Creu Cwrs Blackboard Learn Ultra 2024-25

Yn ddiweddar cymeradwyodd y Pwyllgor Gwella Academaidd rai newidiadau i’r broses flynyddol o greu cyrsiau:

  • Bydd cyrsiau’n cael eu creu’n wag gyda thempled cymeradwy’r Brifysgol
  • Bydd creu cyrsiau bob amser yn digwydd ar y dydd Llun cyntaf ym mis Mehefin (dydd Llun 3 Mehefin fydd hyn y flwyddyn hon).

Mae rhai staff wedi gofyn am fwy o wybodaeth ynghylch pam y bydd y cwrsiau yn cael ei greu’n wag. Mae’r blog hwn wedi’i gynllunio i helpu i egluro’r rhesymau dros y penderfyniad hwn.

Yn y blynyddoedd blaenorol roedd y broses o gopïo cyrsiau yn cael ei wneud drwy ddefnyddio Building Blocks. Nid yw Building Blocks bellach yn cael ei gefnogi gan Blackboard ac ni ellir ei ddefnyddio (efallai y byddwch yn cofio mai dyma un o’r rhesymau dros symud i Ultra). Nid yw adnodd copïo cyrsiau Blackboard wedi’i ddiweddaru, felly nid oes gennym ffordd dechnegol o gopïo cyrsiau.

Mae’r llif gwaith copïo cyrsiau yn haws yn Ultra nag ydoedd yn y gwreiddiol. A chan y byddwn yn copïo o gyrsiau Ultra i Ultra, bydd modd i chi gopïo blociau mwy o gynnwys.

Mae cyrsiau gwag yn golygu y gellir defnyddio templedi wedi’u diweddaru a gosodiadau ychwanegol ar gyfer cyrsiau. Mae Blackboard wedi newid llawer ers yr haf diwethaf, ac mae yna osodiadau newydd a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer cyrsiau’r flwyddyn nesaf. I ddefnyddio’r rhain byddai angen i’r staff eu hychwanegu at bob cwrs â llaw.

Roedd copïau o’r cyrsiau blaenorol yn cynnwys colofnau llyfr graddau. Ar ôl sawl blwyddyn dechreuodd hyn achosi dryswch i’r staff a gwneud y llyfr graddau’n anodd ei lywio. Gallai copïo dolenni drosodd ar gyfer Turnitin, Panopto a Talis hefyd beri dryswch – nid yw’n hawdd dweud a yw’r dolenni hyn wedi cael eu diweddaru ai peidio, a byddai angen i staff wirio pob un â llaw.

Ni fydd rhai cyrsiau wedi’u creu yn Ultra (er enghraifft cyrsiau sy’n rhedeg bob dwy flynedd yn unig). Mae angen creu’r rhain yn wag fel cyrsiau Ultra beth bynnag.

Bydd creu cyrsiau gwag hefyd yn helpu i osgoi copïo cynnwys sydd wedi dyddio.

Mae gwybodaeth am sut i gopïo cynnwys ar gael o safle cymorth Blackboard. Bydd arweiniad a chefnogaeth ar gael dros yr haf, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk.

Galw am Gynigion: Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2024

Gwahoddir staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig a myfyrwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer 12fed Cynhadledd Dysgu ac Addysgu, Dydd Mawrth 10 – Dydd Iau 12 Medi 2024.

Gallwch gyflwyno a gweld yr alwad am gynigion ar-lein.

Dyma’r thema ar gyfer y gynhadledd eleni:

Paratoi ar gyfer Rhagoriaeth: Cynllunio Dysgu ac Addysgu Arloesol.

Dyma prif gangen y gynhadledd eleni:

  • Ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd ar draws y cwricwlwm a thu hwnt
  • Harneisio pŵer Deallusrwydd Artiffisial a thechnolegau eraill i wella dysgu
  • Creu gweithgareddau dysgu deinamig i ysgogi ac ymgysylltu
  • Dylunio dysgu cynhwysol i bawb

Mae croeso i staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig, a myfyrwyr gynnig sesiynau ar unrhyw bwnc sy’n berthnasol i ddysgu, yn enwedig os ydynt yn canolbwyntio ar ymgorffori a defnyddio technoleg wrth ddysgu. Mae croeso i chi gyflwyno pynciau eraill, hyd yn oed os nad ydynt yn cyd-fynd ag un o’r canghennau uchod.

Rydym yn annog cyflwynwyr i ystyried defnyddio fformatau amgen sy’n cyd-fynd â’r hyn a drafodir yn eu sesiynau. Gan hynny, ni fyddwn yn gofyn am fformat cyflwyno safonol, ond gofynnwn i chi gynnwys fformat, hyd y sesiwn ac unrhyw ofynion eraill a fo gennych wrth i chi wneud eich cynnig isod.

Gofynnwn i chi lenwi’r ffurflen hon erbyn 24 Mai 2024. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Datblygu ac Addysgu am udda@aber.ac.uk.

Cyfres o weminarau Vevox

Mae Vevox, ein meddalwedd bleidleisio, yn cynnal cyfres o weminarau sy’n arddangos yr arferion gorau o integreiddio pleidleisio i weithgareddau dysgu ac addysgu. 

Cynhelir y sesiynau hyn ar-lein. 

Ar 22 Mawrth am 3pm, bydd Patrick Cadwell o Brifysgol Dinas Dulyn yn arddangos sut maen nhw’n defnyddio meddalwedd pleidleisio ar gyfer astudiaethau cyfieithu. 

Ar 26 Ebrill am 3pm, bydd Liam Bagley o Brifysgol Metropolitan Manceinion yn arddangos sut maen nhw’n defnyddio meddalwedd pleidleisio i hyfforddi ar gyfer sefyllfaoedd yn y byd go iawn o fewn cyd-destun iechyd a heneiddio’n iach. 

Gweler tudalen Vevox ar y we i gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle. 

Y 12fed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Cyhoeddi Thema’r Gynhadledd

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi’r thema ar gyfer ein deuddegfed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol.

Bydd y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn cael ei chynnal o ddydd Mawrth 10 hyd ddydd Iau 12 Medi 2024.

Dyma’r thema a’r elfennau ar gyfer y gynhadledd eleni:

Paratoi ar gyfer Rhagoriaeth: Cynllunio Dysgu ac Addysgu Arloesol

  • Ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd ar draws y cwricwlwm a thu hwnt
  • Harneisio pŵer Deallusrwydd Artiffisial a thechnolegau eraill i wella dysgu
  • Creu gweithgareddau dysgu deinamig i ysgogi ac ymgysylltu
  • Dylunio dysgu cynhwysol i bawb

Cadwch lygad am ein galwad am gynigion, sydd ar ddod, ac i drefnu eich lle yn y gynhadledd.

Mudiadau Blackboard Learn Ultra:  Gwybodaeth Bwysig

Fel rhan o brosiect Blackboard Learn Ultra, rydym bellach yn troi ein sylw at Fudiadau yn barod ar gyfer Medi 2024. 

Safleoedd ar Blackboard yw Mudiadau sydd at ddibenion anacademaidd.   Yr un yw eu swyddogaeth â Chyrsiau Blackboard a gellir eu defnyddio i roi gwybodaeth, hyfforddiant ar-lein, a mynediad at ddeunyddiau. Yn wahanol i Gyrsiau, mae Mudiadau yn cael eu creu heb unrhyw dempled.   Mae gan Fudiadau yr un nodweddion a swyddogaethau ymarferol â Chyrsiau. 

Mae yna 3 math o Fudiad: 

Mudiadau Adrannol

Mae gan bob adran 3 Mudiad adrannol: 1 ar gyfer myfyrwyr Israddedig, 1 ar gyfer myfyrwyr Uwchraddedig, ac 1 ar gyfer staff Adrannol.  Mae’r rhain yn cael eu creu yn awtomatig.

Mudiadau Pwrpasol a Mudiadau Hyfforddi

Mudiadau yw’r rhain y mae unigolion wedi gofyn amdanynt.  Gellir eu creu i gynnwys ffrydiau awtomatig, megis mathau o fyfyrwyr, myfyrwyr ar gynlluniau astudio penodol, neu aelodau o staff mewn adran benodol.  Mae gan rai o’r Mudiadau hyn becynnau hyfforddi y gofynnir i ni eu gwneud.

Mudiadau Ymarfer

Mae’r rhain yn unigol ar gyfer pob aelod o staff ac nid oes myfyrwyr wedi cofrestru arnynt.  Fel rhan o’r newid i Ultra, rydym wedi creu Mudiad Ymarfer Ultra personol i bob aelod o staff.

Wrth i ni symud i Blackboard Learn Ultra i Fudiadau, rydym wedi gweithio ar bolisi Mudiadau newydd sy’n amlinellu’r mathau o weithgareddau y gellir defnyddio Mudiadau ar eu cyfer yn ogystal â’u cyfnod cadw.  Cymeradwywyd y polisi newydd hwn gan y Pwyllgor Gwella Academaidd ar 7 Chwefror a gellir ei weld ar ein tudalennau gwe.

Mudiadau Adrannol

Bydd Mudiadau Ultra Adrannol Newydd yn cael eu creu yn fuan ond ni fyddant ar gael i fyfyrwyr tan fis Medi 2024. 

Bydd gan bob adran Fudiad ar wahân ar gyfer myfyrwyr Israddedig, Uwchraddedig, a Staff yn eu hadran.   

Mae’r rhain ar ffurf:  

DEPT-[llythyren adrannol]-UG (e.e. DEPT-N-UG) 

Bydd myfyrwyr newydd ac aelodau newydd o staff yn cael eu ffrydio’n awtomatig i’r Mudiad unwaith y byddant wedi actifadu eu cyfrif.    Unwaith y bydd y Mudiadau hyn ar gael, byddwn yn cysylltu â Chyfarwyddwyr Adrannol Dysgu ac Addysgu, Cofrestryddion y Cyfadrannau, a Phenaethiaid Adran i helpu i hwyluso’r symud i Fudiadau Ultra.

Mudiadau Pwrpasol a Mudiadau Hyfforddi

Mudiadau yw’r rhain y gofynnwyd amdanynt yn unigol at ddiben penodol.  Nid ydym erioed wedi dileu Mudiad o’r blaen (oni bai y gofynnwyd am hyn). 

Fel rhan o’r gwaith hwn, byddwn yn: 

  1. Rhwystro mynediad i’r holl Fudiadau pwrpasol nad ydynt wedi cael eu defnyddio am 3 blynedd gyda’r bwriad o ddod â’r Mudiad i ben.
  2. Cysylltu â’r rhai sy’n dal i fod â chyfrifoldeb am Fudiadau sy’n bodoli eisoes i weld a oes eu hangen a hwyluso’r newid i Ultra ar gyfer y Mudiadau hyn. 

Mudiadau Ymarfer

Ar hyn o bryd mae gan aelodau o staff fynediad at ddau Fudiad Ymarfer – un yn Blackboard Original ac un yn Ultra. 

Byddwn yn dod â Mudiadau Blackboard Originial i ben ym mis Medi 2024.   Rhaid i gydweithwyr gopïo unrhyw ddeunyddiau y maent am eu cadw i fersiwn Ultra y Mudiad. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Fudiadau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk). 

Cadwch y Dyddiad: Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu

Mae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi dyddiad yr 12fed Gynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu. Cynhelir y gynhadledd o ddydd Mawrth 10 Medi hyd ddydd Iau 12 Medi 2024.

Cadwch lygad am Alwadau am Gynigion a chyhoeddi thema’r gynhadledd. Yn ôl ein harfer, byddwn yn diweddaru ein tudalennau gwe ynghylch y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn ogystal â’n blog er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi ynghylch sut mae pethau’n datblygu.

Vevox: Meddalwedd Pleidleisio’r Brifysgol

Mae gan y Brifysgol drwydded Vevox i’r holl staff a myfyrwyr ei defnyddio.
Meddalwedd Pleidleisio yw Vevox sy’n caniatáu i gyfranogwyr ddefnyddio eu dyfeisiau symudol i ymateb i gwestiynau.
Yn Semester 1, cynhaliwyd dros 300 o sesiynau Vevox, gyda thros 10,000 o gyfranogwyr a 1,500 o arolygon barn.
Mewn cyd-destunau dysgu ac addysgu, gallwch ddefnyddio Vevox i wneud eich addysgu yn fwy rhyngweithiol, gan roi cyfle i fyfyrwyr fyfyrio ar eu dysgu, ymateb i gwestiynau, darparu syniadau, a chyfnerthu eu dealltwriaeth.
Nid yw Vevox wedi’i gyfyngu i weithgareddau dysgu ac addysgu. Gallwch hefyd ddefnyddio Vevox mewn cyfarfodydd a gweithgareddau estyn allan i gynfasio barn, helpu i wneud penderfyniadau, a rhoi cyfle i gydweithwyr roi adborth.
Mae gwahanol fathau o gwestiynau ar gael:

  • Amlddewis
  • Cwmwl Geiriau
  • Graddio Testun
  • Rhifol
  • Sgorio
  • Plot XY
  • Pinio delwedd

Gallwch hefyd gynnal arolygon.

Mae’r nodwedd Cwestiwn ac Ateb yn rhoi cyfle i gydweithwyr adael i’r myfyrwyr ofyn cwestiynau ac i chi ymateb iddynt yn fyw yn y sesiwn.

Mae’r nodwedd hon yn ddefnyddiol ar gyfer technegau asesu yn yr ystafell ddosbarth, megis y pwynt mwyaf dryslyd ac adolygu cysyniadau allweddol.

Gyda’r nodwedd Cwestiwn ac Ateb, gall cyfranogwyr hefyd uwchbleidleisio sylwadau er mwyn i chi fynd i’r afael â chwestiynau. Gellir defnyddio’r nodwedd ddefnyddiol hon hefyd ar gyfer cyflwynwyr allanol a gweithgareddau cynadledda.

Gallwch gynnal dadansoddiadau ar eich arolygon barn i weld ymateb cyfranogwyr.

Fel sefydliad, mae gennym nifer o astudiaethau achos. Gweler ein neges flog flaenorol ar astudiaethau achos Vevox.

Os yw Vevox yn newydd i chi, mae gennym sesiwn hyfforddi ar 26 Ionawr am 11:00 ar-lein trwy Teams. Gallwch archebu lle drwy ein tudalen archebu DPP.

Mae gennym hefyd dudalen we sy’n ymroddedig i Vevox.

Mae ein holl ddiweddariadau Vevox blaenorol ar gael ar y blog UDDA.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).

Blackboard Learn Ultra: Diweddariad am y prosiect

Wrth i ni ddechrau’r flwyddyn newydd, rydym yn cynllunio ar gyfer cam nesaf ein prosiect Blackboard Learn Ultra.

Dros y chwe mis nesaf, byddwn yn ystyried:

  • Gwelliannau i’n proses creu cyrsiau
  • Templedi cwrs
  • Adolygu’r Isafswm Presenoldeb Gofynnol

Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o’r gwaith ar gyfer rhan gyntaf y flwyddyn yn ymwneud â Mudiadau.

Mae Mudiadau’n cynnig yr un nodweddion â Chyrsiau ond nid ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer modiwlau a addysgir.

Mae Mudiadau nodweddiadol yn cynnwys:

  • Mudiadau Adrannol sy’n cynnwys gwybodaeth i staff a myfyrwyr
  • Mudiadau Hyfforddi
  • Mudiadau Pwrpasol yn ôl y gofyn

Yn rhan o’r gwaith hwn, rydym yn adolygu’r holl Fudiadau presennol i leihau eu nifer a sicrhau bod eu hangen o hyd.

Byddwn hefyd yn datblygu polisi i sicrhau bod gennym ffordd glir o reoli ceisiadau am Fudiadau newydd.

Byddwn yn cysylltu â pherchnogion Mudiadau maes o law.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth am ddefnyddio Ultra, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).

Cyfarchion yr ŵyl a Blwyddyn Newydd Dda oddi wrth yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu

Cyfarchion yr ŵyl gan bawb yn yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu

Llongyfarchiadau mawr i’r rhai ohonoch a gwblhaodd y cymhwyster Addysgu i Uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth. Llongyfarchiadau i gyfranogwyr y TUAAU a fynychodd y seremoni Raddio nôl ym mis Gorffennaf yn ogystal â’r rhai a gyflwynodd eu gwaith cwrs terfynol y mis hwn. Hefyd, llongyfarchiadau i’r rhai a gyflawnodd statws Cymrawd Cyswllt, Cymrawd neu Uwch Gymrawd drwy’r cynllun ARCHE, yn ogystal ag enillwyr ein Gwobrau Cwrs Nodedig.

Eleni, rydym wedi mwynhau gweithio gyda chi ar bynciau megis deallusrwydd artiffisial (DA), y Fframwaith Goruchwylio, dysgu gweithredol ac agweddau eraill ar gynllunio dysgu, ac wrth gwrs, Blackboard Learn Ultra.

Diolch i’n siaradwyr allanol sydd wedi ymuno â ni dros y flwyddyn, a’r holl siaradwyr yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol ym mis Gorffennaf, sef ein cynhadledd fwyaf eto. Diolch yn ogystal i gydweithwyr o adrannau eraill sydd wedi cynnal sesiynau i ni ac i bawb sydd wedi mynychu.

Gobeithio y cewch gyfle i orffwyso dros y gwyliau, ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn 2024 – Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!

Photograph of LTEU: Mary Jacob, Kate Wright, Annette Edwards, Jim Woolley, Branwen Rhys, Rob Francis, Keziah Garratt-Smithson. Not pictured, Ian Archer

Deunyddiau Cymorth a Hyfforddi Blackboard Learn Ultra

Ar gyfer cydweithwyr a allai fod yn newydd i’r Brifysgol, cydweithwyr sy’n dychwelyd o absenoldeb ymchwil a chyfnodau eraill o absenoldeb, a’r rhai sydd eisiau gloywi, rydym yn rhedeg ein Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Blackboard Learn Ultra ym mis Ionawr

Gallwch archebu eich lle ar-lein.

Ddim yn gallu dod i’n sesiynau hyfforddi?

Mae gennym ein canllaw Blackboard Learn Ultra i staff ar ein tudalennau gwe yn ogystal â rhestr chwarae i’ch tywys drwy osod eich Modiwl Blackboard Learn Ultra.