Astudiaethau Achos Offer Blackboard Rhyngweithiol – Wicis

Distance Learner Banner

Mae’r astudiaeth achos hon yn seiliedig ar y bennod The Student-led Planning of Tourism and Hospitality Education: The Use of Wicis to Enhance Student Learning gan Dr Mandy Talbot (Ysgol Funes Aberystwyth) a gyhoeddwyd yn The Routledge Handbook of Tourism and Hospitality Education, ac yn cynnwys detholiadau ohoni.

Pa offeryn ydych chi’n ei ddefnyddio a pham? 

Defnyddiodd Dr Mandy Talbot wicis Blackboard i hwyluso ‘prosiect dysgu cydweithredol dan arweiniad myfyrwyr (…) ar y modiwl ail flwyddyn gradd baglor: datblygu twristiaeth ryngwladol. (…) Roedd gwaith cwrs y modiwl yn gofyn i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bach i nodi a gwerthuso’r strategaethau datblygu twristiaeth oedd yn cael eu dilyn mewn cyrchfannau twristaidd penodol a’u cymharu â’r dulliau a ddefnyddid mewn mannau eraill. Oherwydd natur gydweithredol a rhyngweithiol yr aseiniad, yr offeryn gwe mwyaf addas oedd y wici.’

Pam ddewisoch chi’r offeryn hwn?

Cyn cyflwyno’r wicis ‘roedd myfyrwyr yn ymgymryd â’r ymarfer trwy greu a rhoi cyflwyniad PowerPoint grŵp 15 munud i’r dosbarth, gyda 10 munud arall ar gyfer cwestiynau.’ Newidiodd Dr Mandy Talbot fformat yr aseiniad er mwyn:

  1. ‘Gwella cydlynrwydd gwaith grŵp y myfyrwyr: Mae fformat wici yn rhoi gofod gwaith cydweithredol i fyfyrwyr ddatblygu eu gwaith’
  • ‘Cynnig mwy o gyfle i fyfyrwyr ryngweithio â gwaith grwpiau eraill: Trwy fformat wici gall myfyrwyr ymweld â chyflwyniadau ei gilydd dros gyfnod estynedig. Mae gan dudalennau wici hefyd flychau ar gyfer sylwadau sy’n galluogi myfyrwyr i holi a chynnal trafodaeth ar y safleoedd eraill.’
  • ‘Datblygu sgiliau TG myfyrwyr: Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i greu a strwythuro tudalennau gwe’.

Pa ganlyniadau dysgu oeddech chi’n awyddus i’w cyflawni / beth oeddech chi am i’ch myfyrwyr ei ddysgu?

‘Er mwyn datblygu myfyrwyr sy’n gallu llwyddo fel cynllunwyr a rheolwyr effeithiol ym maes twristiaeth, mae Tribe (2002) yn argymell datblygu Ymarferwyr Athronyddol. Mae hyn yn golygu y dylai’r cwricwlwm twristiaeth ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy myfyrwyr i’w paratoi am y sector twristiaeth yn ogystal â’u sgiliau meddwl creadigol ac ymarfer myfyriol er mwyn iddynt allu ymdrin yn effeithiol â’r heriau a gyflwynir gan y diwydiant. Mae angen i fyfyrwyr gael cyfleoedd dysgu ystyrlon sy’n tynnu ar enghreifftiau o’r byd real er mwyn datblygu’r sgiliau hyn.

Mae gweithle’r byd real yn aml yn galw ar i ymarferwyr twristiaeth gydweithio i gyflawni eu nod. Yn ogystal â chynnig cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau gwaith grŵp, mae profiadau dysgu cydweithredol yn gallu gwella eu dysgu. Yn ôl Johnson et al (2008) mae grwpiau bach o fyfyrwyr yn cydweithio ar dasg yn gwneud y gorau neu fwyhau eu dysgu eu hunain a’u dysgu ei gilydd.

Nod cyffredinol yr ymyriad wici a nodir yn y bennod hon oedd darparu profiad dysgu dan arweiniad myfyrwyr fyddai’n cynnig mwy o gyfle ar gyfer cydweithio a rhyngweithio i’r myfyrwyr, annog defnydd o sgiliau meddwl beirniadol / uwch (Bloom, 1956) a gwella ansawdd gwaith y myfyrwyr.’

Sut aethoch chi ati i gynllunio’r gweithgaredd gyda’r offeryn hwn?

‘Er mwyn i weithgareddau sy’n canolbwyntio ar ddysgu’r myfiwyr fod yn effeithiol, rhaid eu cynllunio’n dda. Ar sail canfyddiadau blaenorol yn dango nad oedd myfyrwyr yn gyfarwydd â defnyddio wicis at ddibenion addysgol, datblygwyd rhaglen sefydlu strwythuredig ar gyfer y prosiect. Roedd hyn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael y sgiliau (hyfforddiant meddalwedd wici a gwaith grŵp), cymorth (enghreifftiau wici, templedi wici a safoni ar-lein) a’r amgylchedd gweithredu (canllawiau ar lên-ladrad a chwrteisi ar-lein) angenrheidiol i gwblhau’r prosiect yn llwyddiannus.’

Beth ydych chi’n meddwl oedd barn eich myfyrwyr am yr offeryn?

‘Roedd adborth cyffredinol y myfyrwyr ar yr ymarfer yn gadarnhaol. Roedd 72% o’r myfyrwyr yn teimlo bod edrych ar wicis eraill wedi gwella safon eu gwaith. Er gwaethaf yr heriau o ran meddalwedd, roedd 72% o’r myfyrwyr yn teimlo bod yr ymarfer wedi gwella eu sgiliau technoleg. Fodd bynnag roedd 12% yn anghytuno, gan nodi’r angen am ragor o gymorth TG. Roedd 65% o’r myfyrwyr yn teimlo bod yr ymarfer wedi gwella eu sgiliau gwaith grŵp. Mae gwaith grŵp yn faes mwy anodd ei fesur gan fod unrhyw heriau o ran gweithio yn y grŵp yn gallu dylanwadu ar ganfyddiad pobl o ddatblygiad eu sgiliau yn y maes hwn.

Mae’r canlyniadau’n dangos bod sgoriau gwaith cwrs myfyrwyr ar y modiwl wedi cynyddu ar gyfartaledd 5% ers y flwyddyn academaidd flaenorol o 55% i 60%, a gwelwyd myfyrwyr yn cael sgôr cyfartalog o 60% am eu cyflwyniadau a’u wicis. Mae’r casgliad hwn yn adlewyrchu canfyddiad y myfyrwyr bod eu gwaith wedi gwella. Mae’n debygol bod cydweithio a rhyngweithio cynyddol y myfyrwyr â deunyddiau ei gilydd trwy’r wicis wedi gwella ansawdd eu gwaith ar y safleoedd wici a’u cyflwyniadau yn y dosbarth.’

Oes gennych chi gyngor i unrhyw un ar gyfer defnyddio’r offeryn hwn?

‘Amlygodd y prif adborth gan fyfyrwyr fod angen mwy o gefnogaeth gyda’r dechnoleg wici. Roedd hyn yn cynnwys: meddalwedd wici mwy hylaw, sesiynau ymsefydlu wici mewn labordy TG a gwell cymorth TG. Nodwyd syniadau ar gyfer gwella’r prosiect hefyd gan yr hyfforddwyr. Mae rhai o’r rhain ar gyfer ymarferion penodol tra bo eraill yn ymwneud â defnydd mwy cyffredinol o wici. Dyma’r pwyntiau allweddol:

  • Cytuno ar faint o gynnwys gaiff ei lwytho i fyny cyn i’r safleoedd fynd yn fyw. Doedd pob grŵp ddim yn llwytho cynnwys digonol i fyny i alluogi’r grwpiau eraill i ryngweithio’n effeithiol â’u safleoedd.
  • Cynnig arweiniad ar y nifer a’r math o safleoedd wici y dylai myfyrwyr ryngweithio â nhw: er enghraifft roedd 10 safle cyrchfan yn y dosbarth a doedd hi ddim yn bosibl i fyfyrwyr ymgysylltu’n effeithiol â phob un. Fodd bynnag bydd ymgysylltu’n anodd os nad yw’r safleoedd eraill wedi llwytho cynnwys digonol i fyny, oedd yn wir am rai safleoedd yn y prosiect. Mae adborth yn awgrymu bod hyn oherwydd heriau TG a blaenoriaethu amser y myfyrwyr.
  • Annog gwell rhyngweithio rhwng safleoedd. Gellir cyflawni hyn trwy roi rheswm i fyfyrwyr wneud hynny. Bydd hyn yn dibynnu ar nod y gweithgaredd. Rhai syniadau: Gosod cwestiynau neu dasgau ehangach i fyfyrwyr i annog rhyngweithio ‘gweithredol’ rhwng safleoedd wici; Defnyddio dulliau asesu cyfranogol: neilltuo’r dasg o asesu safleoedd ei gilydd i’r myfyrwyr.
  • Y nifer o ddulliau asesu: Er bod yr ymarfer wici yn ategu’r cyflwyniad yn y gweithgaredd hwn, gallai wici neu gyflwyniad fod yn fwy addas ar ei ben ei hun, gan ddibynnu ar nod yr asesiad.’

Diolch yn fawr i Dr Mandy Talbot am rannu’r astudiaeth achos. Os hoffech ddysgu mwy am wicis, edrychwch ar Blackboard Tools for Group Work (Blogpost 3): Wicis a’r Cwestiynau Cyffredin wicis.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*