Lansio Adnodd Turnitin i Ddatgelu Ysgrifennu drwy Ddeallusrwydd Artiffisial a ChatGPT

Turnitin icon

Ar 4 Ebrill bydd Turnitin yn lansio eu hadnodd newydd i ddatgelu ysgrifennu drwy ddeallusrwydd artiffisial a ChatGPT. Bydd hwn yn cael ei ychwanegu at yr Adroddiad Tebygrwydd. Cyn i gydweithwyr ddechrau defnyddio’r datgelydd deallusrwydd artiffisial, roeddem ni’n meddwl y byddem yn tynnu eich sylw at ambell rybudd yn ei gylch yn y dyfyniadau hyn gan gyrff proffesiynol awdurdodol yn y sector. 

Mae Jisc yn nodi (cyfieithwyd y dyfyniad o’r Saesneg): “Ni all datgelyddion deallusrwydd artiffisial brofi’n bendant bod testun wedi cael ei ysgrifennu drwy ddeallusrwydd artiffisial.”

— Michael Webb (17/3/2023), AI writing detectors – concepts and considerations, Canolfan Genedlaethol Jisc ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial

Dyma gyngor yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (eto, cyfieithwyd y dyfyniad o’r Saesneg): “Byddwch yn ofalus yn eich defnydd o offer sy’n honni eu bod yn datgelu testun a gynhyrchwyd drwy ddeallusrwydd artiffisial, a chynghori staff am safiad y sefydliad ar hyn. Nid yw allbwn yr offer hyn wedi cael ei wirio a cheir tystiolaeth bod rhywfaint o destun a gynhyrchwyd drwy ddeallusrwydd artiffisial yn llwyddo i osgoi’r datgelyddion. Hefyd, mae’n bosibl na fydd myfyrwyr wedi rhoi caniatâd i lwytho eu gwaith i’r offer hyn nac wedi cytuno ar sut y bydd eu data’n cael eu cadw.”

— ASA (31/1/2023), The rise of artificial intelligence software and potential risks for academic integrity: briefing paper for higher education providers

Gweler hefyd y Canllawiau i Staff a luniwyd gan y Gweithgor Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol dan arweiniad Mary Jacob. Mae’r canllawiau’n amlinellu awgrymiadau ar gyfer sut y gallwn esbonio ein hasesiadau presennol wrth fyfyrwyr mewn ffyrdd a fydd yn eu hannog i beidio ag ymddwyn mewn modd sy’n academaidd annerbyniol drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, yn ogystal â’r rhybuddion (neu’r ‘baneri coch’) i’w hystyried wrth farcio.

Gallwch ddarllen mwy am y datblygiad deallusrwydd artiffisial yn Turnitin yn y postiad blog hwn gan Turnitin.

I gael arweiniad ar sut i ddefnyddio’r adnodd hwn, darllenwch y canllaw hwn gan Turnitin:

Mae Turnitin hefyd wedi cyhoeddi tudalen adnoddau ar ysgrifennu drwy ddeallusrwydd artiffisial i gefnogi addysgwyr gydag adnoddau addysgu ac i roi gwybod am eu cynnydd wrth ddatblygu nodweddion datgelu ysgrifennu drwy ddeallusrwydd artiffisial.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddefnyddio adnodd Turnitin i ddatgelu ysgrifennu drwy ddeallusrwydd artiffisial a ChatGPT neu am ddehongli’r canlyniadau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).

Ystyriaethau ynghylch Turnitin i fod yn ymwybodol ohonynt (o fis Hydref 2022).

Mynediad myfyrwyr i fannau cyflwyno Turnitin.

Rydym yn argymell i chi beidio â chuddio Mannau Cyflwyno Turnitin oddi wrth fyfyrwyr am y rhesymau canlynol:

  • Mae myfyrwyr angen mynediad i fannau cyflwyno Turnitin i weld a lawrlwytho eu derbynneb digidol Turnitin sy’n dystiolaeth eu bod wedi cyflwyno.
  • Yn ddelfrydol dylai myfyrwyr bob amser gael mynediad at eu haseiniadau a gyflwynwyd drwy fannau cyflwyno Turnitin.
  • Dylai myfyrwyr gael mynediad i’w graddau a’u hadborth ar y dyddiad rhyddhau Adborth a hysbysebwyd yn wreiddiol iddynt ar gyfer y man cyflwyno Turnitin. Dylai adborth fod ar gael i fyfyrwyr 15 diwrnod gwaith ar ôl cyflwyno yn unol â phwynt 5.2 o’r Polisi E-gyflwyno ac Adborth.

Turnitin a chyflwyno a marcio nad yw’n ddienw.

Rydym yn argymell yn gryf bod y golofn Canolfan Raddau Blackboard yn cael ei chuddio ar gyfer unrhyw fan cyflwyno Turnitin a osodwyd gyda marcio nad yw’n ddienw.

Pan fydd aseiniad Turnitin yn cael ei osod heb farcio dienw bydd unrhyw farciau a gofnodir yn Stiwdio Adborth Turnitin yn bwydo drwodd i golofn canolfan raddau Blackboard yn syth. Mae hyn yn eu gwneud yn weladwy i’r myfyrwyr cyn y dyddiad rhyddhau adborth.

I guddio colofn yn y Ganolfan Raddau:

  1. Ewch i’r Ganolfan Raddau Lawn
  2. Cliciwch ar y llinell onglog (chevron) drws nesaf i’r golofn berthnasol
  3. Rhaid toglo’r opsiwn ‘Cuddio rhag Myfyrwyr (Ymlaen/Diffodd)’ nes bydd llinell goch trwyddo.

Ni ddylai’r golofn Canolfan Raddau Blackboard fod wedi’i chuddio pan fydd y dyddiad rhyddhau adborth wedi pasio.

Er mai marcio’n ddienw sy’n arferol, mae’n bosibl bod rhesymau dros gyflwyno a marcio nad yw’n ddienw. Gweler pwynt 4.7 o’r Polisi E-gyflwyno ac Adborth.

Rhoddwyd gwybod am y mater hwn i Turnitin.

Rhaglen Siaradwyr Gwadd yr UDDA: Cynorthwyo Marcwyr i Ganfod Twyllo ar Gontract

Banner for Audio Feedback

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ein Siaradwr Gwadd nesaf.

Ar 20 Mai 2022 12:30-13:30, bydd Dr Mary Davies, Prif Ddarlithydd yn Ysgol Fusnes Prifysgol Oxford Brookes, a’i chydweithwyr yn cynnal gweithdy ar eu hadnodd rhyngweithiol Contract Cheating Detection for Markers, sy’n gweithio ar sail rhestr wirio o ‘faneri coch’.

Bydd Stephen Bunbury, Uwch Ddarlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Westminster, Anna Krajewska, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ragoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu yn y Bloomsbury Institute, a Dr Matthew Jones, Uwch Ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Greenwich, yn ymuno â Dr Davies.

Nod y gweithdy yw helpu aelodau o staff i ganfod achosion posibl o dwyll ar gontract wrth farcio. Mae’r cyflwynwyr yn aelodau o Weithgor Twyllo ar Gontract Rhwydwaith Uniondeb Academaidd Llundain a De-ddwyrain Lloegr. Dyma’r gweithgor sydd wedi paratoi’r adnodd rhyngweithiol Contract Cheating Detection for Markers, a hynny ar sail rhestr wirio o ‘faneri coch’.

Yn y gweithdy, bydd y cyflwynwyr yn esbonio’r baneri coch sy’n tynnu sylw at enghreifftiau posibl o dwyllo ar gontract, a hynny trwy drafod adrannau o’r rhestr wirio: dadansoddi testun, cyfeirnodi a defnyddio ffynonellau, tebygrwydd ar Turnitin a pharu testun, priodweddau dogfennau, y broses ysgrifennu, cymharu â gwaith blaenorol myfyrwyr, a chymharu â gwaith y garfan o fyfyrwyr. Cewch gyfle i ymarfer defnyddio’r rhestr wirio ac i drafod ffyrdd effeithiol o’ch helpu i ganfod enghreifftiau posibl o dwyllo ar gontract yng ngwaith myfyrwyr.

Mae adnoddau o ddigwyddiadau blaenorol gyda Siaradwyr Gwadd i’w gweld ar ein blog.

Cynhelir y gweithdy ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams. Archebwch eich lle ar-lein.

Cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu os oes gennych unrhyw gwestiynau (udda@aber.ac.uk).

Diweddariadau i’r Polisi E-gyflwyno ac E-adborth

Banner for Audio Feedback

Mae’r Polisi E-gyflwyno a ddiweddarwyd wedi’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwella Academaidd. Gallwch ddarllen y polisi wedi’i ddiweddaru ar ein Tudalennau E-gyflwyno.

Diben y polisi wedi’i ddiweddaru oedd sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’n Polisi Cipio Darlithoedd a rhoi gwell eglurder am ei gwmpas a’r gofynion gan staff a myfyrwyr. 

Un newid mawr a fydd yn effeithio ar greu mannau cyflwyno Turnitin yw cyflwyno polisi sy’n rhoi dewis i’r myfyriwr gyflwyno nifer o weithiau cyn y dyddiad cau, a hefyd gweld eu hadroddiad gwreiddioldeb yn Turnitin. Wrth greu’r man cyflwyno yn Turnitin, dewiswch y gosodiadau canlynol:

  • Creu Adroddiadau Tebygrwydd i Fyfyrwyr – Ar unwaith (gellir arysgrifennu tan y Dyddiad Dyledus)
  • Caniatáu i fyfyrwyr weld Adroddiadau Tebygrwydd – Ie

Mae’r polisi wedi’i ddiweddaru’n amlinellu:

  • Cwmpas yr E-gyflwyno a’r E-adborth
  • Sut mae ein technolegau E-gyflwyno’n defnyddio eich data chi a’ch myfyrwyr
  • Awgrymiadau ar gyfer cyflwyno gwaith yn electronig, cynnwys dyddiadau cau, rhoi cyfle i’r myfyrwyr ymarfer cyflwyno.
  • Graddio a disgwyliadau adborth
  • Cyflwyno traethodau hir yn electronig
  • Cyfnodau Cadw
  • Hawlfraint
  • Sut yr ymdrinnir â methiannau TG
  • Cyfarwyddyd hygyrchedd i staff a myfyrwyr
  • Y gefnogaeth sydd ar gael

Mae’n ein tudalen E-gyflwyno’n amlinellu’r holl gymorth a’r hyfforddiant sydd ar gael i staff ar e-gyflwyno. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch sut i ddefnyddio’r offer hyn anfonwch e-bost atom ar (eddysgu@aber.ac.uk).