Astudiaethau Achos ar Offer Rhyngweithiol Blackboard – Profion

Mae’r ail astudiaeth achos ar ddefnyddio offer rhyngweithiol Blackboard yn dangos defnydd effeithiol o brofion ar gyfer asesiadau adolygol a ffurfiannol gan Dr Ruth Wonfor o IBERS.

  • Pa offeryn ydych chi’n ei ddefnyddio a sut?

Rwy’n defnyddio profion Blackboard un ai ar gyfer profion adolygol neu brofion ffurfiannol yn y rhan fwyaf o’m modiwlau.

  • Pam dewis yr offeryn hwn?

Rydw i wedi dewis defnyddio profion Blackboard am amrywiaeth o resymau. O ran y profion adolygol, rydw i wedi eu defnyddio mewn modiwl i’r flwyddyn gyntaf ar anatomeg a ffisioleg. Mae’r modiwl hwn yn rhoi llawer o wybodaeth sylfaenol ar fywydeg elfennol a ddefnyddir gan y myfyrwyr ym modiwlau’r dyfodol, felly roedd arna i eisiau cynllunio asesiad a fyddai’n fodd i roi prawf ar amrywiaeth eang o bynciau ar draws y modiwl sy’n bodloni canlyniadau dysgu eithaf eang. Mae profion aml-ddewis wedi gweithio’n dda iawn ar gyfer hyn ac mae’n cyd-fynd yn dda â’r gwaith rwy’n ei wneud yn y modiwl i geisio annog y myfyrwyr i ddefnyddio cardiau fflach i ddysgu. Mae budd y cardiau fflach yn amlwg i’r myfyrwyr yn y prawf hwn.

Ar gyfer yr asesiadau ffurfiannol, rydw i wedi dewis defnyddio profion Blackboard am amrywiaeth o resymau. Yn y gorffennol, rydw i wedi tueddu i’w defnyddio fel ffordd i fyfyrwyr brofi eu dealltwriaeth ar ddiwedd pwnc. Ond, yn ystod y cyfnod o ddysgu ar-lein rydw i wedi dechrau eu defnyddio i ofyn cwestiynau y byddwn i wedi eu gofyn yn y ddarlith i wneud yn siŵr bod pawb yn deall. Mae hyn wedi bod yn wych er mwyn fy helpu i strwythuro’r addysg a gwneud yn siŵr nad yw’r myfyrwyr yn brysio ymlaen i adrannau newydd heb ddeall yn iawn beth oedd angen iddynt ei wneud yn yr adran flaenorol.

  • Sut wnaethoch chi gynllunio’r gweithgaredd gyda’r offeryn hwn?

Rwy’n cynllunio’r profion Blackboard yn unol â’u defnydd yn llwyr. Mae’r profion adolygol yn eithaf anhyblyg gyda chwestiynau aml-ddewis yn unig. Rwy’n tueddu i ddefnyddio cwestiynau safonol eu ffurf; dewis yr ateb cywir i gwestiwn, dewis y datganiad cywir neu ofyn at ba strwythur yn y ddelwedd mae saeth yn pwyntio. Yn ystod cyfnod Covid-19 pan oedd y myfyrwyr yn sefyll y profion hyn gartref, rydw i wedi bod yn cynnwys rhywfaint o gwestiynau ateb byr yn y prawf aml-ddewis hefyd. Mae’r cwestiynau hyn wedi gweithio’n dda iawn er mwyn atal myfyrwyr rhag chwilio am yr ateb i bob cwestiwn aml-ddewis ac wedi rhannu’r marciau’n dda.

Rwy’n defnyddio ystod ehangach o opsiynau ar gyfer y profion ffurfiannol er mwyn cyd-fynd â’r hyn rydw i eisiau i’r myfyrwyr ei ddysgu. Er enghraifft, rydw i wedi defnyddio’r cwestiynau paru ar ôl mynd trwy’r derminoleg, fel bod yn rhaid i’r myfyrwyr baru’r termau â’r disgrifiad cywir. Rydw i hefyd yn ceisio defnyddio’r adborth i’r cwestiynau ffurfiannol hyn i annog y myfyrwyr i lywio eu dysg eu hunain. Felly yn hytrach na dweud wrth y myfyrwyr eu bod wedi ateb cwestiwn yn anghywir a rhoi’r ateb cywir iddynt, rwy’n defnyddio’r adborth i gyfeirio’r myfyrwyr at y sleid neu’r rhan o’r ddarlith lle mae’r ateb i’w gael. Y gobaith yw bod hyn yn eu hannog i strwythuro mwy ar eu gwaith dysgu ac adolygu.

Yn olaf, yn ystod y cyfnod o ddysgu ar-lein rydw i’n gweld bod rhyddhau deunyddiau’n ymaddasol (adaptive release) ar y cyd â’r profion BB yn fuddiol iawn er mwyn strwythuro pynciau. Byddaf yn aml yn dechrau rhai darlithoedd trwy adolygu rhywfaint o wybodaeth y dylai’r myfyrwyr fod wedi ei astudio yn y modiwlau blaenorol sy’n sail i’r pwnc y byddwn yn ei astudio yn y sesiwn honno. Felly rydw i wedi defnyddio profion BB i wneud y gwaith adolygu hwn. Rwy’n defnyddio’r adborth i gyfeirio’r myfyrwyr at wybodaeth bellach os oes angen iddynt roi sglein ar eu dealltwriaeth ac yna’n defnyddio dull rhyddhau deunyddiau’n ymaddasol i ryddhau’r pwnc iddynt ar ôl iddynt roi cynnig ar y cwis adolygu yn unig. Mae’r myfyrwyr yn cael cyfarwyddiadau clir er mwyn gallu rhoi cynnig ar y cwis a byddant wedyn yn cael mynd ymlaen i bwnc y ddarlith. Roedd hyn i weld yn gweithio’n dda ac felly rwy’n gobeithio dal ati gyda hyn er mwyn rhoi’r gorau i adolygu yn y darlithoedd a threulio mwy o amser yn defnyddio’r wybodaeth a ddysgir yn y darlithoedd.

  • Beth yw barn eich myfyrwyr am yr offeryn hwn?

Rydw i wedi cael adborth eithaf da gan y myfyrwyr ar y profion BB. Mae llawer ohonynt wedi sôn eu bod yn eu helpu i astudio a mynd dros bynciau er mwyn deall lle mae angen iddynt ymdrechu fwy gyda’u hastudiaeth bellach. Rydw i hefyd wedi helpu i leihau gorbryder myfyrwyr ynglŷn â’r profion adolygol terfynol trwy ddefnyddio profion ffurfiannol trwy gydol y modiwl. Gan fod y prawf adolygol rwy’n ei ddefnyddio yn un ar fodiwl y flwyddyn gyntaf yn semester 1, mae’r myfyrwyr yn aml yn eithaf pryderus ynglŷn â’r hyn i’w ddisgwyl ar lefel prifysgol. Gallaf felly eu cyfeirio at y profion ffurfiannol fel enghreifftiau o lefel y cwestiynau y bydd disgwyl iddynt eu hateb yn yr arholiad.

  • Oes gennych chi unrhyw gyngor defnyddiol i bobl sydd eisiau defnyddio’r offeryn hwn?

Fy mhrif gyngor fyddai rhoi digon o amser i chi’ch hun i lunio’r profion. Mae’r cam cychwynnol o ysgrifennu cwestiynau ac adborth da i’r myfyrwyr yn cymryd peth amser. Ond ar ôl i chi dreulio’r amser hwnnw, mae’r profion yn barod i’w defnyddio bob blwyddyn. Heb os, mae’n werth yr amser a dreulir er mwyn helpu’r myfyrwyr ac i gael syniad o’u dealltwriaeth, a gweld lle gall fod angen rhoi mwy o eglurhad ar bynciau. Gwnewch yn siŵr hefyd eich bod yn sefyll y profion eich hun! Wrth wneud y prawf fy hun, rydw i wedi sylwi ar ambell i gamgymeriad neu gwestiynau sydd angen bod yn fwy eglur ac mae’n ddefnyddiol iawn er mwyn gweld sut bydd fformat terfynol y cwestiynau yn ymddangos i’r myfyrwyr.

Hoffem ddiolch i Dr Ruth Wonfor am rannu ei phrofiadau o ddefnyddio profion Blackboard.

Os hoffech chi ddysgu mwy am brofion, rhowch gip ar yr wybodaeth yn Blackboard Tests – Creating Online Assessment Activities for your Students a’r Cwestiynau Cyffredin.

Os ydych chi’n bwriadu defnyddio profion Blackboard yn ddull o arholi ar-lein, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*