Rydym yn falch iawn o groesawu mwy o siaradwyr gwadd ar gyfer ein Cynhadledd Flynyddol Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr.
Ar ddydd Iau 10 Medi, bydd Ruben Jacquart o Blackboard yn ymuno â ni.
Mae Ruben Jacquart yn Uwch Beiriannydd Datrysiadau gyda thros 10 mlynedd o brofiad yn cefnogi sefydliadau addysg uwch i drawsnewid eu dulliau dysgu digidol. Wedi’i leoli yn Amsterdam, mae’n gweithio’n agos â phrifysgolion ac ysgolion busnes ledled Ewrop a’r DU i helpu sefydliadau i wella addysgu, dysgu, hygyrchedd a llwyddiant myfyrwyr trwy gyfrwng technoleg addysgol arloesol.
Mae ei arbenigedd yn cwmpasu systemau rheoli dysgu, hygyrchedd digidol, dadansoddeg dysgu, deallusrwydd artiffisial, safonau rhyngweithrededd, ac integreiddiadau menter. Mae Ruben yn cydweithio’n rheolaidd ag arweinwyr sefydliadol, staff academaidd, a thimau technoleg i fynd i’r afael â heriau strategol a gweithredol mewn addysg ddigidol.
Mae’n arbennig o angerddol am hyrwyddo hygyrchedd mewn addysg a helpu sefydliadau i greu amgylcheddau dysgu mwy cynhwysol. Trwy ei waith gydag Ally, mae’n cefnogi prifysgolion i wella hygyrchedd cynnwys cyrsiau digidol, grymuso addysgwyr i feithrin arferion cynhwysol, a sicrhau bod gan bob dysgwr fynediad cyfartal at adnoddau addysgol. Mae gan Ruben ddiddordeb mawr hefyd mewn sut y gall dulliau DA, sy’n seiliedig ar ddata, wella profiad y dysgwr ymhellach wrth gryfhau cynhwysiant a llwyddiant myfyrwyr.
Bydd Ruben yn cynnal sesiwn 1 awr.
Bydd y sesiwn yn cynnwys y diweddariadau diweddaraf i:
Blackboard Ally
Cynorthwyydd Dylunio DA Blackboard
Map ffordd nodweddion newydd ar gyfer Blackboard
Rydym yn llawn cyffro am rai o’r nodweddion newydd sydd wedi’u cynnwys yn y diweddariad i Blackboard Ally.
Yn y 1-3 mis nesaf, bydd darllenydd datblygedig i fyfyrwyr. Yn ogystal â’r holl nodweddion gwych sydd eisoes wedi’u cynnwys yn Ally, bydd hyn yn cynnwys nodweddion sy’n helpu i ganolbwyntio eich sylw.
Yn dilyn sesiwn Blackboard, bydd Ifat Shah o’r Gwyddorau Bywyd a Jim Woolley o Daith y Myfyriwr yn rhoi cyflwyniad ar Gyflawniadau Blackboard. Mae cydweithwyr yn y Gwyddorau Bywyd wedi bod yn ei ddefnyddio eleni i gofnodi’r Pasbort Sgiliau AGB.
Rydym yn falch iawn o groesawu sawl stondin i’n diwrnodau wyneb-yn-wyneb yng Nghynhadledd Flynyddol Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr eleni.
Bydd pob un o’r stondinau yn y Felin Drafod ddydd Mercher 9 Medi a dydd Iau 10 Medi.
SgiliauAber
Bydd Non Jones o Wasanaethau Llyfrgell, Academaidd a Digidol yn cynnal stondin i arddangos newyddion diweddaraf Sgiliau Aber, cartref datblygu sgiliau ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae gennym ambell sesiwn sy’n canolbwyntio ar Sgiliau yn rhan o’r gynhadledd – bydd Jim Dickinson o WONKHE a Trish McGrath o UndebAber yn arwain sesiwn, a bydd Joy Cadwallader a Keziah Garratt-Smithson yn lansio’r Adnodd Darganfod Digidol.
Enillwyr Cronfa Gwobr Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr
Bydd y rhai a enillodd Wobrau Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr y llynedd yn staffio stondinau fel bo cynrychiolwyr yn gallu clywed am y prosiectau:
The Aber Medieval Physic Garden
Developing a Sustainable Student Gear Hub
Inclusivity and Accessibility in Assessment Design and Feedback Practices
Pulling together – supporting teamwork assessment more effectively
Stondin Ysgrifennu’r Gronfa Lenyddol Frenhinol
Ddydd Mercher 9 Medi a dydd Iau 10 Medi, rydym yn falch iawn o groesawu Samantha Wynne-Rhydderch a fydd yn cynnal stondin.
Samantha yw’r Cymrawd Llenyddol Brenhinol yma yn Aberystwyth.
Lansiwyd cynllun Cymrodoriaeth y Gronfa Lenyddol Frenhinol ar gyfer awduron yn hydref 1999 ac mae wedi’i leoli ym mhrifysgolion y DU. Mae tua 750 o awduron yn gweithio fel Cymrodyr mewn dros 100 o sefydliadau gwahanol. Prif nod gwaith y Cymrawd yw meithrin arfer ysgrifennu da ar draws pob disgyblaeth a chyfryngau trwy ddangos i fyfyrwyr sut i ysgrifennu gydag eglurder a llif. Yn nodweddiadol, bydd myfyriwr yn gweld y Cymrawd, awdur cyhoeddedig proffesiynol, un-i-un, am 50 munud.
Mae’r Gynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr Flynyddol yn dwyn cydweithwyr ynghyd i ddathlu, rhannu, a rhoi llwyfan i’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud ledled ein Prifysgol i gyfoethogi’r dysgu, addysgu a phrofiad y myfyrwyr.
Ydych chi’n ystyried dod i’r gynhadledd Addysg a Phrofiad Myfyrwyr ym mis Medi? Efallai nad ydych erioed wedi mynychu o’r blaen, neu eich bod chi’n newydd i’r brifysgol. Efallai nad ydych chi’n siŵr a fyddai’n ddefnydd da o’ch amser. Gydag ychydig llai na mis i fynd, roeddem am ryddhau blogbost yn amlinellu adborth blaenorol am y gynhadledd.
Wrth gwrs, byddem ni’n dweud mai dyma’r tri diwrnod gorau yn y dyddiadur (ni yw’r trefnwyr!), ond beth mae mynychwyr y llynedd yn ei ddweud?
Bob blwyddyn rydym yn cynnal arolwg adborth gydag unigolion sydd wedi bod i’r gynhadledd. Y llynedd gwnaeth 97% o’r bobl a ymatebodd i’r arolwg roi sgôr o 4 neu 5 allan o 5 i’r gynhadledd. A dywedodd 90% ei bod yn bodloni eu disgwyliadau.
Yr agweddau ar y gynhadledd yr oedd mynychwyr yn eu gwerthfawrogi fwyaf oedd ei bod yn rhoi cyfle i drafod pynciau cyfredol ym maes dysgu ac addysgu, ac adeiladu cymunedau. Mae’r cymysgedd o siaradwyr mewnol ac allanol yn golygu eich bod chi’n cael y cyfle i ddarganfod beth sy’n digwydd mewn adrannau eraill yn PA, yn ogystal â phrifysgolion yn y DU a thu hwnt. A gallwch gwrdd â staff mewn adrannau eraill a allai rannu’r un diddordebau addysgu neu ymchwil â chi. Mae digon o amser yn ystod egwyliau i gwrdd â phobl newydd yn ogystal â dal i fyny â chydweithwyr nad ydych wedi’u gweld ers tro.
Nid yn unig y mae’r gynhadledd yn ddigwyddiad gwych, ond mae mynychwyr yn dweud ei bod yn cael effaith uniongyrchol ar eu hymarfer addysgu. Trwy bapurau a gweithdai’r gynhadledd, a’r sgyrsiau, dywed staff eu bod yn defnyddio dulliau newydd a ddysgwyd o’r gynhadledd yn eu haddysgu. Ar ôl y gynhadledd y llynedd, dywedodd sawl aelod o staff wrthym eu bod yn mynd i bwyso a mesur defnyddio DA yn eu haddysgu. Os ydych chi’n ystyried gwneud cais am gymrodoriaeth AUYmlaen, mae’r gynhadledd hefyd yn ffordd wych o gymryd rhan mewn DPP a myfyrio ar eich ymarfer addysgu.
Un o’r negeseuon a awgrymodd mynychwyr ein bod ni’n ei rhannu’n ehangach yw bod croeso i chi bigo i mewn ac allan o’r gynhadledd. Gwyddom efallai na fyddwch chi’n gallu mynychu ar y tri diwrnod, ond gallwch ddod draw ar gyfer rhai o’r sgyrsiau sydd o ddiddordeb i chi. Ac wrth gwrs, gallwch aros cyhyd ag y dymunwch os ydych chi’n teimlo eich bod eisiau parhau â’r sgwrs, neu os oes sesiwn arall yn mynd â’ch bryd.
Felly, nid y tîm trefnu yn unig sydd â barn ffafriol am y gynhadledd – mae staff o bob rhan o’r brifysgol yn cytuno ei bod hi’n ffordd dda o gwrdd â chydweithwyr, trafod pynciau addysgu, a dysgu rhywbeth y gallant ei ddefnyddio yn eu haddysgu. Dewch draw ac ymunwch â nhw a darganfod drosoch eich hun. Byddem wrth ein bodd yn eich gweld yno.
Yn ddiweddar fe wnaethom gyhoeddi’r prif siaradwr ar gyfer Cynhadledd Flynyddol Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr eleni: Dr Hardeep Kaur Basra.
Rydym nawr yn falch iawn o gyhoeddi’r ail siaradwyr gwadd: Yr Athro Ruth Healey a Millie Leach
Byddant yn ymuno â ni ar Ddiwrnod 1 y gynhadledd gyda’r sesiwn: From tokenistic to authentic: meaningful co-creation with students.
Gweler eu bywgraffiadau isod:
Mae Ruth Healey yn Athro Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch ym Mhrifysgol Caer. Mae hi’n Gymrawd Addysgu Cenedlaethol (NTF) (2017); Cymrawd y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Ysgolheictod Addysgu a Dysgu (ISSOTL) (2019), Uwch Gymrawd y Gymdeithas Datblygu Staff ac Addysg (SEDA) (2024), a Phrif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (PFHEA) (2026). Mae hi’n un o olygyddion cyntaf yr International Journal for Students as Partners(2016-).
Mae Millie Leach yn fyfyriwr israddedig sy’n astudio BSc Seiberddiogelwch ym Mhrifysgol Caer, ac ar y cyd â’i gradd mae’n gweithio fel Ymgynghorydd Dysgu Myfyrwyr ar gyfer Canolfan Arloesi a Datblygu Academaidd y brifysgol. Dyfarnwyd ‘Gwobr Effaith Partneriaeth Myfyrwyr’ y Gymdeithas Datblygu Staff ac Addysg (SEDA) iddi yn 2025, ac yn ddiweddar daeth yn olygydd y International Journal for Students as Partners(2025-).
Bydd ein prif anerchiad yn cael ei gyflwyno gan Dr Hardeep Kaur Basra sy’n Bennaeth Datblygu Addysgol ym Mhrifysgol De Montfort.
Dr Kaur Basra sydd wedi arwain prosiect Dad-drefedigaethu Prifysgol De Montfort. Bydd y prif anerchiad a’r gweithdy hwn yn adeiladu ar sail y gwaith rydym ni ein hunain wedi ei wneud ar y Siarter Cydraddoldeb Hil. Bydd y sesiwn hon yn cael ei hategu gan gydweithwyr sy’n ymwneud â dad-drefedigaethu’r cwricwlwm yn Aberystwyth.
Rydym yn croesawu’r Athro Ruth Healey o Brifysgol Caer sy’n arbenigwr ar fyfyrwyr fel cyd-grewyr.
Bydd UndebAber yn cyflwyno sesiwn ar sgiliau ochr yn ochr â Jim Dickinson o WONKHE.
Bydd cydweithwyr o Blackboard yn ymuno â ni i dynnu sylw at fentrau hygyrchedd newydd Blackboard Ally a mapiau o nodweddion newydd. Byddwn yn rhoi cyflwyniad, gyda’r Adran Gwyddorau Bywyd, ar ddefnyddio cyflawniadau i gofnodi sgiliau.
Bydd y rhai sydd wedi derbyn y Gwobrau Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr cyntaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am eu 4 prosiect a byddwn yn lansio ail flwyddyn y fenter hon yn y gynhadledd.
Mae gweithdai a chyflwyniadau yn cael eu cynnal ar draws y 3 diwrnod – diolch i’n cydweithwyr a’n myfyrwyr sy’n cyfrannu.
Gobeithiwn eich gweld yno ac edrychwn ymlaen at ddigwyddiad sy’n argoeli i fod yn anhygoel.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein prif siaradwr ar gyfer ein Cynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr (8-10 Medi).
Bydd Dr Hardeep Kaur Basra yn ymuno â ni wyneb yn wyneb ar gyfer prif gyflwyniad a gweithdy.
Byddwn yn cael cymaint o fewnbwn gwerthfawr gan Dr Basra a fydd yn ein helpu i wella yr hyn a gynigiwn o ran addysg a phrofiad y myfyrwyr, yn ogystal ag adeiladu ar waith anhygoel y Siarter Cydraddoldeb Hil.
Gweler bywgraffiad Dr Basra isod.
Mae Dr Hardeep Kaur Basra (PFHEA, NTF, CATE) yn Athro Cyswllt Addysgu a Dysgu ac yn Arweinydd Addysg Gynhwysol ym Mhrifysgol De Montfort. Gyda dros ddau ddegawd o brofiad ym maes addysg uwch, mae hi’n arweinydd a gydnabyddir yn genedlaethol ym maes addysgeg gynhwysol, wrth-hiliol a dad-drefedigaethol. Mae ei gwaith yn rhychwantu strategaeth sefydliadol, trawsnewid cwricwla a datblygiad academaidd, gyda ffocws parhaus ar wella deilliannau myfyrwyr, perthyn a thegwch.
Mae Hardeep wedi arwain mentrau mawr ar draws sefydliadau, gan gynnwys hyrwyddo cwricwla cynhwysol, mynd i’r afael â bylchau dyfarnu, a llunio strategaethau Mynediad a Chyfranogiad. Mae hi wedi chwarae rhan allweddol mewn gwaith arloesol yn y sector megis ‘Decolonising DMU’, gan gyfrannu at lwyddiant y Siarter Cydraddoldeb Hil, ac mae’n cynllunio rhaglenni datblygu staff effeithiol gan gynnwys y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Rymusol.
Fel Prif Gymrawd AU Ymlaen, Cymrawd Addysgu Cenedlaethol ac enillydd gwobr CATE, mae’n cyfrannu at drafodaethau cenedlaethol ar degwch, rhagoriaeth a newid trawsnewidiol ym maes addysg uwch.
Y mis diwethaf, roeddem yn falch o groesawu derbynwyr ein Grant Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr i ddigwyddiad.
Lansiwyd cronfa Grant Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr llynedd yn ein Cynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr.
Nod y digwyddiad oedd darparu gwybodaeth am gynnydd diweddar i’n cydweithwyr ar y prosiectau a’u cefnogwyr, yn ogystal ag i’r panel. Roeddem yn rhannu llwyddiannau ac yn codi unrhyw heriau y mae ein cydweithwyr wedi dod ar eu traws.
Cafwyd cyflwyniad gan bob un o’r pedwar prosiect.
Isod y cewch grynodeb pob prosiect a’r ffeiliau PDF sy’n cyd-fynd â phob cyflwyniad.
Prosiect 1: Gardd Ffisig Ganoloesol Aber
Dan arweiniad Elizabeth New (Hanes a Hanes Cymru) gyda Sian Nicholas, Eleri Phillips, a phwyllgor llywio myfyrwyr. Nod y prosiect hwn yw creu amwynder awyr agored a fydd yn cefnogi addysg a hamdden i staff a myfyrwyr ar y campws. Mae’r prosiect yn ceisio cyfoethogi profiad dysgu myfyrwyr drwy fentora a chydweithredu ar ymchwil hanesyddol, garddio, a meithrin cyswllt â’r cyhoedd.
Prosiect 2: Datblygu Canolfan Cyfarpar Cynaliadwy i Fyfyrwyr.
Arweinir y prosiect hwn gan Emma Sheppard (Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear) gyda Toni Beardmore, Eleri Phillips, Morgan Jones, Emma Butler-Wray, Hywel Griffiths, a Tom Holt.
Nod y prosiect hwn yw hybu hygyrchedd, cynhwysiant, a chynaliadwyedd yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear drwy ddatblygu ‘llyfrgell pethau’ y gall myfyrwyr eu benthyg a’u defnyddio.
Bydd y llyfrgell yn defnyddio adnoddau ail-law ond mewn cyflwr da, a bydd myfyrwyr yn gallu mynychu ‘caffis atgyweirio,’ a fydd yn sicrhau bod y llyfrgell yn gynaliadwy.
Tom Beardmore ac Eleri Phillips a gyflwynodd yn y digwyddiad. Gweler eu sleidiau isod:
Prosiect 4: Cyd-dynnu – cefnogi asesiadau gwaith tîm yn fwy effeithiol
Mae Scott Tompsett o Adran y Gwyddorau Bywyd yn cydweithio â Cal Walters-Davies a Caroline White o Wasanaethau Taith y Myfyriwr er mwyn dysgu beth yw’r anawsterau cyffredin i fyfyrwyr o ran gweithio mewn grwpiau.
Maent yn ymchwilio i ddulliau gweithio mewn grwpiau sy’n fwy hygyrch i fyfyrwyr niwroamrywiol.
Maent yn bwriadu datblygu cyfres o adnoddau i fyfyrwyr a’r staff dysgu er mwyn hwyluso gweithio mewn grwpiau’n well. Byddant yn eu profi mewn sawl modiwl.
Scott a gyflwynodd yn y digwyddiad; gweler sleidiau’r cyflwyniad isod.
Rydym yn sicr y byddwch yn cytuno mai prosiectau gwerthfawr yw’r rhain.
Gallwch glywed rhagor amdanynt yn 14eg Gynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr rhwng 08 a 10 Mis Medi.
Gallwch archebu’ch lle yn y gynhadledd nawr, ac mae’r alwad am gynigion bellach yn agor. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein blog ni.
Rydym yn falch iawn o ddatgan y byddwn yn cynnal y Grantiau Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr eto y blwyddyn nesaf. Cysylltir y grantiau â thema’r gynhadledd ac y byddant ar gael i’r cynadleddwyr.