
Rydyn ni wrthi’n gweithio ar gyfres o astudiaethau achos er mwyn rhannu arferion wrth ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol mewn Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu.
Yn y gyfres yma o flogiadau, bydd cydweithwyr sy’n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol wrth addysgu yn rhannu sut yr aethon nhw ati i ddylunio’r gweithgareddau hyn.
Mae’n bleser croesawu Dr Gareth Hoskins (tgh@aber.ac.uk) o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn y blogiad yma.
Astudiaeth Achos # 3: Gwerthusiad Ystafell Ddosbarth o AI Cynhyrchiol yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Beth yw’r gweithgaredd?
Gwerthusiad yn y dosbarth oedd hwn, o grynodeb a gynhyrchwyd gan ddeallusrwydd artiffisial (AI) o’r cysyniad gwyddonol ‘cof bylb fflachio’ fel rhan o ddarlith ar ‘gof unigol’ yn y modiwl daearyddiaeth ddynol/cymdeithaseg yn y drydedd flwyddyn GS37920 Diwylliannau’r Cof: treftadaeth, hunaniaeth a phŵer.
Ysgoges i ChatGPT gyda’r cyfarwyddyd: “Create 200 word summary of the concept flashbulb memory”, creu sgrinlun o’r testun a ddeilliodd o hynny a’i ymgorffori yn fy sleidiau darlith gan roi tair munud i’r dosbarth ei ddarllen a’i drafod wrth eu byrddau gan ofyn yn benodol am ymatebion i’r cwestiynau hyn:
- Pa ragfarnau y mae’r cynnwys yn eu creu?
- Buddiannau pwy sy’n cael eu gwasanaethu?
- O ble mae’r ffynonellau’n dod?

Beth oedd canlyniadau’r gweithgaredd?
Wnaeth y drafodaeth ddim cyffwrdd yn ormodol â’r cwestiynau ofynnes i ond canolbwyntio’n fwy ar gynnwys ChatGPT lle roedd y myfyrwyr yn llawer mwy beirniadol o’r cynnwys nag roeddwn i wedi’i ddisgwyl. Nodwyd y dôn ddiflas, yr ailadrodd, yr ansicrwydd ynghylch ffeithiau, yr ymagwedd amwys a’r diffyg pendantrwydd yn gyffredinol. Dangosodd y myfyrwyr hynny fesur annisgwyl o lythrennedd AI cynhyrchiol a gafodd ei gyfleu i’r dosbarth yn ei gyfanrwydd. Yn ystod y trafod, daeth y myfyrwyr yn fwy ymwybodol o ddefnyddioldeb offer AI cynhyrchiol, yn fwy cyffyrddus yn siarad am sut maen nhw’n ei ddefnyddio a sut y gallen nhw o bosibl fynd ymlaen i’w ddefnyddio, a sut y gallai ei gyfyngiadau a’i wendidau effeithio ar y cynnwys y mae’n ei gynhyrchu.
Datblyges i’r ymarfer drwy ddefnyddio tudalen gwe canllawiau UCL ‘Designing Assessments for an AI-enabled world’ https://www.ucl.ac.uk/teaching-learning/generative-ai-hub/designing-assessments-ai-enabled-world ac ail-lunies i fy nghwestiynau arholiad ar y modiwl i gael gwared ar arfarniadau generig o gyfraniadau academyddion enwog at wahanol drafodaethau yn y ddisgyblaeth gan eu disodli â chwestiynau damcaniaethol wedi’u seilio ar senarios oedd yn llawer mwy cymhwysol.
Sut cafodd y gweithgaredd ei gyflwyno i’r myfyrwyr?
Y bwriad oedd cydnabod ein bod yn bodoli mewn byd sydd wedi’i alluogi gan AI sy’n creu cyfleoedd ond hefyd problemau ar gyfer dysgu. Defnyddies i’r ymarfer i gyflwyno’r risgiau sy’n ymwneud ag asesu, ac amlinellu fy strategaeth fy hun ar gyfer asesu ar y modiwl yma drwy ddefnyddio cwestiynau arholiad sydd wedi’i seilio ar broblemau mewn bywyd go iawn ac sy’n gofyn am ddefnyddio sgiliau lefel uwch mewn gwerthuso a meddwl yn feirniadol wedi’u cymhwyso at gynnwys “modiwl-yn-unig” a chyhoeddiadau academaidd diweddar y mae offer ysgrifennu traethodau AI cynhyrchiol yn ei chael yn anodd i’w cyrchu.
Sut helpodd hyn gyda’u gwaith dysgu nhw?
Helpodd y gweithgaredd y myfyrwyr i ddod yn fwy cyfarwydd â defnyddio AI cynhyrchiol fel “cynorthwyydd ymchwil” (at greu amlinelliadau a dod o hyd i ffynonellau) a chreodd amgylchedd ar gyfer trafodaeth agored am gyfyngiadau cynnwys sy’n cael ei gynhyrchu gan AI o ran amwysedd, rhithwelediadau, diffyg dealltwriaeth, a diffyg mynediad at gynnwys modiwlau mewnol ar Blackboard neu ymchwil gyfredol (erthyglau a gyhoeddwyd yn y ddwy flynedd diwethaf).
Sut byddwch chi’n datblygu’r gweithgaredd yma yn y dyfodol?
Byddwn i’n cyfeirio at systemau eraill gan gynnwys DeepSeek, Gemini, Microsoft Co-Pilot a Claude AI yn ogystal â thrafod eu tarddiad, eu manteision a’u hanfanteision, ac yn hanfodol ddigon fe fyddwn i’n rhybuddio am y canlyniadau amgylcheddol a’r canlyniadau o ran eiddo deallusol.
Cadwch lygad am ein blogiad nesaf ar AI cynhyrchiol mewn astudiaethau achos Dysgu ac Addysgu.