Wrth i ni ddechrau blwyddyn academaidd arall, hoffem dynnu sylw at nodweddion Vevox, adnodd pleidleisio’r brifysgol, a sut y gellir eu defnyddio mewn gweithgareddau cynefino i fyfyrwyr.
Mae Vevox, ein hadnodd pleidleisio, wedi rhyddhau ei nodwedd ddiweddaraf.
Gweler isod am nodweddion newydd a datblygedig sydd bellach ar gael yn Vevox.
Ceir hyd i gymorth i ddefnyddio Vevox ar ein tudalennau gwe.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Tîm Addysg Ddigidol (eddysgu@aber.ac.uk).
Math o gwestiwn newydd: Cwestiwn Cyfatebol
Mae math newydd o gwestiwn ar gael yn Vevox: cwestiwn cyfatebol.
Mae hyn yn caniatáu i’ch cyfranogwyr baru syniadau gyda’i gilydd.
Am ragor o wybodaeth gweler canllawiau Vevox: Polau cyfatebol – Gwefan gymorth Vevox

Nodwedd newydd: Creu polau cyflym o’r wedd gyflwyno
Nawr gallwch fewnosod polau yn gyflym yn y wedd gyflwyno. I wneud hyn, cliciwch ar y cwestiwn yn y wedd gyflwyno a dewiswch creu pôl cyflym:

Am ragor o wybodaeth gweler canllawiau Vevox: Defnyddio Polau Cyflym (polau ad hoc) – Gwefan gymorth Vevox
Cynnwys cyflwyniad: Dangos amserydd
Mae dangos amserydd yn rhoi’r ymarferoldeb i chi gyflwyno amserydd cyfrif yn y wedd gyflwyno.
Mae hyn yn wych i helpu gyda chyflymder eich sesiwn.

Gweler canllawiau Vevox ar sut i ychwanegu amserydd i’ch sesiwn: Dangos amserydd – Gwefan gymorth Vevox
Gwelliannau i gwestiynau cwis DA
Mae’r gwelliannau canlynol wedi’u gwneud i’r generadur cwestiynau ar gyfer cwis DA yn y datganiad hwn.
Yn y diweddariad hwn, mae Vevox wedi:
I gael rhagor o wybodaeth gweler: Defnyddio nodwedd Cwis DA Vevox – Gwefan gymorth Vevox
Ymgorffori cyflwyniadau PowerPoint yng ngwedd gyflwyno Vevox
Gallwch nawr ymgorffori cyflwyniad yng ngwedd cyflwynydd Vevox, sy’n golygu nad oes angen i chi newid tabiau – mae’r PowerPoint wedi’i ymgorffori’n llwyr.

Addasu nifer y lleoedd degol
Gellir diwygio nifer y lleoedd degol yn eich gosodiadau pleidleisio. 0 lle degol yw’r rhagosodiad, ond gellir ffurfweddu hyn i ddangos 1 neu 2 le degol.
Am ragor o wybodaeth gweler canllawiau Vevox: Creu polau rhifol – Gwefan gymorth Vevox

Croeso cynnes i aelodau newydd o staff sy’n ymuno â Phrifysgol Aberystwyth
Ein nod yn y blogbost hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am dechnoleg wrth ddysgu ac addysgu, ein darpariaeth o ran hyfforddiant, sianeli cymorth, a digwyddiadau rydyn ni’n eu cynnal.
Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein tudalennau gwe.
Rydyn ni’n ysgrifennu blog sy’n llawn o’r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.
Os oes arnoch angen cysylltu â ni, gallwch wneud hynny trwy ddefnyddio eddysgu@aber.ac.uk.
Mae gan bob modiwl ei gwrs pwrpasol ei hun yn Blackboard. Gall myfyrwyr ddod o hyd i wybodaeth am y modiwl, deunyddiau dysgu, a chanllawiau e-gyflwyno, yn ogystal â dolenni i restrau darllen a recordio darlithoedd.
Mae gan y Brifysgol bolisi Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard ar gyfer pob modiwl.
Gweler ein canllaw i staff i gael rhagor o wybodaeth.
Wrth addysgu wyneb yn wyneb, cofiwch y dylid recordio pob darlith (hynny yw, addysgu lle mae’r ffocws ar wybodaeth sy’n cael ei throsglwyddo gan staff i fyfyrwyr) gan ddefnyddio Panopto, ein meddalwedd recordio darlithoedd.
Gweler manylion ein Polisi Cipio Darlithoedd
Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i fyfyrwyr gyflwyno’r holl waith testun a phrosesu geiriau yn electronig fel yr argymhellir ym mholisi E-gyflwyno’r Brifysgol.
Ar gyfer hyn, rydym yn defnyddio ein hadnoddau e-gyflwyno: Turnitin a Blackboard Assignment. Mae Turnitin yn darparu nodwedd paru testun awtomatig. Rydym yn defnyddio Profion Blackboard i gynnal arholiadau ar-lein.
Vevox yw adnodd pleidleisio Prifysgol Aberystwyth.
Gellir defnyddio’r adnodd pleidleisio mewn gweithgareddau dysgu ac addysgu yn ogystal â chyfarfodydd i wneud y sesiwn yn rhyngweithiol ac yn gydweithredol. Mae sawl ffordd wahanol o’i ddefnyddio.
Mae gennym nifer o Ganllawiau a Chwestiynau Cyffredin i’ch helpu i ddefnyddio ein meddalwedd.
Er mwyn cefnogi’r holl staff gyda’u haddysgu rydym yn cynnal cyfres o sesiynau hyfforddi ar draws y meysydd canlynol:
Ceir hyd i fanylion am ein rhaglen DPP flynyddol a gallwch archebu eich lle i fynychu drwy’r dudalen Archebu Cwrs.
Rydyn ni’n rhedeg ystod o ddigwyddiadau, gan gynnwys y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol a Chynadleddau Byr
Mae’r rhain oll yn gyfleoedd gwych i gwrdd â phobl ar draws y brifysgol a thrafod materion a datblygiadau’n ymwneud â Dysgu ac Addysgu
Edrychwn ymlaen at eich gweld mewn digwyddiad cyn hir. Yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy eddysgu@aber.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Mae rhai nodweddion newydd ar gael yn y diweddariad Vevox (Adnodd Pleidleisio) yr hoffem dynnu eich sylw atynt.
I’r rhai sy’n anghyfarwydd â Vevox, gellir defnyddio’r feddalwedd bleidleisio i ofyn cwestiynau i fyfyrwyr ac er mwyn iddynt ymateb ar y pryd gan ddefnyddio eu dyfeisiau symudol. I gael mwy o wybodaeth am sut i ddefnyddio Vevox, gweler ein tudalen we.
Mae’r diweddariad yn cynnwys:
Os ydych chi’n defnyddio polau a chwisiau Tîm, gallwch nawr sefydlu Tabl arweinwyr. Mae’r datblygiad hwn yn wych ar gyfer gweithgareddau diwedd tymor neu adolygu.
Os ydych chi’n creu cwestiynau ar daenlen, gallwch eu huwchlwytho o dempled excel.
Cyflwynwyd y nodwedd hon yn y diweddariad diwethaf ond mae rhai gwelliannau i’r llif gwaith. Gallwch gynnal pôl demograffig i gasglu gwybodaeth neu nodweddion allweddol ar gyfer eich ymatebwyr, cyn gofyn rhagor o gwestiynau i ddadgyfuno’r canlyniadau.
Gall cynhyrchydd cwis DA nawr greu 10 cwestiwn ar y tro.
Mae’r ychwanegyn PowerPoint a ddiweddarwyd yn cynnwys gwelliannau i rendro LaTeX a KaTeX, opsiynau testun cyfoethog ar gyfer fformatio cwestiynau, a diweddariadau i wella polau Siart Cylch a rhifol.
Edrychwch ar ddiweddariad Vevox: Mawrth 2025 am y diweddariad llawn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddefnyddio Vevox, cysylltwch â ni (eddysgu@aber.ac.uk).

Mae gan Vevox, sef dewis y Brifysgol o ddull pleidleisio, nodweddion newydd gwych o’r diweddariadau ym mis Medi 2024 a mis Rhagfyr 2024.
I gydweithwyr sy’n anghyfarwydd â Vevox, gellir ei ddefnyddio i wneud eich addysgu yn fwy rhyngweithiol, ac i helpu i wneud penderfyniadau mewn cyfarfodydd. Mae cyfranogwyr yn defnyddio dyfeisiau symudol i gymryd rhan mewn pleidleisio amser real, ond mae yna opsiynau hefyd ar gyfer arolygon anghydamserol a byrddau cwestiwn ac ateb.
Mae’r holl ddiweddariadau hyn ar gael ar y Recordiad YouTube hwn a thrwy’r nodiadau datganiad hyn:
Gall gwesteion sesiwn ddiffinio labeli y gellir bellach eu gweld a’u defnyddio gan gyfranogwyr. Mae hyn yn golygu y gall cyfranogwyr dagio eu negeseuon cwestiwn ac ateb gyda label wedi’i ddiffinio ymlaen llaw. Er enghraifft, efallai yr hoffech gael label ar gyfer Asesu i ganiatáu i fyfyrwyr gysylltu eu cwestiynau â thag.
Mae hwn yn weithgaredd defnyddiol i fesur effaith sesiwn addysgu. Gofynnwch un cwestiwn i fyfyrwyr ar ddechrau’r sesiwn i fesur lefel eu dealltwriaeth ac yna gofynnwch yr un cwestiwn iddyn nhw ar ddiwedd y sesiwn i weld a yw eu dealltwriaeth wedi newid. Gweler y Diweddariad Vevox am gyfarwyddiadau ar sut i gyflawni hyn.
Yn ddiofyn, mae’r bwrdd C ac A yn caniatáu i gyfranogwyr uwchbleidleisio cwestiynau. Mae hyn yn golygu y gallwch drefnu cwestiynau yn ôl y rhai y mae’r rhan fwyaf o gyfranogwyr eisiau eu gofyn. Mae Vevox wedi cyflwyno gosodiad tanbleidleisio y gallwch ei ddefnyddio i ganiatáu i’ch cyfranogwyr danbleidleisio cwestiynau. Gallwch newid y gosodiadau hyn yn y rhyngwyneb gosodiadau C ac A.
Bellach gellir arddangos ymatebion i gwestiynau arolwg MCQ mewn gwahanol ffyrdd. Gallwch ddefnyddio’r graff bar traddodiadol ond nawr gallwch ddewis arddangos eich allbwn fel siart cylch. Gallwch newid y wedd mewn amser real trwy gael panel gweinyddol Vevox ar agor ar un sgrin yn y ddarlith a chael y ffenestr cyflwynydd wedi’i thaflunio.
Mae’r pôl rhif yn rhoi’r opsiwn i hyfforddwyr arddangos sut mae’r allbwn yn cael ei ddangos gyda rhyngwyneb newydd ar ffurf Cwmwl Geiriau. Gallwch ddewis cael hyn fel allbwn o’r rhyngwyneb cwestiwn pleidleisio.
Mae canlyniadau ar gyfer y cwestiwn arddull ateb bellach yn ymddangos mewn modd symlach wrth gyhoeddi’r canlyniadau. Yn hytrach na dangos yr allbwn yn llawn, dangosir y brawddegau cyntaf yn unig. Gall yr hyfforddwr glicio ar y sylwadau yr hoffent dynnu sylw atynt a bydd yn dangos yr ymateb llawn.
Mae’r integreiddiad PowerPoint wedi’i ddiweddaru i allu dangos canlyniadau Cwmwl Geiriau, Siart Cylch a Chwmwl Rhif yn fyw. Mae rhagor o wybodaeth am ddefnyddio integreiddiad PowerPoint Vevox ar gael ar eu tudalen we.
Mae testun trwm, italig a thanlinellu bellach yn opsiynau wrth fformatio cwestiynau.
Ar gyfer polau a nodwyd, gallwch redeg gwybodaeth am bresenoldeb o’r adroddiadau data. Yna gallwch weld pryd ymunodd cyfranogwyr â’r sesiwn a phryd y gwnaethant adael y sesiwn.
Fel gweinyddwyr cyfrif, gallwn ychwanegu geiriau at yr hidlydd cabledd addasadwy. Bydd hyn yn cael ei gymhwyso i arolygon barn, arolygon, a nodweddion C ac A. Os oes gennych air yr hoffech ei gynnwys yn yr hidlydd cabledd, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk.
Mae rhagor o wybodaeth a chyngor i’w gweld ar ein tudalennau gwe: Adnodd Pleidleisio: Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth.
Mae diweddariadau ac astudiaethau achos blaenorol ar gael ar ein blog.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio Vevox, adnodd pleidleisio, sy’n galluogi i chi gael gwybodaeth amser real gan bobl yn eich sesiynau addysgu neu’r rhai yn eich cyfarfod.
Rydym wedi bod yn defnyddio Vevox ers dros 3 blynedd bellach ac roeddem yn falch o’i weld yn cael ei ddefnyddio mewn Sgyrsiau Croesawu gan gynnig cyfle i fyfyrwyr ofyn cwestiynau’n ddienw.
Rydym yn cynnal rhai sesiynau hyfforddi ar ddefnyddio Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Vevox ar gyfer Dysgu ac Addysgu:
Cynhelir y sesiynau hyn ar-lein drwy Teams.
Yn ogystal â’n sesiynau hyfforddi mewnol, mae Vevox hefyd yn cynnal gweminarau sy’n rhannu arfer gorau ac astudiaethau achos gan eu cleientiaid eraill.
Os na allwch ymuno â’n sesiynau, mae Vevox yn cynnal eu sesiynau eu hunain a gallwch gofrestru ar gyfer y rhain yma: Getting started with Vevox I Your guide to Unmissable Classes
Am gymorth pellach i ddefnyddio Vevox, edrychwch ar ein Deunyddiau cymorth.

Mae’r Brifysgol wedi tanysgrifio i feddalwedd pleidleisio Vevox. Gallwch gynnal gweithgareddau pleidleisio yn eich ystafell ddosbarth gan ddefnyddio dyfeisiau symudol i gymryd rhan.
Mae diweddariad Vevox ar gyfer haf 2024 yn cynnwys rhai swyddogaethau newydd yr ydym am dynnu eich sylw atynt.
Mae’r math hwn o gwestiwn yn eich galluogi i osod graddfa sgorio o 1 i’r gwerth uchaf. Gallwch ailenwi gwaelod y raddfa a brig y raddfa ac ychwanegu sawl eitem at y sgôr.
Byddai’r math hwn o gwestiwn yn ddefnyddiol ar gyfer gweithgareddau megis ‘y pwynt mwyaf dryslyd’ neu i nodi pynciau i’w hadolygu.
Gallwch ddisodli’r raddfa sgôr gyda sgôr o sêr yn lle hynny.
I ddefnyddio’r cwestiwn graddfa, dewiswch ‘Create New’ a dewis ‘Rating Scale’ o’r ddewislen math o gwestiwn.
Gallwch gynnig opsiwn i’ch ymatebwyr ddewis delwedd fel detholiad yn y cwestiwn amlddewis.
Yn hytrach na rhoi testun, mae delweddau’n eich galluogi i greu ymateb mwy gweledol i’r math o gwestiwn.
Gallwch ddefnyddio llyfrgell ddelweddau Unsplash i’ch helpu i ddod o hyd i ddelweddau sy’n berthnasol i’ch cwestiynau.
Cyn hyn, roedd y gosodiadau a bennwyd gennych i’ch pôl yn berthnasol i’r holl gwestiynau. Nawr, mae’n bosib dewis gwahanol osodiadau ar gyfer gwahanol gwestiynau pleidleisio.
Gallwch ddewis newid:
I newid gosodiadau cwestiynau unigol, dewiswch ‘Use custom settings for this poll’ yn rhyngwyneb y cwestiwn.
Ar gyfer cydweithwyr sy’n defnyddio cwisiau ac arolygon i’w cwblhau ‘wrth eich pwysau’, mae bellach yn bosibl cynnal mwy nag un ar y tro. Mae hyn yn golygu y gallwch eu hymgorffori ar draws gwahanol fodiwlau.
Os ydych am i drefn y cwestiynau yn yr arolwg ymddangos ar hap, dewiswch ‘Shuffle question order’ ar ryngwyneb yr arolwg.
Bydd Vevox nawr yn arbed y delweddau a lanlwyddir gennych i’w defnyddio mewn polau pleidleisio. Bydd hyn yn helpu i arbed amser wrth lwytho ac ail-greu cwestiynau.
Edrychwch ar ein tudalennau cymorth ar gyfer defnyddio Vevox. Gallwch hefyd ddarllen diweddariadau blaenorol ar y blog.
Mae Vevox yn cynnal gweminarau rheolaidd ar sut i ddefnyddio’r feddalwedd. Cofrestrwch ar-lein ar gyfer y rhain.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).


Mae Vevox, ein meddalwedd bleidleisio, yn cynnal cyfres o weminarau sy’n arddangos yr arferion gorau o integreiddio pleidleisio i weithgareddau dysgu ac addysgu.
Cynhelir y sesiynau hyn ar-lein.
Ar 22 Mawrth am 3pm, bydd Patrick Cadwell o Brifysgol Dinas Dulyn yn arddangos sut maen nhw’n defnyddio meddalwedd pleidleisio ar gyfer astudiaethau cyfieithu.
Ar 26 Ebrill am 3pm, bydd Liam Bagley o Brifysgol Metropolitan Manceinion yn arddangos sut maen nhw’n defnyddio meddalwedd pleidleisio i hyfforddi ar gyfer sefyllfaoedd yn y byd go iawn o fewn cyd-destun iechyd a heneiddio’n iach.
Gweler tudalen Vevox ar y we i gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle.

Mae gan y Brifysgol drwydded Vevox i’r holl staff a myfyrwyr ei defnyddio.
Meddalwedd Pleidleisio yw Vevox sy’n caniatáu i gyfranogwyr ddefnyddio eu dyfeisiau symudol i ymateb i gwestiynau.
Yn Semester 1, cynhaliwyd dros 300 o sesiynau Vevox, gyda thros 10,000 o gyfranogwyr a 1,500 o arolygon barn.
Mewn cyd-destunau dysgu ac addysgu, gallwch ddefnyddio Vevox i wneud eich addysgu yn fwy rhyngweithiol, gan roi cyfle i fyfyrwyr fyfyrio ar eu dysgu, ymateb i gwestiynau, darparu syniadau, a chyfnerthu eu dealltwriaeth.
Nid yw Vevox wedi’i gyfyngu i weithgareddau dysgu ac addysgu. Gallwch hefyd ddefnyddio Vevox mewn cyfarfodydd a gweithgareddau estyn allan i gynfasio barn, helpu i wneud penderfyniadau, a rhoi cyfle i gydweithwyr roi adborth.
Mae gwahanol fathau o gwestiynau ar gael:
Gallwch hefyd gynnal arolygon.
Mae’r nodwedd Cwestiwn ac Ateb yn rhoi cyfle i gydweithwyr adael i’r myfyrwyr ofyn cwestiynau ac i chi ymateb iddynt yn fyw yn y sesiwn.
Mae’r nodwedd hon yn ddefnyddiol ar gyfer technegau asesu yn yr ystafell ddosbarth, megis y pwynt mwyaf dryslyd ac adolygu cysyniadau allweddol.
Gyda’r nodwedd Cwestiwn ac Ateb, gall cyfranogwyr hefyd uwchbleidleisio sylwadau er mwyn i chi fynd i’r afael â chwestiynau. Gellir defnyddio’r nodwedd ddefnyddiol hon hefyd ar gyfer cyflwynwyr allanol a gweithgareddau cynadledda.
Gallwch gynnal dadansoddiadau ar eich arolygon barn i weld ymateb cyfranogwyr.
Fel sefydliad, mae gennym nifer o astudiaethau achos. Gweler ein neges flog flaenorol ar astudiaethau achos Vevox.
Os yw Vevox yn newydd i chi, mae gennym sesiwn hyfforddi ar 26 Ionawr am 11:00 ar-lein trwy Teams. Gallwch archebu lle drwy ein tudalen archebu DPP.
Mae gennym hefyd dudalen we sy’n ymroddedig i Vevox.
Mae ein holl ddiweddariadau Vevox blaenorol ar gael ar y blog UDDA.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).

Vevox yw meddalwedd pleidleisio’r Brifysgol y gellir ei defnyddio i wneud addysgu’n fwy rhyngweithiol, ymgysylltu â grwpiau mawr, gwirio gwybodaeth a dealltwriaeth, a derbyn adborth.
Yn ogystal â’u sesiynau hyfforddi, mae Vevox yn cynnal cyfres o weminarau ar-lein sy’n arddangos ffyrdd arloesol o ddefnyddio polau piniwn mewn sefydliadau eraill.
Daw’r weminar ar-lein nesaf o Brifysgol De Cymru, lle bydd Dean Whitcombe yn cynnal sesiwn sy’n dwyn y teitl: The Use of Vevox in Simulation-based Education and research. Cynhelir y sesiwn hon am 2yp ar 4 Hydref.
Ar 11 Hydref, am 2yp, bydd James Wilson o Brifysgol Chichester yn arwain sesiwn, Once upon a Time: Using Vevox for Interactive Storytelling.
Gallwch gofrestru i fynychu’r sesiynau hyn ar y dudalen we hon.
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cynnal cyfres o weminarau yn y gorffennol ar gyfer Vevox sydd ar gael ar YouTube:
Os yw Vevox yn newydd i chi, edrychwch ar ein tudalen we meddalwedd pleidleisio. Mae Vevox yn cynnal sesiynau hyfforddi 15 munud ar brynhawniau Mawrth. Gallwch gofrestru ar eu cyfer ar weddalen Vevox.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).