Monitro Ymgysylltu Myfyrwyr wrth ddysgu ar lein

Distance Learner Banner

Nod y post hwn yw cyflwyno gwybodaeth ichi am offer defnyddiol yn Blackboard all eich helpu ichi fonitro ymgysylltu â myfyrwyr. Fe’i paratowyd yn wreiddiol ar gyfer fforwm Dysgu o bell ond mae’r offer a drafodir yn berthnasol i ddysgu ar lein. Yn ogystal â rhoi peth cyfarwyddyd i ddefnyddio offer Blackboard, ceir hefyd ambell adnodd ar ymgysylltu â myfyrwyr a dysgu ar lein ar ddiwedd y ddogfen hon.

Olrhain Ystadegau

Mae Olrhain Ystadegau yn ffordd ddefnyddiol o fonitro sawl un o’ch myfyrwyr sydd wedi ymgysylltu â’ch deunyddiau cwrs. Mae’r offer ar gael yn Blackboard.
Sut mae cadw golwg ar ddefnydd myfyrwyr o eitemau yn fy modiwl Blackboard?https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=628

Review Status

Mae’r Statws Adolygu yn gofyn i’r myfyrwyr farcio pa eitemau cynnwys y maent wedi’u hadolygu. Bydd hyn yn eich galluogi i weld cynnydd myfyrwyr o ran y modiwlau a’r eitemau. Mae defnyddio Statws Adolygu yn rhoi’r pwyslais ar roi eu statws adolygu eu hunain i fyfyrwyr.
Beth yw’r Statws Adolygu yn Blackboard?https://faqs.aber.ac.uk/index.php?search=2869

Rhyddhau’n Ymaddasol

Mae rhyddhau deunyddiau’n ymaddasol yn rhoi dull hyblyg i diwtoriaid reoli pa eitemau mewn cwrs Blackboard sydd ar gael i fyfyrwyr. Gallwch addasu llwybrau trwy’ch deunydd i fodloni gofynion grwpiau neu fyfyrwyr unigol. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os oes gennych ddeunyddiau craidd ac atodol. Er enghraifft, efallai yr hoffech ryddhau deunydd atodol i’r myfyrwyr hynny sy’n cael marciau gwael mewn asesiad yn unig, ond nid i’r holl ddosbarth. Gallwch osod llwybr o ragofynion amodol, megis na chaiff myfyrwyr weld deunydd uwch nes eu bod wedi edrych ar y deunydd rhagarweiniol. Gallwch sicrhau bod deunydd ond ar gael am y cyfnod y mae’n berthnasol, megis cyn neu ar ôl gwers ymarferol yn y labordy. Efallai yr hoffech hefyd sicrhau bod deunydd ond ar gael i grŵp penodol o fyfyrwyr am bwnc prosiect eu grŵp.
Sut mae rheoli pryd y mae eitemau yn Blackboard ar gael i’m myfyrwyr?https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=582
Irwin, B. et al. 2013. ‘Engaging students with feedback through adaptive release’. Innovations in Education and Teaching International. 50: 1. DOI:10.1080/14703297.2012.748333. Pp. 51-61. Last Accessed 21.10.2019.Mae’r erthygl hon yn ystyried effaith defnyddio rhyddhau’n ymaddasol ar gyfer rhyddhau adborth i fyfyrwyr. Pwrpas gwneud hyn oedd annog myfyrwyr i dalu mwy o sylw i’w hadborth. Gellir hefyd ddefnyddio rhyddhau’n ymaddasol yn y ffordd yma i ennyn diddordeb myfyrwyr yn eu tasgau dysgu.   Gallwch ddefnyddio rhyddhau’n ymaddasol drwy’r ganolfan raddio a chwblhau prawf neu gwis, er enghraifft, i ryddhau’r uned nesaf i fyfyrwyr. A gallwch hefyd ei ddefnyddio i guddio’r cynnwys ar ôl iddi gael ei gwblhau.

Adnoddau ar Ymgysylltu â Myfyrwyr

Blessinger, P. & C. Wankel. Ed. 2013. Increasing Student Engagement and Retention in e-Learning Environments: Web 2.0 and Blended Learning Technologies. Bradford: Emerald Publishing Limited. Cyrchwyd ddiwethaf: 18.10.2019.   Yn enwedig: Starr-Glass, D. 2013. ‘From Connectivity to Connected Learners: Transactional Distance and Social Presence.’ Pp. 113-143     Mae’r cyhoeddiad hwn yn ystyried sut y gellir defnyddio technoleg i ymgysylltu â myfyrwyr. Mae’r casgliad golygedig yn darparu llawer o gyfarwyddyd ynghylch technolegau dysgu mewn addysgu.   Fel y noda’r golygyddion, ‘ni all unrhyw dechnoleg, newydd neu soffistigedigrwydd technegol yn unig warantu bod dysgwyr yn ymgysylltu. Dylid defnyddio’r technolegau hyn mewn ffordd bwrpasol ac integredig ac o fewn i fframwaith damcaniaethol priodol sy’n berthnasol i’r cyd-destun dysgu ac addysgu’ (2013: 5-6).   Un bennod i’w nodi yw Starr-Glass (Tt. 113-143) sy’n pwysleisio meithrin cymuned ddysgu a chynnig cyfleoedd i gydweithredu fel ffordd o ymgysylltu â myfyrwyr sy’n astudio o bell. Mae Starr-Glass yn defnyddio damcaniaeth Michael Moore o wahaniaeth rhyngweithredol i ystyried goblygiadau gwahanu’r dysgwr oddi wrth ei gymheiriaid a’i hyfforddwyr. Mae’r awdur yn annog dysgwyr i ddibynnu ar fwy na thechnoleg yn unig. Ystyrir Dysgu o Bell hefyd yn ffurf gynnar ar weithgareddau sy’n canolbwyntio ar y dysgwr. Mae Starr-Glass yn dadlau ein bod bellach yn Bumed Genhedlaeth o Ddysgu o Bell (2005- ) – Y model dysgu hyblyg deallus [The intelligent flexible learning model (2013: 118)]. Nodweddir hyn drwy fynediad at amgylcheddau technoleg lle mae ‘dysgwyr yn cael eu hystyried yn wybodus, yn hunanhyderus, ac yn gallu cael mynediad at rwydweithiau anffurfiol’ (ibid.). Archwilir hefyd gyfleoedd ar gyfer creu cymunedau ymhlith cymheiriaid.
Krull, G. & J. M Duart. 2019. ‘Supporting seamless learners: exploring patterns of multiple device use in an open and distance learning context’. Research in Learning Technology. 2017. http://dx.doi.org/10.25304/rlt.v27.2215. Pp. 1-13. Last Accessed: 18.10.2019.    Meddyliwn yn aml am gynnwys cyrsiau Dysgu o Bell ond nid ydym o reidrwydd yn meddwl am sut mae ein myfyrwyr yn cael gafael ar eu cynnwys. Yn yr erthygl hon, mae Greig Krull a Joseph Duart yn edrych ar sut mae myfyrwyr yn defnyddio mwy nag un dyfais. Defnyddiwyd cyfweliadau rhannol-strwythuredig i ddadansoddi eu canfyddiadau.   Awgryma eu canfyddiadau fod myfyrwyr sy’n astudio trwy ddysgu o bell yn tueddu i weithio mewn sawl lleoliad (preifat a chyhoeddus) ‘sy’n dangos potensial dysgu di-dor’ (4). Canfu’r astudiaeth hefyd fod y myfyrwyr yn gallu defnyddio rhwng 2 a 5 dyfais ddigidol ar gyfer dysgu. Ar gyfartaledd, roedd myfyrwyr yn defnyddio 3 dyfais ar gyfer dysgu (4). Fel y mae’r awduron yn dangos, ‘un maes ar gyfer gwaith ymchwil yn y dyfodol yw sut gall addysgwyr gefnogi’n well eu myfyrwyr sy’n defnyddio mwy nag un dyfais a sut i leihau toriadau posib yn eu profiadau dysgu’ (10).
Meyer, K. 2014. Student Engagement Online: What works and why. Hoboken, New Jersey: John Wiley & Sons. Last Accessed 21.10.2019.
Mae Meyer yn archwilio dysgu ar lein yng nghyd-destun cadw myfyrwyr yn Addysg Uwch. Mae’n debyg mai’r adran fwyaf diddorol fydd yr  Ddysgu drwy Brofiad a Dysgu Gweithredol (t. 28).   Mae Meyer hefyd yn trafod pwysigrwydd meithrin cymuned ar-lein ymhlith dysgwyr er mwyn annog ymgysylltu ag adnoddau. Mae’r monograff yn benthyca’r Arolwg Cenedlaethol o Ymgysylltu â Myfyrwyr (NSSE) er mwyn ystyried sut gallech ennyn diddordeb myfyrwyr wrth ddysgu ar lein. Mae’n cynnwys: 1.       Lefel yr her academaidd 2.       Dysgu gweithredol a chydweithredol 3.       Rhyngweithio rhwng myfyrwyr a’r gyfadran 4.       Cyfoethogi’r profiad addysgol 5.       Amgylchedd campws (ar-lein) cefnogol 7-8

Cynhadledd Dysgu ac Addysgu 2020 – ein Prif Siaradwr Gwadd: yr Athro Ale Armellini

Rydym yn hynod falch o gael cyhoeddi mai’r Athro Ale Armellini fydd yn Brif Siaradwr Gwadd inni yn ein Cynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni.

Ac yntau wedi datblygu cynllun Dysgu ac Addysgu Prifysgol Northampton, a’i weithredu a’i gloriannu, rydym ni’n disgwyl yn eiddgar am syniadau’r Athro Ale Armellini ar thema’r gynhadledd eleni, sef Cyfoethogi’r Cwricwlwm: Ysgogi Dysgu a Bywiogi’r Addysgu!

Mae Cynllun Dysgu ac Addysgu Prifysgol Northampton a Strategaeth Rhagoriaeth mewn Addysg Aberystwyth fel ei gilydd yn pwysleisio pwysigrwydd dysgu gweithredol, ac yn ceisio rhoi dysgu gweithredol ar waith ar raddfa ehangach ar draws eu prifysgolion. Dysgu gweithredol yw un o brif bynciau’r gynhadledd eleni, felly fe fydd presenoldeb yr Athro Armellini fel y prif siaradwr gwadd yn bendant ymhlith yr uchafbwyntiau.

Nod Prifysgol Aberystwyth yw, drwy gynllun tri cham, hyrwyddo ethos o ddysgu gweithredol mwy parhaus ymhlith y myfyrwyr, drwy ddilyn cyfres o strategaethau allweddol a strategaethau parhaus, drwy’r Gymraeg a’r Saesneg. Mae hyn yn cynnwys ein Prosiect Dysgu Gweithredol, a’n Datblygiad Iechyd Meddwl Staff a Myfyrwyr, dau faes allweddol o’n strategaeth, yn ogystal â Chyfoethogi Darpariaeth Tiwtoriaid Personol, a Mentrau Cyflogadwyedd yn rhan o’n gwaith strategol presennol. Yn y pen draw, erbyn haf 2022, bydd Prifysgol Aberystwyth wedi ymdrechu i drawsnewid sut rydym yn dysgu ein myfyrwyr a sut maent hwythau’n dysgu, a’n gobaith yw y byddwn yn annog prifysgolion eraill i wneud hynny hefyd.

Mae elfennau tebyg i’w cael yn Amcanion Dysgu ac Addysgu Prifysgol Northampton, a ddatblygwyd gan ein prif siaradwr gwadd, sy’n dangos pwysigrwydd arloesi mewn addysgeg. Gan fod swydd yr Athro Armellini yn golygu ei fod yn arwain ar ddysgu ym mhob rhan o Brifysgol Northampton, a’i fod yn ymchwilio i arloesi ym maes dysgu ac addysgeg ar-lein, ac enwi dim ond ychydig o’i feysydd ymchwil, fe fydd yn darparu cyngor a dealltwriaeth anhepgorol i’n cynadleddwyr.

Cynhelir y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol ym Mhrifysgol Aberystwyth o 7 i 9 Medi 2020. 

Cewch ddilyn ei lif trydar yn @alejandroa

Awgrymiadau Dysgu at Gysondeb Ddysgu ac Addysgu

Distance Learner Banner

Pwyntiau Cyffredinol

  • Rhowch gyfarwyddiadau clir a diamwys. Bydd hyn yn lleihau’r nifer o negeseuon ebost ac ymholiadau y byddwch yn eu cael.
  • Defnyddiwch y dechnoleg yr ydych chi a’ch myfyrwyr yn gyfarwydd â hi ac yn gallu ei defnyddio. Cofiwch y gallwch gynnwys dolenni i’n cwestiynau cyffredin yn eich cwrs Blackboard er mwyn cynorthwyo eich myfyrwyr.
  • Os ydych chi’n defnyddio eich cyfrifiadur eich hun, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gallu gwneud popeth y bydd angen ichi allu ei wneud. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau gallwch gysylltu ag eddysgu@aber.ac.uk  Bydd y cwestiynau cyffredin hyn yn eich helpu:
  • Adnoddau pellach: Mynnwch gip ar y set ragorol o adnoddau sydd ar gael ym mhecyn cymorth dysgu ar-lein ACUE:

Rheoli eich cynnwys dysgu yn effeithiol

  • Dysgu gweithredol o bell: Ystyriwch y tasgau dysgu y mae arnoch eisiau i’r myfyrwyr eu cyflawni, nid dim ond y cynnwys sy’n cael ei gwmpasu. Gwnewch yn siŵr bod y tasgau’n cael eu hegluro’n iawn i’r myfyrwyr. Os yw’r dasg ddysgu’n glir, bydd yn hybu dysgu gweithredol, hyd yn oed o bell.
  • HygyrcheddDefnyddiwch egwyddorion arfer hygyrchedd da yn eich dogfennau Powerpoint a Word ac mewn deunyddiau eraill.
    • Rhowch dagiau ‘alt’ ar gyfer y delweddau mewn unrhyw ddeunyddiau.
    • Sicrhewch fod nodiadau’r siaradwr wedi’u cynnwys yn eich ffeiliau Powerpoint, a llwythwch y ffeil PPT i Blackboard. Peidiwch â llwytho PDF yn unig. Mae hyn yn rhoi cyfrwng arall i fyfyrwyr allu cael yr holl wybodaeth y mae arnoch eisiau iddynt ei chael.
    • Defnyddiwch iaith syml i’r graddau y mae hynny’n bosibl. Os nad yw eich myfyrwyr yn deall rhywbeth yn dda, ni fyddant yn gallu gofyn cwestiynau ichi yn ystod y ddarlith.
    • Gwnewch yn siŵr ei bod yn rhwydd iddynt lywio eu ffordd o amgylch eich cwrs Blackboard. Dylent allu canfod y deunydd perthnasol ar gyfer pob wythnos yn rhwydd ac yn gyflym.
  • Deunyddiau darllen: Sicrhewch fod yr holl ddeunydd darllen ar gael trwy Blackboard. Defnyddiwch restrau darllen Aspire. Os mai dim ond mewn print y mae rhai deunyddiau ar gael (e.e. llyfrau yn y llyfrgell), dewch o hyd i e-lyfrau neu ffynonellau ar-lein amgen y gallant eu defnyddio yn eu lle.
  • Rhyddhau Addasol: Gallwch ddefnyddio Rhyddhau Addasol fel bod eich deunyddiau’n ymddangos ar adegau penodol. Ceisiwch osgoi gormod o reolau rhyddhau addasol cymhleth gan y gallant fod yn anodd i’w datrys os ydych yn ceisio darganfod pam nad yw myfyriwr yn gallu gweld dogfennau.
  • Mae Box of Broadcasts yn adnodd rhagorol ar gyfer deunydd teledu a radio. Gallwch drefnu recordiadau o ddeunyddiau sydd i ddod neu ddefnyddio rhaglenni sydd wedi’u darlledu o’r blaen.

Enghraifft o dasg ddysgu sydd braidd yn amwys fyddai darllen tair erthygl.
Tasg ddysgu fwy gweithredol fyddai darllen y tair erthygl a gwerthuso eu dadleuon o’u cymharu â’i gilydd, neu ddadansoddi data o sawl ffynhonnell i geisio canfod patrymau ac ati. 

Defnyddio Profion ac Arolygon Blackboard ar gyfer asesu ffurfiannol

Mae profion yn ffordd wych i fyfyrwyr wirio eu dealltwriaeth o bwnc ac maent yn gymorth i chi wybod mwy am eu cynnydd.

  • Cofiwch gynnwys adborth ar atebion cywir ac anghywir, fel y gall eich myfyrwyr ddysgu o’r cwis ffurfiannol.
  • Nid oes rhaid ichi roi’r ateb cywir ond gallwch roi dolenni i waith darllen, neu adnoddau pellach i’w helpu i ddysgu’r deunydd.
  • Ysgrifennwch gwestiynau sy’n helpu eich myfyrwyr i ymwneud â’r deunydd, yn hytrach na dim ond cofio ffeithiau. Gallwch ysgrifennu cwestiynau a fydd yn golygu bod rhaid iddynt ddadansoddi deunyddiau, gweithio gyda sefyllfaoedd a gwneud cyfrifiadau.

Galluogi i’r myfyrwyr ymwneud â chi ac â’ch gilydd trwy gyfrwng bwrdd trafod

Mae byrddau trafod yn ffordd wych o gynnal seminar o bell. Maent yn galluogi myfyrwyr i ymwneud â’r dysgu pan fo modd iddynt, ac mae’r myfyrwyr hefyd yn gyfarwydd â’u defnyddio.

  • Gweithgareddau: Darparwch weithgareddau i’r myfyrwyr ymwneud â hwy ar y byrddau trafod – gosodwch gwestiynau cychwynnol y mae angen iddynt ymwneud yn weithredol â hwy, megis dadansoddi data, cymharu erthyglau, crynhoi eu gwaith darllen a chreu cwestiynau ar sail y deunyddiau y maent wedi eu darllen.
  • Canllawiau ar ymwneud: Rhowch ganllawiau i’r myfyrwyr ynghylch sut y mae arnoch eisiau iddynt ymwneud â’r byrddau trafod.
    • Er enghraifft, gallech ofyn iddynt ysgrifennu eu postiadau eu hunain a rhoi sylwadau ar bostiadau pobl eraill.
    • Dywedwch wrth y myfyrwyr pa mor aml y mae arnoch eisiau iddynt ymwneud â’r bwrdd trafod, a pha mor aml y byddwch chithau’n ymwneud ag ef.
    • Os ydych chi’n cynnal edefyn ar gyfer pob seminar, efallai y bydd arnoch eisiau parhau â’r drafodaeth am wythnos ac yna dechrau un newydd ar adeg benodol.
  • Canllawiau ar ysgrifennu:
    • A oes arnoch eisiau iddynt ysgrifennu’n ffurfiol ynteu’n anffurfiol?
    • A ddylent gyfeirio at eu gwaith darllen?
    • Mae postiadau byrion yn well na thraethodau – nod y byrddau trafod yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ryngweithio yn hytrach na dim ond rhoi eu traethodau cyfan ar-lein.

Defnyddio Blogiau, Wicis a Dyddlyfrau er mwyn rhoi cyfle i fyfyrwyr fyfyrio a chydweithio

Mae Blogiau a Dyddlyfrau yn ffordd dda i fyfyrwyr gofnodi proses neu arfer sy’n parhau – dyddlyfr darllen, er enghraifft. Gall myfyrwyr ddefnyddio testun, delweddau, fideos ac ati. Gall holl aelodau’r dosbarth weld blogiau, tra bod dyddlyfrau’n breifat rhwng y myfyriwr a’r hyfforddwr.

Mae wicis yn dda ar gyfer gwaith grŵp. Gall y dosbarth cyfan eu defnyddio, neu gallwch rannu’n grwpiau a gall pob grŵp gael wici. Gall myfyrwyr ddefnyddio testun, delweddau a fideos, a gallwch weld cyfraniad pob myfyriwr.

  • Rhowch gyfarwyddiadau clir i’r myfyrwyr ynghylch sut i ddefnyddio blogiau, wicis neu ddyddlyfrau. Dywedwch wrthynt beth yr ydych yn ei ddisgwyl: pa mor aml y mae arnoch eisiau iddynt gyfrannu a pha mor aml y byddwch yn ymwneud â hwy.
  • Gall enghreifftiau o gyfraniadau fod yn ddefnyddiol i helpu myfyrwyr ddeall yr hyn yr ydych yn ei ddisgwyl.
  • Gallwch wneud sylwadau ar bostiadau er mwyn rhoi adborth.
  • Gellir graddio pob un o’r tri math o weithgaredd os oes arnoch eisiau eu defnyddio fel dull asesu.

Gwneud recordiad Panopto

Mae recordiadau Panopto yn ffordd dda o gyflwyno gwybodaeth i’ch myfyrwyr, ynghyd â sleidiau PowerPoint. Gallwch ailddefnyddio recordiadau yr ydych wedi’u gwneud eisoes, ond os ydych yn gwneud recordiadau newydd yn benodol at ddibenion dilyniant, cadwch y pethau canlynol mewn cof:

  • Gwnewch eich fideos yn fyrrach na darlith arferol. Bydd myfyrwyr yn ei chael hi’n haws canolbwyntio ar fideos byrrach.
  • Cysylltwch y recordiad â gweithgaredd dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Anogwch ddysgu gweithredol trwy gyfrwng cwestiynau neu weithgareddau eraill.
  • Sicrhewch fod y PowerPoint a nodiadau’r siaradwr (os ydych yn eu defnyddio) ar gael ar Blackboard.

Ychwanegu cwisiau at eich recordiad Panopto

Mae cwisiau’n ffordd dda o gyflwyno amrywiaeth i’ch recordiad, yn debyg i’r modd y byddech yn defnyddio cwestiynau mewn darlith

  • Ysgrifennwch gwestiynau clir a fydd o gymorth i’ch myfyrwyr ymwneud yn weithredol â’r recordiad

Parhad Dysgu ac Addysgu

Distance Learner Banner

Mae’r Cwestiynau Cyffredin hyn yn amlinellu’r offer e-ddysgu sydd ar gael i staff i sicrhau bod y gwaith dysgu yn parhau yn ddi-dor. 

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth ar weithio gartref yn y Cwestiynau Cyffredin yma

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau Adnoddau Dynol (AD) ar weithio gartref ar wefan AD yma

Argymhellwn bod staff a myfyrwyr yn defnyddio porwyr gwe Google Chrome neuMozilla Firefox

Blackboard fel Amgylchedd Dysgu

Beth alla i ei wneud?Sut mae gwneud hynny?
Ymgyfarwyddwch â BlackboardGweler ein Canllaw ar sut i ddefnyddio Blackboard   Os nad ydych yn gweld eich holl fodiwlau gweler ein Cwestiynau Cyffredin am sut i gofrestru staff ar fodiwlau Gweler ein Cwestiynau Cyffredin am Blackboard
Rheolwch eich deunydd dysgu yn effeithiolGweler ein Cwestiynau Cyffredin am uwchlwytho ffeiliau a deunydd i Blackboard   Gweler ein Cwestiynau Cyffredin am sut i reoli eich dolenni a’ch ffolder Gweler ein Rhestr wirio ar gyfer creu dogfennau hygyrch
Defnyddiwch Gyhoeddiadau yn Blackboard i gyfathrebu â’r myfyrwyr ar eich modiwlGweler ein Cwestiynau Cyffredin am sut i ychwanegu cyhoeddiad yn Blackboard
Gadewch i’ch myfyrwyr wybod sut i gysylltu â chi drwy ychwanegu manylion cyswllt i’ch proffilGweler ein Cwestiynau Cyffredin am sut i ychwanegu gwybodaeth am staff i fodiwl ar Blackboard
Defnyddiwch brofion ac arolygon yn Blackboard ar gyfer asesiadau ffurfiannolGweler ein Cwestiynau Cyffredin am sut i greu prawf neu arolwg yn Blackboard   Gweler ein canllaw ar brofion ac arolygon
Galluogi myfyrwyr i gysylltu â chi ac â’i gilydd trwy gyfrwng bwrdd trafodGweler ein Cwestiynau Cyffredin am sut i ychwanegu bwrdd trafod i’ch modiwl ar Blackboard   Gweler eincanllaw ar fyrddau trafod
Defnyddiwch flogiau, cyfnodolion a wicis y gall myfyrwyr eu hystyried a chydweithio arnynt.Gweler ein canllaw ar flogiau   Gweler ein canllaw ar wicis Gweler ein canllaw ar gyfnodolion

E-gyflwyno

Beth alla i ei wneud?Sut mae gwneud hynny?
Ymgyfarwyddwch â defnyddio Turnitin ar gyfer E-gyflwynoGweler ein Canllaw Cyflym i Turnitin   Gweler ein Cwestiynau Cyffredin am Turnitin
Creu mannau cyflwyno Turnitin y gall eich myfyrwyr eu defnyddio i gyflwyno eu haseiniadauGweler ein Cwestiynau Cyffredin am greu mannau cyflwyno Turnitin
Marcio gwaith a gyflwynir trwy Turnitin a darparu adborth ar-leinGweler ein Cwestiynau Cyffredin am farcio aseiniadau yn Turnitin

Recordio Darlithoedd

Beth alla i ei wneud?Sut mae gwneud hynny?
Gosodwch Panopto ar eich cyfrifiadur fel bod modd i chi wneud recordiadau o ble bynnag yr ydych yn gweithioGweler ein Cwestiynau Cyffredin am sut i osod Panopto ar eich cyfrifiadur
Gwnewch yn siŵr bod eich meicroffon yn gweithioGweler ein Cwestiynau Cyffredin am sut i wneud yn siŵr bod eich meicroffon yn gweithio
Gwneud recordiad gan ddefnyddio PanoptoGweler ein Cwestiynau Cyffredin am sut i wneud recordiad gan ddefnyddio Panopto
Ychwanegwch gwisiau i’ch recordiad PanoptoGweler ein Cwestiynau Cyffredin am sut i ychwanegu cwisiau i’ch recordiad Panopto

Cyfarfodydd Rhithwir

Beth alla i ei wneud?Sut mae gwneud hynny?
Ymgyfarwyddwch â defnyddio Skype for Business i gynnal cyfarfodydd rhithwir.Gweler ein Canllaw ar ddefnyddio Skype for Business   Gweler ein Skype for Business Guide for Learning and Teaching Activities. 
Gosodwch Skype for Business ar eich cyfrifiadurGweler ein Cwestiynau Cyffredin am sut i osod Skype for Business (Windows)   Gweler ein Cwestiynau Cyffredin am sut i osod Skype for Business (Android) Gweler ein Cwestiynau Cyffredin am sut i osod Skype for Business (Mac)
Trefnwch gyfarfod neu sesiwn ddysgu rithwirGweler ein Cwestiynau Cyffredin am sut i gynnal cyfarfod neu fideo-gynhadledd gan ddefnyddio Skype for Business

I gael rhagor o gymorth ac arweiniad gweler y tudalennau E-ddysgu a’n tudalen Canllawiau a Dogfennau