Offer Pleidleisio Vevox

Distance Learner BannerMae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi bod Prifysgol Aberystwyth wedi dewis Vevox fel dull o bleidleisio. Bydd ein trwydded Vevox yn para am 3 blynedd o leiaf. 

Gallwch ddechrau arni heddiw drwy fewngofnodi i https://aberystwyth.vevox.com/ gyda’ch enw defnyddiwr a chyfrinair PA.

Rydym wedi paratoi’r deunyddiau cymorth canlynol i chi allu manteisio i’r eithaf ar yr offer pleidleisio hwn:

Mae yna hefyd ardal benodol ar weddalennau’r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu ar gyfer defnyddio offer pleidleisio wrth addysgu.

Mae Vevox yn offer pleidleisio drwy borwr y gellir ei ddefnyddio ar amrywiaeth eang o ddyfeisiau ar gyfer sefyllfaoedd addysgu ar-lein ac wyneb i wyneb.

Rydym wedi gweld astudiaethau achos gwych gan staff yn y Brifysgol ar ddefnyddio offer pleidleisio i ddarparu datrysiadau arloesol i heriau dysgu ac addysgu. Byddem wrth ein bodd yn gweithio gyda staff i greu astudiaethau achos ar ein blog neu i roi cyflwyniad yng Nghynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni. Gallwch ddod o hyd i astudiaethau achos o sefydliadau eraill gan ddefnyddio Vevox ar eu gweddalennau.

Noder, ar ôl cofrestru am y tro cyntaf, byddwch yn cael nifer o negeseuon e-bost gan Vevox. Wedi hynny, ni ddylech gael unrhyw negeseuon e-bost pellach tan y diweddariad blynyddol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch offer pleidleisio a gweithgareddau addysgu, cysylltwch â ni (udda@aber.ac.uk).

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*