Beth sy’n Newydd yn Blackboard Hydref 2026   

Yn y diweddariad ym mis Hydref, hoffem dynnu eich sylw at y gwelliannau canlynol i Blackboard:  

  • Gwelliannau i’r Golygydd Cynnwys beta yn Nogfennau Blackboard  
  • Dechreuwch Sgyrsiau DA mewn profiad ymdrwythol newydd  
  • Cloi Sgwrs DA i iaith benodol  
  • Rheoli cyfarwyddiadau o dudalen cyfarwyddiadau cwrs pwrpasol  
  • Allforio a mewnforio cyfarwyddiadau  
  • Dangos enw defnyddiwr a dyddiad defnyddio olaf yng ngwedd grid y llyfr graddau  
  • Dangos pwyntiau posib yng ngwedd restr y llyfr graddau  
  • Datgelu hunaniaeth myfyrwyr ar gyfer asesiadau dienw 

Gwelliannau i’r Golygydd Cynnwys beta yn Nogfennau Blackboard 

Mae’r Golygydd Cynnwys beta wedi cael cyfres eang o ddiweddariadau gyda’r nod o sicrhau bod golygu yn fwy esmwyth, yn fwy hygyrch ac yn fwy dibynadwy. Mae’r gwelliannau yn canolbwyntio ar lywio, rheolaethau fformatio, trin ffeiliau a chefnogaeth ar gyfer cynnwys mathemategol. 

Llywio bysellfwrdd a hygyrchedd 

Gall hyfforddwyr nawr symud o amgylch dewislenni a bariau offer yn fwy greddfol gan ddefnyddio rheolaethau bysellfwrdd. Mae ymddygiad y ddewislen yn fwy rhagweladwy, mae’r llwybrau byr yn haws i’w darllen, a gellir lleihau mewnoli paragraff gan ddefnyddio Dileu neu’r fysell Backspace. 

Diweddariadau bar offer a dewislen 

Mae diweddariadau’r bar offer yn ei gwneud hi’n gliriach pa opsiynau fformatio sydd ar waith ar hyn o bryd.  

Delwedd 1:   Mae’r ddewislen Rhestr yn cynnwys .y penawdau Bulleted a Numbered. 

Delwedd 2:  Y lliw rhagosodedig yw Llwyd Tywyll (Rhagosodedig). 

Ymddygiad rhestrau 

Mae rheolaethau rhestr yn haws i’w deall, ac mae golygu rhestr bellach yn ymddwyn yn fwy cyson pan fydd eitemau yn cael eu dileu. 

Trin delweddau a ffeiliau 

Mae trin delweddau a ffeiliau hefyd wedi gwella. Mae delweddau sydd wedi newid eu maint yn cadw eu dimensiynau ar ôl trosi, gellir adolygu gosodiadau ffeiliau cyn eu mewnosod, ac mae atodiadau’n cael eu cadw pan fydd y cynnwys yn cael ei fudo i’r golygydd newydd. Mae copïo a gludo ffeiliau’n uniongyrchol rhwng golygyddion wedi’i rwystro ar hyn o bryd er mwyn osgoi problemau caniatâd. 

Delwedd 3:  Mae’r ffenestr Edit File Options yn ymddangos pan fo ffeil ynghlwm. 

Fformatio cod 

Mae fformatio cod yn lanach, gyda llinellau dethol lluosog bellach yn ffurfio un bloc cod.  

Awduro mathemateg 

Y diweddariad olaf, ond defnyddiol iawn, y mae Blackboard wedi ei gyflwyno i’r golygydd cynnwys newydd yw’r cam cyntaf o gymorth mathemateg uwch. Bydd hyn yn caniatáu i hafaliadau LaTeX a MathJax arddangos yn awtomatig o fewn dogfennau, heb orfod mynd i mewn i’r golygydd mathemateg. 

Dechreuwch Sgyrsiau DA mewn profiad ymdrwythol newydd 

Mae Sgyrsiau DA bellach yn lansio mewn gweithle pwrpasol sydd wedi’i gynllunio sicrhau bod myfyrwyr yn canolbwyntio ar y drafodaeth. Yn hytrach nag agor ar unwaith, mae sgyrsiau’n dechrau pan fydd myfyrwyr yn dewis Start conversation. 

Mae’r cynllun newydd yn dileu manylion ffurfweddiad a gwybodaeth asesu a all dynnu sylw oddi wrth y gweithgaredd. Mae gan fyfyrwyr fwy o le i ryngweithio â’r DA gan barhau i weld y rhybudd cynnwys safonol a gynhyrchir gan DA 

Mae’r profiad wedi’i ddiweddaru yn gweithio ar draws gweithgareddau Socratic, Roleplay ac AVA Pulse Quiz. Mae’r broses sefydlu hyfforddwr yn parhau heb ei newid. 

Delwedd 1:   Mae’r profiad ymdrwytho Sgyrsiau DA newydd yn llenwi ardal fwy i helpu myfyrwyr i ganolbwyntio ar eu sgwrs. 

Delwedd 2:  Roedd profiad blaenorol y myfyriwr o sgwrs DA yn cynnwys gwedd ar fanylion aseiniad a oedd yn amherthnasol i gyfranogiad gweithredol myfyriwr mewn sgwrs. 

Cloi Sgwrs DA i iaith benodol 

Gall hyfforddwyr nawr gloi Sgwrs DA i iaith ddewisol. Ar ôl ei alluogi, bydd y DA yn cyfathrebu yn yr iaith honno yn unig trwy gydol y gweithgaredd. 

Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer gweithgareddau dysgu iaith lle mae angen i fyfyrwyr barhau wedi’u hymdrwytho mewn iaith darged. Hyd yn oed os yw myfyriwr yn gofyn am iaith wahanol, mae’r DA yn parhau i ddefnyddio’r iaith a ddewiswyd gan yr hyfforddwr. 

Mae’r gosodiad ar gael trwy Advanced Options ac mae’n berthnasol i bob math o Sgwrs DA a gefnogir.  

Gall y diweddariad hwn fod yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer cyrsiau a addysgir yn Gymraeg, neu gyrsiau ieithoedd tramor yn y brifysgol. 

Delwedd 1:   Gall hyfforddwyr nawr ddewis yr opsiwn i orfodi iaith sgwrs mewn Sgwrs DA. 

Rheoli cyfarwyddiadau o dudalen cyfarwyddiadau cwrs pwrpasol 

Mae gan Gyfarwyddiadau eu tudalen reoli bwrpasol eu hunain. Mae’r ardal newydd yn darparu gwedd chwiliadwy a didoli o’r holl gyfarwyddiadau o fewn cwrs. 

O’r dudalen hon, gall hyfforddwyr greu, cynhyrchu, mewnforio, allforio a rheoli cyfarwyddiadau yn fwy effeithlon. Gellir cysylltu cyfarwyddiadau hefyd yn uniongyrchol ag aseiniadau trwy lif gwaith symlach. 

Nodyn: y cyfarwyddiadau hyn yw’r rhai a ddefnyddir ar gyfer profion ac aseiniadau Blackboard, nid y rhai a ddefnyddir yn Turnitin. 

Delwedd 1:   Mae’r dudalen Course Rubrics yn dangos yr holl gyfarwyddiadau mewn tabl y gellir ei drefnu a’i chwilio. 

Delwedd 2:  Mae hyfforddwyr yn dewis Add Rubric in Assignment Settings i agor y dudalen Course Rubrics. 

Allforio a mewnforio cyfarwyddiadau 

Mae Blackboard bellach yn caniatáu i gyfarwyddiadau gael eu hallforio a’u mewnforio rhwng cyrsiau, gan ei gwneud hi’n haws ailddefnyddio meini prawf asesu ar draws modiwlau. 

Mae cyfarwyddiadau wedi’u hallforio yn cael eu lawrlwytho fel ffeiliau ZIP a gellir eu mewnforio i gwrs Blackboard arall yn ddiweddarach. Mae mewnforion dyblyg yn cael eu hatal yn awtomatig i helpu i gadw cyrsiau yn drefnus. 

Nodyn: y cyfarwyddiadau hyn yw’r rhai a ddefnyddir ar gyfer profion ac aseiniadau Blackboard, nid y rhai a ddefnyddir yn Turnitin. 

Delwedd 1:   Mae’r ddewislen tri dot ar gyfarwyddyd yn dangos yr opsiwn Export. 

Delwedd 2:  Yr eicon Export ar y dudalen Course Rubrics. 

Dangos enw defnyddiwr a dyddiad defnyddio olaf yng ngwedd grid y llyfr graddau 

Mae dwy golofn ddewisol newydd ar gael yn y wedd grid yn y Llyfr Graddau: Enw Defnyddiwr a Mynediad Olaf. Mae’r ddau wedi’u hanalluogi yn ddiofyn a gellir eu galluogi drwy osodiadau’r Llyfr Graddau. 

Ar ôl eu hysgogi, mae’r colofnau’n ymddangos ochr yn ochr ag enwau myfyrwyr a gellir eu didoli, gan helpu hyfforddwyr i adnabod defnyddwyr a monitro ymgysylltiad yn haws. 

Delwedd 1:   Mae’r adran dewisiadau Myfyriwr yng ngosodiadau;r Llyfr Graddau yn dangos toglau ar gyfer Cyfeirnod Myfyriwr, Enw Defnyddiwr, a Mynediad Olaf. 

Delwedd 2:  Y wedd grid llyfr graddau, gan gynnwys y colofnau Enw Defnyddiwr a Mynediad Olaf. 

Dangos pwyntiau posib yng ngwedd restr y llyfr graddau 

Mae’r wedd rhestr yn y Llyfr Graddau bellach yn cynnwys colofn Pwyntiau Posibl y gellir ei didoli. Mae hyn yn rhoi trosolwg cyflym i hyfforddwyr o’r gwerth a roddir i bob eitem raddadwy. 

Mae’r golofn yn cael ei phoblogi’n awtomatig o osodiadau asesu presennol, tra bod eitemau heb werth pwyntiau yn aros yn wag. 

Delwedd 1:   Mae’r wedd rhestr yn dangos colofn Pwyntiau Posibl y gellir ei didoli. 

Datgelu hunaniaeth myfyrwyr ar gyfer asesiadau dienw 

Gall staff sydd â’r caniatâd cywir nawr ddatgelu hunaniaeth myfyriwr dros dro ar gyfer cyflwyniad dienw unigol pan fo angen. Mae marcio dienw yn parhau i fod yn ei le i bawb arall, ac mae’r holl weithredoedd yn cael eu cofnodi fel bod trywydd archwilio clir. 

Mewn Graddio Hyblyg, bydd defnyddwyr awdurdodedig yn gweld dewisiadau Reveal student name a Hide student name newydd ar gyfer asesiadau dienw. Pan fydd enw yn cael ei ddatgelu, mae cerdyn proffil y myfyriwr, gan gynnwys eu henw, eu Cyfeirnod a’u avatar, yn cael ei arddangos yn y wedd Myfyriwr a Chwestiynau. 

Delwedd 1:   Mae’r ddewislen tri dot yn Graddio Hyblyg yn dangos yr opsiwn Reveal student identity. 

Mae’r datgeliad yn berthnasol i’r defnyddiwr a’r sesiwn hwnnw yn unig. Mae manylion y myfyriwr yn cael eu cuddio eto yn awtomatig os yw’r defnyddiwr yn allgofnodi, yn adnewyddu’r dudalen, yn cau’r porwr, neu os yw’r sesiwn yn dod i ben. Os yw graddiwr yn gweld hunaniaeth myfyriwr wrth farcio unrhyw ran o gyflwyniad, mae Blackboard yn cofnodi’r cyflwyniad hwnnw fel un sydd wedi’i raddio yn ddienw. 

Nodyn: mae’r nodwedd hon yn ymwneud â phrofion ac aseiniadau Blackboard, nid Turnitin. 

Ymunwch â ni ar Ddiwrnod Trwsio’ch Cynnwys 2026

Ar Dachwedd 10, bydd Prifysgol Aberystwyth yn ymuno â sefydliadau ledled y byd i gymryd rhan yn Niwrnod Trwsio’ch Cynnwys 2026, a gynhelir gan Anthology, ac mae angen eich help chi arnom! Ymunwch â’r Tîm Addysg Ddigidol am sesiwn galw heibio a gwella hygyrchedd eich cynnwys cyrsiau digidol gan ddefnyddio Blackboard Ally. Mae pob addasiad – mawr neu fach – yn gwneud gwahaniaeth i’n myfyrwyr.

Beth sy’n newydd yn Blackboard Medi 2026 

Yn y diweddariad ym mis Medi, hoffem dynnu eich sylw at y gwelliannau canlynol i Blackboard:  

  1. Golygydd Cynnwys Newydd ar gyfer Dogfennau Blackboard 
  1. Cyfyngu ar y mathau o ffeiliau a dderbynnir ar gyfer cyflwyniadau aseiniadau 
  1. Diweddariad i’r Llyfr Graddau ar Blackboard 

Nodyn: Cafodd diweddariad mis Medi ei oedi gan Blackboard er mwyn rhoi mwy o amser ar gyfer profi. 

Golygydd Cynnwys Newydd ar gyfer Dogfennau Blackboard 

Mae Blackboard wedi cyflwyno golygydd cynnwys newydd ar gyfer Dogfennau, gan roi dull mwy modern a symlach i staff greu cynnwys. Mae’r golygydd newydd yn cynnig profiad golygu symlach, offer fformatio gwell a gwell hygyrchedd. Y prif nodweddion yw: 

  • Dewislenni symlach a bar offer glanach sy’n gwneud golygu’n haws. 
  • Fformatio gwell ar gyfer rhestr a thablau sy’n darparu mwy o hyblygrwydd. 
  • Gwell nodweddion llywio bysellfwrdd a hygyrchedd sy’n cefnogi ystod ehangach o ddefnyddwyr. 

Mae’r golygydd yn parhau i fod yn y cyfnod beta tan fis Tachwedd a bydd yn parhau i dderbyn diweddariadau tan hynny. 

Hyfforddwyr 

Ar hyn o bryd gall staff ddewis rhwng y golygydd newydd a’r golygydd clasurol. Bydd y golygydd clasurol yn parhau i fod ar gael tan fis Rhagfyr. 

Delwedd 1:   Mae’r Golygydd Cynnwys newydd yn ymddangos ochr yn ochr â’r golygydd clasurol wrth ychwanegu blociau Dogfennau. 

Delwedd 2:  Mae gan y Golygydd Cynnwys newydd strwythur bar offer a dewislen wedi’i ailgynllunio. 

Mae Tabl Cymharu Golygydd Cynnwys ar gael os hoffech weld y gwahaniaethau rhwng y ddau olygydd ochr yn ochr. 

Ers i’r golygydd newydd fod ar gael i sefydliadau ei droi ymlaen ym mis Awst, mae Blackboard eisoes wedi rhyddhau sawl gwelliant o ran defnyddioldeb, hygyrchedd ac ymarferoldeb yn seiliedig ar adborth gan fabwysiadwyr cynnar. Mae’r rhain i’w gweld isod:  

Mewnoli paragraff 

Mae rheolaethau mewnoli newydd yn caniatáu mewnoli llinell gyntaf neu baragraff llawn yn uniongyrchol o fewn y golygydd, gan ddarparu mwy o hyblygrwydd fformatio. 

Delwedd 1:   Hyfforddwyr yn dewis Cynyddu mewnoliad neu Lleihau mewnoliad. 

Bar offer ymatebol 

Mae’r bar offer bellach yn aros ar un rhes waeth beth fo maint y sgrin. Mae botymau a ddefnyddir yn llai aml yn cael eu cuddio ar sgriniau llai, ond mae’r holl offer yn parhau i fod ar gael trwy’r dewislenni. 

Delwedd 2:  Ar sgriniau bach, mae botymau bar offer a ddefnyddir yn llai aml yn cael eu cuddio. 

Llwybrau byr bysellfwrdd a llywio 

Mae’r dewislenni  Golygu a Mewnosod  bellach yn dangos mwy o lwybrau byr bysellfwrdd wrth ymyl gweithredoedd cyffredin, gan eu gwneud yn haws i’w darganfod i ddefnyddwyr bysellfwrdd ac unrhyw un sy’n dysgu’r golygydd.  

Delwedd 3:  Mae’r ddewislen Golygu  yn dangos llwybrau byr bysellfwrdd wrth ymyl gweithredoedd. 

Mae botwm  Llwybrau Byr Bysellfwrdd, sydd wedi’i leoli ar ddiwedd y bar offer, yn agor cyfeirnod canolog sy’n cwmpasu llywio rhwng y Bar Dewislen, y Bar Offer, y Bar Offer Mewnol, a’r golygydd, yn ogystal ag ail-fentio delweddau bysellfwrdd 

Delwedd 4:  Mae rhestr o lwybrau byr bysellfwrdd yn ymddangos pan ddewisir y botwm llwybrau byr bysellfwrdd ar y bar offer. 

Gyda’i gilydd, mae’r diweddariadau hyn yn gwneud ymarferoldeb llawn y golygydd yn haws i’w ddarganfod a’i ddefnyddio heb lygoden. 

Brysgymorth bar offer 

Mae brysgymorth bellach yn ymddangos o dan fotymau bar offer, gan eu hatal rhag cuddio opsiynau’r ddewislen. 

Delwedd 5: Mae brysgymorth yn ymddangos o dan y botwm. 

Edrychiad a theimlad newydd 

Mae’r golygydd hefyd wedi derbyn adnewyddiad gweledol, gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn well ag arddull dylunio ehangach Blackboard. 

Delwedd o URL 

Mae delweddau a ychwanegir o gyfeiriad gwe bellach yn cael eu copïo i’r cwrs yn hytrach na chysylltu’n allanol. Mae hyn yn sicrhau bod delweddau’n parhau i fod ar gael hyd yn oed os yw’r ffynhonnell wreiddiol yn newid neu’n cael ei ddileu. 

Cyfyngu ar y mathau o ffeiliau a dderbynnir ar gyfer cyflwyniadau aseiniadau 

Gall hyfforddwyr nawr nodi pa fathau o ffeiliau y byddant yn eu derbyn ar gyfer cyflwyniadau ffeiliau ar aseiniadau. Mae myfyrwyr yn cael eu hysbysu am unrhyw gyfyngiadau cyn cyflwyno ac yn cael neges rybudd os ydynt yn ceisio uwchlwytho math o ffeil nad yw’n cael ei chaniatáu. 

Hyfforddwyr 

Wrth ffurfweddu aseiniad gyda chyflwyno ffeiliau wedi’i alluogi, gall hyfforddwyr gyfyngu ar y mathau o ffeiliau a dderbynnir mewn dwy ffordd: 

  • Dewiswch o restr o fathau cyffredin o ffeiliau a ganiateir, gan gynnwys fformatau Word, Excel, PowerPoint, a ZIP. 
  • Rhoi estyniadau ffeil addasedig â llaw. Ar hyn o bryd, i gyfyngu yn ôl PDF bydd angen i chi deipio .pdf yn yr hidlydd neu ychwanegu blwch estyniad arferol. 

Gall hyfforddwyr addasu cyfyngiadau ar y math o ffeiliau ar ôl i fyfyrwyr ddechrau cyflwyno. Mae cyflwyniadau presennol yn parhau i fod yn raddadwy, a gall myfyrwyr sydd â drafftiau ar y gweill gyflwyno o hyd. 

Delwedd 1:   Yn y gwymplen Mathau o ffeiliau a ganiateir, gall hyfforddwyr nodi un neu fwy o fathau o ffeiliau a ganiateir. 

Myfyrwyr 

Mae’r mathau o ffeiliau disgwyliedig ar gyfer aseiniad yn cael eu dangos yn yr adran Manylion a Chamau Gweithredu cyn cyflwyno. Os yw myfyriwr yn ceisio uwchlwytho math o ffeil nad yw’n cael ei chaniatáu, dylai neges rybudd roi gwybod iddynt nad yw’r math o ffeil yn cael ei derbyn. 

Diweddariad i’r Llyfr Graddau ar Blackboard 

Yn y diweddariad ym mis Awst, fe wnaethom dynnu eich sylw at y wedd grid wedi’i hailstrwythuro yn y Llyfr Graddau sydd wedi’i chyflwyno gan Blackboard. Dyma neges i’ch atgoffa i edrych ar ein blogbost diweddariad i Lyfr Graddau Blackboard Awst 2026 fel y gallwch ymgyfarwyddo â’r cynllun newydd hwn. 

Cymrawd y Gronfa Lenyddol Frenhinol – Eitem o Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu

Mae Samantha Wynne-Rhydderch, ein cymrawd o’r Gronfa Lenyddol Frenhinol yn dychwelyd i Aberystwyth o 7 Hydref.

Mae Samantha yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol, am ddim i helpu i wella sgiliau ysgrifennu myfyrwyr.

Gallwch helpu i roi cyhoeddusrwydd i wasanaeth – cysylltwch yr eitem yn y Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu am y Gronfa Lenyddol Frenhinol â’ch cyrsiau Blackboard:

  • Eitem Saesneg: Improve your academic writing
  • Eitem ddwyieithog: Cyfle i wella’ch ysgrifennu academaidd / Improve your academic writing
  • Eitem yn Gymraeg: Cyfle i wella’ch ysgrifennu academaidd

A pheidiwch ag anghofio bod croeso hefyd i staff drefnu apwyntiad gyda Samantha.

Dyma’r wybodaeth yn y Gwrthrychau Dysgu:

Cyfle i wella’ch ysgrifennu academaidd eleni gyda Chymrawd Ysgrifennu’r Gronfa Lenyddol Frenhinol, Samantha Wynne-Rhydderch. I wneud apwyntiad, anfonwch e-bost i gael dolen archebu: samantha.wynne-rhydderch@rlfeducation.org.uk

Gwasanaeth cyfrinachol am ddim i’ch helpu i wella eich sgiliau ysgrifennu

Mae croeso i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ar unrhyw lefel astudio (o fyfyrwyr y flwyddyn 1af i fyfyrwyr ôl-raddedig) – a staff – drefnu sesiwn.

Mae Cymrodorion Ysgrifennu’r Gronfa Lenyddol Frenhinol yn awduron proffesiynol, cyhoeddedig a’u swyddogaeth yw eich cynorthwyo i wella eich sgiliau ysgrifennu. Mewn sesiynau un-i-un, gall Samantha eich helpu i:

  • Strwythuro eich dadl
  • Ysgrifennu rhyddiaith sy’n fwy clir a thrawiadol
  • Ailysgrifennu a golygu
  • Cynllunio a rheoli amser
  • Ymdrin â chyfrif geiriau
  • Meddwl yn feirniadol
  • Aralleirio
Samantha Wynne-Rhydderch

Mae Samantha’n gweithio ar ddydd Mercher a dydd Iau yn ystod y tymor. Mae’r sesiynau’n para 50 munud ac yn cael eu cynnal yn Llyfrgell Hugh Owen ar ddydd Mercher ac yn  Adeilad Llandinam ar ddydd Iau.

Noder nad yw Cymrawd Ysgrifennu’r Gronfa Lenyddol Frenhinol yn prawfddarllen nac yn rhoi hyfforddiant EAP (Saesneg at Ddibenion Academaidd) na TEFL (Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor).

Noder: Mae sesiynau Samantha yn Saesneg. I siarad â thiwtor sgiliau ysgrifennu academaidd cyfrwng Cymraeg sy’n cynnig cefnogaeth academaidd 1:1, cysylltwch â Dr Tamsin Davies, ted@aber.ac.uk

Partneriaid Modiwl Cymraeg-Saesneg

Ydych chi’n dysgu cwrs Cymraeg sydd wedi’i gyfuno â’r cwrs cyfwerth yn Saesneg? Neu efallai eich bod chi’n gydlynydd modiwl Saesneg sydd wedi’i gyfuno â’i bartner Cymraeg?

Mae Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard eleni yn annog staff i ddefnyddio’r templed Cymraeg dwyieithog ar gyfer cyrsiau Cymraeg / Saesneg wedi’u cyfuno.

Er mwyn hwyluso hyn, mae gennym gwrs templed y gallwch ei ddefnyddio i gopïo eitemau’r templed dwyieithog i’ch cwrs. Os hoffech gael eich ychwanegu, anfonwch e-bost atom ar e-ddysgu@aber.ac.uk. Mae gwybodaeth am sut i gopïo cynnwys yn ein Cwestiynau Cyffredin Sut mae copïo deunydd o un modiwl Blackboard i’r llall?

Gallech hefyd gynnwys elfennau dwyieithog gan ddefnyddio’r Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu – dyma restr o’r eitemau sydd ar gael yn y Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu.

Gwybodaeth am y Modiwl

  • Cipio Darlithoedd (Panopto)
  • SgiliauAber

Asesu ac Adborth

  • Canllawiau Cyflwyno

Mae gwybodaeth am ddefnyddio’r Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu ar gael yn ein Cwestiynau Cyffredin Sut mae ychwanegu eitem o Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu Blackboard at fy nghwrs?

Adolygiad o Bolisïau Addysg Ddigidol (2026-27)

Bob blwyddyn, rydym yn ailedrych ar yr holl bolisïau sy’n ymwneud ag addysg ddigidol ac yn eu hadolygu. Mae’r holl newidiadau yn cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Ansawdd a Safonau. Mae’r polisïau newydd bellach ar gael, a dyma fanylion y prif newidiadau.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisïau newydd, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost eddysgu@aber.ac.uk

Mae’r diweddariad eleni wedi egluro’r hyn a ddisgwylir ar gyfer cyrsiau Aber Ar-lein yn Canvas. Mae’r holl bwyntiau yn berthnasol i Blackboard a Canvas oni nodir fel arall. Dylid anfon unrhyw ymholiadau am Aber Ar-lein at xx

Isafswm Presenoldeb Gofynnol (IPG) Blackboard

Mae’r IPG yn rhoi amlinelliad i staff a myfyrwyr o’r safonau gofynnol ar gyfer Cwrs Blackboard.

Y Gymraeg:

  • Canllawiau ar gyfer darparu deunyddiau Cymraeg mewn modiwlau Cymraeg a Saesneg wedi’u cyfuno.

Er mwyn helpu myfyrwyr i gynllunio a rheoli eu hastudiaethau:

  • Dylid uwchlwytho briffiau aseiniad, ynghyd â datganiad DA Cynhyrchiol ar gyfer pob asesiad ar ddechrau’r semester y mae’r cwrs yn cael ei addysgu ynddo
  • Eglurhad ar amserlenni ar gyfer uwchlwytho deunyddiau i fyfyrwyr gyda Chofnod o Ddarpariaeth Cymorth
  • Canllawiau ar argaeledd deunyddiau mewn cwrs Blackboard

I helpu staff i reoli cyrsiau:

  • Copi o unrhyw gyfarwyddiadau Turnitin i’w huwchlwytho i’r ffolder Arholwyr Allanol

⁠Y Polisi E-gyflwyno

Amlinellir yn y Polisi E–gyflwyno fod pob darn o waith testun a baratowyd ar raglen prosesu geiriau yn cael ei gyflwyno, ei farcio, a’r adborth yn cael ei ryddhau’n electronig. 

Er mwyn gwella sut mae myfyrwyr yn cael gafael ar eu marciau a’u hadborth:

  • Eglurhad o ganllawiau ar ddychwelyd marciau ac adborth ar gyfer gwaith nad yw’n cael ei gyflwyno’n electronig

Ymateb i fethiannau yn y system:

  • Eglurhad o sut y bydd methiannau i systemau PA a systemau nad ydynt yn rhai PA yn cael eu rheoli.

Y ⁠Polisi Cipio Darlithoedd

Amlinellir yn y Polisi Cipio Darlithoedd fod pob cyflwyniad yn y dull trosglwyddo yn cael ei recordio’n electronig i’w ddefnyddio gan fyfyrwyr.

I helpu myfyrwyr gyda gofynion hygyrchedd

  • Cynnwys canllawiau ar lawrlwytho trawsgrifiadau
  • Cynnwys canllawiau ar gofnodi nodiadau bwrdd gwyn

I helpu staff i reoli cyrsiau:

  • Eglurhad ynghylch pryd a sut y dylid defnyddio crynodebau darlith

Defnydd o recordiadau:

  • Canllawiau ar pryd a sut y gellir defnyddio recordiadau ym mhroses gwynion PA

Cynhadledd Flynyddol Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr:    Siaradwr Allanol o Blackboard

Rydym yn falch iawn o groesawu mwy o siaradwyr gwadd ar gyfer ein Cynhadledd Flynyddol Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr.

Ar ddydd Iau 10 Medi, bydd Ruben Jacquart o Blackboard yn ymuno â ni.

Mae Ruben Jacquart yn Uwch Beiriannydd Datrysiadau gyda thros 10 mlynedd o brofiad yn cefnogi sefydliadau addysg uwch i drawsnewid eu dulliau dysgu digidol. Wedi’i leoli yn Amsterdam, mae’n gweithio’n agos â phrifysgolion ac ysgolion busnes ledled Ewrop a’r DU i helpu sefydliadau i wella addysgu, dysgu, hygyrchedd a llwyddiant myfyrwyr trwy gyfrwng technoleg addysgol arloesol.

Mae ei arbenigedd yn cwmpasu systemau rheoli dysgu, hygyrchedd digidol, dadansoddeg dysgu, deallusrwydd artiffisial, safonau rhyngweithrededd, ac integreiddiadau menter. Mae Ruben yn cydweithio’n rheolaidd ag arweinwyr sefydliadol, staff academaidd, a thimau technoleg i fynd i’r afael â heriau strategol a gweithredol mewn addysg ddigidol.

Mae’n arbennig o angerddol am hyrwyddo hygyrchedd mewn addysg a helpu sefydliadau i greu amgylcheddau dysgu mwy cynhwysol. Trwy ei waith gydag Ally, mae’n cefnogi prifysgolion i wella hygyrchedd cynnwys cyrsiau digidol, grymuso addysgwyr i feithrin arferion cynhwysol, a sicrhau bod gan bob dysgwr fynediad cyfartal at adnoddau addysgol. Mae gan Ruben ddiddordeb mawr hefyd mewn sut y gall dulliau DA, sy’n seiliedig ar ddata, wella profiad y dysgwr ymhellach wrth gryfhau cynhwysiant a llwyddiant myfyrwyr.

Bydd Ruben yn cynnal sesiwn 1 awr.

Bydd y sesiwn yn cynnwys y diweddariadau diweddaraf i:

  • Blackboard Ally
  • Cynorthwyydd Dylunio DA Blackboard
  • Map ffordd nodweddion newydd ar gyfer Blackboard

Rydym yn llawn cyffro am rai o’r nodweddion newydd sydd wedi’u cynnwys yn y diweddariad i Blackboard Ally.

Yn y 1-3 mis nesaf, bydd darllenydd datblygedig i fyfyrwyr. Yn ogystal â’r holl nodweddion gwych sydd eisoes wedi’u cynnwys yn Ally, bydd hyn yn cynnwys nodweddion sy’n helpu i ganolbwyntio eich sylw.

Yn dilyn sesiwn Blackboard, bydd Ifat Shah o’r Gwyddorau Bywyd a Jim Woolley o Daith y Myfyriwr yn rhoi cyflwyniad ar Gyflawniadau Blackboard. Mae cydweithwyr yn y Gwyddorau Bywyd wedi bod yn ei ddefnyddio eleni i gofnodi’r Pasbort Sgiliau AGB.

Gweler gweddill y rhaglen ar-lein: Rhaglen y Gynhadledd  : Llyfrgell ac Addysg Ddigidol , Prifysgol Aberystwyth

Archebwch eich lle drwy’r ffurflen ar-lein hon: https://forms.office.com/e/Lp1CjT4xuB

Hyfforddiant Addysg Ddigidol

Mae ein rhaglen hyfforddiant Addysg Ddigidol bellach yn barod i staff archebu eu lle gan ddefnyddio’r dudalen archebu i staff

Mae ein hyfforddiant wedi’i rannu ar draws 3 lefel:

Hanfodion E-Ddysgu:

Mae ein sesiynau Hanfodion E-ddysgu yn rhoi cyflwyniad ymarferol i dechnolegau dysgu digidol craidd y Brifysgol a’r polisïau sy’n cefnogi eu defnydd.  Mae’r sesiynau hyn yn ddelfrydol ar gyfer cydweithwyr sydd heb ddefnyddio offeryn o’r blaen, yn ymgymryd â rôl addysgu newydd, neu’n edrych i adnewyddu eu gwybodaeth.

Byddwch yn meithrin hyder wrth ddefnyddio technolegau fel Blackboard, Turnitin, Panopto, Microsoft Copilot, a Vevox, yn ogystal â dysgu am brosesau allweddol sy’n cefnogi dysgu, addysgu ac asesu.

Mae’r sesiynau canlynol ar gael:

  • Become a Document Pro
  • Introduction to Blackboard Ally
  • Cyflwyniad i Blackboard Ultra
  • Introduction to Component Marks Transfer
  • Introduction to Microsoft Copilot for Learning and Teaching Activities
  • Cyflwyniad i’r Offer Recordio Darlithoedd trwy Panopto ac Offer yr Ystafelloedd Dysgu (dwyieithog)
  • Cyflwyniad i Turnitin (dwyieithog)
  • Introduction to Vevox Polling Software

E-ddysgu Uwch:   

Mae ein sesiynau E-ddysgu uwch yn canolbwyntio ar ddylunio a chreu gweithgareddau dysgu sy’n ennyn diddordeb gan ddefnyddio offer digidol yng nghyd-destun eich addysgu chi eich hun.

Bydd y gweithdai ymarferol hyn yn eich helpu i edrych ar ddulliau arloesol o ddylunio’r dysgu, asesu, ystyried hygyrchedd a meithrin cyswllt â myfyrwyr, â’ch galluogi i ddefnyddio amgylchedd dysgu digidol y Brifysgol yn fwy effeithiol.

Mae’r sesiynau canlynol ar gael: 

  • Becoming an Alternative Text Pro
  • Design Interactive Online Learning Activities Using Blackboard Discussions and Journals
  • Designing Blackboard Tests
  • Designing Learning and Teaching Activities Using Vevox
  • Introduction to the Blackboard AI Design Assistant
  • Measuring and Increasing student engagement using Blackboard Tools 
  • Peer Assessment with Turnitin
  • Preparing for Your Blackboard Exam
  • Using the Advanced Features of Panopto

Rhagoriaeth E-Ddysgu: 

Mae ein rhaglen Rhagoriaeth E-ddysgu wedi’i chynllunio ar gyfer cydweithwyr sydd am greu profiadau dysgu digidol rhagorol a sicrhau bod eu cyrsiau yn cyd-fynd â’r arferion gorau cydnabyddedig.

Yn seiliedig ar y cyfarwyddiadau ar gyfer Gwobr Cwrs Eithriadol Blackboard, mae’r sesiynau hyn yn edrych ar elfennau allweddol dylunio cwrs o ansawdd uchel ac addysgeg ddigidol effeithiol.  Er bod y sesiynau wedi’u cynllunio yn gyfres pedair rhan sy’n cyflenwi ei gilydd, mae croeso i chi ddod i sesiynau unigol yn ôl eich diddordebau a’ch anghenion.

Mae’r sesiynau canlynol ar gael: 

  • Exemplary Assessment Design
  • Exemplary Course Design
  • Exemplary Interaction and Collaboration
  • Exemplary Learner Support
  • Submitting an Exemplary Course Award
  •  

Rydym wedi ymrwymo i wneud ein hyfforddiant mor hygyrch a chynhwysol â phosibl.  Os nad ydych yn gallu dod i sesiwn ond byddech yn hoffi gallu defnyddio’r deunyddiau hyfforddi, neu os hoffech drafod unrhyw agwedd ar fformat y sesiwn neu ofynion hygyrchedd, cysylltwch â’r Grŵp Addysg Ddigidol yn eddysgu@aber.ac.uk.

Edrychwn ymlaen at eich gweld mewn digwyddiad cyn hir.

Beth sy’n Newydd yn Blackboard mis Awst 2026   

Yn y diweddariad ym mis Awst, hoffem dynnu eich sylw at y gwelliannau Blackboard canlynol:    

  • Rheoli aelodaeth grŵp drwy lusgo a gollwng   
  • Creu mwy nag un grŵp ar yr un pryd  
  • Gwneud hysbysiadau yn fwy cywir a dibynadwy  
  • Ychwanegu rheolyddion didoli ar gyfer defnyddwyr Trafodaethau  
  • Gwedd grid Llyfr Graddau wedi’i ailstrwythuro (Hyfforddwyr)  
  • Allforio banciau cwestiynau (Hyfforddwyr)    
  • Dangos adborth lefel ateb ar gyfer opsiynau a ddewisir yn unig (Hyfforddwyr a Myfyrwyr)  
  • Llywio trwy gyrsiau’n gyflymach gyda rhyngwyneb defnyddiwr gwell  
  • Gosod amodau rhyddhau yn seiliedig ar gyflwyniadau dyddlyfr 

Rheoli aelodaeth grŵp drwy lusgo a gollwng  

Mae rheoli grwpiau bellach yn gyflymach diolch i nodweddion llusgo a gollwng newydd.  

Hyfforddwyr 

O’r ardal rheoli Grwpiau, gall hyfforddwyr nawr wneud y canlynol:   

  • Llusgo myfyrwyr yn uniongyrchol i grŵp o’r rhestr ‘heb eu clustnodi’.  
  • Tynnu myfyrwyr unigol o grŵp heb orfod clirio pob aelod.  
  • Parhau i ddefnyddio’r dulliau sy’n bodoli eisoes ar gyfer aseiniadau ochr yn ochr â llusgo a gollwng. 

Mae hyn yn ei gwneud hi’n llawer haws creu ac addasu grwpiau, yn enwedig wrth wneud newidiadau bach i aelodaeth neu gydbwyso myfyrwyr ar draws sawl grŵp.  

Delwedd 1:  Gall hyfforddwyr lusgo a gollwng myfyrwyr i’w clustnodi i grŵp. 

Delwedd 2:  Gall hyfforddwyr dynnu myfyrwyr unigol o grŵp yn hytrach na’u tynnu i gyd ar unwaith. 

Creu mwy nag un grŵp ar yr un pryd 

Mae sefydlu grwpiau hefyd wedi dod yn llawer mwy effeithlon.  

Hyfforddwyr 

Yn hytrach na chreu grwpiau fesul un, gall hyfforddwyr nawr greu sawl grŵp mewn un weithred.  Gellir cynhyrchu unrhyw nifer rhwng dau a 5,000 o grwpiau ar y tro, gan wneud y broses sefydlu yn llawer cyflymach ar gyfer modiwlau mawr.  

Ar ôl creu grwpiau, gellir ychwanegu aelodau â llaw, eu mewnforio, neu eu clustnodi’n awtomatig.  

Dyma rai pethau i’w nodi:  

  • Wrth ddefnyddio Clustnodi yn awtomatig, mae Blackboard yn creu’r nifer angenrheidiol o grwpiau yn seiliedig ar faint y grŵp a ddewiswyd gennych chi.  
  • Wrth ddefnyddio Hunan-gofrestru, mae tri grŵp yn cael eu creu’n awtomatig.  Mae unrhyw grwpiau ychwanegol a grëwyd trwy’r opsiwn creu swmp yn cael eu hychwanegu at y grwpiau hynny sy’n bodoli eisoes.  

Mae’r diweddariad hwn yn lleihau’n sylweddol ar faint o ailadrodd sydd ei angen yn y broses sefydlu wrth baratoi gweithgareddau cydweithredol.  

Delwedd 1:  Gall hyfforddwyr nawr greu sawl grŵp ar yr un pryd yn hytrach na’u hychwanegu fesul un.   

Delwedd 2:  Gall hyfforddwyr nodi faint o grwpiau i’w creu ar y tro, gan greu o leiaf 2 a hyd at uchafswm o 5,000. 

Gwneud hysbysiadau yn fwy cywir a dibynadwy 

Mae Blackboard wedi gwella dibynadwyedd ei system hysbysu trwy drwsio sawl peth a oedd o’r blaen yn achosi hysbysiadau coll, rhai wedi’u dyblygu neu wedi’u camamseru.  

Hyfforddwyr a myfyrwyr  

Mae’r gwelliannau yn cynnwys y canlynol:   

  • Dim ond ar gyfer y grwpiau y maent yn aelodau ohonynt mewn gwirionedd y mae myfyrwyr yn cael hysbysiadau yn rhybuddio am ddyddiadau cau sydd i ddod neu’n hwyr. 
  • Mae hysbysiadau dyblyg wedi’u dileu ar gyfer Trafodaethau Grŵp sydd wedi’u copïo.  
  • Mae hysbysiadau ar gyfer trafodaethau, blogiau, dyddlyfrau, a wikis bellach yn gweithio’n gywir ar ôl copïo cynnwys y cwrs.  
  • Mae’r e-byst sy’n crynhoi negeseuon bellach yn cynnwys gwybodaeth am ddiweddariadau graddau a graddau wedi’u clirio.  
  • Nid yw’r e-byst crynhoi sydd heb gyrraedd pen eu taith bellach yn dangos, yn anghywir, eu bod wedi cyrraedd.    
  • Dim ond ar ôl y dyddiad dechrau a bennir y mae e-byst Cyhoeddiadau yn cael eu hanfon gan sicrhau nad yw myfyrwyr yn cael y negeseuon cyn i’r cynnwys fod ar gael.  

Dylai’r newidiadau hyn leihau’r llif o hysbysiadau diangen gan roi sicrwydd bod y rhybuddion a geir yn adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd mewn cwrs.  

Ychwanegu rheolyddion didoli ar gyfer defnyddwyr Trafodaethau  

Mae’r meysydd trafod bellach yn cynnwys rheolyddion didoli i helpu defnyddwyr i ymdrin â sgyrsiau hir yn haws.  

Hyfforddwyr a myfyrwyr  

Gall defnyddwyr nawr wneud y canlynol:   

  • Trefnu postiadau yn ôl Y mwyaf newydd yn gyntaf neu Yr hynaf yn gyntaf. 
  • Dychwelyd at drafodaethau a’u gweld yn yr un drefn a ddewiswyd o’r blaen.  

Mae didoli yn ôl trefn yn berthnasol ym mhob rhan o’r trafodaethau, gan gynnwys trywydd yr atebion, ac mae’n gweithio’n gyson ar ddyfeisiau symudol.   

Mae hyn yn ei gwneud hi’n haws dilyn trafodaethau gweithredol, adolygu cyfraniadau, a dod o hyd i weithgarwch diweddar.  

Gwedd grid Llyfr Graddau wedi’i ailstrwythuro (Hyfforddwyr) 

Mae Gwedd Grid y Llyfr Graddau wedi’i ailwampio i fod yn symlach i hyfforddwyr o ran graddio.  

Ceir erthygl ar wahân gan Blackboard yn rhoi diweddariad mwy manwl ar y newidiadau hyn , ond y nod cyffredinol yw gwneud tasgau graddio yn haws i’w rheoli trwy gynllun a llif gwaith cliriach.  

Allforio banciau cwestiynau  

Gellir allforio banciau cwestiynau yn uniongyrchol o Blackboard.  

Hyfforddwyr 

O’r dudalen rheoli banciau cwestiynau, gall hyfforddwyr allforio banc cwestiynau fel ffeil a’i gadw’n lleol.  

Mae hyn yn galluogi staff i wneud y canlynol:  

  • Creu copïau wrth gefn o gynnwys asesiadau.  
  • Rhannu banciau cwestiynau gyda chydweithwyr. 
  • Ailddefnyddio cynnwys ar draws sawl cwrs. 

Mae’r broses allforio yn rhoi mwy o hyblygrwydd i hyfforddwyr wrth reoli a chadw deunyddiau asesu. 

Dangos adborth ar lefel ateb ar gyfer opsiynau a ddewisir yn unig   

Mae Blackboard wedi newid sut mae adborth yn cael ei arddangos ar gyfer cwestiynau amlddewis. 

Hyfforddwyr 

Nid oes unrhyw newidiadau i’r ffordd y mae adborth yn cael ei greu.  Gall staff barhau i ychwanegu adborth ar gyfer opsiynau ateb unigol gan ddefnyddio’r llif gwaith sy’n bodoli eisoes.  

⁠Myfyrwyr 

Ar ôl cyflwyno ymgais ar asesiad, dim ond yr adborth ar gyfer yr opsiynau ateb a ddewiswyd ganddynt mae myfyrwyr bellach yn eu gweld.   

Yn flaenorol, gallai myfyrwyr weld adborth ar gyfer pob opsiwn.  Mae’r dull newydd yn rhoi cyfarwyddyd mwy penodol ac yn atal myfyrwyr rhag gweld adborth sy’n gysylltiedig ag atebion nad oeddent wedi’u dewis.  

Mae hyn yn sicrhau bod adborth yn parhau i gael ei dargedu a’i fod yn berthnasol i ymatebion unigol. 

Llywio trwy gyrsiau’n gyflymach gyda rhyngwyneb defnyddiwr gwell 

Mae Blackboard wedi parhau â’i waith i wella’r llywio a phrofiad cyffredinol y defnyddiwr.  

Bwriad y newidiadau hyn yw:  

  • Ei gwneud hi’n haws i ddeall lle rydych chi o fewn cwrs. 
  • Lleihau camgymeriadau llywio damweiniol. 
  • Gwella cysondeb a pherfformiad. 
  • Helpu myfyrwyr i ganolbwyntio yn ystod asesiadau. 

Mae’n bwysig nodi bod strwythurau a chynnwys y cwrs yn aros yr un peth, felly nid oes angen i hyfforddwyr ail-ddylunio unrhyw beth. 

Llywio cynnwys tudalen lawn 

Mae modiwlau dysgu, ffolderi, dogfennau, asesiadau, cyfryngau, ac eitemau cynnwys eraill bellach yn agor fel tudalennau llawn yn hytrach nag mewn paneli troshaen.  

Mae agor cynnwys mewn tudalen bwrpasol yn creu profiad mwy cyson ac yn ei gwneud hi’n haws i symud yn ôl trwy ddeunyddiau’r cwrs heb golli eich lle. 

Delwedd 1:   Mae’r cynnwys bellach yn agor fel tudalen lawn gyda phenawdau a llywio cyson, yn hytrach na phaneli troshaen wedi’u pentyrru.  

Briwsion bara i ddangos y cyd-destun 

Mae tudalennau cynnwys bellach yn cynnwys llywio gan ddefnyddio briwsion bara.  

Mae briwsion bara yn dangos lle mae eitem wedi’i osod o fewn strwythur y cwrs ac yn darparu mynediad cyflym yn ôl i’r ffolderi a’r modiwlau gwreiddiol.  Maent yn cael eu cynhyrchu’n awtomatig ac nid oes angen i hyfforddwyr gymryd camau i’w sefydlu.   

Mae’r cyd-destun ychwanegol hwn yn helpu defnyddwyr i gadw golwg ar eu lleoliad o fewn y cwrs ac i symud o gwmpas yn fwy effeithlon.   

Delwedd 2:  Dyma friwsion bara ar dudalen cynnwys sy’n dangos lleoliad y defnyddiwr ac yn galluogi’r defnyddiwr i  symud yn ôl yn gyflym trwy fodiwlau a ffolderi. 

Ffordd gliriach, bwriadol i ddod allan o’r cynnwys 

Mae’r “X” porffor a ddefnyddiwyd o’r blaen i adael y cynnwys wedi’i ddisodli gan opsiwn ymadael wedi’i labelu’n glir yn yr ardal llywio.  

Mae sicrhau bod y dull rheoli ymadael yn fwy gweladwy a bwriadol yn helpu i leihau achosion o gau tudalennau yn ddamweiniol gan wneud llywio yn fwy rhagweladwy.  

Delwedd 3:  Mae’r opsiwn ymadael bellach yn rhan o’r faner lywio, gan leihau achosion o adael ar ddamwain.  

Cyflwr Ffocws ar gyfer profion ac aseiniadau (Myfyrwyr) 

Pan fydd myfyrwyr yn agor prawf neu aseiniad, mae Blackboard yn newid i gyflwr ffocws yn awtomatig.  

Mae’r olwg hon yn lleihau ymyriadau gweledol trwy leihau’r elfennau llywio nad ydynt yn hanfodol a chyflwyno sgrin asesu lanach.   

Mae’r nodwedd yn:  

  • Helpu myfyrwyr i ganolbwyntio ar asesiadau. 
  • Nid yw’n effeithio ar raddio nac ymarferoldeb. 
  • Mae’n dal i adael i fyfyrwyr lywio i rywle arall os oes angen.  
  • Nid oes angen unrhyw weithredu gan hyfforddwyr.  

Mae’r cyflwr ffocws wedi ei alluogi’n awtomatig ac ni ellir ei ddiffodd. 

Delwedd 4:  Yn y cyflwr ffocws, mae llywio nad yw’n hanfodol yn cael ei leihau fel y gall myfyrwyr ganolbwyntio ar gwblhau’r asesiad.  

Gosod amodau rhyddhau yn seiliedig ar gyflwyniadau dyddlyfr 

Gellir cysylltu amodau rhyddhau nawr â chyflwyniadau dyddlyfr.  

Hyfforddwyr 

Wrth bennu amodau rhyddhau, gall hyfforddwyr ddewis gwneud statws cyflwyno dyddlyfr yn ofyniad.   Unwaith y bydd myfyriwr yn cyflwyno’r cofnod dyddlyfr gofynnol, mae’r cynnwys cysylltiedig ar gael yn awtomatig.  

Mae’n bwysig nodi, nid oes angen i hyfforddwyr raddio’r dyddlyfr cyn i’r cynnwys gael ei ryddhau.   Mae Blackboard yn cofnodi’r cyflwyniad fel un sydd wedi’i gwblhau gan ddefnyddio’r broses olrhain cynnydd ac mae’n defnyddio’r statws hwnnw i beri i’r cynnwys gael ei ryddhau.  

Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd wrth ddylunio llwybrau dysgu strwythuredig a gweithgareddau rhagofynnol.  

Delwedd 1:   Mae hyfforddwyr yn dewis Cyfrannu (Engagement) fel y gweithgaredd sy’n ofynnol ar gyfer dyddlyfr.  

⁠Myfyrwyr 

Mae’r myfyrwyr yn cael mynediad awtomatig at gynnwys newydd unwaith y byddant yn cyflwyno’r cofnod dyddlyfr sy’n gysylltiedig â’r amod rhyddhau.  

Nid oes angen aros i’r gwaith gael ei farcio neu am gymeradwyaeth yr hyfforddwr cyn symud ymlaen, gan greu profiad dysgu llyfnach a lleihau’r oedi rhwng gweithgareddau.