Digwyddiad Arferion Gorau DA Cynhyrchiol – Mae modd cofrestru o hyd

Mae modd cofrestru o hyd ar gyfer y Digwyddiad Arferion Gorau a DA Cynhyrchiol, a gynhelir rhwng 13:00-17:00 ddydd Mercher 25 Tachwedd yn y Tŷ Trafod. Bydd y digwyddiad yn dod â staff ynghyd o bob gwasanaeth academaidd a phroffesiynol i ystyried rhai o’r arferion a’r tueddiadau arloesol ynghylch DA cynhyrchiol ac asesu yn y brifysgol. Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad drwy dudalen Digwyddiadau a Hyfforddiant y brifysgol. 

Themâu craidd y digwyddiad fydd ystyried sut mae asesiadau yn y brifysgol wedi addasu i: 

  • Gynnwys y defnydd o DA Cynhyrchiol neu i 
  • Atal y defnydd o DA Cynhyrchiol a gwella dilysrwydd asesiadau 

Mae amrywiaeth o gyflwyniadau diddorol a defnyddiol wedi’u dewis sy’n ymdrin â’r pynciau hyn. Bydd y cyflwyniadau hyn yn cael eu rhoi gan staff o adrannau ledled y brifysgol, felly mae’r rhaglen yn cynnig rhywbeth i bawb. Mae fersiwn lawn o amserlen y digwyddiad ar gael yma: Digwyddiad Arferion Gorau a DA Cynhyrchiol – Tachwedd 2026.  

Manteisiwch ar y cyfle i glywed mwy am y ffyrdd y mae’r brifysgol yn ymateb i DA cynhyrchiol ac i ystyried sut y gallwn ddefnyddio’r arfer gorau hwn i wella ein dysgu a’n haddysgu ein hunain.