Cynhadledd Dysgu ac Addysgu 2020 – ein Prif Siaradwr Gwadd: yr Athro Ale Armellini

Rydym yn hynod falch o gael cyhoeddi mai’r Athro Ale Armellini fydd yn Brif Siaradwr Gwadd inni yn ein Cynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni.

Ac yntau wedi datblygu cynllun Dysgu ac Addysgu Prifysgol Northampton, a’i weithredu a’i gloriannu, rydym ni’n disgwyl yn eiddgar am syniadau’r Athro Ale Armellini ar thema’r gynhadledd eleni, sef Cyfoethogi’r Cwricwlwm: Ysgogi Dysgu a Bywiogi’r Addysgu!

Mae Cynllun Dysgu ac Addysgu Prifysgol Northampton a Strategaeth Rhagoriaeth mewn Addysg Aberystwyth fel ei gilydd yn pwysleisio pwysigrwydd dysgu gweithredol, ac yn ceisio rhoi dysgu gweithredol ar waith ar raddfa ehangach ar draws eu prifysgolion. Dysgu gweithredol yw un o brif bynciau’r gynhadledd eleni, felly fe fydd presenoldeb yr Athro Armellini fel y prif siaradwr gwadd yn bendant ymhlith yr uchafbwyntiau.

Nod Prifysgol Aberystwyth yw, drwy gynllun tri cham, hyrwyddo ethos o ddysgu gweithredol mwy parhaus ymhlith y myfyrwyr, drwy ddilyn cyfres o strategaethau allweddol a strategaethau parhaus, drwy’r Gymraeg a’r Saesneg. Mae hyn yn cynnwys ein Prosiect Dysgu Gweithredol, a’n Datblygiad Iechyd Meddwl Staff a Myfyrwyr, dau faes allweddol o’n strategaeth, yn ogystal â Chyfoethogi Darpariaeth Tiwtoriaid Personol, a Mentrau Cyflogadwyedd yn rhan o’n gwaith strategol presennol. Yn y pen draw, erbyn haf 2022, bydd Prifysgol Aberystwyth wedi ymdrechu i drawsnewid sut rydym yn dysgu ein myfyrwyr a sut maent hwythau’n dysgu, a’n gobaith yw y byddwn yn annog prifysgolion eraill i wneud hynny hefyd.

Mae elfennau tebyg i’w cael yn Amcanion Dysgu ac Addysgu Prifysgol Northampton, a ddatblygwyd gan ein prif siaradwr gwadd, sy’n dangos pwysigrwydd arloesi mewn addysgeg. Gan fod swydd yr Athro Armellini yn golygu ei fod yn arwain ar ddysgu ym mhob rhan o Brifysgol Northampton, a’i fod yn ymchwilio i arloesi ym maes dysgu ac addysgeg ar-lein, ac enwi dim ond ychydig o’i feysydd ymchwil, fe fydd yn darparu cyngor a dealltwriaeth anhepgorol i’n cynadleddwyr.

Cynhelir y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol ym Mhrifysgol Aberystwyth o 7 i 9 Medi 2020. 

Cewch ddilyn ei lif trydar yn @alejandroa

One thought on “Cynhadledd Dysgu ac Addysgu 2020 – ein Prif Siaradwr Gwadd: yr Athro Ale Armellini

  1. Pingback: 2020/21 Siaradwyr ac Adnoddau Allanol | Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*