Gwobr Cwrs Eithriadol

Gwobr ECA

Mae Dr Lara Kipp, o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, wedi ennill Gwobr Cwrs Eithriadol am fodiwl TP22320: Principles of Scenography. Cymeradwyodd y panel y modiwl hwn oherwydd cynllun arloesol ei ddull asesu a’r gefnogaeth, y deunyddiau dysgu clir a drefnwyd yn rhesymegol, defnyddio cyhoeddiadau mewn modd gwreiddiol, a chynnig amryw ffyrdd i fyfyrwyr gael bod yn rhan o’r gweithgareddau dysgu.

Yn ogystal, cafodd y modiwl canlynol statws Canmoliaeth Uchel:

  • Dr Rhianedd Jewell o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd am fodiwl CY25620 / CY35620: Y Gymraeg yn y Gweithle

Mae’r amrywiaeth eang o ddulliau dysgu a welir yng ngheisiadau eleni yn adlewyrchiad o’r gwaith arloesol sy’n digwydd ym mhob rhan o’r sefydliad.

Nod y Wobr Cwrs Eithriadol, a sefydlwyd saith mlynedd yn ôl, yw rhoi cydnabyddiaeth i’r arferion dysgu gorau. Mae’n rhoi cyfle i aelodau staff rannu eu gwaith gyda’u cydweithwyr, gwella eu modiwlau presennol ar Blackboard, a chael adborth er mwyn gwella.

Caiff modiwlau eu hasesu ar draws 4 maes: cynllun y cwrs, rhyngweithio a chydweithio, asesu, a chymorth i ddysgwyr. Mae natur y wobr, sy’n seiliedig ar hunanasesiad, yn rhoi cyfle i’r aelodau staff ystyried eu cyrsiau a gwella agweddau ar eu modiwlau cyn i banel asesu bob cais yn erbyn y cyfarwyddyd.

Hoffai’r panel a’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ddiolch i’r holl  ymgeiswyr am yr amser a’r ymdrech a roddwyd i’r ceisiadau ac i’r modiwlau eleni.

Rydym yn edrych ymlaen at gael mwy o geisiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf a llongyfarchiadau mawr i enillwyr gwobr eleni.

Awgrymiadau ynglŷn â defnyddio’r Bwrdd Trafod

Distance Learner Banner

Un o’r offerynnau rhyngweithiol sydd ar gael yn y Blackboard yw’r Bwrdd Trafod. Wrth drosglwyddo i ddysgu ar-lein, rydym ni wedi gweld staff yn dechrau defnyddio byrddau trafod i gyfathrebu â’u myfyrwyr a myfyrwyr yn eu defnyddio i gyfathrebu â’u cyd-fyfyrwyr.

Yn y blogbost hwn, byddwn yn rhoi rhai awgrymiadau ar y ffordd orau o ddefnyddio’r byrddau trafod i gynllunio gweithgareddau dysgu a rhai strategaethau er mwyn eu rhoi ar waith wrth ddysgu. Wrth i ni drosglwyddo i ddysgu ar-lein, mae’n bwysig cofio bod hyn yn newydd i’r myfyrwyr yn ogystal â’r staff. Bydd gweithgaredd dysgu ar-lein sydd wedi ei gynllunio’n effeithiol i helpu i sicrhau llai o straen i fyfyrwyr a llai o ymholiadau i staff.

Mae un o’r ymholiadau mwyaf cyffredin a gawn gan staff yn ymwneud â’r ffordd y mae’r myfyrwyr yn defnyddio’r amrywiol offerynnau e-ddysgu. Mae’r defnydd yn dibynnu ar y ffordd y cynllunnir y gweithgaredd dysgu a’r ffordd y mae’n bwydo i weddill y modiwl a’r broses ddysgu.

Y cwestiwn cyntaf y dylech ei ystyried wrth ddechrau defnyddio byrddau trafod yw beth yw ei ddiben? Beth hoffech chi i’ch myfyrwyr ei wneud neu allu ei wneud ar ôl gwneud y gweithgaredd? Ar ôl i chi sefydlu mai’r bwrdd trafod yw’r offeryn mwyaf addas ar gyfer y gweithgaredd (cofiwch roi blaenoriaeth i’r anghenion dysgu), cewch ddechrau ei gynllunio.

Mae blogbost diweddar gan Slobodan Tomic, Ellen Roberts, Jane Lund o Brifysgol Efrog yn nodi rhai awgrymiadau ar y ffordd orau o gynnwys Fforymau Trafod yn eich gwaith dysgu.  Maent yn cynnig cyfres o 5 cwestiwn a fydd yn gymorth i chi egluro pwrpas penodol eich bwrdd trafod ar gyfer eich gweithgaredd dysgu:

1.       Beth yw’r gweithgaredd?Trafodaeth (gellir cyfeirio at adnodd penodol neu beidio)   Dadl Myfyrio ar brofiad personol Cyflwyniad a grëir ar y cyd Rhannu adnoddau
2.       Beth yw diben y drafodaeth neu’r gweithgaredd?Rhoi myfyrwyr mewn sefyllfa i:   ·       Trin a beirniadu darlleniad ·       Ffurfio dadl ·       Profi/herio damcaniaeth ·       Gweithio mewn parau/timau ·       Datblygu sgiliau (e.e. chwilio am adnoddau a’u rhannu)  
3.       Beth sydd angen i fyfyrwyr ei wneud ac erbyn pa bryd?Am ba hyd y bydd y gweithgaredd yn cael ei gynnal?   A ddylai myfyrwyr bostio unwaith, neu fwy nag unwaith? A ddylai myfyrwyr ymateb i un post arall o leiaf? A oes angen iddynt gyfathrebu y tu allan i’r platfform er mwyn cwblhau’r dasg? A ddylai myfyrwyr enwebu cofnodwr? Erbyn pa bryd mae angen cwblhau pob rhan o’r dasg?
4.       Beth fydd swyddogaeth y tiwtor, a pha mor aml y bydd y tiwtor yn ‘bresennol’ (gweler isod)?A fydd tiwtoriaid yn hwyluso’r drafodaeth?   Ynteu a fyddant yn cadw llygad ond yn peidio â gwneud sylwadau hyd at bwynt penodol? A fydd y tiwtoriaid yn taro golwg bob dydd? Pob ychydig o ddyddiau? Ar ddiwedd y dasg os yw’n dasg a arweinir gan y myfyrwyr?
5.       Beth ddylai’r myfyrwyr ei wneud os byddant yn cael unrhyw broblemau?Sut y dylid cyfleu hyn?   Yn y fforwm? Trwy e-bost?

Mae llawer o awgrymiadau defnyddiol eraill yn y blogbost hwn felly mae’n werth ei ddarllen.

Ar ôl sefydlu pwrpas priodol y bwrdd trafod, cewch ddechrau meddwl am y ffordd orau o’i gynnwys yn eich gwaith dysgu.

Dylai’r awgrymiadau canlynol helpu i annog cysylltiad:

  1. Paratoi:
    1. Ydych chi wedi paratoi’r myfyrwyr ar gyfer y gweithgaredd?
    2. Ydych chi wedi egluro’n union yr hyn yr ydych yn ei ddisgwyl gan y myfyrwyr?
    3. Ydych chi wedi rhoi canllawiau i’r myfyrwyr ynglŷn ag ymwneud â’r byrddau trafod.
    4. Ydych chi wedi rhoi gwybod i’r myfyrwyr beth yw’r ffordd orau i gyfathrebu â chi?
  2. Eglurhad:
    1. Ydych chi wedi rhoi gwybod i’r myfyrwyr beth yw manteision cymryd rhan yn y gweithgaredd?
    2. Ydy eich myfyrwyr yn gwybod pam mae angen iddynt gymryd rhan yn y gweithgaredd?
    3. Ydych chi wedi egluro i’r myfyrwyr pam rydych wedi trefnu’r gweithgaredd mewn modd penodol?
  3. Ymateb:
    1. Ydych chi wedi ymateb i bostiadau ar y bwrdd trafod yn rheolaidd (os yw hynny wedi ei gynllunio yn rhan o’r gweithgaredd dysgu)?
    2. Ydych chi wedi ymateb i bostiadau mewn gweithgareddau dysgu eraill?
    3. Os ydych chi’n cynnal rhith-seminarau, ydych chi wedi cyfeirio at eu cynnwys yn y postiadau?
  4. Enghreifftiau:
    1. Ydych chi wedi rhoi enghreifftiau o bostiadau’r fforwm drafod i fyfyrwyr?
    2. Os ydych chi’n disgwyl i fyfyrwyr gyfrannu at bostiadau eraill ar y fforwm drafod, ydych chi wedi rhoi enghreifftiau o’r mathau o bostiadau y dylent fod yn eu cyfrannu?

Efallai y cewch Fodel Pum Cyfnod Gilly Salmon yn ddefnyddiol.  Nid yw’r model yn newydd ond fe’i cynlluniwyd i helpu i roi strwythur i drafodaeth myfyrwyr ar-lein.

Gobeithio y bydd yr awgrymiadau hyn yn gymorth i chi gynllunio eich gweithgaredd dysgu gyda byrddau trafod. Ar ôl i chi gynllunio’r gweithgaredd, fe gewch yr holl gymorth fydd ei angen er mwyn ei roi ar waith ar gael ar y dudalen cwestiynau cyffredin. https://faqs.aber.ac.uk/index.php?search=discussion.

Rydym ni’n awyddus bob amser i glywed gan bobl sy’n defnyddio offer e-ddysgu yn llwyddiannus yn eu gwaith dysgu. Os ydych chi wedi bod yn defnyddio’r Bwrdd Trafod yn llwyddiannus, rhowch wybod inni. Anfonwch e-bost. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â defnyddio’r offer hwn, mae croeso i chi gysylltu â ni. eddysgu@aber.ac.uk.

Cyfeiriadau

Tomic, S., Roberts, E., Lund, J. 2020. Cynllunio dysgu ar-lein: swyddogaeth fforymau trafod. [Ar-lein]. Ar gael yn: https://www.advance-he.ac.uk/news-and-views/designing-learning-and-teaching-online-role-discussion-forums. Dyddiad cyrchu diwethaf: 30.04.2020.

Salmon, G. n.d. Five Stage Model. [Ar-lein]. Ar gael yn: https://www.gillysalmon.com/five-stage-model.html. Dyddiad cyrchu dierthaf: 30.04.2020.

Newidiadau i’r Gynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu

Bwriedir cynnal y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu am eleni rhwng dydd Llun, 7 a dydd Mercher, 9 Medi. Rydym yn dechrau cynllunio i ddarparu elfennau o’r gynhadledd ar-lein.

Cafodd y dyddiad cau i dderbyn cynigion ar gyfer y gynhadledd ei ymestyn tan ddydd Gwener 26 Mehefin 2020 ac ychwanegwyd edefyn arall at y thema am eleni, sef: Cyfoethogi’r Cwricwlwm: Ysgogi Dysgu a Bywiogi’r Addysgu!

  • Troi at Ddysgu Ar-lein
  • Creu Cymuned Ddysgu
  • Datblygu Lles yn y Cwricwlwm
  • Ymgorffori Dysgu Gweithredol
  • Gweithio gyda Myfyrwyr fel Partneriaid

Cyflwynwch eich cynigion ar-lein.

Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan gydweithwyr a hoffai rannu awgrymiadau a phrofiadau ymarferol ar ddysgu ac addysgu ar-lein.

Mae’r cyfnod i archebu lle yn y gynhadledd bellach ar agor.

Traddodir y ddarlith gyweirnod eleni gan yr Athro Ale Armellini o Brifysgol Northampton. Fe welwch ragor o wybodaeth am yr Athro Armellini yn y blog-bost hwn.  

Os oes gennych unrhyw gwestiwn, e-bostiwch eddysgu@aber.ac.uk