Grŵp lloeren Rhwydwaith Dysgu Gweithredol

Rhwydwaith Dysgu Gweithredol (logo o wefan allanol
Rhwydwaith Dysgu Gweithredol (logo o wefan allanol)

Mae strategaeth dysgu ac addysgu APEX y brifysgol  yn pwysleisio dysgu gweithredol. Er mwyn cefnogi staff i ddefnyddio dysgu gweithredol yn effeithiol, rydym wedi sefydlu grŵp lloeren Rhwydwaith Dysgu Gweithredol (RhDG) yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ein nod yw creu cymuned o ymarfer i staff fel y gallwch gyfnewid syniadau a chefnogi eich gilydd wrth ddysgu’n weithredol.

Mae’r RhDG yn cynnig mynediad i gymuned fyd-eang o ymarferwyr ysbrydoledig, cyhoeddiadau am ddim, a chynadleddau a sesiynau hyfforddi ar-lein. Mae cyfleoedd i chi rannu eich arfer da drwy gyhoeddi astudiaethau achos neu gyflwyno mewn digwyddiadau. Tanysgrifiwch i restr RhDG JiscMail i ymuno â’r sgwrs. Gweler gwefan RhDG am fwy o fanylion ac adnoddau.

Ein cam cyntaf fydd dod â staff sydd â diddordeb ynghyd ar gyfer cyfnewid syniadau’n anffurfiol. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy, cysylltwch â Mary Jacob.