Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 28/11/2022

Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.  

Digwyddiadau a gweminarau ar-lein

Adnoddau a chyhoeddiadau

Arall

Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.

Gwybodaeth bwysig: Blackboard Ultra

Blackboard Ultra icon

Yn ein post blaenorol, cyhoeddasom ein bod yn symud i Blackboard Ultra.

Ar ôl cyfarfod y Bwrdd Academaidd, gallwn gadarnhau y bydd Cam 1 prosiect Ultra, sef ‘Ultra Base Navigation (UBN)’, yn digwydd rhwng 3 a 6 Ionawr 2023.

Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn sylwi bod newidiadau wedi’u gwneud i dudalennau glanio Blackboard. Er bod UBN yn rhoi gwedd wahanol i  Blackboard, fe fydd yr un peth o ran gweithredu a chynnwys y cyrsiau.

Rydym yn bwriadu sicrhau bod defnyddwyr yn gallu defnyddio Blackboard trwy gydol y cyfnod hwn, ond fe ddylid cofio ei bod hi’n bosib y ceir rhai problemau yn ystod y cyfnod.

Ceir negeseuon pellach am UBN yn y man i helpu i baratoi’r staff a myfyrwyr

ar gyfer y newid hwn i’r tudalen glanio.

Pan fydd Cam 1 wedi’i gwblhau, bydd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn symud i Gam 2, er mwyn paratoi ar gyfer Cyrsiau Ultra ym mis Medi 2023.

Byddwn yn blogio trwy gydol y prosiect a bydd negeseuon allweddol yn cael eu cyfleu drwy’r Bwletin Wythnosol a newyddion y Gwasanaethau Gwybodaeth.

Byddwn yn darparu Cwestiynau Cyffredin ac mae gennym dudalen we bwrpasol a fydd yn datblygu wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 23/11/2022

Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.  

Digwyddiadau a gweminarau ar-lein

Adnoddau a chyhoeddiadau

Arall

Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.

Cyhoeddi’r Prif Siaradwr: Cynhadledd Fer ar Gynaliadwyedd mewn Addysg Uwch

Accessibility icons showing 3 images: a checklist, a computer workstation, an image

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein prif gyflwyniad ar gyfer y Gynhadledd Fer eleni, sy’n cael ei chynnal ar-lein drwy Teams ar 20 Rhagfyr 2022.

Bydd Dr Georgina Gough yn arwain sesiwn ar gynnwys Nodau Datblygu Cynaliadwy yn y cwricwlwm.

Mae Dr Gough yn Athro Cyswllt mewn Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste. Mae’n cydlynu cyfnewidfa wybodaeth arobryn ledled y brifysgol ym maes addysg cynaliadwyedd (KESE) ac yn mentora academyddion i allu cynnwys cynaliadwyedd yn eu dysgu a’u hymarfer proffesiynol. Mae Georgina yn arwain prosiect hirdymor sy’n mapio gweithgarwch academaidd ar sail Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig ac mae’n chwarae rhan weithredol mewn gwaith ar lefel y ddinas i gyflawni’r nodau hynny. Roedd hi’n aelod o’r panel arbenigol a ddatblygodd ganllawiau’r sector addysg uwch ar Nodau Datblygu Cynaliadwy (AU Ymlaen/ASA, 2021) ac mae’n gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr, myfyrwyr a rhanddeiliaid allanol i gynnwys cynaliadwyedd ledled addysg uwch ac i rannu arferion da yn fewnol ac yn allanol. Mae Georgina yn arwain y rhaglen MSc Ymarfer Datblygu Cynaliadwy ac yn dysgu ar fodiwlau daearyddiaeth a busnes i israddedigion, yn ogystal â chyfrannu at fodiwlau cynaliadwyedd a mentrau datblygu academaidd ledled y brifysgol.

Gallwch archebu eich lle yn awr ar gyfer y gynhadledd fer – cofrestrwch ar-lein. Byddwn yn cyhoeddi ein rhaglen lawn yn fuan.

Cyflwyniadau ar gyfer Gwobr Cwrs Nodedig 2023 Ar Agor

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Gwobr Cwrs Nodedig eleni ar agor ar gyfer cyflwyniadau gyda’r dyddiad cau am 12 canol dydd ar ddydd Llun 30 Ionawr 2023. 

Gan barhau â’r un broses â’r llynedd, mae gennym ddull symlach o ymdrin â’r wobr.

Gofynnir i ymgeiswyr amlinellu eu 3 arfer sy’n sefyll ar wahân o ran eu modiwl, cyn nodi pa feini prawf y mae’r modiwl yn eu bodloni. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno recordiad Panopto gan gynnwys taith o’r modiwl.

Os ydych chi’n ystyried cyflwyno ar gyfer y wobr, mae gennym hyfforddiant i ymgeiswyr ar:

  • 15 Rhagfyr, 10:00-11:30
  • 12 Ionawr, 14:00-15:30

Gallwch archebu lle yn y sesiynau hyfforddi hyn drwy’r dudalen Archebu Cyrsiau. 

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys y meini prawf, ar gael ar ein tudalennau gwe, lle gallwch hefyd gael mynediad i ffurflen gais.

Os ydych chi’n chwilio am syniadau, yna edrychwch ar recordiad o enillydd y llynedd ac enillwyr canmoliaeth uchel.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni (eddysgu@aber.ac.uk).

Blackboard Ultra: Cyfarfod Bwrdd Prosiect 1

Blackboard Ultra icon

Ar 3 Tachwedd, cyfarfu ein tîm cymorth cleientiaid Blackboard â Bwrdd Prosiect Ultra. Mae’r bwrdd yn cynnwys aelodau Gwasanaethau Gwybodaeth sy’n gyfrifol am y symudiad i Blackboard Ultra a chydweithwyr academaidd.

Pwrpas y cyfarfod oedd amlinellu cwmpas, cenhadaeth, gweledigaeth, ac amcanion y prosiect.

Roedd rhan o’r gweithgaredd yn cynnwys bwrdd Murol.

Ar y bwrdd Murol hwn gofynnwyd i ni roi amlinelliad o’r amcanion sefydliadol, adrannol, ac unigol roedd arnom ni eisiau eu cyflawni.

Amcanion Sefydliadol

Ein bwriad yw cynnal y profiad rhagorol a gaiff ein myfyrwyr, a gwneud yn siŵr bod y symudiad yn un cynaliadwy i’r holl staff. O safbwynt addysgeg, rydym am i ddysgu gweithredol a myfyrwyr fel partneriaid fod yn ethos ar gyfer y prosiect, a chanolbwyntio ar yr un pryd ar y ffyrdd y gellir datblygu dysgu cyfunol o bell ac asesu ar-lein. Rydym am i’r Amgylchedd Dysgu Rhithiol (ADRh) fod yn adnodd hunanwasanaeth i’n defnyddwyr i raddau helaeth, a chydymffurfio ar yr un pryd â’r ddeddfwriaeth hygyrchedd. Rydym am i ddata lifo’n ddi-dor rhwng systemau eraill a sicrhau bod mwy eglurder wrth brosesu marciau. Mae angen i Blackboard Ultra fod â delwedd glir a brand y mae ei gysylltiad ag Aberystwyth yn hawdd i’w adnabod. Dylai fod yn gwbl ddwyieithog, yn hawdd llywio o’i amgylch, ac  arbed amser i ddefnyddwyr lle bo modd. Mae cysondeb ar draws modiwlau o ran y dull llywio yn parhau i fod yn ysgogydd mawr, gyda gwaelodlin safonol o arfer gorau a thempled sefydliadol. Dylai fod cyfleoedd i staff arloesi, gydag enghreifftiau o addysgu a gweithgareddau dysgu rhagorol. Mae angen i ni wneud yn fawr o’n buddsoddiad a sicrhau bod yr ADRh yn cydymffurfio â’r GDPR.

Read More

Trafferthion gweld adborth yn Turnitin

Cawsom adroddiadau am staff a myfyrwyr yn methu gweld sylwadau adborth yn Turnitin ar aseiniadau wedi’u marcio.

Os nad ydych yn gallu gweld eich adborth, cliciwch ar y ffenest sy’n cynnwys yr aseiniad i ddangos y sylwadau yn y testun, QuickMarks, a thestun wedi’i uwcholeuo.

Rydym wedi sôn wrth Turnitin am hyn ac fe rown ddiweddariad ichi ar y mater pan fydd wedi ei ddatrys.

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 15/11/2022

Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.  

Digwyddiadau a gweminarau ar-lein

Adnoddau a chyhoeddiadau

Arall

Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.

Newidiadau i Blackboard

Distance Learner Banner

Dros y flwyddyn nesaf fe welwch rai newidiadau yn Blackboard. Mae hyn oherwydd ein bod yn dechrau symud i Blackboard Ultra.

Cam cyntaf y symud hwn fydd i Ultra Base Navigation (UBN) – bydd hyn yn newid hafan Blackboard.

Nid yw UBN yn cael unrhyw effaith ar safleoedd cyrsiau Blackboard unigol. Bydd y rhain yn aros heb eu newid tan y cam nesaf o symud i Gyrsiau Blackboard Ultra (a gynlluniwyd ar gyfer Haf 2023).

Mae symud i UBN yn ein rhoi gam ar y blaen o ran hyfforddi ac ymgyfarwyddo â Blackboard Ultra.

Bydd y dyddiad ar gyfer symud i UBN yn cael ei gyhoeddi’n fuan iawn.

Gallwch ddysgu mwy am Blackboard Ultra trwy’r Blog UDDA.

Byddwn yn defnyddio’r E-bost Wythnosol i Staff a Myfyrwyr, yn ogystal â negeseuon e–bost i gysylltiadau adrannol i roi’r newyddion diweddaraf am Ultra i chi.

Gweminar Vevox: 16 Tachwedd 2022, 2yp

Mae gweminar nesaf cyfres addysgeg Vevox yn cael ei chynnal ar 16 Tachwedd am 2yp. Yn y weminar hon, bydd Guy Aitchison, darlithydd Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Loughborough yn edrych ar ddefnyddio Vevox yn llwyddiannus mewn ystafelloedd dosbarth gwahanol.

Mae mwy o wybodaeth am y sesiwn ar dudalen we Vevox a gallwch archebu’ch lle ar-lein.

Mae ein gweddalen canllawiau PA yn rhoi cyfarwyddyd ar sut i ddefnyddio’r feddalwedd a gallwch gofrestru ar gyfer sesiynau hyfforddi rhagarweiniol Vevox, sy’n para 15 munud, bob prynhawn dydd Mawrth.