Blackboard SaaS – diweddariad 2

Ddiwedd mis diwethaf, gwnaethom flogio am gael ein dwylo ar amgylchedd profi Blackboard SaaS. Y mis hwn rydym wedi dechrau’r broses o brofi’r amgylchedd i weld beth sy’n debyg ac yn wahanol rhwng SaaS a’n fersiwn presennol o Blackboard.

Mae llawer o’r gwaith y mis hwn yn cael ei wneud gan ein Rheolwr Prosiect Blackboard yn Amsterdam. Mae Blackboard wedi cymryd copi llawn o’n fersiwn lleol ni ac yn ei fewnforio i’r system SaaS newydd. Pan fydd hyn wedi cael ei wneud, bydd modd i ni edrych ar ein cyrsiau presennol, gwirio bod y broses fudo wedi gweithio a bod popeth yn gweithio fel y disgwyl. Bydd hyn yn golygu edrych ar gynnwys presennol, profi bod yr holl offer yn gweithio’n iawn, a mynd trwy’r holl brosesau dyddiol arferol yr ydym yn eu defnyddio.

Yn y cyfamser, rydym yn profi’r holl flociau adeiladu sydd wedi cael eu datblygu’n fewnol yn PA. Blociau adeiladu yw enw Blackboard am offer estyniad – rhai o’r blociau adeiladu y byddwch chi’n eu hadnabod yw Turnitin a Panopto. Mae bloc adeiladu yn mewnosod gweithrediadau trydydd parti i Blackboard, er enghraifft defnyddio cofrestriadau Blackboard i reoli caniatâd, a’i gwneud hi’n haws arddangos cynnwys mewn modiwl Blackboard. Ond, mae offer eraill yr ydych yn eu defnyddio bob dydd, ond nad ydych yn gwybod eu bod wedi cael eu creu yn PA hyd yn oed. Mae’r faner sgrolio a’r blwch Fy Modiwlau yn enghreifftiau o’r rhain. Mae gennym ni hefyd offer yr ydym ni fel Gweinyddwyr System yn eu defnyddio ac na fydd defnyddwyr arferol byth yn eu gweld – pethau sy’n galluogi i ni gyflwyno gwybodaeth yr ACF i fyfyrwyr y drydedd flwyddyn neu ddarparu porth Blackboard i ApAber.

Mae’r broses brofi wedi golygu dogfennu beth mae pob offer yn ei wneud a sut mae’n gweithio nawr. Rydym wedyn yn defnyddio’r un offer yn ein hamgylchedd SaaS i wirio ei fod yn cael yr un canlyniad ac yn gweithio yn yr un modd. Rydym yn gwneud yn siŵr bod yr holl flociau adeiladu’n cael eu profi mewn nifer o borwyr, yn ogystal ag ar gyfrifiaduron PC ac Apple. Pan fo’n briodol byddwn hefyd yn profi ar ddyfais symudol. Ac wrth gwrs, byddwn yn gwirio yn Gymraeg a Saesneg. Pan fydd hyn wedi cael ei wneud, byddwn yn pasio’r adborth ymlaen i’n datblygwyr lleol i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol. Ac yna bydd y broses yn dechrau eto.

Rydym hefyd yn dod i arfer â’r cylch adleoli parhaus y gwnaethom siarad amdano yn y blog diwethaf. Golyga hyn ein bod yn gwneud yn siŵr ein bod yn derbyn y negeseuon e-bost sy’n dod gan Blackboard ac yn eu darllen yn ofalus i weld beth sy’n newid ar gyfer ein hamgylchedd. Efallai fod gennym ddatrysiadau i broblemau yr ydym wedi rhoi gwybod amdanynt neu offer newydd/diwygiedig. Ar ôl gosod yr adleoli, bydd angen i ni wedyn brofi pob un o’r eitemau newydd i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud beth maent i fod i’w wneud yn ogystal â gwneud yn siŵr bod y nam wedi’i drwsio pan fo’n briodol. Efallai y bydd angen i ni hefyd ddiweddaru ein dogfennau, Cwestiynau Cyffredin ac ati i adlewyrchu’r newidiadau a fydd yn cael eu gwneud.

Fforwm Academi: Meithrin hunanddisgyblaeth mewn dysgwyr

Mae’r Grŵp E-ddysgu’n cynnal nifer o Fforymau Academi trwy gydol y flwyddyn. Diben y Fforymau Academi yw dod ag aelodau ynghyd ar draws y Brifysgol i drafod mater yn ymwneud â Dysgu ac Addysgu. Roedd ein Fforwm Academi ddiwethaf yn canolbwyntio ar Feithrin Hunanddisgyblaeth mewn Dysgwyr. Cafodd y pwnc hwn ei awgrymu yn dilyn Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol y llynedd. Yn y gynhadledd, gwnaeth Dr Simon Payne, Liz Titley a Liam Knox roi cyflwyniad ar hunanddisgyblaeth. Yn ogystal â hyn gwnaeth y Grŵp E-ddysgu gynnal Arddangosfa Academi ble roedd Simon yn cyflwyno strategaethau ar gyfer meithrin hunanddisgyblaeth.

Mae nodiadau llawn o’r Fforymau Academi ar gael ar Wici arbennig sydd ar gael yn y modiwl Dysgu trwy gyfrwng Technoleg, ac mae gan bob aelod o staff fynediad i hwn.

Ceir crynodeb o’n trafodaethau isod:

  • Strategaethau ar gyfer annog hunanddisgyblaeth mewn gweithgareddau dysgu ac addysgu
  • Mae myfyrwyr yn treulio mwy o amser yn dysgu y tu allan i’r dosbarth felly fe ddylem fod yn eu dysgu sut i ddysgu
  • Pa sgiliau sydd gan fyfyrwyr pan fônt yn cyrraedd a beth sydd angen i ni eu dysgu er mwyn iddynt fod yn ddysgwyr hunan-ddisgybledig
  • Sut allwn ni bwysleisio a mesur gwelliant

Os hoffech ymchwilio ymhellach i hunanddisgyblaeth gallwch wylio’r recordiad o Arddangosfa Academi Simon yn ddiweddar. Yn ogystal â hyn, efallai y bydd yr erthyglau hyn o ddiddordeb:

Cynhelir ein Fforwm Academi nesaf ar 9 Mai am 11yb a bydd yn canolbwyntio ar y pwnc ‘Sut mae gwybod fy mod yn addysgu’n llwyddiannus?’ Mae’r fforymau’n ffordd dda o rannu profiadau a dysgu gan eraill a hefyd myfyrio ar eich dulliau eich hun o ymdrin â’r pwnc. Os hoffech awgrymu pwnc ar gyfer Fforwm Academi y flwyddyn nesaf cysylltwch â ni. Gallwch gofrestru ar gyfer y Fforwm Academi drwy archebu ar-lein.

Dr Rob Grieve – Cyflwyniad yn ein Cynhadledd Fechan

Mae’r Grŵp E-ddysgu yn cynnal cynhadledd fechan ar Addysg Gynhwysol Ddydd Mercher 10 Ebrill am 1pm yn E3, Ystafell Hyfforddi E-ddysgu, Academi Aber. Yn ychwanegol at ein postiad blog blaenorol yn cyhoeddi’r siaradwyr ar gyfer y gynhadledd fechan, rydym yn falch o gyhoeddi hefyd y bydd Dr Rob Grieve yn rhoi cyflwyniad wedi’i recordio dan y teitl Stand Up and Be Heard: Student Fear of Public Speaking.

Mae Rob yn Uwch Ddarlithydd mewn Ffisiotherapi yn Adran y Proffesiynau Perthynol i Iechyd ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr (UWE). Yn ogystal â’i brif faes ymchwil a’i brif weithgareddau dysgu, mae Rob hefyd yn un o ymddiriedolwyr Cymdeithas Atal Dweud Prydain. Yn rhinwedd hynny, mae wedi siarad mewn sawl digwyddiad am ddefnyddio cyflwyniadau fel math o asesu a rhoi i fyfyrwyr y sgiliau angenrheidiol ar gyfer siarad cyhoeddus. Yn y cyflwyniad hwn, bydd Rob yn cyfeirio at ambell un o’r cyflwyniadau y mae wedi’u rhoi yn ddiweddar yn Advance Higher Education. Bydd Rob hefyd yn myfyrio ar weithdai Stand Up and Be Heard y mae wedi bod yn eu cynnal i fyfyrwyr y mae arnynt ofn siarad yn gyhoeddus. Nod y gweithdai oedd cefnogi dysgu ac addysgu ym maes cyflwyniadau a siarad cyhoeddus trwy gyfrwng strategaethau penodol, ac adolygu manteision cyffredinol siarad cyhoeddus fel sgìl trosglwyddadwy ar gyfer y brifysgol, bywyd, a chyflogaeth yn y dyfodol. Mae Rob yn adeiladu ar sail arolwg a gynhaliwyd yn 2012 a dystiodd fod 80% o fyfyrwyr yn dweud iddynt brofi pryder cymdeithasol yn rhan o aseiniadau a oedd yn cynnwys siarad cyhoeddus (Russell a Topham, 2012). Yn ogystal â hyn, canfu astudiaeth bellach (Marinho et al, 2017) fod gan 64% o fyfyrwyr ofn siarad yn gyhoeddus, tra byddai 89% wedi hoffi petai eu rhaglen israddedig wedi cynnwys dosbarthiadau ar wella eu siarad cyhoeddus. Ceir rhagor o wybodaeth am waith Rob yn y postiad blog hwn. Enw ei gyfrif ar Twitter yw @robgrieve17.

Gobeithio y gallwch ymuno â ni yn ein cynhadledd fechan. Mae ambell le ar gael o hyd. Gallwch archebu eich lle ar-lein.

Cyfeiriadau

Marinho, ACF., de Madeiros, AM., Gama, AC., & Teixeir, LC. 2017. Fear of Public Speaking: Perception of College Students and Correlates. Journal of Voice. 31:1 DOI: 10.1016/j.jvoice.2015.12.012

Russell, G. a Topham, P. 2012. The impact of social anxiety on student learning and wellbeing in higher education. Journal of Mental Health 21:4. Tt. 375-385. https://doi.org/10.3109/09638237.2012.694505

Defnyddio RhithRealiti ym maes Iechyd Meddwl

Er bod unigolion sy’n defnyddio rhithrealiti yn ymwybodol o’r ffaith nad yw eu profiadau’n rhai real, mae’r ymatebion corfforol a seicolegol a ysgogir ganddo yn debyg i’r rhai a brofir mewn sefyllfaoedd gwirioneddol.

Mae defnyddio triniaethau iechyd meddwl rhithrealiti yn agor posibiliadau o weithio trwy’r ymatebion i ysgogiadau problematig heb orfod eu hwynebu mewn bywyd go iawn. Mae i hyn fudd amlwg, ymarferol; er enghraifft, mae creu efelychiad o hedfan ar gyfer unigolyn sy’n brwydro â ffobia ynglŷn â hedfan yn ateb llawer haws na threfnu taith awyren i’r unigolyn.

Ar ben hyn, gall y therapydd weithio nid yn unig ar sail disgrifiad y claf ond gall wylio’u hymatebion. Gall y therapydd a’r claf ill dau reoli’r ysgogiadau a gall hynny wneud y driniaeth yn ddiogelach yn gorfforol a seicolegol.

‘Mae gan rithrealiti’r gallu i drawsnewid y ffordd o asesu, deall a thrin problemau iechyd meddwl’ (Freeman, et al., t. 2392). Cafodd ei ddefnyddio ar gyfer asesu a thrin ffobiâu, pryder, PTSD, caethiwed, paranoia, anhwylderau bwyta ac awtistiaeth. Er enghraifft, mae ap Rhithrealiti, a grëwyd yn Ysgol Gwaith Cymdeithasol Tulane yn rhwystro cleifion caeth i gyffuriau a diod rhag llithro’n ôl ‘trwy ddefnyddio sgiliau hunan-reolaeth ac ymwybyddiaeth mewn efelychiadau realistig lle mae cyffuriau a diod wrth law’ (Leatham, 2018, para.13).

Yn ddiweddar, mae Gareth Norris a Rachel Rahman o Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth ar y cyd â chydweithwyr o’r Adran Cyfrifiadureg wedi cynnal prosiect ymchwil arbrofol sy’n defnyddio rhithrealiti trwy edrych ar ei bosibiliadau ar gyfer hel atgofion mewn oedolion hŷn.

Llwyddodd y Grŵp E-ddysgu i gaffael setiau pen rhithrealiti a chamera y gall staff eu defnyddio wrth addysgu ac mewn ymchwil. Gallwch greu amgylcheddau dysgu ymdrwytho neu ddefnyddio deunydd rhithrealiti sydd eisoes ar gael. Archebwch y setiau rhithrealiti a’r camera o stoc y llyfrgell.

Cyfeiriadaeth:

Farnsworth, B. (2018, Mai 1). The Future of Therapy – VR and Biometrics. Wedi’i adfer o https://imotions.com/blog/vr-therapy-future-biometrics/

Freeman, D. & Freeman, J. (2017, Mawrth 22). Why virtual reality could be a mental health gamechanger. Wedi’i adfer o https://www.theguardian.com/science/blog/2017/mar/22/why-virtual-reality-could-be-a-mental-health-gamechanger

Freeman, D., Reeve. S., Robinson, A., Ehlers, A., Clark, D., Spanlang, B. & Slater, M. (2017). Virtual reality in the assessment, understanding, and treatment of mental health disorders. Psychological Medicine, 47 (2393-2400).

Leatham, J. (2018, Mehefin 22). How VR is helping Children with Autism Navigate the World around Them. Wedi’i adfer o https://www.vrfitnessinsider.com/how-vr-is-helping-children-with-autism-navigate-the-world-around-them/