Beth sy’n Newydd yn Blackboard mis Awst 2026   

Yn y diweddariad ym mis Awst, hoffem dynnu eich sylw at y gwelliannau Blackboard canlynol:    

  • Rheoli aelodaeth grŵp drwy lusgo a gollwng   
  • Creu mwy nag un grŵp ar yr un pryd  
  • Gwneud hysbysiadau yn fwy cywir a dibynadwy  
  • Ychwanegu rheolyddion didoli ar gyfer defnyddwyr Trafodaethau  
  • Gwedd grid Llyfr Graddau wedi’i ailstrwythuro (Hyfforddwyr)  
  • Allforio banciau cwestiynau (Hyfforddwyr)    
  • Dangos adborth lefel ateb ar gyfer opsiynau a ddewisir yn unig (Hyfforddwyr a Myfyrwyr)  
  • Llywio trwy gyrsiau’n gyflymach gyda rhyngwyneb defnyddiwr gwell  
  • Gosod amodau rhyddhau yn seiliedig ar gyflwyniadau dyddlyfr 

Rheoli aelodaeth grŵp drwy lusgo a gollwng  

Mae rheoli grwpiau bellach yn gyflymach diolch i nodweddion llusgo a gollwng newydd.  

Hyfforddwyr 

O’r ardal rheoli Grwpiau, gall hyfforddwyr nawr wneud y canlynol:   

  • Llusgo myfyrwyr yn uniongyrchol i grŵp o’r rhestr ‘heb eu clustnodi’.  
  • Tynnu myfyrwyr unigol o grŵp heb orfod clirio pob aelod.  
  • Parhau i ddefnyddio’r dulliau sy’n bodoli eisoes ar gyfer aseiniadau ochr yn ochr â llusgo a gollwng. 

Mae hyn yn ei gwneud hi’n llawer haws creu ac addasu grwpiau, yn enwedig wrth wneud newidiadau bach i aelodaeth neu gydbwyso myfyrwyr ar draws sawl grŵp.  

Delwedd 1:  Gall hyfforddwyr lusgo a gollwng myfyrwyr i’w clustnodi i grŵp. 

Delwedd 2:  Gall hyfforddwyr dynnu myfyrwyr unigol o grŵp yn hytrach na’u tynnu i gyd ar unwaith. 

Creu mwy nag un grŵp ar yr un pryd 

Mae sefydlu grwpiau hefyd wedi dod yn llawer mwy effeithlon.  

Hyfforddwyr 

Yn hytrach na chreu grwpiau fesul un, gall hyfforddwyr nawr greu sawl grŵp mewn un weithred.  Gellir cynhyrchu unrhyw nifer rhwng dau a 5,000 o grwpiau ar y tro, gan wneud y broses sefydlu yn llawer cyflymach ar gyfer modiwlau mawr.  

Ar ôl creu grwpiau, gellir ychwanegu aelodau â llaw, eu mewnforio, neu eu clustnodi’n awtomatig.  

Dyma rai pethau i’w nodi:  

  • Wrth ddefnyddio Clustnodi yn awtomatig, mae Blackboard yn creu’r nifer angenrheidiol o grwpiau yn seiliedig ar faint y grŵp a ddewiswyd gennych chi.  
  • Wrth ddefnyddio Hunan-gofrestru, mae tri grŵp yn cael eu creu’n awtomatig.  Mae unrhyw grwpiau ychwanegol a grëwyd trwy’r opsiwn creu swmp yn cael eu hychwanegu at y grwpiau hynny sy’n bodoli eisoes.  

Mae’r diweddariad hwn yn lleihau’n sylweddol ar faint o ailadrodd sydd ei angen yn y broses sefydlu wrth baratoi gweithgareddau cydweithredol.  

Delwedd 1:  Gall hyfforddwyr nawr greu sawl grŵp ar yr un pryd yn hytrach na’u hychwanegu fesul un.   

Delwedd 2:  Gall hyfforddwyr nodi faint o grwpiau i’w creu ar y tro, gan greu o leiaf 2 a hyd at uchafswm o 5,000. 

Gwneud hysbysiadau yn fwy cywir a dibynadwy 

Mae Blackboard wedi gwella dibynadwyedd ei system hysbysu trwy drwsio sawl peth a oedd o’r blaen yn achosi hysbysiadau coll, rhai wedi’u dyblygu neu wedi’u camamseru.  

Hyfforddwyr a myfyrwyr  

Mae’r gwelliannau yn cynnwys y canlynol:   

  • Dim ond ar gyfer y grwpiau y maent yn aelodau ohonynt mewn gwirionedd y mae myfyrwyr yn cael hysbysiadau yn rhybuddio am ddyddiadau cau sydd i ddod neu’n hwyr. 
  • Mae hysbysiadau dyblyg wedi’u dileu ar gyfer Trafodaethau Grŵp sydd wedi’u copïo.  
  • Mae hysbysiadau ar gyfer trafodaethau, blogiau, dyddlyfrau, a wikis bellach yn gweithio’n gywir ar ôl copïo cynnwys y cwrs.  
  • Mae’r e-byst sy’n crynhoi negeseuon bellach yn cynnwys gwybodaeth am ddiweddariadau graddau a graddau wedi’u clirio.  
  • Nid yw’r e-byst crynhoi sydd heb gyrraedd pen eu taith bellach yn dangos, yn anghywir, eu bod wedi cyrraedd.    
  • Dim ond ar ôl y dyddiad dechrau a bennir y mae e-byst Cyhoeddiadau yn cael eu hanfon gan sicrhau nad yw myfyrwyr yn cael y negeseuon cyn i’r cynnwys fod ar gael.  

Dylai’r newidiadau hyn leihau’r llif o hysbysiadau diangen gan roi sicrwydd bod y rhybuddion a geir yn adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd mewn cwrs.  

Ychwanegu rheolyddion didoli ar gyfer defnyddwyr Trafodaethau  

Mae’r meysydd trafod bellach yn cynnwys rheolyddion didoli i helpu defnyddwyr i ymdrin â sgyrsiau hir yn haws.  

Hyfforddwyr a myfyrwyr  

Gall defnyddwyr nawr wneud y canlynol:   

  • Trefnu postiadau yn ôl Y mwyaf newydd yn gyntaf neu Yr hynaf yn gyntaf
  • Dychwelyd at drafodaethau a’u gweld yn yr un drefn a ddewiswyd o’r blaen.  

Mae didoli yn ôl trefn yn berthnasol ym mhob rhan o’r trafodaethau, gan gynnwys trywydd yr atebion, ac mae’n gweithio’n gyson ar ddyfeisiau symudol.   

Mae hyn yn ei gwneud hi’n haws dilyn trafodaethau gweithredol, adolygu cyfraniadau, a dod o hyd i weithgarwch diweddar.  

Gwedd grid Llyfr Graddau wedi’i ailstrwythuro (Hyfforddwyr) 

Mae Gwedd Grid y Llyfr Graddau wedi’i ailwampio i fod yn symlach i hyfforddwyr o ran graddio.  

Ceir erthygl ar wahân gan Blackboard yn rhoi diweddariad mwy manwl ar y newidiadau hyn , ond y nod cyffredinol yw gwneud tasgau graddio yn haws i’w rheoli trwy gynllun a llif gwaith cliriach.  

Allforio banciau cwestiynau  

Gellir allforio banciau cwestiynau yn uniongyrchol o Blackboard.  

Hyfforddwyr 

O’r dudalen rheoli banciau cwestiynau, gall hyfforddwyr allforio banc cwestiynau fel ffeil a’i gadw’n lleol.  

Mae hyn yn galluogi staff i wneud y canlynol:  

  • Creu copïau wrth gefn o gynnwys asesiadau.  
  • Rhannu banciau cwestiynau gyda chydweithwyr. 
  • Ailddefnyddio cynnwys ar draws sawl cwrs. 

Mae’r broses allforio yn rhoi mwy o hyblygrwydd i hyfforddwyr wrth reoli a chadw deunyddiau asesu. 

Dangos adborth ar lefel ateb ar gyfer opsiynau a ddewisir yn unig   

Mae Blackboard wedi newid sut mae adborth yn cael ei arddangos ar gyfer cwestiynau amlddewis. 

Hyfforddwyr 

Nid oes unrhyw newidiadau i’r ffordd y mae adborth yn cael ei greu.  Gall staff barhau i ychwanegu adborth ar gyfer opsiynau ateb unigol gan ddefnyddio’r llif gwaith sy’n bodoli eisoes.  

⁠Myfyrwyr 

Ar ôl cyflwyno ymgais ar asesiad, dim ond yr adborth ar gyfer yr opsiynau ateb a ddewiswyd ganddynt mae myfyrwyr bellach yn eu gweld.   

Yn flaenorol, gallai myfyrwyr weld adborth ar gyfer pob opsiwn.  Mae’r dull newydd yn rhoi cyfarwyddyd mwy penodol ac yn atal myfyrwyr rhag gweld adborth sy’n gysylltiedig ag atebion nad oeddent wedi’u dewis.  

Mae hyn yn sicrhau bod adborth yn parhau i gael ei dargedu a’i fod yn berthnasol i ymatebion unigol. 

Llywio trwy gyrsiau’n gyflymach gyda rhyngwyneb defnyddiwr gwell 

Mae Blackboard wedi parhau â’i waith i wella’r llywio a phrofiad cyffredinol y defnyddiwr.  

Bwriad y newidiadau hyn yw:  

  • Ei gwneud hi’n haws i ddeall lle rydych chi o fewn cwrs. 
  • Lleihau camgymeriadau llywio damweiniol. 
  • Gwella cysondeb a pherfformiad. 
  • Helpu myfyrwyr i ganolbwyntio yn ystod asesiadau. 

Mae’n bwysig nodi bod strwythurau a chynnwys y cwrs yn aros yr un peth, felly nid oes angen i hyfforddwyr ail-ddylunio unrhyw beth. 

Llywio cynnwys tudalen lawn 

Mae modiwlau dysgu, ffolderi, dogfennau, asesiadau, cyfryngau, ac eitemau cynnwys eraill bellach yn agor fel tudalennau llawn yn hytrach nag mewn paneli troshaen.  

Mae agor cynnwys mewn tudalen bwrpasol yn creu profiad mwy cyson ac yn ei gwneud hi’n haws i symud yn ôl trwy ddeunyddiau’r cwrs heb golli eich lle. 

Delwedd 1:   Mae’r cynnwys bellach yn agor fel tudalen lawn gyda phenawdau a llywio cyson, yn hytrach na phaneli troshaen wedi’u pentyrru.  

Briwsion bara i ddangos y cyd-destun 

Mae tudalennau cynnwys bellach yn cynnwys llywio gan ddefnyddio briwsion bara.  

Mae briwsion bara yn dangos lle mae eitem wedi’i osod o fewn strwythur y cwrs ac yn darparu mynediad cyflym yn ôl i’r ffolderi a’r modiwlau gwreiddiol.  Maent yn cael eu cynhyrchu’n awtomatig ac nid oes angen i hyfforddwyr gymryd camau i’w sefydlu.   

Mae’r cyd-destun ychwanegol hwn yn helpu defnyddwyr i gadw golwg ar eu lleoliad o fewn y cwrs ac i symud o gwmpas yn fwy effeithlon.   

Delwedd 2:  Dyma friwsion bara ar dudalen cynnwys sy’n dangos lleoliad y defnyddiwr ac yn galluogi’r defnyddiwr i  symud yn ôl yn gyflym trwy fodiwlau a ffolderi. 

Ffordd gliriach, bwriadol i ddod allan o’r cynnwys 

Mae’r “X” porffor a ddefnyddiwyd o’r blaen i adael y cynnwys wedi’i ddisodli gan opsiwn ymadael wedi’i labelu’n glir yn yr ardal llywio.  

Mae sicrhau bod y dull rheoli ymadael yn fwy gweladwy a bwriadol yn helpu i leihau achosion o gau tudalennau yn ddamweiniol gan wneud llywio yn fwy rhagweladwy.  

Delwedd 3:  Mae’r opsiwn ymadael bellach yn rhan o’r faner lywio, gan leihau achosion o adael ar ddamwain.  

Cyflwr Ffocws ar gyfer profion ac aseiniadau (Myfyrwyr) 

Pan fydd myfyrwyr yn agor prawf neu aseiniad, mae Blackboard yn newid i gyflwr ffocws yn awtomatig.  

Mae’r olwg hon yn lleihau ymyriadau gweledol trwy leihau’r elfennau llywio nad ydynt yn hanfodol a chyflwyno sgrin asesu lanach.   

Mae’r nodwedd yn:  

  • Helpu myfyrwyr i ganolbwyntio ar asesiadau. 
  • Nid yw’n effeithio ar raddio nac ymarferoldeb. 
  • Mae’n dal i adael i fyfyrwyr lywio i rywle arall os oes angen.  
  • Nid oes angen unrhyw weithredu gan hyfforddwyr.  

Mae’r cyflwr ffocws wedi ei alluogi’n awtomatig ac ni ellir ei ddiffodd. 

Delwedd 4:  Yn y cyflwr ffocws, mae llywio nad yw’n hanfodol yn cael ei leihau fel y gall myfyrwyr ganolbwyntio ar gwblhau’r asesiad.  

Gosod amodau rhyddhau yn seiliedig ar gyflwyniadau dyddlyfr 

Gellir cysylltu amodau rhyddhau nawr â chyflwyniadau dyddlyfr.  

Hyfforddwyr 

Wrth bennu amodau rhyddhau, gall hyfforddwyr ddewis gwneud statws cyflwyno dyddlyfr yn ofyniad.   Unwaith y bydd myfyriwr yn cyflwyno’r cofnod dyddlyfr gofynnol, mae’r cynnwys cysylltiedig ar gael yn awtomatig.  

Mae’n bwysig nodi, nid oes angen i hyfforddwyr raddio’r dyddlyfr cyn i’r cynnwys gael ei ryddhau.   Mae Blackboard yn cofnodi’r cyflwyniad fel un sydd wedi’i gwblhau gan ddefnyddio’r broses olrhain cynnydd ac mae’n defnyddio’r statws hwnnw i beri i’r cynnwys gael ei ryddhau.  

Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd wrth ddylunio llwybrau dysgu strwythuredig a gweithgareddau rhagofynnol.  

Delwedd 1:   Mae hyfforddwyr yn dewis Cyfrannu (Engagement) fel y gweithgaredd sy’n ofynnol ar gyfer dyddlyfr.  

⁠Myfyrwyr 

Mae’r myfyrwyr yn cael mynediad awtomatig at gynnwys newydd unwaith y byddant yn cyflwyno’r cofnod dyddlyfr sy’n gysylltiedig â’r amod rhyddhau.  

Nid oes angen aros i’r gwaith gael ei farcio neu am gymeradwyaeth yr hyfforddwr cyn symud ymlaen, gan greu profiad dysgu llyfnach a lleihau’r oedi rhwng gweithgareddau.  

Beth sy’n Newydd yn Blackboard mis Mai 2026 

Tagiau: Blackboard, Diweddariad Misol, Ultra, Grwpiau, Trafodaethau, Graddio, Llyfr Graddau, Cwestiynau Amlddewis, Amodau Rhyddhau, Darllenydd Sgrin, Hygyrchedd, catalog y cwrs

Yn y diweddariad ym mis Mai, hoffem dynnu eich sylw at y gwelliannau Blackboard canlynol:

  • Newidiadau i reoli grwpiau
  • Trafodaethau graddedig a graddio hyblyg
  • Profion a chwestiynau
  • Cynnwys ac amodau rhyddhau
  • Chwilio am gwrs

Newidiadau i reoli grwpiau

Mae hyfforddwyr nawr yn dechrau trwy ddewis sut maen nhw eisiau strwythuro grwpiau – cyn rheoli aelodau unigol. Mae’r opsiynau’n cynnwys:

  • Aseiniad â llaw
  • Aseiniad Awtomatig
  • Hunan-gofrestru
  • Mewnforio

Delwedd 1: Mae hyfforddwyr nawr yn dechrau trwy greu set grŵp trwy ddewis sut maen nhw eisiau strwythuro grwpiau – cyn rheoli aelodau unigol.

Cofrestru’n awtomatig gyda rheolyddion cliriach

Gall hyfforddwyr glustnodi myfyrwyr i grwpiau yn awtomatig trwy nodi nifer yr aelodau fesul grŵp. Mae Blackboard yn creu’r nifer angenrheidiol o grwpiau ac yn clustnodi myfyrwyr ar hap mewn un cam, gan leihau amser gosod ar gyfer cyrsiau mawr.

Llun 2: Gall hyfforddwyr nawr glustnodi myfyrwyr i grwpiau yn awtomatig trwy nodi nifer yr aelodau fesul grŵp.

Ffyrdd mwy hyblyg o glustnodi myfyrwyr

Gall hyfforddwyr glustnodi a dad-glustnodi myfyrwyr gan ddefnyddio sawl dull:

  • Clustnodi myfyrwyr yn uniongyrchol o’r rhestr ‘heb eu clustnodi’
  • Clustnodi myfyrwyr dethol i grŵp penodol
  • Ychwanegu neu dynnu aelodau o fewn grŵp

Mae’r hyblygrwydd hwn yn lleihau ailadrodd gweithredoedd ac yn ei gwneud hi’n haws canolbwyntio ar boblogi un grŵp ar y tro neu gydbwyso aelodaeth ar draws grwpiau.

Trefnu ar gyfer aelodau grwpiau a grwpiau

Gall hyfforddwyr nawr ddidoli:

  • Myfyrwyr yn ôl enw cyntaf neu gyfenw (A–Y neu Y–A)
  • Cyfeirnod Myfyriwr
  • Grwpiau yn ôl enw’r grŵp
  • Grwpiau yn ôl nifer yr aelodau

Llun 3: Gall hyfforddwyr nawr ddidoli aelodau’r grŵp yn ôl enw cyntaf neu olaf, cyfeirnod myfyriwr a didoli grwpiau yn ôl enw grŵp neu nifer yr aelodau.

Gwelliannau perfformiad a dibynadwyedd

Mae rheoli grwpiau mewn cyrsiau mawr bellach yn sylweddol gyflymach. Mae gweithrediadau arbed a oedd yn cymryd sawl munud o’r blaen – yn enwedig mewn cyrsiau gyda miloedd o fyfyrwyr – bellach yn cael eu cwblhau mewn eiliadau. Pan fydd grŵp yn cael ei gadw, gall hyfforddwr gau’r dudalen a bod yn sicr ei fod yn parhau i gadw yn y cefndir, gan ganiatáu i hyfforddwyr barhau i weithio heb ymyriad.

Yn ogystal, mae’r terfynau uchaf blaenorol o 5,000 o fyfyrwyr a 1,000 o grwpiau yn cael eu dileu.

Mae’r gwelliannau hyn yn lleihau rhwystredigaeth ac yn gwella hyder wrth reoli grwpiau ar raddfa.

Ail ddyddiad cyflwyno ar gyfer Trafodaethau yn weladwy yn y Llyfr Graddau

Mae’r ail ddyddiad cyflwyno ar gyfer trafodaethau bellach yn ymddangos yn y tudalennau canlynol yn y Llyfr Graddau:

  • Trosolwg
  • Eitemau graddadwy

O dan Dyddiad Cyflwyno ar yr eitem Trafodaeth ar bob tudalen Llyfr Graddau, dangosir ail ddyddiad cyflwyno terfynol yr eitem. Wrth ymyl y dyddiad hwnnw mae eicon cylch gydag ‘i’ fach y tu mewn. Daliwch y llygoden dros yr eicon neu dabio i’r eicon hwn, a bydd naidlen swigen yn dangos manylion y ddau ddyddiad cyflwyno. Er enghraifft: Mae gan y drafodaeth hon 2 ddyddiad cyflwyno: Dyddiad cyflwyno 1: 5/1/26, 12:00 YP Dyddiad cyflwyno 2: 5/8/26, 12:00 YP

Delwedd 1: Mae’r ail ddyddiad cyflwyno ar gyfer trafodaeth bellach yn ymddangos ar y tudalennau Trosolwg ac Eitemau Graddadwy yn y Llyfr Graddau.

Mae hyfforddwyr yn elwa o gyfathrebu cliriach ynghylch disgwyliadau trafodaeth, gan leihau’r angen i egluro dyddiadau cau a helpu i sicrhau bod myfyrwyr yn deall sut a phryd mae eu cyfraniadau yn cael eu graddio.

Cario’r hidlydd grŵp i mewn i’r Graddio Hyblyg

Mae’r hidlydd grŵp a ddewiswyd yng ngwedd grid y Llyfr Graddau bellach yn cario drosodd i’r Graddio Hyblyg. Bydd hyfforddwyr sy’n hidlo yn ôl grŵp yn y Llyfr Graddau yn dod o hyd i’r myfyrwyr o’r grŵp hwnnw yn unig pan fyddant yn mynd i mewn i’r Graddio Hyblyg, ac mae’r hidlydd grŵp gweithredol yn cael ei arddangos yn y wedd Graddio Hyblyg. Mae’r diweddariad hwn yn lleihau’r angen i ail-hidlo ar ôl newid gwedd ac yn sicrhau bod hyfforddwyr yn canolbwyntio ar y myfyrwyr mwyaf perthnasol ar gyfer eu tasg raddio gyfredol.

Darparu adborth lefel ateb ar gyfer cwestiynau amlddewis ac aml-ateb

Gall hyfforddwyr nawr ychwanegu adborth ar gyfer pob opsiwn ateb mewn cwestiynau amlddewis ac aml-ateb. Mae hyn yn helpu myfyrwyr i ddeall pam mae pob dewis yn gywir neu’n anghywir ar ôl cyflwyno ymgais.

Gall hyfforddwyr nawr ychwanegu adborth ar gyfer pob opsiwn ateb mewn cwestiynau amlddewis ac aml-ateb. Mae hyn yn helpu myfyrwyr i ddeall pam mae pob dewis yn gywir neu’n anghywir ar ôl cyflwyno ymgais.

Hyfforddwyr

Wrth greu neu olygu cwestiwn amlddewis neu aml-ateb, gall hyfforddwyr droi  Adborth Opsiwn ymlaen sy’n ysgogi i flychau testun Adborth  ymddangos o dan bob opsiwn ateb. Gall hyfforddwyr nodi’r opsiynau ateb ac adborth ar gyfer unrhyw un o’r opsiynau.

Delwedd 1: Gall hyfforddwyr roi adborth lefel ateb.

Mae troi’r Adborth Opsiwn ymlaen yn analluogi’r opsiwn Adborth Awtomataidd . Mae’r opsiwn Adborth Awtomataidd yn caniatáu i hyfforddwyr ddarparu adborth ar gyfer yr ateb cywir ac ar gyfer atebion anghywir. Mae adborth lefel ateb hefyd yn caniatáu adborth awtomatig, y gall hyfforddwyr ei ffurfweddu yn yr adran Canlyniadau asesu  o Gosodiadau Asesu.

Er mwyn i adborth lefel ateb ei ymddangos i fyfyrwyr, galluogwch Dangos atebion cywir yn yr adran Canlyniadau asesu  o Gosodiadau Asesu.

Myfyrwyr

Ar ôl cyflwyno ymgais, mae myfyrwyr yn derbyn adborth ar gyfer pob opsiwn ateb a ddewiswyd ganddynt os yw’r hyfforddwr wedi gadael adborth ar gyfer yr opsiwn ateb hwnnw. Mae hyn yn helpu myfyrwyr i ddeall eu perfformiad ar lefel fwy manwl ac yn cefnogi dysgu o ddewisiadau anghywir.

Opsiynau cloi ateb mewn safle sefydlog ar gyfer cwestiynau amlddewis ac aml-ateb

Wrth greu neu olygu cwestiwn amlddewis neu aml-ateb, gall hyfforddwyr ddynodi opsiynau ateb penodol fel ‘wedi’u cloi’. I gloi opsiwn yn ei le, dewiswch Atebion ar hap yn y Gosodiadau Asesu, yna dewiswch yr eicon cloi wrth ymyl yr opsiwn ateb. Mae opsiynau wedi’u cloi yn aros yn eu safle penodol tra bod yr holl opsiynau eraill yn cymysgu yn ôl y disgwyl.

Gall hyfforddwyr dynnu clo unrhyw bryd wrth olygu’r cwestiwn. Gellir diweddaru dynodiadau cloi hefyd fel rhan o lif ailraddio.

Delwedd 1: Gall hyfforddwyr ddewis yr eicon clo wrth ymyl yr opsiwn ateb i gloi’r opsiwn hwnnw yn ei le. I sbarduno’r eiconau clo, dewiswch Atebion ar hap yn y Gosodiadau Asesu.

Delweddu amodau rhyddhau a etifeddwyd gan eitemau mewn modiwlau a ffolderi dysgu

Gall hyfforddwyr nawr weld amodau rhyddhau a etifeddwyd o fodiwl neu ffolder dysgu rhiant yn uniongyrchol o fewn y panel amodau rhyddhau mewn eitemau unigol. Mae amodau a etifeddir yn ymddangos mewn fformat darllen yn unig, gan roi darlun clir i hyfforddwyr o’r holl amodau sy’n berthnasol i eitem, gan gynnwys y rhai a osodir yn uniongyrchol ar yr eitem a’r rhai sy’n rhaeadru o gynhwysydd rhiant.

Mae’r diweddariad hwn hefyd yn sicrhau nad yw trafodaethau sydd wedi’u cuddio o fewn modiwl dysgu bellach yn hygyrch o’r tab Trafodaethau . Mae trafodaethau bellach yn parchu’r amodau rhyddhau a gymhwysir ar lefel y modiwl dysgu.

Hyfforddwyr

Pan fydd hyfforddwyr yn agor y panel Amodau Rhyddhau ar gyfer eitem o fewn modiwl neu ffolder dysgu, mae crynodeb darllen-yn-unig o unrhyw amodau a etifeddwyd o’r cynhwysydd rhiant yn ymddangos ochr yn ochr ag unrhyw amodau a gymhwysir yn uniongyrchol i’r eitem. Mae hyn yn helpu hyfforddwyr i ddeall y set lawn o reolau mynediad sydd ar waith a phenderfynu a oes angen amodau ychwanegol.

Delwedd 1: Mae crynodeb darllen-yn-unig o’r amodau a etifeddwyd o’r cynhwysydd rhiant a’r amodau a gymhwyswyd yn uniongyrchol i’r eitem yn ymddangos yn y panel Amodau Rhyddhau.

Gwell profiad darllenydd sgrin yn y modd gweld Dogfen

Mae defnyddwyr darllenydd sgrin bellach yn cael profiad glanach, â mwy o ffocws wrth lywio dogfennau yn y modd gweld. Mae cyhoeddiadau rhesi a cholofnau diangen wedi’u dileu i ganiatáu mynediad at gynnwys cynradd yn y drefn gywir, o’r chwith i’r dde, ar draws rhesi, colofnau a blociau. Nid yw ymddygiad y modd golygu wedi newid.

Gwell chwilio a llywio yn y Newidydd Cwrs

Rydym wedi gwella’r Newidydd Cwrs yng Ngwedd Cwrs Blackboard Ultra i’w gwneud hi’n gyflymach ac yn haws symud rhwng cyrsiau. Gall defnyddwyr nawr chwilio am gwrs yn uniongyrchol o’r Newidydd Cwrs a llywio ato heb ddychwelyd i’r dudalen Cyrsiau yn gyntaf.

Mae’r diweddariad hwn yn adeiladu ar y mynediad cyflym presennol i gyrsiau diweddar ac yn helpu i leihau ffrithiant llywio wrth weithio ar draws sawl cwrs.

Hyfforddwyr a myfyrwyr 

Mae’r Newidydd Cwrs bellach yn cynnwys blwch chwilio sy’n caniatáu i ddefnyddwyr ddod o hyd i, ac agor, unrhyw gwrs y mae ganddynt fynediad iddo yn gyflym. Yn hytrach na phori’r dudalen Cyrsiau lawn, gall defnyddwyr agor y Newidydd Cwrs, chwilio yn ôl enw’r cwrs neu gyfeirnod y cwrs a llywio’n uniongyrchol i’r cwrs a ddewiswyd.

Mae’r gwelliant hwn yn ategu’r opsiynau presennol yn y Newidydd Cwrs:

  • Mynediad cyflym i’r pedwar cwrs diweddaraf
  • Dolen Gweld y Cyfan sy’n agor y dudalen Cyrsiau lawn

Trwy gyfuno chwilio â mynediad i gwrs diweddar, mae’r Newidydd Cwrs yn darparu ffordd ganolog ac effeithlon o symud rhwng cyrsiau—gan helpu defnyddwyr i ganolbwyntio ar eu tasgau yn hytrach na rheoli llywio.

Delwedd 1: Mae gan y Newidydd Cwrs bellach allu Chwilio cyrsiau sy’n caniatáu i ddefnyddwyr chwilio am gyrsiau yn ôl enw’r cwrs neu gyfeirnod y cwrs.

Os oes gennych unrhyw welliannau yr hoffech i Blackboard eu gwneud, cysylltwch â ni trwy eddysgu@aber.ac.uk.