Blackboard SaaS – diweddariad 5

Iaith Gwaith logo - speech bubble containing the word Cymraeg

Da iawn ni! Y datblygiad mawr y mis hwn oedd creu fersiwn sy’n gweithio o’rrhyngwyneb Cymraeg. Ar ôl llawer o feddwl a gwaith ymchwil rydym wedi llwyddo i ffeindio ffordd o ail-greu ein tabiau a blychau  Cymraeg ar yr amgylchedd SaaS newydd. Fel defnyddwyr ni fydd unrhyw beth yn edrych yn wahanol, ond i ni mae’n gam enfawr ymlaen. Ac mae’r cyfan wedi’i ddogfennu (dros 9 tudalen!) i wneud yn siŵr y gall unrhyw un yn y tîm ei wneud, os bydd angen. Mae’n braf gweld Blackboard yn ôl i’w normalrwydd dwyieithog!

Rydym hefyd yn chwilio am staff dysgu a gweinyddol i’n helpu i brofi’r amgylchedd SaaS Blackboard newydd. Os oes gennych ddiddordeb, e-bostiwch ni ar elearning@aber.ac.uk

Byddwn yn rhoi mynediad i’n profwyr i gopïau o’u modiwlau Blackboard ar y safle SaaS. Byddwn wedyn yn gofyn i chi

  • Edrych ar ddeunyddiau’r cwrs a gwirio eu bod yn gweithio fel y disgwyl
  • Defnyddio rhai o offer Blackboard i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio’n iawn
  • Adnabod a rhoi gwybod am unrhyw broblemau neu faterion

Mae croeso i’r holl staff ymuno yn y gwaith profi. Rydym yn chwilio’n arbennig am staff sy’n defnyddio Blackboard yn Gymraeg neu sy’n defnyddio offer megis profion a byrddau trafod.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gallwch e-bostio elearning@aber.ac.uk

Gwobr Cwrs Nodedig: Enillwyr

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi enillydd y Wobr Cwrs Nodedig, dan arweiniad y Grŵp E-ddysgu, ar gyfer eleni. Gwelwch ein enillwyr ar y Cynhadledd Dysgu ac Addysgu.  Cewch archebu’ch lle yma.

Dyfarnwyd y Wobr Cwrs Nodedig i Alison Pierse, Tiwtor Dysgu Gydol Oes ym maes Celf, ar gyfer y modiwl XA15220 Figuratively Speaking: The History of Western Figurative Sculpture. Cafodd y modiwl hwn ei ganmol gan y panel am ei ffordd arloesol o ddylunio ar y cyd â’r myfyrwyr, yn ogystal â’i allu i greu profiad dysgu 3 dimensiwn ar gyfer myfyrwyr nad ydynt, o bosibl, yn astudio ar y campws, a sicrhau hefyd bod pob agwedd ar y modiwl yn gwbl hygyrch.

Yn ychwanegol at yr enillydd, cafodd y modiwlau canlynol Ganmoliaeth Uchel:

  • Tîm Dysgu o Bell IBERS ar gyfer BDM0120 Research Methods
  • Stephen Chapman ar gyfer BDM1320 The Future of Packaging
  • Alexandros Koutsoukis ar gyfer IP12620 Behind the Headlines
  • Jennifer Wood ar gyfer SP10740 Spanish Language (Beginners)

Mae’r ystod amrywiol o arddulliau dysgu ac addysgu a welwyd yn y ceisiadau eleni yn adlewyrchu’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud ledled y sefydliad.

Nod y Wobr Cwrs Nodedig, sydd ar ei chweched flwyddyn bellach, yw cydnabod yr arferion dysgu ac addysgu gorau oll trwy roi cyfle i aelodau o staff rannu eu gwaith â chyd-weithwyr, gwella eu modiwlau presennol yn Blackboard, a chael adborth ar eu modiwlau. Mae’r modiwlau’n cael eu hasesu mewn 4 maes: dyluniad y cwrs, rhyngweithio a chydweithio, asesu, a chymorth i ddysgwyr. Mae natur y wobr, sy’n seiliedig ar hunanasesu, yn rhoi’r cyfle i staff fyfyrio ar eu cwrs a gwella agweddau ar eu modiwl cyn y bydd panel yn asesu pob cais ar sail y gyfeireb.

Hoffai’r panel a’r Grŵp E-ddysgu ddiolch i’r holl ymgeiswyr am yr amser a’r ymdrech a roddwyd ganddynt i’w ceisiadau a’u modiwlau eleni.

Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn mwy o geisiadau y flwyddyn nesaf, a llongyfarchiadau lu i enillwyr y wobr eleni.