Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 26/3/2021

Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.        

Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.

Offer Pleidleisio Vevox

Distance Learner BannerMae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi bod Prifysgol Aberystwyth wedi dewis Vevox fel dull o bleidleisio. Bydd ein trwydded Vevox yn para am 3 blynedd o leiaf. 

Gallwch ddechrau arni heddiw drwy fewngofnodi i https://aberystwyth.vevox.com/ gyda’ch enw defnyddiwr a chyfrinair PA.

Rydym wedi paratoi’r deunyddiau cymorth canlynol i chi allu manteisio i’r eithaf ar yr offer pleidleisio hwn:

Read More

Cyfle olaf i gofrestru! Cynhadledd Fer, 25 Mawrth 2021

Baner Cynhadledd Fer

Ar Ddydd Iau 25ain o Fawrth, bydd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal yr ail o Gynadleddau Byr yr Academi eleni, a hynny ar-lein. Y thema fydd ‘Ymgorffori Lles yn y Cwricwlwm’, a byddwn yn archwilio’r cysylltiadau rhwng lles a dysgu a sut y gall hyn helpu i gynyddu llwyddiant myfyrwyr a staff.

Gallwch weld y rhaglen lawn yma. Bydd y Gynhadledd Fer yn rhedeg o 09:30-16:50.

Gobeithiwn y byddwch yn gallu ymuno â ni. *Gallwch gofrestru i fynychu’r Gynhadledd Fer drwy glicio ar y ddolen hon*. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at udda@aber.ac.uk.

Beth arall y gallem ei wneud i gefnogi myfyrwyr wrth iddynt ddysgu? (yn ôl y myfyrwyr eu hunain!)

Cawsom gyfle yn ddiweddar i gyflwyno sesiynau ‘Gwnewch y gorau o’ch dysgu ar-lein’ i Gynorthwywr Adrannol i Gymheiriaid, Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn ogystal â Chynorthwywyr Preswyl. Roedd y sesiynau hyn yn canolbwyntio’n bennaf ar gyflwyno myfyrwyr i’r adnoddau sydd ar gael iddynt: y modiwl Cefnogi eich dysgu ar Blackboard (a fydd yn cael ei gyflwyno i’r holl fyfyrwyr yn fuan); a’r Canllawiau Cyflym ar Lwyddiant Myfyrwyr.

Rydym hefyd wedi manteisio ar y cyfleoedd hyn i ofyn i fyfyrwyr: ‘Beth arall y gallwn ei wneud i’ch cefnogi wrth ichi ddysgu?’. Hoffem rannu â chi rywfaint o’r adborth a gawsom, ynghyd ag awgrymiadau ynghylch sut y gellid ymdrin â’r rhain:

Estyniadau i aseiniadau 

Er nad yw hyn yn rhywbeth y gall y staff dysgu ei ddatrys, gallai fod yn fuddiol cynnwys dolen i’r wybodaeth am Estyniadau i Waith Cwrs ynghyd â’r wybodaeth arall am asesiadau.

Strwythur clir 

Crybwyllodd rhai myfyrwyr y ffaith eu bod wedi cael anhawster wrth lywio’u ffordd drwy eu llwyth gwaith o safbwynt dysgu ar-lein, a’r angen am strwythur cliriach o ran sut a phryd y bydd y cynnwys yn cael ei ryddhau iddynt. Felly, hoffem annog staff i gynnwys tabl byr ac ynddo ddyddiadau rhyddhau cynnwys (gellir ei gynnwys yng Ngwybodaeth y Modiwl), a chadw at ddyddiadau ac amseroedd y seminarau a’r sesiynau byw a amserlennwyd.

A table showing dates on each content being released on Blackboard

Read More

Arowlg Profiad Mewnwelediad Digidol Myfyrwyr

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yn y prosiect Profiad Mewnwelediad Digidol sy’n ceisio ymchwilio i brofiadau ein myfyrwyr o dechnoleg. Mae’r prosiect yn seiliedig ar arolygon ar-lein a gynlluniwyd gan Jisc ac a ddefnyddir gan sefydliadau gwahanol ledled y DU.

Mae’n galluogi inni gael gwell syniad o sut mae myfyrwyr yn defnyddio technoleg a meincnodi ein canlyniadau yn erbyn sefydliadau Addysg Uwch eraill yn ein sector.

Byddem yn gwerthfawrogi eich cymorth i hyrwyddo’r Arowlg Mewnwelediad Digidol i’r holl fyfyrwyr.

Safle Teams NEWYDD a DPP cyfrwng Cymraeg (mis Mawrth ’21)

Safle Teams NEWYDD:
Rydym ni wedi sefydlu safle Teams newydd, Dysgu ac addysgu cyfrwng Cymraeg. Mae’r safle hwn ar gyfer staff yn y Brifysgol sy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu sy’n medru’r Gymraeg. Mae’n lle anffurfiol i ni rannu gwybodaeth am hyfforddiant cyfrwng Cymraeg gyda chi ac yn lle hefyd i bawb rannu arferion addysgu da yn gyffredinol.

Safle Teams Dysgu ac Addysgu cyfrwng Cymraeg

*Er mwyn cael eich hychwanegu at y safle, anfonwch e-bost at udda@aber.ac.uk*

Hyfforddiant cyfrwng Cymraeg (mis Mawrth):
Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnig nifer o sesiynau Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) mewn amrywiaeth o bynciau. Rydym yn cynnal dwy sesiwn cyfrwng Cymraeg yn ystod mis Mawrth.

  1. Hanfodion E-ddysgu Uwch: Beth allaf ei wneud gyda Blackboard (22 Mawrth; 14:00-15:30)
  2. Fforwm Academi: Addysgu grwpiau bychain (24 Mawrth; 11:00-12:30) *Agored i staff o brifysgolion eraill yng Nghymru

Am restr lawn o’r holl sesiynau (cyfrwng Cymraeg a Saesneg) ac i sicrhau lle ar unrhyw gwrs, ewch i’r wefan hyfforddi staff. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw un o’r sesiynau, anfonwch e-bost at udda@aber.ac.uk.

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 15/3/2021

Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.        

Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.

Crynodeb o Weithdy Kate Exley

Y mis diwethaf bu i’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu wahodd Dr Kate Exley i gynnal gweithdy i staff Prifysgol Aberystwyth ar sut i symud eich darlith (PowerPoint) ar-lein.

Bu’r rhai fu’n cymryd rhan yn cynnig llu o strategaethau defnyddiol i ennyn diddordeb y myfyrwyr wrth ddysgu ar-lein. Rydym wedi crynhoi rhywfaint o’r drafodaeth isod.

Dylunio’r Dysgu:

  1. Strategaethau syml oedd fwyaf effeithiol, megis defnyddio dogfen Word a’i llwytho i’r sgwrs
  2. Defnyddio meddalwedd cynnal pleidlais i gynnwys y myfyrwyr wrth iddynt ddysgu
  3. Cynnwys gweithgareddau i dorri’r iâ er mwyn creu’r cyswllt cyntaf
  4. Mewn sesiynau hwy, gosod tasg a chynnwys amser ar gyfer cael egwyl o’r sgrin
  5. Cynnwys tasgau i’r myfyrwyr eu gwneud ymlaen llaw, a defnyddio’r sesiynau byw i atgyfnerthu eu gwybodaeth
  6. Cynnwys tasgau cymdeithasol yn ogystal â thasgau ffurfiol
  7. Mae un adran yn cynnal gweithdai diwrnod o hyd â’r opsiwn i gynnwys yr aelod o staff yn y sesiwn trwy gyfrwng y ffôn oes ganddynt unrhyw gwestiynau
  8. Cadw at un neu ddau o weithgareddau ar raddfa fawr mewn sesiwn 40 munud
  9. Bod yn ymwybodol y gall myfyrwyr fod yn dod i’r sesiwn fyw heb fod wedi gwneud yr holl dasgau ymlaen llaw
  10. Defnyddio offer cydweithredol megis dogfen a rennir, bwrdd gwyn neu Padlet i greu nodiadau ar y cyd
  11. Bod yn fwy anffurfiol mewn darlithoedd sy’n cael eu recordio
  12. Cynnig sesiynau galw heibio byw bob wythnos lle gall myfyrwyr ofyn cwestiynau a chael atebion iddynt
  13. Gofyn i fyfyrwyr gwrdd mewn grwpiau oddi allan i’r gweithgareddau ar yr amserlen
  14. Rhannu enghreifftiau / astudiaethau achos o fywyd go iawn wrth ddysgu, a gofyn i fyfyrwyr gyfrannu eu henghreifftiau eu hunain
  15. Gofyn i fyfyrwyr chwilio am bethau / ymchwilio yn y sesiwn fyw

Read More

Cynhadledd Fer: ‘Ymgorffori Lles yn y Cwricwlwm’, Dydd Iau 25 Mawrth, 09:30yb

Baner Cynhadledd Fer



Ar Ddydd Iau 25ain o Fawrth, bydd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal yr ail o Gynadleddau Byr yr Academi eleni, a hynny ar-lein. Y thema fydd ‘Ymgorffori Lles yn y Cwricwlwm’, a byddwn yn archwilio’r cysylltiadau rhwng lles a dysgu a sut y gall hyn helpu i gynyddu llwyddiant myfyrwyr a staff. Bydd y Gynhadledd Fer yn rhedeg o 09:30-16:50.

Mae’n bleser gyda ni gyhoeddi ein rhaglen:

  • Flourishing at Aberystwyth – Putting Positive Education into Practice (Frederica Roberts – Prif siaradwr)
  • Online Communities and Student Well-being (Kate Lister – Prif siaradwr)
  • Well-being in the Curriculum at Aberystwyth University (Samantha Glennie)
  • Well-being in the Curriculum – a Foundation Year Pilot (Sinead O’Connor)
  • Supporting Students in Building a Resilient Approach to their Learning (Antonia Ivaldi)
  • What Can Lecturers Do to Get Students to Embrace Mistakes? (Marco Arkesteijn)
  • Building Resilience (Alison Pierse)
  • Meeting Students’ Needs (using simple tools) (Panna Karlinger)
  • Resilience – a Valuable Student Skill (Sadie Thackaberry)

Byddwn hefyd yn cynnal sesiwn ioga a myfyrdod ar gyfer holl fynychwyr y gynhadledd yn ystod y ddwy egwyl. Bydd y sesiynau hyn yn ddewisol.

Gobeithiwn y byddwch yn gallu ymuno â ni. Gallwch gofrestru i fynychu’r Gynhadledd Fer drwy glicio ar y ddolen hon. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at udda@aber.ac.uk.

Myfyrdodau o’r Fforwm Academi: Sut y gallaf wneud fy nysgu’n fwy cynhwysol?

What does insivity mean to you wordcloud

Sesiwn y Fforwm Academi ar gynwysoldeb yr wythnos diwethaf oedd un o’r sesiynau â’r presenoldeb uchaf eleni. Roedd hi’n wych gweld cymaint o ddiddordeb mewn datblygu dysgu sy’n fwy cynhwysol, a chymaint o ymroddiad i wneud hynny hefyd. Cyflwynwyd y sesiwn hon mewn partneriaeth â’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr. Bu’r Cynghorydd Hygyrchedd Nicky Cashman yn rhoi gwybodaeth i staff am ddemograffeg yn PA, yn ogystal â’r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr. 

Dechreuodd y sesiwn â’r cwestiwn eang ‘Beth mae cynwysoldeb yn ei olygu i chi?’ (gweler uchod y cwmwl geiriau a grëwyd gennym). Wedi cyflwyniad Nicky, aethom ymlaen i gynnal gweithgaredd yn seiliedig ar sefyllfaoedd. Cafodd pob grŵp un sefyllfa i weithio â hi. Bob ychydig o funudau, roedd pob grŵp yn cael darn ychwanegol o wybodaeth er mwyn rhoi safbwynt ehangach iddynt ar y sefyllfa.

Mae’r sefyllfaoedd i’w gweld ar waelod y postiad hwn.

Wedi’r gweithgaredd cafwyd trafodaeth ar gyfer y grŵp cyfan. Bu aelodau o staff yn siarad am ‘ddyletswydd gofal’ tuag at eu myfyrwyr ac i ba raddau y disgwylir iddynt fonitro eu myfyrwyr ac y dylent fod yn gwneud hynny. Buom yn trafod hefyd y cydbwysedd rhwng gofalu am fyfyrwyr unigol ac anghenion y garfan gyfan o fyfyrwyr. Roedd y grŵp a fu’n ystyried Sefyllfa Un yn berffaith gywir wrth dynnu sylw at y ffaith y byddai sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu haseinio i grwpiau ymlaen llaw yn ffordd fwy cynhwysol o weithio, er mwyn osgoi sefyllfaoedd lle mae rhywun yn cael ei eithrio. Cafwyd trafodaeth ynghylch pryd mae asesiadau amgen yn briodol a phryd y byddai cymorth ychwanegol i gwblhau’r asesiadau sy’n bod eisoes yn fwy addas. Yn olaf, trafodwyd pwysigrwydd sefydlu ymddiriedaeth â myfyrwyr, yn ogystal â chysylltu â myfyrwyr a allai fod yn dangos arwyddion cynnar eu bod yn cael anhawster.

Rydym ni’n ddiolchgar iawn i Nicky ac i’r holl staff a ddaeth i’r sesiwn hon a chyfrannu ati.

Read More