Beth sy’n Newydd yn Blackboard Learn Ultra – Mai 2024

Isod ceir rhai o’r gwelliannau diweddaraf yn niweddariad mis Mai Blackboard Learn Ultra yr hoffai’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu dynnu sylw Hyfforddwyr atynt.

Cefnogi meini prawf perfformiad lluosog mewn amodau rhyddhau

Mae amodau rhyddhau yn pennu pryd y gall myfyrwyr weld cynnwys y cwrs. Mae amodau rhyddhau ar osodiad gwelededd y cynnwys ar dudalen cynnwys y cwrs. Ar hyn o bryd, gallwch chi osod: 

  • Pa aelodau o’r cwrs neu grwpiau sydd â mynediad;
  • Pan fydd cynnwys y cwrs yn hygyrch, yn weladwy ac yn gudd;
  • Pan fydd perfformiad myfyrwyr yn angenrheidiol ar gyfer cwblhau aseiniad neu sgorio.

Gall hyfforddwyr nawr osod mwy nag un maen prawf perfformiad fesul eitem gynnwys. 

Llun isod: Panel amodau rhyddhau gyda meini prawf perfformiad ychwanegol wedi’u dewis.

Panel amodau rhyddhau gyda meini prawf perfformiad ychwanegol wedi'u dewis.

Ychwanegu adborth cwestiynau wrth raddio prawf fesul cwestiwn

Wrth raddio fesul myfyriwr neu gwestiwn, gall hyfforddwyr nawr ddarparu adborth cyd-destunol a gallant ychwanegu’r adborth hwn at bob math o gwestiynau. Mae adborth ar lefel cwestiwn yn hyrwyddo dealltwriaeth ddyfnach a thwf personol ymhlith myfyrwyr a hefyd yn gwella adborth cyflwyno cyffredinol ac adborth awtomatig ar gyfer cwestiynau wedi’u graddio’n awtomatig.

Llun isod: Gwedd hyfforddwr o ychwanegu adborth fesul cwestiwn wrth raddio fesul cwestiwn.

Gwedd hyfforddwr o ychwanegu adborth fesul cwestiwn wrth raddio fesul cwestiwn.

Llun isod: Gwedd hyfforddwr o gwestiwn gydag adborth wedi’i gadw.

Gwedd hyfforddwr o gwestiwn gydag adborth wedi’i gadw.

Pan fydd y sgorau wedi’u postio, gall myfyrwyr gyrchu’r adborth yn y Llyfr Graddau. Gall myfyrwyr gael mynediad at adborth cyffredinol ac adborth sy’n benodol i gwestiynau.

Llun isod: Gwedd myfyriwr o adborth a ychwanegwyd i gwestiwn traethawd.

Gwedd myfyriwr o adborth a ychwanegwyd i gwestiwn traethawd.

Gwell llywio yn y Llyfr Graddau

Er mwyn creu llywio mwy greddfol, mae Blackboard wedi disodli’r botymau gweld grid a rhestr gyda dolenni testun. Dyma’r opsiynau bellach: 

  • Eitemau graddadwy
  • Graddau (gwedd grid)
  • ⁠Myfyrwyr

Bydd y Llyfr Graddau’n cofio’r wedd ddiwethaf a ddefnyddiwyd gennych ym mhob cwrs.

Llun isod: Gwedd hyfforddwr o’r ddewislen llywio llyfr gradd newydd

Gwedd hyfforddwr o’r ddewislen llywio llyfr gradd newydd

Cyfrifiadau colofn pwysoliad cyfrannol a chyfartal

Mae gan hyfforddwyr anghenion cyfrifo graddau amrywiol. Mae rhai hyfforddwyr yn defnyddio cyfrifiadau wedi’u pwysoli i helpu gyda chyfrifiadau cyfanredol megis graddau canol tymor neu derfynol.

Nawr gall hyfforddwyr glustnodi pwysoliad cyfartal i eitemau yn yr un categorïau. Mae’r dull cyfrifo a ddewiswyd, boed yn gyfrannol neu’n gyfartal, yn berthnasol i bob categori. Yn y gorffennol, roedd gan eitemau wedi’u pwysoli yn yr un categori bwysoliad cyfrannol. Roedd yr eitemau pwysoli hyn yn seiliedig ar bwyntiau posibl pob eitem.

Er mwyn deall perfformiad myfyrwyr yn well, mae rhai hyfforddwyr yn defnyddio rheolau gollwng i gael gwared ar allanolion. Oherwydd ei bod yn bwysig gwybod y dull pwysoli wrth reoli’r gosodiadau hyn, mae Blackboard bellach yn dangos opsiwn pwysoli dewisol yr hyfforddwr yn y panel rheolau cyfrifo.

Llun isod: Gwedd hyfforddwr o’r opsiynau cyfrifo wedi’u pwysoli’n gyfrannol newydd.

Gwedd hyfforddwr o’r opsiynau cyfrifo wedi'u pwysoli'n gyfrannol newydd.

Llun isod: Gwedd hyfforddwr o’r opsiynau cyfrifo wedi’u pwysoli’n gyfrannol newydd. Gall hyfforddwyr weld pa ganran y mae pob eitem yn y categori yn cyfrannu at y pwysoliad categori cyffredinol.

Llun isod: Gwedd hyfforddwr o’r opsiynau cyfrifo wedi'u pwysoli'n gyfrannol newydd. Gall hyfforddwyr weld pa ganran y mae pob eitem yn y categori yn cyfrannu at y pwysoliad categori cyffredinol.

Llun isod: Gwedd hyfforddwr o’r opsiwn cyfrifo pwysoliad cyfartal; Rhoddir gwybod i hyfforddwyr am y ganran gyfartal y mae eitemau’n eu cyfrif tuag at y pwysoliad categori cyffredinol.

Llun isod: Gwedd hyfforddwr o’r opsiwn cyfrifo pwysoliad cyfartal; Rhoddir gwybod i hyfforddwyr am y ganran gyfartal y mae eitemau'n eu cyfrif tuag at y pwysoliad categori cyffredinol.

Llun isod: Gwedd hyfforddwr o’r panel rheolau cyfrifiad Golygu wedi’i ddiweddaru yn cadarnhau’r opsiwn pwysoli categori a ddewiswyd.

Llun isod: Gwedd hyfforddwr o'r panel rheolau cyfrifiad Golygu wedi'i ddiweddaru yn cadarnhau'r opsiwn pwysoli categori a ddewiswyd.

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 9/5/2024

Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.  

Digwyddiadau a gweminarau ar-lein

Mai

Mehefin

Gorffennaf

Adnoddau a chyhoeddiadau – Deallusrwydd Artiffisial (DA)

Adnoddau a chyhoeddiadau – Arall

Arall

  • Monthly series European Network for Academic Integrity, ENAI monthly webinars free open webinars on various topics related to academic integrity
  • Subscribe to SEDA’s mailing list for email discussions about educational development and emerging teaching practices. This is one of the sources I use when identifying useful material for the Roundup.
  • Follow University of Birmingham’s Higher Education Futures institute HEFi on Twitter for daily posts with links to pedagogical literature and more. This is one of the sources I use when identifying useful material for the Roundup.
  • Join the #LTHEchat on Twitter Wednesday nights for one hour of lively discussion about learning and teaching in HE. I often find out about good resources for the Roundup from the chat.

Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.

Cyhoeddi Prif Siaradwr: Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Yr Athro Lisa Taylor

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi’r prif siaradwr yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol eleni.

Bydd yr Athro Lisa Taylor o Brifysgol Dwyrain Anglia yn ymuno â ni i roi cyflwyniad am gyflogadwyedd yn y cwricwlwm. Mae Lisa yn Athro Cyflogadwyedd ac Arloesedd Dysgu ac yn Ddeon Cyswllt ar gyfer Cyflogadwyedd yn y Gyfadran Meddygaeth ac Iechyd.

Mae gan Lisa gefndir fel Therapydd Galwedigaethol gyda deng mlynedd o brofiad clinigol yn y GIG a chwblhaodd raddau MSc a PhD.

Dros y deuddeng mlynedd diwethaf mae Lisa wedi gweithio ym maes addysg uwch fel darlithydd yn nhîm academaidd Therapi Galwedigaethol Prifysgol Dwyrain Anglia. Mae Lisa wedi dal rolau arweinyddiaeth cyflogadwyedd ochr yn ochr â’i rôl darlithio am un ar ddeg o’r blynyddoedd hynny, i ddechrau fel cyfarwyddwr cyflogadwyedd Ysgol y Gwyddorau Iechyd ac yna fel Deon Cyswllt ar gyfer Cyflogadwyedd y Gyfadran Meddygaeth a Gwyddorau Iechyd.

Mae Lisa yn angerddol am gyflogadwyedd ac arloesiadau dysgu, gan sicrhau’r effaith fwyaf posibl ar fyfyrwyr/dysgwyr, cydweithwyr academaidd a phartneriaid allanol. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol Advance HE (NTF) i Lisa yn seiliedig ar ei gallu parhaus i hwyluso a dylanwadu ar ddysgu o safon i fyfyrwyr.

Mae Lisa wedi helpu i ddatblygu’r agenda cyflogadwyedd ehangach trwy gefnogi ac ymgysylltu â chydweithwyr yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan sicrhau effaith ar ganlyniadau a phrofiad dysgu myfyrwyr, trwy gyfrwng addysgu, mentrau strategol ac arloesiadau dysgu. Mae’r dyfarniad NTF yn gosod Lisa fel arweinydd sector ym maes cyflogadwyedd ac arloesiadau dysgu. Mae Lisa yn cyhoeddi ac yn cyflwyno’n eang, gan helpu i lywio’r sgwrs genedlaethol am gyflogadwyedd. 

Un o arloesiadau dysgu Lisa yw’r Peer Enhanced e-Placement (PEEP). Mae Lisa wedi ennill sawl gwobr am y PEEP arloesol ac mae wedi cyhoeddi llyfr yn seiliedig ar ei egwyddorion dylunio a chyflawni, Constructing Online Work-Based Learning Placements: Approaches to Pedagogy Design, Planning and Implementation. Bydd y PEEP yn cael ei gyflwyno yn rhan o ddarlith Lisa.

Cynhelir y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol rhwng 10 a 12 Medi. Mae croeso i gydweithwyr gyflwyno cynigion ac mae modd archebu lle nawr.

Medalau Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru (LSW) yn dyfarnu medalau yn flynyddol i ymchwilwyr sy’n rhagori yn eu maes. Mae’r categorïau medalau yn dathlu rhagoriaeth mewn sawl maes cyflawniad, gyda rhagor o wybodaeth am bob medal yn –

Os hoffech enwebu cydweithiwr neu Ymchwilydd ar Gynnar Gyrfa (ECR) gweler y canllawiau a’r ffurflenni enwebu ar dudalen we LSW.

I fod yn gymwys ar gyfer unrhyw un o’r medalau, rhaid i’r enwebeion fod yn byw yng Nghymru, wedi’u geni yng Nghymru, neu fel arall yn arbennig o gysylltiedig â Chymru.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebu medalau 2024 yw 5.00pm ar 30 Mehefin 2024. Mae gan bob medal bwyllgor penodedig i asesu’r enwebiadau a phenderfynu pwy ddylai dderbyn y wobr.

Cyhoeddir yr enillwyr ym mis Hydref 2024 a byddant yn derbyn medal arbennig a gwobr ariannol o £500.

Darllenwch y canllawiau cyn llenwi’r ffurflen enwebu medal. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Swyddog Cymrodoriaeth LSW, Fiona Gaskell fgaskell@lsw.wales.ac.uk

I gael rhagor o wybodaeth am Fedalau LSW, gan gynnwys enillwyr y gorffennol, ewch i https://www.learnedsociety.wales/medals/ neu gallwch gael sgwrs anffurfiol gydag Annette Edwards, UDDA aee@aber.ac.uk