Gwella Hygyrchedd – gwersi a ddysgwyd o ymagwedd gyfunol

Cawsom amrywiaeth eang o gyflwyniadau drwy gydol y gynhadledd. Un thema a ddaeth i’r amlwg i mi oedd y ffordd roedd defnydd o ddull dysgu cyfunol yn cynnig gwell hygyrchedd yn benodol drwy deilwra cynnwys modiwlau i weddu i anghenion myfyrwyr. Ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym ni’n falch fod gennym ystod mor amrywiol o fyfyrwyr ac rydym yn darparu dull addysgu cynhwysol. Mae rhai o’r ffyrdd mae ein cyrsiau wedi’u haddasu mewn ymateb i’r amgylchiadau addysgu heriol drwy gydol y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar wella hygyrchedd i’n myfyrwyr.

Cafwyd sgwrs wych gan Neil Taylor o’r Adran Cyfrifiadureg ar ei brofiadau’n creu adnoddau gwe rhyngweithiol hygyrch. Roedd yn ceisio datrys dryswch ynglyn â lleoliad dogfennau roedd wedi’u creu i ddarparu gwybodaeth ar gyfer traethodau hir trydedd flwyddyn. Datblygodd sphinx-doc oedd yn casglu’r holl wybodaeth mewn un lle ac mewn fformat fwy hygyrch. Roedd yn gallu ffurfweddu gwahanol themâu a ffontiau i gyd-fynd ag anghenion y myfyrwyr. Roedd sgwrs Neil yn pwysleisio pwysigrwydd dyluniad rhyngwyneb y dudalen gwe i sicrhau hygyrchedd eang.  I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld y cyflwyniad.   

Rhoddodd aelodau o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol gyflwyniad oedd yn cyflwyno achos o blaid y model hyflex. Dr Louise Marshall, Dr Malte Urban a’r Athro Matt Jarvis oedd yn arwain y cyflwyniad oedd yn gwerthuso manteision y model addysgu hyflex. Roedd myfyrwyr yn gwerthfawrogi hyblygrwydd y dull addysgu ar-lein, oedd yn golygu os oedden nhw’n absennol oherwydd ynysu, salwch neu amgylchiadau eraill, eu bod yn dal i allu ymgysylltu â’r cynnwys a mynychu sesiynau. Siaradodd dau fyfyriwr o’r adran, Alex a Louise, am eu profiadau cadarnhaol o’r model hyflex a sut roedd yn gwella hygyrchedd a chynhwysiant. Rhaid cyfaddef mai hwn oedd un o fy hoff gyflwyniadau, felly os cewch chi gyfle, gwrandewch arno. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld y cyflwyniad.  

Cafwyd cyflwyniad gan Dr Tristram Irvine-Flynn o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau’r Ddaear ar greu Teithiau Maes 3D i Gadair Idris. Ysbrydolwyd hyn i ategu rôl gwaith maes mewn modiwlau Daearyddiaeth. Drwy addasu adnoddau mae’r adran wedi creu amgylchedd mwy hygyrch a phrofiad dysgu gweithredol. Mae’n adnodd dysgu gwych gyda llawer o botensial i gynyddu ac ehangu ei ddefnydd. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld y cyflwyniad.  

Roedd cyflwyniad Kittie Belltree, Mary Glasser, Cal Walters-Davies, a Caroline White o’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd yn ymwneud ag effeithiau dysgu cyfunol ar fyfyrwyr niwroamrywiol. Nodwyd nad oedd profiad pob myfyriwr o ddysgu cyfunol yn arbennig o fanteisiol a bod rhai myfyrwyr niwroamrywiol yn ei chael yn anodd addasu i’r dulliau newydd o ddysgu ac addysgu. Yn y cyflwyniad cafwyd gwybodaeth gan y gwasanaeth hygyrchedd ar ffyrdd y gall staff gefnogi myfyrwyr niwroamrywiol a helpu i sicrhau bod cynnwys eu modiwlau’n hygyrch. Hefyd cafwyd canllaw defnyddiol ar gyfer addysgu cynhwysol. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma i weld y cyflwyniad. 

Rwy’n credu mai’r hyn mae’r symud cyflym i’r model hyflex wedi’i ddangos yw’r defnydd ehangach posibl o ddulliau gwahanol o addysgu. Mae wedi arwain at ddarlithwyr yn gallu rhoi cais ar gyflwyno dulliau mwy beiddgar o addysgu ac asesu. Mae wedi cynnig cyfle i adrannau fyfyrio ar y ffordd y caiff cynnwys cyrsiau ei gyflwyno ac wedi dysgu rhai gwersi a sgiliau allweddol y gellir eu defnyddio i ddatblygu cynnwys cyrsiau ymhellach.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*