Gwella Hygyrchedd – gwersi a ddysgwyd o ymagwedd gyfunol

Cawsom amrywiaeth eang o gyflwyniadau drwy gydol y gynhadledd. Un thema a ddaeth i’r amlwg i mi oedd y ffordd roedd defnydd o ddull dysgu cyfunol yn cynnig gwell hygyrchedd yn benodol drwy deilwra cynnwys modiwlau i weddu i anghenion myfyrwyr. Ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym ni’n falch fod gennym ystod mor amrywiol o fyfyrwyr ac rydym yn darparu dull addysgu cynhwysol. Mae rhai o’r ffyrdd mae ein cyrsiau wedi’u haddasu mewn ymateb i’r amgylchiadau addysgu heriol drwy gydol y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar wella hygyrchedd i’n myfyrwyr.

Cafwyd sgwrs wych gan Neil Taylor o’r Adran Cyfrifiadureg ar ei brofiadau’n creu adnoddau gwe rhyngweithiol hygyrch. Roedd yn ceisio datrys dryswch ynglyn â lleoliad dogfennau roedd wedi’u creu i ddarparu gwybodaeth ar gyfer traethodau hir trydedd flwyddyn. Datblygodd sphinx-doc oedd yn casglu’r holl wybodaeth mewn un lle ac mewn fformat fwy hygyrch. Roedd yn gallu ffurfweddu gwahanol themâu a ffontiau i gyd-fynd ag anghenion y myfyrwyr. Roedd sgwrs Neil yn pwysleisio pwysigrwydd dyluniad rhyngwyneb y dudalen gwe i sicrhau hygyrchedd eang.  I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld y cyflwyniad.   

Rhoddodd aelodau o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol gyflwyniad oedd yn cyflwyno achos o blaid y model hyflex. Dr Louise Marshall, Dr Malte Urban a’r Athro Matt Jarvis oedd yn arwain y cyflwyniad oedd yn gwerthuso manteision y model addysgu hyflex. Roedd myfyrwyr yn gwerthfawrogi hyblygrwydd y dull addysgu ar-lein, oedd yn golygu os oedden nhw’n absennol oherwydd ynysu, salwch neu amgylchiadau eraill, eu bod yn dal i allu ymgysylltu â’r cynnwys a mynychu sesiynau. Siaradodd dau fyfyriwr o’r adran, Alex a Louise, am eu profiadau cadarnhaol o’r model hyflex a sut roedd yn gwella hygyrchedd a chynhwysiant. Rhaid cyfaddef mai hwn oedd un o fy hoff gyflwyniadau, felly os cewch chi gyfle, gwrandewch arno. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld y cyflwyniad.  

Cafwyd cyflwyniad gan Dr Tristram Irvine-Flynn o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau’r Ddaear ar greu Teithiau Maes 3D i Gadair Idris. Ysbrydolwyd hyn i ategu rôl gwaith maes mewn modiwlau Daearyddiaeth. Drwy addasu adnoddau mae’r adran wedi creu amgylchedd mwy hygyrch a phrofiad dysgu gweithredol. Mae’n adnodd dysgu gwych gyda llawer o botensial i gynyddu ac ehangu ei ddefnydd. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld y cyflwyniad.  

Roedd cyflwyniad Kittie Belltree, Mary Glasser, Cal Walters-Davies, a Caroline White o’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd yn ymwneud ag effeithiau dysgu cyfunol ar fyfyrwyr niwroamrywiol. Nodwyd nad oedd profiad pob myfyriwr o ddysgu cyfunol yn arbennig o fanteisiol a bod rhai myfyrwyr niwroamrywiol yn ei chael yn anodd addasu i’r dulliau newydd o ddysgu ac addysgu. Yn y cyflwyniad cafwyd gwybodaeth gan y gwasanaeth hygyrchedd ar ffyrdd y gall staff gefnogi myfyrwyr niwroamrywiol a helpu i sicrhau bod cynnwys eu modiwlau’n hygyrch. Hefyd cafwyd canllaw defnyddiol ar gyfer addysgu cynhwysol. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld y cyflwyniad. 

Rwy’n credu mai’r hyn mae’r symud cyflym i’r model hyflex wedi’i ddangos yw’r defnydd ehangach posibl o ddulliau gwahanol o addysgu. Mae wedi arwain at ddarlithwyr yn gallu rhoi cais ar gyflwyno dulliau mwy beiddgar o addysgu ac asesu. Mae wedi cynnig cyfle i adrannau fyfyrio ar y ffordd y caiff cynnwys cyrsiau ei gyflwyno ac wedi dysgu rhai gwersi a sgiliau allweddol y gellir eu defnyddio i ddatblygu cynnwys cyrsiau ymhellach.

Recordiadau ac adnoddau Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu 2021 bellach ar gael!

A dyna ni! Dros dridiau a hanner o gyflwyniadau, y naill ar ôl y llall, gan dros 40 o gyflwynwyr a chyda 150 a mwy o gynadleddwyr yn bresennol. Hoffem ni yn yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ddiolch yn fawr i bawb a gyfrannodd ac a ymunodd â ni yn ein cynhadledd flynyddol dysgu ac addysgu fwyaf hyd yma.

Peidiwch â phoeni os na fu modd ichi fod yn bresennol – mae’n bleser gennym gyhoeddi bod yr holl recordiadau bellach ar gael ar dudalen rhaglen y Gynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu.

Os oeddech yn bresennol yn y gynhadledd eleni, byddai’n dda gennym glywed eich adborth. Llenwch Arolwg Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu 2021. Rydym yn dechrau ar ein paratoadau ar gyfer ein degfed Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu a bydd eich adborth o gymorth inni sicrhau mai’r gynhadledd hon fydd yr orau eto!

Yr wythnos yma byddaf yn ysgrifennu blog neu ddau am y gynhadledd, felly os nad ydych wedi ei weld eisoes, mynnwch gip ar ein blog a chofrestrwch i gael diweddariadau gan dîm yr Uned. Yn olaf, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl gyflwynwyr a chynadleddwyr – fyddai’r gynhadledd ddim yn bosibl heb eich cyfraniad!

Lleoliad Swyddog Cymorth ac Effaith Cynadleddau yn yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu

Shwmai bawb, Hector ydw i, myfyriwr ar fy mlwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r Newid yn yr Hinsawdd. Rwy’n gyffrous i gael ymuno â thîm yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (yr Uned) am dair wythnos ar gyfer y Gynhadledd Addysgu Flynyddol 2021.

Cyn dechrau ar gwrs gradd yn Aberystwyth, bûm yn Weithiwr Cymorth i elusen Leonard Cheshire. Prif feysydd fy niddordebau yw datblygu cynaliadwy, gwleidyddiaeth y newid yn yr hinsawdd, a gwaith elusennol. Rwyf wedi gwirfoddoli deirgwaith gyda’r elusen datblygu cynaliadwy a arweinir gan ieuenctid, sef Raleigh International yn Nepal a Chosta Rica, yn rhan o’r rhaglenni ‘Expedition’ a’r Gwasanaeth Dinasyddion Rhyngwladol (International Citizen Service) a noddir gan y Llywodraeth. Rydw i’n credu’n gryf yn Amcanion Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig 2030 ac wastad yn chwilio am ffordd newydd o gyfrannu iddynt a’u cynorthwyo. Fel un o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth rwy’n aelod brwd o glwb Cerdded Aber ac fe fydda i’n cymryd hyfforddiant Arweinwyr Mynydd dros yr haf er mwyn gallu arwain teithiau i’r gymdeithas yn y dyfodol.

Yn ddiweddar rydw i wedi gweithio fel Stiward Zoom i Gynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Addysg Wyddonol. Fe wnes i fwynhau hynny’n fawr iawn felly pan welais i’r cyfle i ennill mwy o brofiad mewn swydd debyg gyda’r Uned, fe wnes gais amdani. Mae’r lleoliad yn rhan o raglen AberYmlaen 2021. Fy ngwaith fydd cynnig golwg o safbwynt myfyriwr ar yr amrywiol sgyrsiau a draddodir yn y gynhadledd. Trwy wneud lleoliad gyda’r Uned, rwy’n gobeithio datblygu fy sgiliau trefnu a dadansoddi ymhellach. Hefyd rydw i eisiau parhau i ennill profiad gwaith ymarferol a pherthnasol, ac mae’r lleoliad hwn yn gymorth gyda hyn.

Rwy’n teimlo fel myfyriwr nad ydyn ni byth yn sylweddoli’n union faint o waith a meddwl sy’n mynd i mewn i bob agwedd ar ein profiad o ddysgu, ac yn y cyfnod a dreuliais yn yr Uned mae hyn wedi dod yn hynod amlwg wrth weld yr holl waith gwych a wneir ganddynt. Mae gennym ddewis gwych ac eang o sgyrsiau i’w cynnig yn y gynhadledd eleni. Os nad ydych wedi gwneud hynny, cofiwch archebu eich lle, dydy hi ddim yn rhy hwyr! Gobeithio y caf eich gweld yno!