Gallwch gofrestru nawr ar gyfer yr unfed ar ddeg gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol. Eleni bydd y gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn dwyn y thema Dysgu sy’n Trawsnewid: Creu Cyfleoedd i Ddysgu ac fe’i cynhelir rhwng dydd Mawrth 4 a dydd Iau 6 Gorffennaf 2023.
Yn y blogbost hwn byddwn yn sôn am yr hyfforddiant yr ydym wedi bod yn ei greu fel ein bod yn barod i ddechrau defnyddio Blackboard Ultra.
Byddwn yn cynnig sesiwn hyfforddi Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Blackboard Ultra. Byddwn yn cysylltu â’ch cyfarwyddwr dysgu ac addysgu yn eich adran i drefnu hyn, gan gynnig naill ai sesiwn ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Yn y sesiwn hon, byddwn sôn am yr hyn y mae angen i gydweithwyr ei wneud i gael eu modiwlau yn barod ar gyfer mis Medi. Prif ganlyniad y sesiwn hon yw y bydd cydweithwyr yn gallu sicrhau’r Isafswm Presenoldeb Gofynnol. Mae’r sesiwn yn cynnwys rhai awgrymiadau ar gynllunio, trosolwg o’r elfennau dadansoddi sydd ar gael yn Blackboard Ultra, yn ogystal â sut i greu mannau cyflwyno Turnitin, dolenni i’ch rhestr ddarllen, a dolenni Panopto. Byddwn yn eich cyflwyno i’r offer rhyngweithiol mwyaf diweddar: Trafodaethau a Chyfnodolion. Yn ogystal â hyn, byddwn yn edrych ar y llif gwaith newydd ar gyfer creu Aseiniadau Blackboard, Profion Blackboard a’r Llyfr Graddau.
Os na allwch ddod i sesiwn eich adran, rydym hefyd yn cynnig sesiynau’n ganolog.
Yn ychwanegol at y sesiwn hon, rydym yn cynnal rhai Sesiynau E-ddysgu Uwch a drefnwyd yn ganolog:
E-ddysgu Uwch: Cyflwyniad i Drafodaethau
E-ddysgu Uwch: Cyflwyniad i Gyfnodolion
E-ddysgu Uwch: Cyflwyniad i Brofion
E-ddysgu Uwch: Cynllunio Dewisiadau Eraill yn lle Wici
E-ddysgu Uwch: Cynllunio Dewisiadau Eraill yn lle Blogiau
Ar 9 Mawrth, croesawodd yr UDDA Dr Sarah Gretton ac Alice Jackson o Brifysgol Caerlŷr i gynnal sesiwn o’r enw How to use UN 2030 Agenda Sustainability Development Goals to frame the Curriculum.
Mae sleidiau a recordiadau o’r sesiwn ar gael nawr.
Yn y sesiwn, rhoddodd Sarah ac Alice drosolwg o sut y gwnaethant ymgorffori Nodau Datblygu Cynaliadwyedd ar draws yr holl gwricwla yng Nghaerlŷr, gyda 100% o’u rhaglenni yn cynnwys modiwl yn ymwneud â’r Nod Datblygu Cynaliadwy.
Rhoddwyd cyfle i gyfranogwyr yn y sesiwn fyfyrio ar fodiwlau y maent yn eu haddysgu ac ar a oes unrhyw rai o Nodau Datblygu Cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig wedi’u mapio iddynt. Gofynnwyd i’r cyfranogwyr hefyd a oedd myfyrwyr yn ymwybodol o’r mapio hwn ac a oedd wedi’i gipio yng nghanlyniadau dysgu’r modiwlau a’r rhaglenni.
Ar 1 a 2 Mawrth, cyfarfu’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu â Chyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu yr Adrannau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am brosiect Blackboard Ultra a thrafod ein cynlluniau ar gyfer hyfforddiant, sut y gallwn fynd i’r afael â heriau, a’r gefnogaeth sydd ei hangen ar gyfer prosiect Ultra.
Gellir lawrlwytho sleidiau’r sesiwn o’r ddolen hon.
Mae’r sleidiau’n cynnwys diweddariad ar amserlen y prosiect, yr hyn y bydd angen i gyd-weithwyr academaidd ei wneud, a chyflwyniad i’n trefn hyfforddi.
Crynodeb o’r drafodaeth
Cyswllt er mwyn cael cymorth – os ydych yn cael unrhyw anawsterau wrth ddefnyddio offer e-ddysgu cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk a byddwn yn fwy na pharod i’ch helpu.
Ychwanegu dolenni at restrau darllen a Panopto – Bydd yn rhaid i aelodau o staff ychwanegu’r dolenni hyn at eu modiwlau. Nid oes modd gwneud hyn yn awtomatig ar hyn o bryd, ond byddwn yn parhau i geisio canfod ffyrdd o wneud hynny.
Bydd adrannau’n cael dewis a ydynt eisiau sesiwn hyfforddi wyneb yn wyneb ynteu un ar-lein.
Bydd yr uned yn parhau i gynnig hyfforddiant ar ddefnyddio Ultra dros yr haf ac ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd
Bydd cyd-weithwyr academaidd yn gallu gweld a chopïo deunydd o fodiwlau’r gorffennol – y cyfnod cadw presennol yw 5 mlynedd + y flwyddyn bresennol.
Os oes modd, dylai cyd-weithwyr ddefnyddio nodweddion golygu testun Blackboard i sicrhau bod eu cynnwys mor hygyrch â phosibl.
Bydd rhestr wirio yn cael ei pharatoi fel y gall cyd-weithwyr wirio eu bod wedi gwneud popeth sydd ei angen wrth adeiladu eu modiwlau.
Byddai cyd-weithwyr yn hoffi cael negeseuon cyson gan y Gwasanaethau Gwybodaeth am y prosiect.
Bydd sesiynau hyfforddiant yn cael eu cynnig i bob tîm yn y Gofrestrfa yn ogystal ag i arholwyr allanol a champysau rhyddfraint.
Bydd y negeseuon cyfathrebu a’r dull gweithredu yn tanlinellu manteision symud i Ultra ac yn rhoi rhestr o’r nodweddion newydd.
Os oes modd, bydd deunyddiau fideo yn cael eu creu.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, neu os hoffech siarad â ni am agwedd benodol ar eich cwrs, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk.
Nawr bod y templedi wedi’u cadarnhau rydym wedi creu Cwrs Ymarfer Ultra unigol ar gyfer pob aelod o staff.
Mae’r cwrs ymarfer hwn yn breifat i chi ac nid oes unrhyw fyfyrwyr wedi cofrestru arno. Gallwch ddefnyddio’r cwrs hwn i greu cynnwys a rhoi cynnig ar y rhyngwyneb cwrs Ultra newydd.
Cewch hyd i’ch cwrs ymarfer drwy fynd i Mudiadau ar y ddewislen ar yr ochr chwith:
Mae’r cwrs wedi’i greu gyda’r templed cwrs PA dwyieithog. I gael rhagor o wybodaeth am dempledi cwrs, gwelerein blog blaenorol. Eu henw fydd eich enw Cwrs Ymarfer Ultra / Ultra Practice Course.
I helpu i’ch paratoi ar gyfer y cyrsiau Ultra y flwyddyn academaidd nesaf, rhowch gynnig ar y canlynol:
Fe welwch y bydd modd i chi lusgo a gollwng cynnwys yn llawer haws yn Ultra. Hefyd, gallwch ddewis lle rydych chi’n ychwanegu cynnwys (heb fod cynnwys newydd yn cael ei roi ar waelod y dudalen yn ddiofyn).
Gan fod Ultra yn llawer mwy llyfn na’r Blackboard gwreiddiol, mae eich dull o drefnu cynnwys yn hanfodol i helpu myfyrwyr i lywio’r modiwl. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r nodweddion rhagolwg er mwyn i chi gael syniad o sut mae’r cynnwys yn edrych i fyfyrwyr:
Efallai yr hoffech drafod trefn y cynnwys gyda chydweithwyr i weld a oes dull adrannol neu gynllun yr hoffech ei ddilyn.
Byddwn yn defnyddio’r ymarferion trefnu hyn at ddibenion hyfforddi dros y misoedd nesaf. Cadwch lygad ar ein blog a’n tudalennau gwe i gael gwybodaeth ychwanegol wrth i ganllawiau pellach gael eu cynhyrchu.
Byddwn yn blogio tasgau ychwanegol dros y misoedd nesaf i chi roi cynnig arnynt yn eich cwrs ymarfer Ultra. Yn ein blog nesaf o’r natur hon, byddwn yn edrych yn fanwl ar y profion Grade Book, Aseiniadau, Turnitin, a Blackboard.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am symud i Blackboard Ultra, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).
Llongyfarchiadau i Dr Gareth Hoskins, y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, a’r Athro Reyer Zwiggelaar, Cyfrifiadureg/Pennaeth Ysgol y Graddedigion, ar lwyddo, ym mis Rhagfyr 2022, i ennill gwobr Goruchwyliwr Ymchwil Cydnabyddedig UKCGE. Mae’r dyfarniad hwn yn fframwaith cenedlaethol sy’n cyd-fynd â rôl Goruchwyliwr yn y Brifysgol ac sy’n cefnogi datblygiad goruchwylwyr yn y sector.
Mae gennym adnodd cymorth mewnol ar gyfer y rhai ohonoch a allai fod â diddordeb mewn gwneud cais am y dyfarniad hwn, felly cysylltwch ag Annette Edwards, UDDA sfastaff@aber.ac.uk neu Reyer Zwiggelaar rrz@aber.ac.uk am ragor o wybodaeth.
Y dyddiadau cau nesaf ar gyfer ceisiadau i UKCGE yw 24 Mawrth a 23 Mehefin.
Hefyd, a fyddech cystal â chadw 20 Ebrill yn glir ar gyfer yr ail Ddiwrnod Hyfforddiant Goruchwylio ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Bydd y rhaglen yn cael ei dosbarthu maes o law a bydd yn ddefnyddiol ar gyfer rhannau o’ch cais.
Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ydym ni. Rydym ni’n rhan o’r Gwasanaethau Gwybodaeth. Rydym ni’n gweithio gyda staff ar draws y brifysgol i gefnogi a datblygu dysgu ac addysgu. Rydym ni’n cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau i gyflawni hyn.
Mae’n gyffrous gallu cyhoeddi ein Fforymau Academi arfaethedig ar gyfer 2022-23. Gan adeiladu ar lwyddiant sesiynau’r llynedd, ac ar sail adborth, rydym ni wedi cynyddu’r nifer o Fforymau Academi sydd ar gael gyda chyfanswm o 10 dros y flwyddyn academaidd.
I’r rheini yn eich plith sy’n anghyfarwydd â Fforymau Academi, maen nhw’n drafodaethau anffurfiol sy’n dod â chydweithwyr ynghyd o bob rhan o’r Brifysgol. Ym mhob sesiwn, byddwn yn edrych ar bwnc penodol yn gysylltiedig â Dysgu ac Addysgu. Byddwn yn hwyluso’r drafodaeth ac yn darparu adnoddau ac arweiniad yn dilyn y Fforwm Academi. Yna bydd y rhain ar gael ar ein tudalennau gwe. Cymerwch olwg ar bynciau Fforwm Academi y llynedd:
Byddwn yn dechrau’r Fforymau Academi gyda thrafodaeth ar Gynefino Myfyrwyr. Byddwn yn meddwl am sut rydych chi’n paratoi myfyrwyr i astudio. Pa fath o weithgareddau ydych chi’n eu rhedeg yn wythnos 1 eich modiwl er mwyn i’ch myfyrwyr gyfarwyddo â’r cynnwys? Hefyd, byddwn yn gofyn i gydweithwyr rannu gyda ni sut y gallech chi ddefnyddio technoleg yn y rhyngweithiadau hyn.
Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ydym ni. Rydym ni’n rhan o’r Gwasanaethau Gwybodaeth. Rydym ni’n gweithio gyda staff ar draws y brifysgol i gefnogi a datblygu dysgu ac addysgu. Rydym ni’n cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau i gyflawni hyn.
Mae’r holl wybodaeth fyddwch chi ei hangen ardudalennau gwe’rUned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Yn ddiweddar rydym ni wedi gweithio’n ddwys gyda chydweithwyr academaidd i ddatblygu datrysiadau i bandemig Covid 19. Bydd ein tudalennau gwe Cefnogi eich Addysguyn eich helpu gydag amrywiol ddatrysiadau addysgu.
Rydym ni’n ysgrifennu blog gyda’r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.
Os bydd angen i chi gysylltu â ni gallwch wneud hynny ar un o ddau gyfeiriad ebost:
udda@aber.ac.uk (am gwestiynau addysgegol a chynllunio, neu i drefnu ymgynghoriad) neu
eddysgu@aber.ac.uk (am ymholiadau technegol ynghylch ein harlwy e-ddysgu a restrir isod)
Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ydym ni. Rydym ni’n rhan o’r Gwasanaethau Gwybodaeth. Rydym ni’n gweithio gyda staff ar draws y brifysgol i gefnogi a datblygu dysgu ac addysgu. Rydym ni’n cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau i gyflawni hyn.
Mae’r holl wybodaeth fyddwch chi ei hangen ardudalennau gwe’rUned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Yn ddiweddar rydym ni wedi gweithio’n ddwys gyda chydweithwyr academaidd i ddatblygu datrysiadau i bandemig Covid 19. Bydd ein tudalennau gwe Cefnogi eich Addysguyn eich helpu gydag amrywiol ddatrysiadau addysgu.
Rydym ni’n ysgrifennu blog gyda’r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.
Os bydd angen i chi gysylltu â ni gallwch wneud hynny ar un o ddau gyfeiriad ebost:
udda@aber.ac.uk (am gwestiynau addysgegol a chynllunio, neu i drefnu ymgynghoriad) neu
eddysgu@aber.ac.uk (am ymholiadau technegol ynghylch ein harlwy e-ddysgu a restrir isod)