwys achosion posibl o dorri rheoliadau diogelu data personol, cysylltwch â’r Rheolwr Rheoli Gwybodaeth ar infocompliance@aber.ac.uk.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Barhad Dysgu ac Addysgu ar ein gwe-ddalennau yn ogystal â’n Cwestiynau Cyffredin.

Dysgu ar-lein? Sut i wneud Gweithgareddau Blackboard yn fwy rhyngweithiol gyda Rhyddhau Deunyddiau’n Ymaddasol

Distance Learner Banner

Yn sgil symud i ddysgu ar-lein, bwriad y blogbost hwn yw rhoi rhai syniadau i chi ynglŷn â sut i wneud eich Safle Cwrs Blackboard yn fwy rhyngweithiol i fyfyrwyr. Yn y gyntaf o’r gyfres hon o flogbostiadau, byddwn yn edrych yn benodol ar nodwedd o’r enw Rhyddhau Ymaddasol.

Mae symud i ddysgu ar-lein, os rhywbeth, yn dangos i ni fod Blackboard yn adnodd dysgu pwerus y gellir ei ddefnyddio am amrywiaeth eang o weithgareddau dysgu, nid dim ond fel lle i ddod o hyd i ddeunyddiau, gwylio darlithoedd, a chyflwyno aseiniadau. Un o’r elfennau allweddol wrth gynllunio dysgu ar-lein a digidol yw ystyried pa weithgareddau yr hoffech i’ch myfyrwyr eu gwneud yn ogystal â pha adnoddau y bydd eu hangen arnynt.

Un o’r adnoddau mwyaf pwerus, ond sydd ddim yn cael ei ddefnyddio ddigon yn Blackboard yw Rhyddhau Ymaddasol. Mae Rhyddhau Ymaddasol yn rhoi cyfle i chi ryddhau deunydd ar sail cyfres o reolau. Y mwyaf cyffredin o’r rhain yw cyfyngu mynediad at ddeunydd ar sail dyddiadau ac amserau neu ar gyfer defnyddiwr neu grŵp o fyfyrwyr, ond gallwch hefyd ddefnyddio Rhyddhau Ymaddasol i ryddhau deunydd ar ôl i fyfyrwyr gwblhau gweithgaredd penodol neu ar ôl iddynt weld deunyddiau penodol.

Er enghraifft, os oes gennych ddwy ddarlith y mae’n rhaid i fyfyrwyr eu gweld, ond nad ydych am iddynt fynd ymlaen yn syth i’r ail ddarlith cyn i chi asesu eu dealltwriaeth o’r ddarlith gyntaf. Yn ogystal â hyn, gallai dealltwriaeth y myfyrwyr o ddeunydd yr ail ddarlith ddibynnu ar y deunydd a drafodwyd yn y ddarlith gyntaf.  

Os hoffech roi cyfyngiad i atal myfyrwyr rhag symud ymlaen i’r ail ddarlith:

Mae Rhyddhau Ymaddasol fel yn y sefyllfa uchod yn gysylltiedig â Gradd yn y Ganolfan Raddau. Mae nifer o reolau y gallwch eu defnyddio. Er enghraifft, fe allech osod rheol bod rhaid i fyfyrwyr gael marc penodol yn y prawf cyn bod modd iddynt weld y deunydd, i ddangos eu bod yn ei ddeall.

Yn y sefyllfa hon, gallwch sicrhau bod gan fyfyrwyr wybodaeth a dealltwriaeth ddigonol o’r deunydd, a chreu amgylchedd sy’n ymateb yn uniongyrchol i’w gweithgarwch ar yr un pryd.