Mae’r holl gyrsiau ar gyfer 2026-27 wedi cael eu creu ac maent ar gael i staff yn Blackboard.
Mae holl safleoedd cyrsiau Blackboard PA yn defnyddio templed y cytunwyd arno, sy’n cynnwys meysydd ar gyfer gwybodaeth graidd ynghyd â chynnwys ynglŷn â pholisïau ar lefel y brifysgol.
Mae Pwyllgor y Panel Ansawdd a Safonau yn cytuno ar y templed cwrs bob blwyddyn. Mae Cydlynwyr Modiwlau yn gyfrifol am sicrhau bod y deunyddiau yn eu cyrsiau wedi’u trefnu’n briodol. Ni ddylai staff ddileu unrhyw gynnwys sydd yn y templed.
Unwaith y bydd cyrsiau wedi’u creu, byddwn yn darparu llif wythnosol rhwng y System Rheoli Modiwlau a Blackboard i adlewyrchu unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau. Ni fydd myfyrwyr yn ymgymryd â chyrsiau nes bod y cofrestru wedi’i gwblhau ym mis Medi
Wrth i ni ddechrau symud i gyfnod yr aseiniadau yn semester 2, rydym yn dechrau edrych ar greu cyrsiau yn barod ar gyfer 2026-27.
Byddwn yn creu cyrsiau ar gyfer 2026-27 ddydd Llun 3 Mehefin 2026.
Bydd y cyrsiau ar gael i staff cyn gynted ag y byddwn yn eu creu.
Ni fydd myfyrwyr yn cael eu cofrestru ar y cyrsiau nes iddynt gwblhau’r broses gofrestru ym mis Medi.
Yn unol â’r blynyddoedd blaenorol, bydd un templed safonol ar gyfer pob cwrs yn Aberystwyth. Mae iaith y templed yn dibynnu ar yr iaith gyflwyno yn AStRA. Os yw’r cwrs yn cael ei gyflwyno 100% trwy gyfrwng y Gymraeg, yna defnyddir templed Cymraeg. Ar gyfer 1-99% drwy gyfrwng y Gymraeg, defnyddir templed dwyieithog. Os yw’r cwrs wedi’i gofrestru i’w gyflwyno 0% trwy gyfrwng y Gymraeg, yna defnyddir templed Saesneg.
Mae ein polisïau Blackboard sef Isafswm Presenoldeb Gofynnol, E-gyflwyno, a Chipio Darlithoedd, wrthi’n cael eu cwblhau ar eu ffurf derfynol.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi am y rhain maes o law.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am greu cyrsiau, mae croeso i chi gysylltu â ni (eddysgu@aber.ac.uk).
Ym mis Ebrill, fe wnaethom gynnal Cynhadledd Fer ar Gyflogadwyedd a’r Cwricwlwm Cynhwysol mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd.
Ym mis Tachwedd, fe wnaethom gymryd rhan mewn Diwrnod Trwsio’ch Cynnwys gyda Blackboard Ally, gan wneud cynnwys ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir hyd yn oed yn fwy hygyrch. Daethom yn 3ydd yn y DU ac yn 60fed ar y tabl rhyngwladol.
Rydym yn cynllunio ein Cynhadledd Fer nesaf mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn Taith y Myfyriwr ar gyfer Ebrill 2026. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn fuan.
A chynhelir ein 14eg Gynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr rhwng 8-10 Medi 2026. Cadwch lygad am ddiweddariadau, galwad am gynigion, a chyhoeddiadau ynghylch siaradwyr allanol.
Mae ein rhaglen hyfforddi ar gael ar y system archebu ar gyfer Semester 2 i gydweithwyr archebu lle.
Edrychwn ymlaen at weithio ymhellach â chi yn 2026.
Mae Turnitin wedi cyhoeddi eu bod yn ôl-dynnu’r ap Turnitin ar ddiwedd y flwyddyn, Rhagfyr 2025.
Bydd yr Ap iPad Feedback Studio yn cael ei ôl-dynnu ac ni fydd ar gael mwyach. Gall hyfforddwyr barhau i gael mynediad at Feedback Studio fel arfer drwy Blackboard. Mae hyn yn cynnwys dyfeisiau symudol a thabledi.
Mae Turnitin yn gweithio ar ddatblygu Aseiniad Safonol Newydd, fel y gall hyfforddwyr adolygu a darparu adborth ar waith myfyrwyr o dabledi heb fod angen ap ar wahân. Byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth newydd hwn maes o law.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am hyn, mae croeso i chi gysylltu â ni (eddysgu@aber.ac.uk)..
Dros yr haf bu rhai diweddariadau i Blackboard Ally a fydd yn helpu cydweithwyr i ddatrys problemau gyda delweddau a dogfennau PDF yn Blackboard.
Disgrifiad a awto-gynhyrchir gan DA
Mae’r adnodd disgrifiad a awto-gynhyrchir gan DA wedi’i ddatblygu i ysgrifennu testun amgen gwell ar gyfer siartiau, testun mewn delweddau, cynnwys STEM, a llawysgrifen mewn delweddau. Fel yr holl offer DA yn Blackboard, gall staff olygu unrhyw agwedd ar yr allbwn DA a’i addasu os oes angen. Mae’r offer DA hefyd yn darparu man cychwyn da ar gyfer dysgu mwy am ysgrifennu testun amgen. Ac os ydych chi’n defnyddio Blackboard yn Gymraeg, bydd yr adnodd DA yn creu testun amgen Cymraeg.
I ddefnyddio’r teclyn DA:
Cliciwch ar y dangosydd Ally ar gyfer eich delwedd (neu ewch iddo drwy Llyfrau ac Offer > Adroddiad Hygyrchedd Ally > Cynnwys)
O dan Golygu disgrifiad y ddelwedd, cliciwch ar Cynhyrchu disgrifiad yn awtomatig
Yna gallwch glicio Cadw i ddefnyddio’r disgrifiad neu olygu’r disgrifiad cyn clicio ar Cadw.
Os nad ydych eisiau defnyddio’r disgrifiad, cliciwch ar Tynnu o’r ddelwedd, a theipiwch eich disgrifiad eich hun.
Haen OCR ar ddogfennau wedi’u sganio
Roedd tua 15% o ddogfennau PDF yng nghyrsiau 2024-25 yn ddogfennau nad ydynt yn OCR. Mae hyn yn achosi problem i unrhyw un sydd angen newid maint y testun neu ddefnyddio darllenydd sgrin oherwydd bod y testun yn ymddangos fel delwedd yn hytrach na thestun darllenadwy. Mae Ally bellach yn darparu offer i ychwanegu haen OCR ddarllenadwy ar ben dogfen nad yw’n OCR. Bydd ansawdd yr haen hon yn dibynnu ar natur y cynnwys (mae dogfennau wedi’u teipio yn gweithio’n well na delweddau neu lawysgrifen) yn ogystal ag ansawdd y sgan.
Rydym yn awgrymu eich bod chi’n rhoi cynnig ar yr offer haen OCR a gweld a all eich helpu i ddarparu dogfennau PDF mwy hygyrch. Cofiwch y gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth Digido’r Llyfrgell sy’n darparu sganiau darllenadwy OCR o erthyglau mewn cyfnodolion a phenodau llyfrau.
I ddefnyddio’r haen OCR:
Cliciwch ar y dangosydd Ally ar gyfer eich delwedd (neu ewch iddo drwy Llyfrau ac Offer > Adroddiad Hygyrchedd Ally > Cynnwys)
Cliciwch ar y botwm Rhagolwg a Defnyddio i ychwanegu’r haen
Bydd rhagolwg yn ymddangos – defnyddiwch eich llygoden i amlygu’r testun ar y rhagolwg. Bydd hyn yn dangos i chi pa destun fydd yn cael ei ychwanegu at y ffeil.
Os ydych chi’n hapus i’w ddefnyddio, cliciwch ar Defnyddio. Os nad ydych yn hapus, dewiswch Canslo
Os nad ydych chi’n defnyddio’r haen OCR, bydd y botwm Dysgu sut i drwsio PDF yn rhoi opsiynau i chi ar gyfer ychwanegu cyfeirnod llyfrgell.
Iaith a Theitl PDF
Gellir trwsio dogfennau PDF heb iaith neu deitl wedi’u gosod yn uniongyrchol yn Ally:
Cliciwch ar y dangosydd Ally ar gyfer eich dogfen PDF (neu ewch iddo drwy Llyfrau ac Offer > Adroddiad Hygyrchedd Ally > Cynnwys)
O dan Ychwanegu Iaith PDF, dewiswch iaith y ddogfen a chlicio ar Defnyddio gosodiad
Teipiwch deitl eich dogfen yn y blwch Gosod Teitl PDF ac yna cliciwch Defnyddio gosodiad.
Cyfarwyddyd i fyfyrwyr
I’ch helpu i annog eich myfyrwyr i ddefnyddio Fformatau Amgen Ally, mae gennym eitem Cadwrfa Gwrthrychau Dysgu ar Ally y gallwch ei defnyddio yn eich cwrs. Gweler ein Cwestiwn Cyffredin ar ychwanegu eitem o’r Gadwrfa i’ch cwrs.
Mae mwy o newidiadau wedi’u cynllunio ar gyfer Ally dros y tri mis nesaf, a byddwn yn diweddaru cydweithwyr trwy’r blog. Am ragor o wybodaeth am Ally, edrychwch ar y dudalennau cymorth Ally
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Datganiadau Asesu DA Cynhyrchiol bellach ar gael yng Nghadwrfa Gwrthrychau Dysgu Blackboard.
Mae hyn yn rhan o’r gwaith y mae’r Gwasanaethau Llyfrgell a Dysgu yn ei wneud mewn cydweithrediad ag UndebAber a’r Gofrestrfa Academaidd.
Nod y gwaith hwn yw ei gwneud yn glir i fyfyrwyr beth yw’r disgwyliadau o ran eu hymgysylltiad a’u defnydd o DA Cynhyrchiol mewn dysgu ac addysgu.
Mae tri datganiad ar gael yn y Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu:
Dim defnydd o Offer DA Cynhyrchiol ar gyfer yr asesiad hwn
Rhywfaint o ddefnydd o Offer DA Cynhyrchiol ar gyfer yr asesiad hwn
Disgwylir defnydd o Offer DA Cynhyrchiol ar gyfer yr asesiad hwn
Mae pob un o’r datganiadau yn rhoi cyngor ac yn cyfeirio myfyrwyr at gymorth ychwanegol.
Gall cydweithwyr gopïo’r datganiadau hyn i faes perthnasol y cwrs. Gan fod lefelau derbyniol o ddefnydd DA Cynhyrchiol yn amrywio rhwng asesiadau unigol, argymhellir bod y datganiadau yn cael eu copïo i’r ffolder asesu perthnasol.
Yn ogystal â’r Datganiadau Asesu DA Cynhyrchiol, mae Datganiad Defnydd o Offer DA Cynhyrchiol ar gael hefyd. Mae’r datganiad hwn wedi’i ddatblygu gan gydweithwyr yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ac mae’n rhoi cyfle i fyfyrwyr amlinellu sut maent wedi defnyddio DA Cynhyrchiol yn eu haseiniadau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â defnyddio’r Gadwrfa Gwrthrychau Dysgu, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk.
Mae problem wedi codi â’r system recordio Panopto sydd wedi effeithio ar y ffolderi sydd gan rai pobl i recordio ynddynt.
Credwn ein bod wedi dod o hyd i ateb i’r broblem erbyn hyn, ac rydym wedi’i brofi mewn nifer o ystafelloedd.
Rydym bellach wrthi’n addasu’r peiriannau ym mhob ystafell ddysgu er mwyn datrys y broblem.
Bydd proffiliau’r defnyddwyr bellach yn cael eu hadnewyddu bob 5 diwrnod (yn hytrach na phob 10 niwrnod). Bydd yr adnewyddu hwnnw’n golygu y bydd unrhyw gopïau lleol o ddeunyddiau a gopïwyd i’r bwrdd gwaith yn cael eu dileu ar ôl 5 diwrnod.
Ymddiheuriadau i bawb y mae hyn wedi effeithio arnynt am yr anghyfleustra a achoswyd.
Mae rhai nodweddion newydd ar gael yn y diweddariad Vevox (Adnodd Pleidleisio) yr hoffem dynnu eich sylw atynt.
I’r rhai sy’n anghyfarwydd â Vevox, gellir defnyddio’r feddalwedd bleidleisio i ofyn cwestiynau i fyfyrwyr ac er mwyn iddynt ymateb ar y pryd gan ddefnyddio eu dyfeisiau symudol. I gael mwy o wybodaeth am sut i ddefnyddio Vevox, gweler ein tudalen we.
Os ydych chi’n defnyddio polau a chwisiau Tîm, gallwch nawr sefydlu Tabl arweinwyr. Mae’r datblygiad hwn yn wych ar gyfer gweithgareddau diwedd tymor neu adolygu.
Cyflwynwyd y nodwedd hon yn y diweddariad diwethaf ond mae rhai gwelliannau i’r llif gwaith. Gallwch gynnal pôl demograffig i gasglu gwybodaeth neu nodweddion allweddol ar gyfer eich ymatebwyr, cyn gofyn rhagor o gwestiynau i ddadgyfuno’r canlyniadau.
Mae’r ychwanegyn PowerPoint a ddiweddarwyd yn cynnwys gwelliannau i rendro LaTeX a KaTeX, opsiynau testun cyfoethog ar gyfer fformatio cwestiynau, a diweddariadau i wella polau Siart Cylch a rhifol.