Cytundeb Trwydded Defnyddiwr a Turnitin – diweddariad

Mae’r Tîm Addysg Ddigidol yn darparu diweddariad ar Turnitin a Chytundebau Trwydded Defnyddwyr.

Efallai eich bod wedi clywed am bryderon ynghylch cytundebau trwydded defnyddiwr Turnitin a DA Cynhyrchiol.

Pan fyddwch chi’n mewngofnodi i ddefnyddio Turnitin, mae angen i staff a myfyrwyr dderbyn y telerau cytundeb i ddefnyddio’r llwyfan.

Dros yr haf, cawsom hysbysiad gan Turnitin eu bod yn diweddaru eu cytundeb trwydded, gyda’r bwriad i hyn gael ei gymhwyso i bob defnyddiwr (staff a myfyrwyr).

Yn rhan o’r cytundeb trwydded hwn, cynigiwyd y byddai cyflwyniadau myfyrwyr ac adborth staff yn cael eu defnyddio i hyfforddi modelau iaith mawr.

Roedd gennym ni, ynghyd â gweddill y sector, bryderon am hyn. Roeddem yn anhapus ynghylch sut yr oedd Turnitin yn bwriadu cyflwyno’r diweddariad hwn, heb rybudd, ac ynghylch diogelwch gwaith y myfyrwyr ac adborth y staff.

Gan weithio ochr yn ochr ag UCISA, y corff aelodaeth broffesiynol ar gyfer systemau digidol, TG a gwybodaeth o fewn addysg uwch y DU, a phrifysgolion eraill, fe wnaethom lobïo yn erbyn y newid hwn.

Yn dilyn hyn, ni wnaeth Turnitin gyflwyno’r cytundeb trwydded wedi’i ddiweddaru.

Efallai eich bod wedi gweld bod prifysgolion eraill yn dechrau symud i ffwrdd o Turnitin. Ar gyfer y flwyddyn i ddod, rydym yn parhau i ddefnyddio Turnitin.

O ran ein trwydded ein hunain, rydym yn adnewyddu yn flynyddol, ac mae gennym gontract hyd at fis Gorffennaf 2027. 

Fe wnaethon ni gynnal cynllun peilot rai blynyddoedd yn ôl i edrych ar ddichonoldeb symud i ffwrdd o Turnitin, ond ar yr adeg honno, nid oedd yr offer yn Blackboard yn bodloni ein holl ofynion. Rydym yn cadw llygad agos ar offer paru testun a chyflwyno yn Blackboard i weld a ydynt yn cynnig dewis arall hyfyw i Turnitin.

Rydym yn cwrdd â’n Rheolwr Cyfrif Cwsmeriaid Turnitin yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn, ac rydym yn gallu rhoi adborth ar ein pryderon a’n problemau. Roeddem mewn cysylltiad â nhw ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig i’r cytundeb trwydded. Rydym hefyd yn gweithio gyda chyrff sector sy’n lobïo ac yn eirioli gyda gwerthwyr meddalwedd ar ran sefydliadau AU.

Os byddai’n well gennych beidio â defnyddio Turnitin, mae gan Blackboard Assignment offer cyflwyno a marcio y gallwch eu defnyddio – mae’r holl ganllawiau ar gael ar ein tudalennau gwe, a byddem yn hapus i weithio gydag unrhyw un a hoffai newid i’w ddefnyddio. Mae’n cynnig nifer o fanteision nad oes gan Turnitin – er enghraifft, cyflwyniadau aml-ran ac aseiniadau grŵp. Fodd bynnag, mae rhai cyfyngiadau – y 2 gyfyngiad mwyaf yw nad yw marciau’n cael eu rhyddhau’n awtomatig ar ‘Ddyddiad Postio’ ac nad yw’n bosibl cyflwyno gwaith ar ran myfyrwyr.

Os oes gennych unrhyw bryderon am y diweddariad hwn, mae croeso i chi gysylltu â’r Tîm Addysg Ddigidol ar e-ddysgu@aber.ac.uk.

Hyfforddiant Addysg Ddigidol

Mae ein rhaglen hyfforddiant Addysg Ddigidol bellach yn barod i staff archebu eu lle gan ddefnyddio’r dudalen archebu i staff

Mae ein hyfforddiant wedi’i rannu ar draws 3 lefel:

Hanfodion E-Ddysgu:

Mae ein sesiynau Hanfodion E-ddysgu yn rhoi cyflwyniad ymarferol i dechnolegau dysgu digidol craidd y Brifysgol a’r polisïau sy’n cefnogi eu defnydd.  Mae’r sesiynau hyn yn ddelfrydol ar gyfer cydweithwyr sydd heb ddefnyddio offeryn o’r blaen, yn ymgymryd â rôl addysgu newydd, neu’n edrych i adnewyddu eu gwybodaeth.

Byddwch yn meithrin hyder wrth ddefnyddio technolegau fel Blackboard, Turnitin, Panopto, Microsoft Copilot, a Vevox, yn ogystal â dysgu am brosesau allweddol sy’n cefnogi dysgu, addysgu ac asesu.

Mae’r sesiynau canlynol ar gael:

  • Become a Document Pro
  • Introduction to Blackboard Ally
  • Cyflwyniad i Blackboard Ultra
  • Introduction to Component Marks Transfer
  • Introduction to Microsoft Copilot for Learning and Teaching Activities
  • Cyflwyniad i’r Offer Recordio Darlithoedd trwy Panopto ac Offer yr Ystafelloedd Dysgu (dwyieithog)
  • Cyflwyniad i Turnitin (dwyieithog)
  • Introduction to Vevox Polling Software

E-ddysgu Uwch:   

Mae ein sesiynau E-ddysgu uwch yn canolbwyntio ar ddylunio a chreu gweithgareddau dysgu sy’n ennyn diddordeb gan ddefnyddio offer digidol yng nghyd-destun eich addysgu chi eich hun.

Bydd y gweithdai ymarferol hyn yn eich helpu i edrych ar ddulliau arloesol o ddylunio’r dysgu, asesu, ystyried hygyrchedd a meithrin cyswllt â myfyrwyr, â’ch galluogi i ddefnyddio amgylchedd dysgu digidol y Brifysgol yn fwy effeithiol.

Mae’r sesiynau canlynol ar gael: 

  • Becoming an Alternative Text Pro
  • Design Interactive Online Learning Activities Using Blackboard Discussions and Journals
  • Designing Blackboard Tests
  • Designing Learning and Teaching Activities Using Vevox
  • Introduction to the Blackboard AI Design Assistant
  • Measuring and Increasing student engagement using Blackboard Tools 
  • Peer Assessment with Turnitin
  • Preparing for Your Blackboard Exam
  • Using the Advanced Features of Panopto

Rhagoriaeth E-Ddysgu: 

Mae ein rhaglen Rhagoriaeth E-ddysgu wedi’i chynllunio ar gyfer cydweithwyr sydd am greu profiadau dysgu digidol rhagorol a sicrhau bod eu cyrsiau yn cyd-fynd â’r arferion gorau cydnabyddedig.

Yn seiliedig ar y cyfarwyddiadau ar gyfer Gwobr Cwrs Eithriadol Blackboard, mae’r sesiynau hyn yn edrych ar elfennau allweddol dylunio cwrs o ansawdd uchel ac addysgeg ddigidol effeithiol.  Er bod y sesiynau wedi’u cynllunio yn gyfres pedair rhan sy’n cyflenwi ei gilydd, mae croeso i chi ddod i sesiynau unigol yn ôl eich diddordebau a’ch anghenion.

Mae’r sesiynau canlynol ar gael: 

  • Exemplary Assessment Design
  • Exemplary Course Design
  • Exemplary Interaction and Collaboration
  • Exemplary Learner Support
  • Submitting an Exemplary Course Award
  •  

Rydym wedi ymrwymo i wneud ein hyfforddiant mor hygyrch a chynhwysol â phosibl.  Os nad ydych yn gallu dod i sesiwn ond byddech yn hoffi gallu defnyddio’r deunyddiau hyfforddi, neu os hoffech drafod unrhyw agwedd ar fformat y sesiwn neu ofynion hygyrchedd, cysylltwch â’r Grŵp Addysg Ddigidol yn eddysgu@aber.ac.uk.

Edrychwn ymlaen at eich gweld mewn digwyddiad cyn hir.

Turnitin a Blackboard Assignment

Os ydych chi’n defnyddio Blackboard Assignment ar gyfer eich asesiad, efallai y bydd gennych ddiddordeb yn ein diweddariad diweddaraf. Gall staff nawr ddefnyddio nodweddion Blackboard Assignment a chael Adroddiad Tebygrwydd gan Turnitin.

Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer aseiniadau aml-ran a ffeiliau aseiniad sy’n rhy fawr i ddefnyddio Turnitin. Fel elfennau eraill o Blackboard, mae Aseiniad ar gael yn Gymraeg i staff a myfyrwyr. Mae hefyd yn golygu eich bod yn cael manteision Blackboard Assignment (megis derbynneb electronig i fyfyrwyr) yn ogystal â gallu defnyddio’r un Adroddiad Tebygrwydd â chydweithwyr eraill.

Os ydych chi eisoes yn defnyddio Blackboard Assignment, rydym yn eich annog i roi cynnig ar y nodwedd Turnitin newydd. Mae ein Canllaw yn cynnwys yr holl wybodaeth i’ch helpu i ddechrau arni. Mae cyflwyno a marcio yn aros yr un fath, ond rydych chi’n cael yr Adroddiad Tebygrwydd ychwanegol ochr yn ochr â’ch marcio.

Byddai gennym ddiddordeb hefyd mewn cael eich adborth – yn ystod y flwyddyn, byddwn yn cysylltu â chi am adborth ar ddefnyddio’r integreiddiad Turnitin newydd hwn.

Adnoddau ar gyfer Asesu gan Gyd-fyfyrwyr ar gael yn ein hamgylchedd dysgu rhithwir

Yn ddiweddar, fe wnaethom gynnal ein sesiwn E-ddysgu Uwch: Defnyddio Turnitin ar gyfer Asesu gan Gyd-fyfyrwyr, ac rydym yn awyddus i dynnu’ch sylw at y gwahanol adnoddau sydd ar gael at ddibenion Asesu gan Gyd-fyfyrwyr ar draws ein Llwyfan Addysg Ddigidol.

Mae gweithgareddau Asesu gan Gyd-fyfyrwyr yn cynnig nifer o fanteision i fyfyrwyr:

  • Caniatáu i fyfyrwyr fuddsoddi yn eu dysgu eu hunain, a’i reoli
  • Profiadau dysgu a rennir
  • Myfyrio ar yr hyn maent yn ei ddysgu
  • Ystyried cyfathrebu a llunio adborth
  • Datblygu sgiliau sgwrsio a chydweithio
  • Gwella’u cyflawniadau academaidd
  • Rhannu cyfrifoldeb am ddysgu
  • Datblygu sgiliau i’r gweithle yng nghyswllt llunio adborth
  • Mewn sefyllfaoedd grŵp, adnabod cyfraniadau’r cyfranogwyr
  • Adborth cyflym
  • Adeiladu cymuned ddysgu

Yn ôl Liu & Carless (2006), “mae asesu gan gyd-fyfyrwyr ac adborth gan gyd-fyfyrwyr … yn galluogi myfyrwyr i chwarae rhan weithredol wrth reoli eu dysgu eu hunain” (280). 

Os hoffech ymchwilio i’r pwnc hwn ymhellach, rydym yn argymell:

Liu, N.-F. & Carless, D. (2006) Peer feedback: the learning element of peer assessment. Teaching in higher education. [Ar-lein] 11 (3), 279–290.

Lynch, R., Mannix McNamara, P. & Seery, N. (2012) Promoting deep learning in a teacher education programme through self- and peer-assessment and feedback, European Journal of Teacher Education, 35:2, 179-197, DOI: 10.1080/02619768.2011.643396

Zhu, Q. & Carless, D. (2018) Dialogue within peer feedback processes: clarification and negotiation of meaning. Higher education research and development. [Ar-lein] 37 (4), 883–897.

Mae gennym nifer o adnoddau at ddibenion asesu gan gyd-fyfyrwyr:

Blackboard Assignment for Peer Assignments

Gallwch ychwanegu Cyfarwyddiadau at yr aseiniad – bydd y myfyriwr yn eu gweld wrth gyflwyno eu gwaith.

Llif Gwaith

  1. Crëwch Aseiniad a gosod y gosodiadau Asesu Cyd-fyfyrwyr (gweler Peer Review for Qualitative Peer Assessments)
  2. Mae’r myfyrwyr yn cyflwyno eu gwaith yn y modd arferol (gweler Gwefan Blackboard)
  3. Ar ôl i’r dyddiad a’r amser cyflwyno fynd heibio, mae’r myfyrwyr yn adolygu’r gwaith a gyflwynwyd, gweler Gwefan Blackboard
  4. Ar ôl Dyddiad Cyflwyno’r Adolygiadau gan Gyd-fyfyrwyr, mae’r staff yn cwblhau’r marcio (gweler Gwefan Blackboard)
  5. Mae’r myfyrwyr yn gweld adborth y staff, adborth eu cyd-fyfyrwyr a marc terfynol

Sylwer:

  1. Ni fydd unrhyw adolygiadau yn cael eu neilltuo i fyfyrwyr os na fydd digon o aseiniadau yn cael eu cyflwyno.
  2. Bydd cyflwyniadau hwyr yn cael eu neilltuo i fyfyrwyr. Caniateir cyflwyno’n hwyr yn awtomatig fel rhan o’r broses asesu gan gyd-fyfyrwyr.
  3. Nid yw myfyrwyr yn gweld unrhyw enwau yn rhan o’r broses adolygu. Dylech gynghori pob myfyriwr i beidio â chynnwys gwybodaeth bersonol ar eu dogfennau.
  4. Gall myfyrwyr ddarparu adborth ysgrifenedig yn y broses adolygu ond ni allant bennu marc (oni bai bod hyn wedi’i gynnwys yn y blwch testun adborth)
  5. Gallwch ychwanegu Cyfarwyddiadau at yr aseiniad – bydd y myfyriwr yn eu gweld wrth gyflwyno eu gwaith a gallant gyfeirio atynt wrth adolygu gwaith eraill. Fodd bynnag, ni allant ei ddefnyddio i farcio gwaith.
  6. Gallwch guddio adolygiadau gan gyd-fyfyrwyr os ydych chi’n teimlo nad yw’r cynnwys yn briodol

Turnitin PeerMark

Llif Gwaith

  1. Crewch Aseiniad Turnitin a galluogi PeerMark
  2. Ewch yn ôl i Turnitin Assignment i osod Gosodiadau PeerMark
  3. Myfyrwyr yn cyflwyno eu gwaith trwy fan cyflwyno Turnitin
  4. Ar ôl dyddiad dechrau PeerMark, bydd myfyrwyr yn gallu gweld aseiniad myfyriwr arall a gadael adborth / sgoriau i gwestiynau
  5. Mae adborth PeerMark yn weladwy i fyfyrwyr ar unwaith
  6. Bydd angen i’r darlithydd roi marc terfynol â llaw

Canllawiau:  

Trosolwg o PeerMark: https://help.turnitin.com/feedback-studio/turnitin-website/instructor/peermark/about-peermark-assignments.htm

Creu Aseiniad PeerMark: https://help.turnitin.com/feedback-studio/turnitin-website/instructor/peermark/about-peermark-assignments.htm

Canllawiau i fyfyrwyr ar ddefnyddio PeerMark: https://help.turnitin.com/feedback-studio/turnitin-website/student/student-category.htm#peermark

Trafodaethau

Mae trafodaethau ar gael ym mhob cwrs yn Blackboard – mae’r rhain yn ffordd wych i fyfyrwyr ymwneud â’u cyd-fyfyrwyr yn anghydamserol; Gallant bostio sylwadau ac ymateb i’w cyfraniadau ei gilydd.

Llif Gwaith

  1. Yr hyfforddwr yn creu Trafodaeth
  2. Y myfyrwyr yn cyfrannu at y Drafodaeth
  3. Y myfyrwyr yn ymateb i gyfraniadau eraill yn y Drafodaeth

Am gyngor pellach ar greu trafodaethau, gweler y canllawiau Blackboard isod:

Dyddiaduron

Llif Gwaith

  1. Yr hyfforddwr yn creu Dyddiadur (preifat rhwng hyfforddwr a myfyriwr)
  2. Y myfyrwyr yn myfyrio’n wythnosol ar eu cyfraniadau i’r prosiect
  3. Mae gan yr hyfforddwr drosolwg o waith y myfyriwr ac mae’n ei fonitoro.
  4. Gellir eu defnyddio i alluogi myfyrwyr i roi syniad o’u cyfraniadau i waith grŵp trwy gydol y broses

Creu Dyddiaduron: https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Ultra/Interact/Journals

Canllawiau i fyfyrwyr

https://journals.sagepub.com/doi/full/10.1177/1469787416654794 – mae’r erthygl hon yn cynnwys canllawiau i fyfyrwyr. Mae’n awgrymu y dylid darparu sesiwn i fyfyrwyr ar sut i lunio adborth.

https://www.tandfonline.com/doi/full/10.1080/02602938.2019.1697424

“Er mwyn i adolygu gan gyd-fyfyrwyr yn yr ystafell ddosbarth fod yn effeithiol, mae yna dystiolaeth glir bod y broses angen strwythur, meini prawf asesu clir a hygyrch a sesiynau sgaffaldio priodol i fyfyrwyr (Mangelsdorf 1992).”

https://www.ctl.ox.ac.uk/peer-feedback – canllaw sy’n cynnwys cwestiynau defnyddiol ac awgrymiadau y gellid eu defnyddio i strwythuro adborth.

Mae adborth gan gyd-fyfyrwyr wedi cael ei ddefnyddio’n eang o fewn asesiadau grŵp, er enghraifft, fel ffordd o gadarnhau cyfranogiad myfyrwyr, ac wrth ystyried cyfraniadau i waith grŵp. Am enghraifft o daflen farcio ar gyfer grŵp, gweler y templed sampl yma o Brifysgol Carnegie Mellon.

Mae taflen Fforwm yr Academi ar Asesu gan Gyd-fyfyrwyr yn darparu rhagor o wybodaeth ac Astudiaethau Achos o Brifysgol Aberystwyth.

Ôl-dynnu Ap Turnitin

Mae Turnitin wedi cyhoeddi eu bod yn ôl-dynnu’r ap Turnitin ar ddiwedd y flwyddyn, Rhagfyr 2025.

Bydd yr Ap iPad Feedback Studio yn cael ei ôl-dynnu ac ni fydd ar gael mwyach. Gall hyfforddwyr barhau i gael mynediad at Feedback Studio fel arfer drwy Blackboard. Mae hyn yn cynnwys dyfeisiau symudol a thabledi.

Mae Turnitin yn gweithio ar ddatblygu Aseiniad Safonol Newydd, fel y gall hyfforddwyr adolygu a darparu adborth ar waith myfyrwyr o dabledi heb fod angen ap ar wahân. Byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth newydd hwn maes o law.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am hyn, mae croeso i chi gysylltu â ni (eddysgu@aber.ac.uk)..