Modiwlau Rhiant a Phlentyn

Image of Blackboard logo and parent-child

Gan fod modiwlau 2019-20 bellach ar gael i staff, gallwn eu cysylltu gyda’i gilydd ar gais cydgysylltydd y modiwl. Cyfeirir at y drefn hon fel trefn rhiant a phlentyn. Mae cysylltu modiwlau gyda’i gilydd yn ffordd effeithiol o drafod modiwlau ar wahân a chanddynt yr un cynnwys er mwyn osgoi uwchlwytho deunyddiau ar gyfer dau neu ragor o wahanol fodiwlau.

Yn ôl y drefn hon, bydd un modiwl yn rhiant, a’r modiwl(au) arall/eraill yn blentyn. Ni chyfyngir ar nifer y modiwlau plentyn ond ni ellir cael mwy nag un rhiant.

Os ydych yn gydgysylltydd modiwlau ac os hoffech gysylltu eich modiwlau yn ôl y drefn hon, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk gan roi’r codau modiwl ar gyfer y modiwlau rhiant a phlentyn.

Enghreifftiau o Aberystwyth

Mae llawer o aelodau staff eisoes yn defnyddio modiwlau rhiant a phlentyn ar draws y sefydliad. Dyma rai enghreifftiau:

  1. Dysgir yr un cynnwys ar y modiwlau ond mae modiwl ar gael i flynyddoedd gwahanol
  2. Modiwlau â’r un cynnwys a ddysgir yn Gymraeg a Saesneg
  3. Modiwlau sy’n dod â gwahanol gynlluniau gradd at ei gilydd a chanddynt wahanol gyfeirnodau modiwl, er enghraifft modiwlau traethodau estynedig

Yn y bôn, mae pob modiwl sy’n rhannu’r un cynnwys yn ddelfrydol ar gyfer modiwlau rhiant a phlentyn.

Beth mae’r myfyrwyr yn ei weld?

Bydd y myfyrwyr yn gweld enw’r modiwl y maen nhw wedi’i gofrestru ar ei gyfer (hyd yn oed os mai’r modiwl plentyn yw hwnnw) wrth fewngofnodi i Blackboard ond byddant yn gweld yr holl gynnwys a osodir yn y modiwl rhiant. Ni chaiff hyfforddwyr osod cynnwys yn y modiwl plentyn.

I’w ystyried

Nawr, cyn dechrau’r tymor ac wrth i gynnwys modiwlau gael ei greu, yw’r amser perffaith ar gyfer cysylltu eich modiwlau. Er bod cysylltu modiwlau yn arbed amser wrth lwytho deunyddiau, fe ddylech hefyd ystyried yr isod:

  • Gellir gweld yr holl gynnwys cyn gynted ag y bydd y modiwlau yn cael eu cyfuno (cyn belled â bod y myfyrwyr wedi’u cofrestru ar y modiwl). Yn ogystal â sleidiau PowerPoint, deunyddiau darlithoedd, mae’n cynnwys hefyd Gyhoeddiadau ac offerynnau rhyngweithiol eraill ar eich modiwl rhiant
  • Ni fydd rhyngweithiadau myfyrwyr hanesyddol ar fodiwl plentyn (megis defnyddio blog neu bostio mewn byrddau trafod) ar gael ar ôl i’r modiwlau gael eu cyfuno
  • Ni fydd modd gweld unrhyw fannau cyflwyno a grëwyd ar fodiwl plentyn cyn y cyfuno. Fe’ch cynghorir i’w creu o’r newydd yn y modiwl rhiant

Sut gallaf reoli’r cynnwys er mwyn sicrhau mai myfyrwyr y modiwl hwnnw yn unig fydd yn ei weld?

Er bod modd gweld yr holl gynnwys yn awtomatig ar ôl i’r modiwlau gael eu cyfuno, gallwch ddefnyddio grwpiau a rhyddhau’n ymaddasol os dymunwch i’r cynnwys gael ei weld gan garfan benodol o fyfyrwyr. Gall fod yn ddefnyddiol, er enghraifft, os ydych wedi cyfuno modiwl 2il a 3edd flwyddyn ond bod gan y myfyrwyr ar y gwahanol fodiwlau aseiniadau annibynnol. Gallwch ddefnyddio grwpiau – 1 ar gyfer myfyrwyr yr 2il flwyddyn ac un ar gyfer myfyrwyr y 3edd flwyddyn a chyfyngu ar bwy all weld y wybodaeth am yr aseiniadau a’r man cyflwyno. Dilynwch ein cyfarwyddiadau ar greu grŵp a rhyddhau’n ymaddasol os dymunwch wneud hyn.

Canolfan Raddau Rhiant a Phlentyn a Throsglwyddo Marciau Elfennau

Ar ôl cyfuno, bydd pob myfyriwr yn ymddangos yng Nghanolfan Raddau’r modiwl rhiant. Fodd bynnag, gallwch bennu a ydynt wedi’u cofrestru ar y modiwl plentyn gan fod y wybodaeth yma yn ymddangos wrth enw’r myfyriwr yng ngholofnau’r Ganolfan Raddau. Fe’ch cynghorir i greu gwahanol fannau cyflwyno (gan ddefnyddio rhyddhau’n ymaddasol) er mwyn ei gwneud hi’n haws i allu rheoli trosglwyddo marciau’r elfennau. Os ceir un man cyflwyno ar gyfer pob myfyriwr, dim ond ar gyfer un o’r codau modiwl y gellir defnyddio’r drefn o drosglwyddo Marciau Elfennau.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y drefn neu os oes gennych gwestiynau penodol, cysylltwch â ni (eddysgu@aber.ac.uk).

Beth sydd wedi newid gyda Blackboard Saas?

Mewngofnodi

Pan ewch chi i https://blackboard.aber.ac.uk byddwch nawr yn gweld y dudalen Login@AU. Defnyddiwch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Prifysgol Aberystwyth ar y dudalen hon i gael mynediad i Blackboard.

Yr Iaith Gymraeg

Os ydych chi wedi nodi Cymraeg fel eich dewis iaith yn ABW neu ar eich Cofnod Myfyriwr, byddwch yn gweld y fersiwn Gymraeg o Blackboard yn awtomatig. Os hoffech newid eich gosodiadau iaith gweler y Cwestiynau Cyffredin.

Ap Blackboard

Os ydych chi’n cael problemau wrth ddefnyddio ap Blackboard:

  1. Allgofnodwch a chau’r ap.
  2. Chwiliwch am Aberystwyth University a chlicio ar yr enw.
  3. Cewch neges yn dweud eich bod yn mewngofnodi trwy wefan PA
  4. Cliciwch ar Got it
  5. Mewngofnodwch gyda’ch enw defnyddiwr a chyfrinair PA

Diweddariadau

Bydd Blackboard yn diweddaru ar ddechrau pob mis. Mae’r diweddariadau misol hyn yn golygu na fydd angen i ni atal gwasanaeth Blackboard i wneud gwaith cynnal a chadw o hyn ymlaen.

Dyddiadau diweddaru ar gyfer semester 1:

  • 5 Medi
  • 3 Hydref
  • 7 Tachwedd
  • 5 Rhagfyr
  • 2 Ionawr

Efallai y sylwch chi fod pethau wedi newid, neu fod nodweddion newydd wedi ymddangos. Byddwn yn ceisio rhoi gwybodaeth i chi am unrhyw newidiadau sylweddol trwy’r blog.  Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth ar https://help.blackboard.com/Learn/Administrator/SaaS/Release_Notes

Cadw Deunydd a Chopïau Wrth Gefn

Mae Blackboard yn cadw deunydd a ddilëir am 30 diwrnod. Os ydych wedi dileu rhywbeth o Blackboard ac am ei gael yn ôl, anfonwch e-bost at elearning@aber.ac.uk cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn cynnwys deunyddiau cyrsiau, defnyddwyr a graddau.

Ymdrin ag Ymholiadau

Gan fod Blackboard yn cael ei reoli yn y cwmwl bellach, efallai y bydd angen i’r staff cymorth e-ddysgu gyfeirio eich ymholiad ymlaen at dîm cymorth canolog Blackboard.  Mae’n bosib y bydd angen i ni:

  • Ofyn i chi am fwy o fanylion nag arfer ynglŷn â’r broblem – efallai y bydd angen i ni ofyn i chi am fanylion y camau a gymeroch
  • Ganiatáu i staff cymorth Blackboard gael mynediad i’ch modiwl

Mae hefyd yn bosib y bydd yn cymryd ychydig yn hirach i gael ateb, ond byddwn yn ceisio sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth am hynt eich ymholiad.