Meddalwedd pleidleisio: Mentimeter a Poll Everywhere

Mae’r Grŵp E-ddysgu’n edrych ar sut y gellir defnyddio meddalwedd pleidleisio mewn darlithoedd a seminarau. Mae meddalwedd pleidleisio’n ffordd wych o gynyddu ymgysylltiad y dosbarth oherwydd mae’n darparu cyflwyniadau sy’n amrywio o gwestiynau amlddewis i gymylau geiriau byw. Gyda’u dyfeisiau personol (megis ffonau symudol, llechi ac ati), bydd modd i fyfyrwyr ateb cwestiynau, pleidleisio a gofyn cwestiynau, a fydd yn ymddangos ar sleidiau’r cyflwyniad. Dangosodd yr arolwg Mewnwelediad Digidol diweddar, a oruchwyliwyd gan y Gwasanaethau Gwybodaeth, bod hanner cant y cant o ddarlithoedd eisoes yn defnyddio rhyw fath o feddalwedd pleidleisio yn y dosbarth.

Dyma rai enghreifftiau o sylwadau cadarnhaol gan fyfyrwyr:

 “Darparu adborth cyflym ar ba ddarlith yr oedd arnom angen cymorth gyda hi”

“Pleidlais ar-lein, am rannau o’r pwnc yn gofyn i’r dosbarth faint oeddent yn ei ddeall. Roedd hyn yn golygu bod pobl yn gallu dweud yn union sut yr oeddent yn teimlo heb orfod siarad yn y dosbarth”

“Mae pleidleisio mewn darlithoedd yn cadw diddordeb y myfyrwyr”

“Roedd hi’n hwyl y llynedd pan wnaethon ni gwisiau ar-lein yn y ddarlith, rhyngweithio â’n gilydd, ac yna mynd dros yr atebion fesul cwestiwn ar y sgrin fawr”

“Dull o adolygu yn pennu deunydd darllen”

Mae’r Grŵp E-ddysgu wedi canfod bod Mentimeter a Poll Everywhere yn arbennig o hygyrch a dibynadwy:

  • Mae Mentimeter yn well ar gyfer darlithoedd sydd â chynulleidfaoedd mawr oherwydd nad oes cyfyngiad ar gyfranogwyr. Gyda Mentimeter gallwch greu cwisiau amlddewis, cymylau geiriau a siartiau i’ch cynulleidfa ryngweithio â hwy. Fodd bynnag, gyda’r fersiwn rhad ac am ddim dim ond dau gwestiwn a phump cwis y cewch eu creu. Nid oes cyfyngiad ar nifer y sleidiau sylfaenol.
  • Mae Poll Everywhere yn capio’r gynulleidfa ar bump ar hugain felly mae’n gweithio orau mewn seminarau a gweithdai. Mae Poll Everywhere yn darparu’r rhan fwyaf o bethau y mae Mentimeter yn ei wneud gyda’r fantais o beidio â chael cyfyngiad ar nifer y cwestiynau/actifadau.

Mae canllawiau  i greu cyflwyniadau gyda Mentimeter a Poll Everywhere ar gael ar ein tudalennau gwe.

PA Arolwg mewnwelediadau profiad digidol ar gyfer staff addysgu 2018-19 bellach yn agored

Yn ddiweddar, rydym wedi cau’r arolygon Profiad Mewnwelediad Digidol ar gyfer myfyrwyr lle gwnaethom ofyn am eu profiadau o ddysgu digidol a gwasanaethau digidol. Hoffem hefyd wybod sut mae staff addysgu’n profi’r gwasanaethau hyn.

Dim ond tua 20 o gwestiynau sydd yna, yn holi am eich dulliau addysgu digidol a’ch profiad o’n darpariaeth ddigidol. Gofynnir i chi roi deng munud i ddweud eich dweud er mwyn i ni allu gwella’r profiad digidol i’n staff a’n myfyrwyr.

https://staffinsights2019.onlinesurveys.ac.uk/prifysgol-aberystwyth

Tanysgrifio i’r Blog UDDA

Gallwch nawr danysgrifio i’r Blog UDDA er mwyn i chi gael hysbysiad e-bost pan fydd neges newydd yn cael ei hysgrifennu. Cewch y newyddion diweddaraf am feddalwedd, mentrau newydd, sesiynau hyfforddi a digwyddiadau sy’n helpu i gynorthwyo gweithgareddau dysgu ac addysgu trwy gyfrwng technoleg.

Dyma rai o’n negeseuon blog diweddaraf:

  • Canolfan Raddio Blackboard – yn ogystal â recordio a rheoli marciau aseiniadau, mae rhai nodweddion a dewisiadau ychwanegol a all eich helpu i ddefnyddio’r Ganolfan Raddio i’w botensial llawn, byddwn yn eich cyflwyno i’r nodweddion hyn.
  • Offer sydd ar gael i’w llogi gan y Gwasanaethau Gwybodaeth – oeddech chi’n gwybod bod gan y GG offer y gallwch eu benthyca? Yn y blog hwn, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth sydd ar gael a sut y gallwch logi’r offer.
  • Gosod cwisiau yn eich recordiadau Panopto – ydych chi eisiau profi gwybodaeth y myfyrwyr wrth iddynt wylio recordiadau o ddarlithoedd? Os felly, beth am roi cwis yn eich recordiad Panopto? Cewch ragor o wybodaeth yn y blog hwn.

Bydd tanysgrifio i’r blog yn sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn syth. Mae’n hawdd tanysgrifio:

  • Ewch i’r Blog UDDA
  • Sgroliwch i lawr y dudalen a rhowch eich cyfeiriad e-bost a chlicio ar Tanysgrifio:
  • Byddwch nawr wedi cofrestru ac yn derbyn neges e-bost pan fydd neges flog newydd yn cael ei hysgrifennu

Rydym bob amser yn chwilio am flogwyr gwadd hefyd – os hoffech ysgrifennu blog am y modd yr ydych yn defnyddio technoleg wrth ddysgu ac addysgu rhowch wybod i ni (udda@aber.ac.uk).  Hefyd e-bostiwch ni os hoffech awgrymu pwnc neu os hoffech i ni ysgrifennu am offer E-ddysgu penodol.

Cynhadledd Fer yr Academi – Addysg Gynwysol

Cynhelir Cynhadledd Fer yr Academi eleni ar ddydd Mercher 10 Ebrill am 2yp yn E3, Ystafell Hyfforddi E-ddysgu, Academi Aber, Adeilad Hugh Owen. Yn sgil cyflwyno Rheoliadau Hygyrchedd newydd ar gyfer cynnwys ar-lein ym mis Medi 2018 ac o ganlyniad i ymwybyddiaeth gynyddol o sicrhau bod profiadau dysgu ar gael i bawb, bydd thema’r gynhadledd fer eleni’n canolbwyntio ar Addysg Gynhwysol.

Rydym yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan aelodau o’r Brifysgol i gynnal cyflwyniadau, arddangosiadau, gweithdai a thrafodaethau ar eu harferion addysgu cynhwysol.

Dyma rai pynciau posibl:

  • Asesiadau cynhwysol a chreadigol
  • Ehangu cyfranogiad
  • Defnyddio technoleg ar gyfer profiadau dysgu cynhwysol

Os hoffech gyflwyno cynnig ar gyfer y gynhadledd fer eleni, llenwch y ffurflen ar-lein hon cyn dydd Gwener 15 Mawrth.

Gallwch gofrestru i ddod i’r Gynhadledd Fer trwy glicio ar y ddolen hon. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, e-bostiwch eddysgu@aber.ac.uk.

Canolfan Raddau Blackboard

Mae’n debyg mai’r Ganolfan Raddau yw’r elfen fwyaf grymus o fodiwl Blackboard, ac eto nid yw’n cael ei ddefnyddio llawer. Mae Canolfan Raddau ar gyfer pob modiwl Blackboard, ond pa mor aml fyddwch chi’n ei defnyddio ac a ydych yn cael budd digonol ohoni elwa ohoni? Rwy’n ffan enfawr o Ganolfan Raddau Blackboard felly rwy’n defnyddio’r gyfres hon o bostiadau ar fy mlog i’ch cyflwyno chi i rai o’r nodweddion cudd a allai wneud eich gwaith marcio ac asesu yn haws.

Mae’r postiad cyntaf yn ymwneud â sefydlu’r Ganolfan Raddau. Fel llawer o bethau, deuparth y gwaith yw ychydig bach o feddwl a chynllunio cyn ichi ddechrau. Bydd ychydig o waith trefnu ymlaen llaw yn gwneud eich gwaith yn dipyn haws yn y tymor hir.

Felly, pa fath o bethau ddylech chi eu hystyried?

  1. Trefnu cyn creu. Ychwanegir rhai nodweddion fel categorïau a Chyfnodau Graddio at y colofnau wrth ichi eu creu. Mae’n ddefnyddiol i sefydlu’r rhain yn gyntaf, yn hytrach na mynd yn ôl a golygu wedyn (er bod hynny yn bosib).
    1. Categorïau Ceir categorïau mewnol ar gyfer mathau o offer (e.e. Profion, Aseiniadau) a.y.y.b. sy’n cael eu rhoi ar waith yn awtomatig wrth ichi eu creu. Ond gallwch hefyd greu eich categorïau eich hun. Er enghraifft, efallai y byddwch yn dymuno cael categori ar gyfer Arholiadau neu Gyflwyniadau. Gallwch hefyd wneud cyfrifiadau ar sail categori colofn gan ddefnyddio dewisiadau’r Golofn Gyfrifiedig. Help Blackboard ar Gategorïau.
    2. Cyfnodau Graddio. Cyfnodau marcio’r gwaith yw’r rhain. Byddai hyn yn ddefnyddiol os ydych yn cyflwyno marciau’n uniongyrchol i’r Ganolfan Raddau ar gyfer modiwl hir a thenau. Gallech gael cyfnod graddio Semester 1 a Semester 2 ac yna hidlo yn ôl y rhain er mwyn i chi weld y colofnau perthnasol yn unig. Help Blackboard ar Gyfnodau Marcio.
  2. A oes angen colofnau ychwanegol arnoch? Mae unrhyw beth y gallwch ei raddio yn Blackboard yn cynhyrchu Canolfan Raddio wrth ichi ei greu. Felly, os oes gennych Aseiniad Turnitin, Cylch Trafod graddedig neu Wici, bydd gennych eisoes golofn yn y Ganolfan Raddau. Os hoffech storio marciau ar gyfer cyflwyniadau, arholiadau, profion dosbarth, arholiadau llafar, a.y.y.b., gallwch greu eich colofnau eich hun. Help Blackboard ar Greu Colofnau.
  3. Meddyliwch yn ofalus wrth roi enw i’ch colofnau (colofnau wedi’u creu gennych chi, neu’r rhai sy’n cael eu creu wrth osod Turnitin a.y.y.b.). Dylent fod yn ystyrlon ac yn hawdd i ddeall pa elfen asesu maent yn perthyn iddi. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth fapio elfennau ar gyfer trosglwyddo marciau. Problem gyffredin yw fod gennych ddau bwynt e-gyflwyno a’r ddau yn dwyn yr enw Traethawd; gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio teitlau sy’n gwneud synnwyr fel Traethawd 1 a Thraethawd 2 neu Traethawd Maeth a Thraethawd Ymarfer Corff.
  4. A hoffech wneud cyfrifiadau neu gyfuno marciau? Mae AStRA yn pwysoli eich aseiniadau wrth gyfrifo’r marc cyffredinol ar ddiwedd y modiwl, ond efallai y byddwch yn dymuno grwpio aseiniadau bach ynghyd i wneud cyfrifiadau neu i ddangos i’r myfyrwyr. Er enghraifft, efallai bod gennych set o brofion wythnosol sy’n ffurfio un elfen o’r asesu ar gyfer y modiwl. I wneud hyn, gallwch greu un o’r colofnau cyfrifiedig. Help Blackboard ar Golofnau Cyfrifiedig.
  5. Beth hoffech chi i’r myfyrwyr ei weld? Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod eich bod yn gallu cuddio colofnau’r Ganolfan Raddau rhag y myfyrwyr, ond a oeddech yn gwybod bod Prif Arddangosiad ac Arddangosiad Eilaidd? Mae hyn yn golygu y gallwch ddangos llythyren i’r myfyrwyr, neu ddangos bod y gwaith wedi’i farcio, heb ddangos y radd. Dyma ffordd o roi adborth cyn rhyddhau marc.
  6. Gwylio a hidlo. Ceir nifer o ffyrdd o drefnu eich Canolfan Raddau i’ch helpu i weld y pethau y dymunwch eu gweld yn unig. Gan ddibynnu ar sawl colofn sydd gennych a’r hyn sydd angen ei wneud, efallai bydd un o’r isod yn ddefnyddiol:
    1. Golygon Call ac Ychwanegu fel Ffefryn. Chi’n gwybod am yr eitemau Angen eu Marcio ac Aseiniadau yn y Ganolfan Raddau Gyflawn yn eich dewislen? Llwybrau byrion yw’r rhain sy’n eich cysylltu â golygon hidledig o’r Ganolfan Raddau. A wyddech chi eich bod yn gallu ychwanegu eich llwybrau byrion eich hun yma, gan ddefnyddio categorïau neu grwpiau o fyfyrwyr fel y meini prawf? Help Blackboard ar Golygon Call.
    2. Hidlo. Fel taenlenni Excel, mae’n bosib hidlo eich golwg o’r Ganolfan Raddau, i ddangos setiau penodol o wybodaeth yn unig. Help Blackboard ar Hidlo.
  7. Codio lliw. Dyma fy ffefryn personol i. Gallwch roi cod lliw i’r Ganolfan Raddau i ddangos yn sydyn pa fyfyrwyr sy’n cael marciau uchel iawn, a pha fyfyrwyr y gallai fod angen rhagor o help arnynt. Mae’n ddefnyddiol iawn ar gyfer profion sy’n cael eu marcio’n awtomatig ac efallai na byddwch yn gweld y canlyniadau’n syth. Mae’n ffordd weledol sydyn o weld pwy allai fod angen rhagor o help. Help Blackboard ar godio lliw.

Bydd rhifyn nesaf y gyfres hon yn trafod marcio ac ymdrin â graddau. Os hoffech gymorth i sefydlu eich Canolfan Raddau, cysylltwch â mi a gallwn drafod eich gofynion a mynd ati i’w rhoi ar waith.