Cyrsiau Ultra 2023-24

Pan ddewch yn ôl ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, bydd eich cyrsiau newydd yn Blackboard yn edrych ychydig yn wahanol. O fis Medi 2023, bydd yr holl gyrsiau newydd yn Blackboard yn gyrsiau Ultra.

Rydym wedi bod yn defnyddio Ultra Base Navigation (UBN) yn Blackboard ers mis Ionawr 2023, ac rydym yn gwybod bod llawer ohonoch yn meddwl ei fod yn haws i’w ddefnyddio – yn enwedig ar ddyfeisiau symudol.

Mae gan gyrsiau Ultra yr un dyluniad hygyrch a chyfeillgar i ffonau symudol ag UBN – dyma sut mae cwrs Ultra yn edrych:

Sgrinlun o Gwrs Ultra Blackboard

Oherwydd y ffordd y mae wedi’i ddylunio, nid oes gan gwrs Ultra fyth mwy na dwy lefel o ffolderi – mae hyn yn ei gwneud hi’n llawer cyflymach ac yn haws dod o hyd i’ch deunyddiau cwrs a’r dolenni cyflwyno aseiniadau. Ac mae yna hefyd offer chwilio ym mhob cwrs.

Rydym hefyd wedi ailgynllunio templed y cwrs i sicrhau ei fod yn defnyddio’r iaith y mae’r cwrs yn cael ei addysgu ynddi. Os yw eich modiwl yn cael ei addysgu yn Gymraeg, bydd templed eich cwrs nawr yn Gymraeg. Ac mae gan fodiwlau dwyieithog dempled cwrs dwyieithog.

Mae llawer o wybodaeth am Ultra ar wefan Blackboard, gan gynnwys cyflwyniad i lywio eich ffordd o amgylch Cwrs Ultra (Noder – mae’r fideo ar y dudalen hon ar safle allanol ac ar gael yn Saesneg yn unig). 

Mae holl gyrsiau y blynyddoedd blaenorol yn dal i fod ar gael – felly os oes angen edrych yn ôl ar ddeunyddiau hen gwrs, gallwch wneud hynny hefyd.

Cyhoeddi’r Prif Siaradwr: Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ein prif anerchiadau ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol eleni (4-6 o fis Gorffennaf 2023).  

Mae’r cyfnod archebu ar gyfer y gynhadledd eisoes ar agor.  Archebwch eich lle heddiw.

Bydd cyd-weithwyr o Blackboard a Phrifysgol Bangor yn ymuno â ni i sicrhau ein bod wedi’n paratoi’n dda ar gyfer symud i Ultra.

Bydd cyfleoedd:

  • I ddysgu am fanteision symud i Ultra
  • I glywed am ddatblygiadau newydd cyffrous a fydd o help i wella eich addysgu a’ch cynlluniau yn y dyfodol
  • I glywed gan gydweithwyr o Fangor am y gwersi maen nhw wedi’u dysgu wrth symud
  • I gael golwg ar yr hyn y mae rhagorol yn ei olygu o ran cyrsiau Ultra
  • I fynd i weithdy a fydd o help i wella’ch modiwlau a sicrhau eu bod ar eu gorau ar gyfer mis Medi
  • I roi eich adborth ynglŷn ag Ultra i ddatblygwyr cynnyrch i’w helpu i ddiwallu ein hanghenion

Byddwn yn cyhoeddi gweddill ein rhaglen yn fuan, ond gallwch ddisgwyl sesiynau ar Ddeallusrwydd Artiffisial, Dylunio Asesu Creadigol, datblygu gwytnwch myfyrwyr.

Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld wyneb yn wyneb ar 4 a 5 o fis Gorffennaf ac ar-lein ar 6 o fis Gorffennaf.

Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu: Cyhoeddi’r Siaradwr Allanol

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn falch o gyhoeddi ein siaradwr allanol cyntaf fel rhan o Gynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu eleni.

Mae’n cael ei chynnal rhwng 4 a 6 Gorffennaf, a gellir archebu eich lle ar gyfer y gynhadledd nawr.

Bydd Michael Webb o Jisc yn trafod Deallusrwydd Artiffisial yn y sesiwn Navigating the Opportunities and Challenges of AI in Education

Ers cyflwyno ChatGPT, mae ein cyd-weithwyr wedi bod yn dod o hyd i ffyrdd lle y gellid defnyddio gallu deallusrwydd artiffisial mewn Addysg Uwch law yn llaw â’r heriau sy’n codi yn ei sgil.

Nod canolfan genedlaethol Jisc ar gyfer deallusrwydd artiffisial mewn addysg drydyddol yw helpu sefydliadau i fabwysiadu Deallusrwydd Artiffisial mewn ffordd gyfrifol a moesegol. Rydym yn gweithio ar draws y sector i helpu sefydliadau i wynebu’r heriau a’r cyfleoedd a gyflwynir gan Ddeallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol. Yn y sesiwn hon byddwn yn adolygu cryfderau a gwendidau Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol, yr arferion a’r dulliau a welwn yn dod i’r amlwg, ac yn edrych ar sut mae technolegau ac arferion yn datblygu wrth i fwy a mwy o gymwysiadau Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol ymddangos.

Michael Webb yw cyfarwyddwr technoleg a dadansoddeg Jisc – asiantaeth ddigidol, data a thechnoleg y DU sy’n canolbwyntio ar addysg drydyddol, ymchwil ac arloesi. Mae’n gyd-arweinydd canolfan genedlaethol Jisc ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial mewn addysg drydyddol, ac yn cefnogi defnydd cyfrifol ac effeithiol o ddeallusrwydd artiffisial ar draws y sector addysg drydyddol. Yn ogystal â deallusrwydd artiffisial, mae wedi gweithio ar brosiectau yn ymwneud â rhyngrwyd pethau, realiti rhithwir, a dadansoddeg dysgu. Cyn ymuno â Jisc, bu Michael yn gweithio yn y sector addysg uwch, gan arwain TG a thechnoleg dysgu.

Bydd y sesiwn hon o ddiddordeb i gydweithwyr a hoffai ychwanegu Deallusrwydd Artiffisial i’w gweithgareddau addysgu a dysgu, yn ogystal â dod o hyd i ffyrdd y gellir ei ddefnyddio’n gynhyrchiol.

Bydd ein rhaglen lawn yn cael ei chyhoeddi ar ein tudalennau gwe maes o law.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn gweithio ar ei chanllawiau ei hun ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial. Edrychwch ar ein blogbostYstyriaethau ar gyfer Canfod Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol am ragor o wybodaeth.

James Wood: Improving feedback literacy through sustainable feedback engagement practices

Banner for Audio Feedback

Ddydd Mercher 10 Mai, croesawodd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu Dr James Wood o Brifysgol Bangor i roi rhai syniadau ynghylch ymgysylltu a dylunio adborth  myfyrwyr.

Mae’r recordiad o’r sesiwn ar Panopto a gellir lawrlwytho’r sleidiau PowerPoint isod:

Yn y sesiwn, amlinellodd Dr Wood

  • Y newidiadau i gwestiynau adborth yr ACF ar gyfer 2023
  • Diben yr adborth
  • Y symud oddi wrth drosglwyddo adborth i weithredu
  • Rhwystrau i ymgysylltu ag adborth myfyrwyr
  • Sgrinledu eich adborth

Y digwyddiad mawr nesaf ar gyfer yr UDDA yw ein Cynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol sy’n cael ei chynnal rhwng 4 a 6 Gorffennaf. Mae modd archebu lle ar gyfer y gynhadledd nawr.

Os oes gennych unrhyw siaradwyr allanol yr hoffech i’r UDDA eu gwahodd i gyfres y flwyddyn nesaf, e-bostiwch udda@aber.ac.uk gyda’ch awgrym.

Cyrsiau Blackboard Ultra wedi’u creu ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2023-24

Icon Blackboard Ultra

Mae’r fersiynau gwag o gyrsiau Blackboard Ultra ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2023-24 bellach wedi cael eu creu gan ddefnyddio templed y Brifysgol, y cytunwyd arno ymlaen llaw

Creu Cyrsiau Ultra yn gynnar yw’r cam nesaf wrth inni drosi i Blackboard Ultra ac mae’n ein paratoi ar gyfer hyfforddiant dros y misoedd nesaf.

I weld eich cyrsiau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, cliciwch ar Cyrsiau i ddod:

Sgrinlun o dudalen Cyrsiau Ultra gyda ‘Cyrsiau i ddod’ wedi'i amlygu

Byddwch yn gweld unrhyw gyrsiau yr ydych wedi’ch rhestru fel hyfforddwr arnynt yn ogystal â chyrsiau yr ydych, o bosibl, yn eu cefnogi fel gweinyddwr adrannol.

Os nad ydych yn gweld cwrs y dylech fod yn dysgu arno yna holwch eich gweinyddwr adrannol – efallai nad ydych wedi cael eich ychwanegu at gofnod y modiwl yn y System Rheoli Modiwlau. Rydym yn diweddaru’r ffrwd hon bob bore Mawrth felly gallwch ddisgwyl gweld eich modiwlau ar brynhawn Mawrth wedi i’r diweddariad ddigwydd.

Mae’r cyrsiau yn breifat ar hyn o bryd a byddant ar gael ar 1 Medi 2023. Ni fydd myfyrwyr yn ymddangos ar eich cyrsiau nes eu bod wedi cwblhau’r cofrestru.

Rydym wedi cysylltu â Chyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu yr adrannau i drefnu sesiwn hyfforddiant ar gyfer eich adran.

Os hoffech ddechrau paratoi eich cyrsiau, efallai y bydd arnoch eisiau:

Mae cam nesaf y trosi i Ultra yn canolbwyntio ar hyfforddi a sicrhau bod ein deunyddiau cymorth wedi cael eu diweddaru. Gweler ein crynodeb o hyfforddiant am ragor o wybodaeth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Blackboard Ultra, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).

Fyddaf fi’n gallu cael gafael ar hen gyrsiau a deunyddiau ar ôl inni symud i Ultra?

Icon Blackboard Ultra

Bydd cyrsiau’r blynyddoedd blaenorol yn parhau i fod ar gael (yn unol â pholisi cadw’r brifysgol). Byddwch chi’n gallu cael gafael ar hen gyrsiau a’u deunyddiau gan ddefnyddio’r gwymplen Cyrsiau.

Sylwch fod y ffordd i gael gafael ar gyflwyniadau Turnitin o’r cyfnod cyn haf 2022 wedi newid – darllenwch ein canllawiau ar lawrlwytho cyflwyniadau Turnitin a wnaed cyn haf 2022.

Ystyriaethau ar gyfer Canfod Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol

Ysgrifennwyd y blogbost hwn gan aelodau’r Gweithgor Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol.

Mae tirwedd dysgu ac addysgu yn oes Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol wedi bod yn datblygu’n gyflym. Fel y mae’r staff yn ymwybodol, diweddarwyd y Rheoliad Ynghylch Ymddygiad Academaidd Annerbyniol  er mwyn mynd i’r afael â’r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial wrth asesu myfyrwyr. Diweddarwyd y Ffurflen Ymddygiad Academaidd Annerbyniol a’r tabl cosbau i gynnwys ‘Cyflwyno gwaith a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial fel eich gwaith eich hun’ (a gymeradwywyd gan y Bwrdd Academaidd ym mis Mawrth 2023).

Crëwyd y gweithgor Deallusrwydd Artiffisial, dan gadeiryddiaeth Mary Jacob, ym mis Ionawr 2023 i gydlynu ymdrechion y prifysgolion. Gweler Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol i gael canllawiau ac adnoddau cyfredol. Rydym wrthi’n cynllunio deunyddiau hyfforddi ar gyfer staff a myfyrwyr a fydd ar gael ymhell cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Cyngor ar farcio

Ar 3/4/2023, daeth offeryn canfod Deallusrwydd Artiffisial Turnitin yn weithredol. Ar hyn o bryd, mae’r Sgôr Deallusrwydd Artiffisial (AI Score) yn weladwy i staff ond nid i fyfyrwyr. Gallai hyn newid os bydd Turnitin yn diweddaru’r adnodd yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Gweler Lansio Adnodd Turnitin i Ddatgelu Ysgrifennu drwy Ddeallusrwydd Artiffisial a ChatGPT | (aber.ac.uk) ar flog UDDA a Turnitin’s AI Writing Detection (Cynnwys allanol) gan Turnitin (sylwer y gall yr un darn gael ei adnabod fel cynnyrch Deallusrwydd Artiffisial ac fel darn sy’n cyfateb i ffynhonnell allanol).

Mae consensws clir ymhlith arbenigwyr yn y sector na all unrhyw offeryn canfod Deallusrwydd Artiffisial roi tystiolaeth bendant.

Daw hyn gan y QAA, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial mewn Addysg Drydyddol (a noddir gan Jisc), ac eraill. Cewch hyd i ddolenni i’r dystiolaeth hon ar dudalen Deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, gan gynnwys y recordiad QAA lle mae Michael Webb o’r Ganolfan Genedlaethol yn esbonio pam fod hyn yn wir.

Os ydych chi’n wynebu achos posib o ymddygiad academaidd annerbyniol, mae eich barn broffesiynol yn allweddol er mwyn gwneud y penderfyniad cywir. Dyma’r cyngor gorau y gallwn ei roi i adrannau:

  1. Defnyddiwch offeryn canfod deallusrwydd artiffisial Turnitin ar y cyd â dangosyddion eraill – Gall offeryn Turnitin roi arwydd bod angen ymchwiliad pellach ond nid yw’n dystiolaeth ynddo’i hun.
  2. Gwiriwch y ffynnonellau – Mae deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn aml, ond nid bob amser, yn cynhyrchu dyfyniadau ffug. Gall y rhain ymddangos yn gredadwy ar yr olwg gyntaf – awduron go iawn a chyfnodolion go iawn, ond nid yw’r erthygl yn bodoli. Gwiriwch y ffynonellau a nodwyd er mwyn gweld a ydynt yn 1) rhai go iawn a 2) wedi eu dewis yn briodol ar gyfer yr aseiniad. A yw’r ffynhonnell yn berthnasol i’r pwnc? Ai dyma’r math o ffynhonnell y byddai myfyriwr wedi’i darllen wrth ysgrifennu’r aseiniad (e.e. nid llyfr plant yn cael ei ddefnyddio fel ffynhonnell ar gyfer astudiaeth achos busnes)? Nid yw hyn yn brawf pendant o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, ond mae’n dystiolaeth gadarn nad yw’r myfyriwr wedi gwneud pethau’n gywir.
  3. Gwiriwch y ffeithiau – Mae deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn aml yn cynhyrchu celwyddau credadwy. Gallai’r testun swnio’n rhesymol ond mae’n cynnwys rhai ‘ffeithiau‘ sydd wedi eu creu. Nid yw deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn ddeallus mewn gwirionedd, mae’n gweithio fel peiriant rhagfynegi testun soffistigedig, felly os byddwch chi’n sylwi ar rywbeth sy’n ymddangos o’i le, gwnewch yn siŵr nad yw’n gelwydd credadwy.
  4. Ystyriwch lefel y manylder – Mae deallusrwydd artiffisial yn tueddu i gynhyrchu allbwn rhy generig, e.e. defnyddio termau haniaethol heb unrhyw ddiffiniadau nac enghreifftiau pendant. A yw’r traethawd neu’r adroddiad wedi’i ysgrifennu yn or-gyffredinol ynteu a yw’n cynnwys enghreifftiau pendant sy’n ddigon manwl i gefnogi’r casgliad ei fod wedi ei ysgrifennu gan fyfyriwr? Unwaith eto, nid yw diffyg manylder yn dystiolaeth bendant bod myfyriwr wedi twyllo ond gall fod yn rhybudd ar y cyd â ffactorau eraill.
  5. Cynhaliwch gyfweliad i benderfynu a yw’r gwaith yn ddilys – Os gwelwch arwyddion cryf o ymddygiad academaidd annerbyniol, gallai cyfweliad neu banel lle gofynnir cwestiynau i’r myfyriwr am ei aseiniad fod yn ffordd o gael tystiolaeth bendant. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ymarferol ar raddfa eang. Mae hon yn broblem gymhleth, nid i’n prifysgol ni yn unig ond ar draws y sector.

I gael rhagor o wybodaeth am Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, gweler y Crynodeb Wythnosol o Adnoddau i ddysgu am ddigwyddiadau a deunyddiau, e.e. yr erthygl hon yn benodol am astudiaeth ar offeryn canfod deallusrwydd artiffisial Turnitin: Fowler, G. A. (3/4/2023), We tested a new ChatGPT-detector for teachers. It flagged an innocent studentWashington Post. Mae Fowler yn egluro sut yr aethant ati i’w brofi, yr hyn a ganfuwyd, a pham y cynhyrchodd ganlyniadau ffug.

Yn fyr, os mai sgôr deallusrwydd artiffisial Turnitin yw’r unig beth amheus y mae staff yn sylwi arno, byddem yn argymell yn erbyn dwyn achos Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. Mae gormod o bosibilrwydd o niwed os nad yw’r myfyriwr wedi twyllo mewn gwirionedd.