Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 22/4/2022

Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.  

Digwyddiadau a gweminarau ar-lein  

Adnoddau a chyhoeddiadau

Arall

Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.

Trosglwyddo Marciau Cydrannol

Banner for Audio Feedback

Wrth i fis Mai nesáu, roeddem o’r farn y byddai’n ddefnyddiol amlinellu’r cymorth sydd ar gael ar gyfer y broses Trosglwyddo Marciau Cydrannol. Mae’r broses hon yn trosglwyddo marciau o golofnau Canolfan Raddau Blackboard i dudalen Marciau Asesu fesul Modiwl AStRA (STF080). 

Mae’r offer ar gael ym mhob modiwl Blackboard a hefyd yn yr offer Marciau Cydrannol yn MyAdmin. Gall Staff Gweinyddol Adrannol weld a throsglwyddo modiwlau ar gyfer pob modiwl yn eu hadran tra bod Cydgysylltwyr Modiwlau yn gallu gweld a throsglwyddo marciau ar gyfer eu modiwlau hwy.

I gefnogi’r broses Trosglwyddo Marciau Cydrannol, cynhelir:

  • Sesiyn Hyfforddi ar:
    • 3 Mai, 11yb-12yp

Archebwch eich lle ar-lein.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses hon, e-bostiwch eddysgu@aber.ac.uk.

Gwobr Cwrs Eithriadol 2021-22

Gwobr ECA

Mae Dr Laura Stephenson, o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, wedi ennill Gwobr Cwrs Eithriadol am fodiwl TFM0120: Gender and Media Production.

Yn ogystal, cafodd y modiwlau canlynol statws Canmoliaeth Uchel:

  • Dr Andrew Filmer o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu am fodiwl TP33420: Performance and Architecture
  • Dr Maire Gorman o Ysgol y Graddedigion a Ffisegam fodiwl PGM4310: Quantitative Data Collection and Analysis
  • Claire Ward o Dysgu Gydol Oes am fodiwl XA01605: Natural History Illustration: Seed Heads

Mae’r amrywiaeth eang o ddulliau dysgu a welir yng ngheisiadau eleni yn adlewyrchiad o’r gwaith arloesol sy’n digwydd ym mhob rhan o’r sefydliad.

Nod y Wobr Cwrs Eithriadol, a sefydlwyd saith mlynedd yn ôl, yw rhoi cydnabyddiaeth i’r arferion dysgu gorau. Mae’n rhoi cyfle i aelodau staff rannu eu gwaith gyda’u cydweithwyr, gwella eu modiwlau presennol ar Blackboard, a chael adborth er mwyn gwella.

Caiff modiwlau eu hasesu ar draws 4 maes: cynllun y cwrs, rhyngweithio a chydweithio, asesu, a chymorth i ddysgwyr. Mae natur y wobr, sy’n seiliedig ar hunanasesiad, yn rhoi cyfle i’r aelodau staff ystyried eu cyrsiau a gwella agweddau ar eu modiwlau cyn i banel asesu bob cais yn erbyn y cyfarwyddyd.

Hoffai’r panel a’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ddiolch i’r holl  ymgeiswyr am yr amser a’r ymdrech a roddwyd i’r ceisiadau ac i’r modiwlau eleni.

Rydym yn edrych ymlaen at gael mwy o geisiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf a llongyfarchiadau mawr i enillwyr gwobr eleni.

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 6/4/2022

Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.  

Digwyddiadau a gweminarau ar-lein  

Adnoddau a chyhoeddiadau

Arall

Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.

Rhaglen Siaradwyr Gwadd yr UDDA: Cynorthwyo Marcwyr i Ganfod Twyllo ar Gontract

Banner for Audio Feedback

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ein Siaradwr Gwadd nesaf.

Ar 20 Mai 2022 12:30-13:30, bydd Dr Mary Davies, Prif Ddarlithydd yn Ysgol Fusnes Prifysgol Oxford Brookes, a’i chydweithwyr yn cynnal gweithdy ar eu hadnodd rhyngweithiol Contract Cheating Detection for Markers, sy’n gweithio ar sail rhestr wirio o ‘faneri coch’.

Bydd Stephen Bunbury, Uwch Ddarlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Westminster, Anna Krajewska, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ragoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu yn y Bloomsbury Institute, a Dr Matthew Jones, Uwch Ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Greenwich, yn ymuno â Dr Davies.

Nod y gweithdy yw helpu aelodau o staff i ganfod achosion posibl o dwyll ar gontract wrth farcio. Mae’r cyflwynwyr yn aelodau o Weithgor Twyllo ar Gontract Rhwydwaith Uniondeb Academaidd Llundain a De-ddwyrain Lloegr. Dyma’r gweithgor sydd wedi paratoi’r adnodd rhyngweithiol Contract Cheating Detection for Markers, a hynny ar sail rhestr wirio o ‘faneri coch’.

Yn y gweithdy, bydd y cyflwynwyr yn esbonio’r baneri coch sy’n tynnu sylw at enghreifftiau posibl o dwyllo ar gontract, a hynny trwy drafod adrannau o’r rhestr wirio: dadansoddi testun, cyfeirnodi a defnyddio ffynonellau, tebygrwydd ar Turnitin a pharu testun, priodweddau dogfennau, y broses ysgrifennu, cymharu â gwaith blaenorol myfyrwyr, a chymharu â gwaith y garfan o fyfyrwyr. Cewch gyfle i ymarfer defnyddio’r rhestr wirio ac i drafod ffyrdd effeithiol o’ch helpu i ganfod enghreifftiau posibl o dwyllo ar gontract yng ngwaith myfyrwyr.

Mae adnoddau o ddigwyddiadau blaenorol gyda Siaradwyr Gwadd i’w gweld ar ein blog.

Cynhelir y gweithdy ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams. Archebwch eich lle ar-lein.

Cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu os oes gennych unrhyw gwestiynau (udda@aber.ac.uk).