Digwyddiad Arferion Gorau o ran Asesu a DA Cynhyrchiol:  Galwad am Arferion Asesu 

Mae DA Cynhyrchiol wedi creu her arbennig ar gyfer arferion asesu. 

Ar brynhawn dydd Mercher 25 Tachwedd, bydd y Gwasanaethau Llyfrgell, Academaidd a Digidol yn cynnal digwyddiad arbennig ar arferion gorau gan ganolbwyntio ar ddylunio asesiadau yng nghyd-destun DA Cynhyrchiol.

Rydym yn gwahodd cyflwyniadau gan gydweithwyr i rannu eu harferion asesu arloesol mewn sgyrsiau byr 10–15 munud o hyd. 

Rydym yn chwilio am gymysgedd o asesiadau sydd naill ai wedi’u cynllunio i:

  • Gynnwys y defnydd o DA Cynhyrchiol neu i
  • Atal y defnydd o DA Cynhyrchiol a gwella dilysrwydd asesiadau

Byddai’n wych cael enghraifft o bob adran. 

 Os hoffech gyflwyno cynnig, llenwch y ffurflen fer hon: Digwyddiad Arferion Gorau o ran Asesu a DA Cynhyrchiol:  Galwad am Arferion Asesu – Fill out form

Gallwch archebu lle nawr ar gyfer y digwyddiad trwy’r system archebu hyfforddiant staff.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â threfnwyr y digwyddiad ar eddysgu@aber.ac.uk

Adolygiad o Bolisïau Addysg Ddigidol (2026-27)

Bob blwyddyn, rydym yn ailedrych ar yr holl bolisïau sy’n ymwneud ag addysg ddigidol ac yn eu hadolygu. Mae’r holl newidiadau yn cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Ansawdd a Safonau. Mae’r polisïau newydd bellach ar gael, a dyma fanylion y prif newidiadau.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisïau newydd, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost eddysgu@aber.ac.uk

Mae’r diweddariad eleni wedi egluro’r hyn a ddisgwylir ar gyfer cyrsiau Aber Ar-lein yn Canvas. Mae’r holl bwyntiau yn berthnasol i Blackboard a Canvas oni nodir fel arall. Dylid anfon unrhyw ymholiadau am Aber Ar-lein at xx

Isafswm Presenoldeb Gofynnol (IPG) Blackboard

Mae’r IPG yn rhoi amlinelliad i staff a myfyrwyr o’r safonau gofynnol ar gyfer Cwrs Blackboard.

Y Gymraeg:

  • Canllawiau ar gyfer darparu deunyddiau Cymraeg mewn modiwlau Cymraeg a Saesneg wedi’u cyfuno.

Er mwyn helpu myfyrwyr i gynllunio a rheoli eu hastudiaethau:

  • Dylid uwchlwytho briffiau aseiniad, ynghyd â datganiad DA Cynhyrchiol ar gyfer pob asesiad ar ddechrau’r semester y mae’r cwrs yn cael ei addysgu ynddo
  • Eglurhad ar amserlenni ar gyfer uwchlwytho deunyddiau i fyfyrwyr gyda Chofnod o Ddarpariaeth Cymorth
  • Canllawiau ar argaeledd deunyddiau mewn cwrs Blackboard

I helpu staff i reoli cyrsiau:

  • Copi o unrhyw gyfarwyddiadau Turnitin i’w huwchlwytho i’r ffolder Arholwyr Allanol

⁠Y Polisi E-gyflwyno

Amlinellir yn y Polisi E–gyflwyno fod pob darn o waith testun a baratowyd ar raglen prosesu geiriau yn cael ei gyflwyno, ei farcio, a’r adborth yn cael ei ryddhau’n electronig. 

Er mwyn gwella sut mae myfyrwyr yn cael gafael ar eu marciau a’u hadborth:

  • Eglurhad o ganllawiau ar ddychwelyd marciau ac adborth ar gyfer gwaith nad yw’n cael ei gyflwyno’n electronig

Ymateb i fethiannau yn y system:

  • Eglurhad o sut y bydd methiannau i systemau PA a systemau nad ydynt yn rhai PA yn cael eu rheoli.

Y ⁠Polisi Cipio Darlithoedd

Amlinellir yn y Polisi Cipio Darlithoedd fod pob cyflwyniad yn y dull trosglwyddo yn cael ei recordio’n electronig i’w ddefnyddio gan fyfyrwyr.

I helpu myfyrwyr gyda gofynion hygyrchedd

  • Cynnwys canllawiau ar lawrlwytho trawsgrifiadau
  • Cynnwys canllawiau ar gofnodi nodiadau bwrdd gwyn

I helpu staff i reoli cyrsiau:

  • Eglurhad ynghylch pryd a sut y dylid defnyddio crynodebau darlith

Defnydd o recordiadau:

  • Canllawiau ar pryd a sut y gellir defnyddio recordiadau ym mhroses gwynion PA

Panopto 2026-27

Mae Panopto bellach wedi’i osod yn barod ar gyfer 2026-27. Mae hyn yn cynnwys capsiynau awtomatig.

Capsiynau Awtomatig

Mae capsiynau awtomatig bellach wedi’i osod ar gyfer holl ffolderi 2026-27 yn Panopto. Mae’r iaith ar gyfer y capsiynau yn cyfateb i iaith eich templed cwrs Blackboard.   

Ar gyfer cyrsiau dwyieithog, rydym yn argymell creu is-ffolder i ddal y recordiadau ar gyfer un o ieithoedd eich cyflwyniad cwrs (gweler Cwestiwn Cyffredin).   

Pan fyddwch yn gwneud eich recordiadau, rhaid i chi ddewis yr iaith gywir cyn pwyso record. Y rheswm am hyn yw oherwydd na ellir ychwanegu capsiynau Cymraeg at recordiadau sy’n cael eu copïo neu’u symud o ffolderi eraill.   

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am gapsiynau awtomatig ym Mholisi Cipio Darlithoedd PA (adran 12). 

Cysylltu â holl Recordiadau Panopto

Gallwch greu dolen i’r ffolder Panopto yn eich cwrs Blackboard. Golyga hyn y gall myfyrwyr weld y recordiadau ar gyfer y cwrs mewn un lle.

Dod o hyd i’ch ffolder Panopto

Mae ffolderi Panopto ar gyfer yr holl fodiwlau eleni yn y ffolder 2026-27.  

I ddod o hyd i’r ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi: 

  • Cliciwch ar y botwm cwymplen ar ochr dde’r blwch Ffolder.
  • Cliciwch ar y saeth cwymplen i’r chwith o’r ffolder blwyddyn academaidd i’w hehangu.
  • Dewiswch y ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi.  

Gallwch hefyd chwilio am y ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi:

  • Yn y blwch Folder dechreuwch deipio cod y modiwl neu enw’r ffolder Panopto yr hoffech recordio ynddi 
  • Dewiswch y ffolder yr hoffech recordio ynddi.

Beth i’w wneud os na allwch weld eich ffolder Panopto 

Mewn nifer fach o gyrsiau, ni chrëwyd y ffolder Panopto dros yr haf. Os na allwch ddod o hyd i’ch ffolder Panopto gan ddefnyddio’r camau uchod, gallwch greu ffolder o Blackboard:

  1. Mewngofnodwch i Blackboard a dod o hyd i’ch cwrs
  2. Cliciwch ar Llyfrau ac Offer > Gweld cwrs ac offer sefydliad 
  3. Cliciwch ar Holl Fideos Panopto

Nawr dylech allu dod o hyd i’r ffolder Panopto i recordio ynddi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Tîm Addysg Ddigidol ar e-ddysgu@aber.ac.uk.

Cynhadledd Flynyddol Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr:    Siaradwr Allanol o Blackboard

Rydym yn falch iawn o groesawu mwy o siaradwyr gwadd ar gyfer ein Cynhadledd Flynyddol Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr.

Ar ddydd Iau 10 Medi, bydd Ruben Jacquart o Blackboard yn ymuno â ni.

Mae Ruben Jacquart yn Uwch Beiriannydd Datrysiadau gyda thros 10 mlynedd o brofiad yn cefnogi sefydliadau addysg uwch i drawsnewid eu dulliau dysgu digidol. Wedi’i leoli yn Amsterdam, mae’n gweithio’n agos â phrifysgolion ac ysgolion busnes ledled Ewrop a’r DU i helpu sefydliadau i wella addysgu, dysgu, hygyrchedd a llwyddiant myfyrwyr trwy gyfrwng technoleg addysgol arloesol.

Mae ei arbenigedd yn cwmpasu systemau rheoli dysgu, hygyrchedd digidol, dadansoddeg dysgu, deallusrwydd artiffisial, safonau rhyngweithrededd, ac integreiddiadau menter. Mae Ruben yn cydweithio’n rheolaidd ag arweinwyr sefydliadol, staff academaidd, a thimau technoleg i fynd i’r afael â heriau strategol a gweithredol mewn addysg ddigidol.

Mae’n arbennig o angerddol am hyrwyddo hygyrchedd mewn addysg a helpu sefydliadau i greu amgylcheddau dysgu mwy cynhwysol. Trwy ei waith gydag Ally, mae’n cefnogi prifysgolion i wella hygyrchedd cynnwys cyrsiau digidol, grymuso addysgwyr i feithrin arferion cynhwysol, a sicrhau bod gan bob dysgwr fynediad cyfartal at adnoddau addysgol. Mae gan Ruben ddiddordeb mawr hefyd mewn sut y gall dulliau DA, sy’n seiliedig ar ddata, wella profiad y dysgwr ymhellach wrth gryfhau cynhwysiant a llwyddiant myfyrwyr.

Bydd Ruben yn cynnal sesiwn 1 awr.

Bydd y sesiwn yn cynnwys y diweddariadau diweddaraf i:

  • Blackboard Ally
  • Cynorthwyydd Dylunio DA Blackboard
  • Map ffordd nodweddion newydd ar gyfer Blackboard

Rydym yn llawn cyffro am rai o’r nodweddion newydd sydd wedi’u cynnwys yn y diweddariad i Blackboard Ally.

Yn y 1-3 mis nesaf, bydd darllenydd datblygedig i fyfyrwyr. Yn ogystal â’r holl nodweddion gwych sydd eisoes wedi’u cynnwys yn Ally, bydd hyn yn cynnwys nodweddion sy’n helpu i ganolbwyntio eich sylw.

Yn dilyn sesiwn Blackboard, bydd Ifat Shah o’r Gwyddorau Bywyd a Jim Woolley o Daith y Myfyriwr yn rhoi cyflwyniad ar Gyflawniadau Blackboard. Mae cydweithwyr yn y Gwyddorau Bywyd wedi bod yn ei ddefnyddio eleni i gofnodi’r Pasbort Sgiliau AGB.

Gweler gweddill y rhaglen ar-lein: Rhaglen y Gynhadledd  : Llyfrgell ac Addysg Ddigidol , Prifysgol Aberystwyth

Archebwch eich lle drwy’r ffurflen ar-lein hon: https://forms.office.com/e/Lp1CjT4xuB

Cynhadledd Flynyddol Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr:  y stondinau yn y gynhadledd eleni

Rydym yn falch iawn o groesawu sawl stondin i’n diwrnodau wyneb-yn-wyneb yng Nghynhadledd Flynyddol Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr eleni. 

Bydd pob un o’r stondinau yn y Felin Drafod ddydd Mercher 9 Medi a dydd Iau 10 Medi. 

SgiliauAber

Bydd Non Jones o Wasanaethau Llyfrgell, Academaidd a Digidol yn cynnal stondin i arddangos newyddion diweddaraf  Sgiliau Aber, cartref datblygu sgiliau ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Mae gennym ambell sesiwn sy’n canolbwyntio ar Sgiliau yn rhan o’r gynhadledd – bydd Jim Dickinson o WONKHE a Trish McGrath o UndebAber yn arwain sesiwn, a bydd Joy Cadwallader a Keziah Garratt-Smithson yn lansio’r Adnodd Darganfod Digidol. 

Enillwyr Cronfa Gwobr Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr 

Bydd y rhai a enillodd Wobrau Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr y llynedd yn staffio stondinau fel bo cynrychiolwyr yn gallu clywed am y prosiectau:

  • The Aber Medieval Physic Garden
  • Developing a Sustainable Student Gear Hub
  • Inclusivity and Accessibility in Assessment Design and Feedback Practices
  • Pulling together – supporting teamwork assessment more effectively 

Stondin Ysgrifennu’r Gronfa Lenyddol Frenhinol

Ddydd Mercher 9 Medi a dydd Iau 10 Medi, rydym yn falch iawn o groesawu Samantha Wynne-Rhydderch a fydd yn cynnal stondin.

Samantha yw’r Cymrawd Llenyddol Brenhinol yma yn Aberystwyth.

Lansiwyd cynllun Cymrodoriaeth y Gronfa Lenyddol Frenhinol ar gyfer awduron yn hydref 1999 ac mae wedi’i leoli ym mhrifysgolion y DU. Mae tua 750 o awduron yn gweithio fel Cymrodyr mewn dros 100 o sefydliadau gwahanol. Prif nod gwaith y Cymrawd yw meithrin arfer ysgrifennu da ar draws pob disgyblaeth a chyfryngau trwy ddangos i fyfyrwyr sut i ysgrifennu gydag eglurder a llif. Yn nodweddiadol, bydd myfyriwr yn gweld y Cymrawd, awdur cyhoeddedig proffesiynol, un-i-un, am 50 munud. 

Gall Samantha helpu gyda: 

  • Strwythuro dadl
  • Ysgrifennu rhyddiaith sy’n fwy clir a thrawiadol
  • Ailysgrifennu a golygu
  • Cynllunio a rheoli amser
  • Mynd i’r afael â chyfrif geiriau
  • Meddwl yn feirniadol
  • Aralleirio

Cewch ragor o wybodaeth am y Gronfa Lenyddol Frenhinol yma: Prifysgol Aberystwyth – Y Gronfa Lenyddol Frenhinol a Samantha Wynne-Rhydderch – Y Gronfa Lenyddol Frenhinol

Archebwch eich lle ar-lein.

Ewch i’n tudalen we i weld rhaglen lawn y gynhadledd. 

Hyfforddiant Addysg Ddigidol

Mae ein rhaglen hyfforddiant Addysg Ddigidol bellach yn barod i staff archebu eu lle gan ddefnyddio’r dudalen archebu i staff

Mae ein hyfforddiant wedi’i rannu ar draws 3 lefel:

Hanfodion E-Ddysgu:

Mae ein sesiynau Hanfodion E-ddysgu yn rhoi cyflwyniad ymarferol i dechnolegau dysgu digidol craidd y Brifysgol a’r polisïau sy’n cefnogi eu defnydd.  Mae’r sesiynau hyn yn ddelfrydol ar gyfer cydweithwyr sydd heb ddefnyddio offeryn o’r blaen, yn ymgymryd â rôl addysgu newydd, neu’n edrych i adnewyddu eu gwybodaeth.

Byddwch yn meithrin hyder wrth ddefnyddio technolegau fel Blackboard, Turnitin, Panopto, Microsoft Copilot, a Vevox, yn ogystal â dysgu am brosesau allweddol sy’n cefnogi dysgu, addysgu ac asesu.

Mae’r sesiynau canlynol ar gael:

  • Become a Document Pro
  • Introduction to Blackboard Ally
  • Cyflwyniad i Blackboard Ultra
  • Introduction to Component Marks Transfer
  • Introduction to Microsoft Copilot for Learning and Teaching Activities
  • Cyflwyniad i’r Offer Recordio Darlithoedd trwy Panopto ac Offer yr Ystafelloedd Dysgu (dwyieithog)
  • Cyflwyniad i Turnitin (dwyieithog)
  • Introduction to Vevox Polling Software

E-ddysgu Uwch:   

Mae ein sesiynau E-ddysgu uwch yn canolbwyntio ar ddylunio a chreu gweithgareddau dysgu sy’n ennyn diddordeb gan ddefnyddio offer digidol yng nghyd-destun eich addysgu chi eich hun.

Bydd y gweithdai ymarferol hyn yn eich helpu i edrych ar ddulliau arloesol o ddylunio’r dysgu, asesu, ystyried hygyrchedd a meithrin cyswllt â myfyrwyr, â’ch galluogi i ddefnyddio amgylchedd dysgu digidol y Brifysgol yn fwy effeithiol.

Mae’r sesiynau canlynol ar gael: 

  • Becoming an Alternative Text Pro
  • Design Interactive Online Learning Activities Using Blackboard Discussions and Journals
  • Designing Blackboard Tests
  • Designing Learning and Teaching Activities Using Vevox
  • Introduction to the Blackboard AI Design Assistant
  • Measuring and Increasing student engagement using Blackboard Tools 
  • Peer Assessment with Turnitin
  • Preparing for Your Blackboard Exam
  • Using the Advanced Features of Panopto

Rhagoriaeth E-Ddysgu: 

Mae ein rhaglen Rhagoriaeth E-ddysgu wedi’i chynllunio ar gyfer cydweithwyr sydd am greu profiadau dysgu digidol rhagorol a sicrhau bod eu cyrsiau yn cyd-fynd â’r arferion gorau cydnabyddedig.

Yn seiliedig ar y cyfarwyddiadau ar gyfer Gwobr Cwrs Eithriadol Blackboard, mae’r sesiynau hyn yn edrych ar elfennau allweddol dylunio cwrs o ansawdd uchel ac addysgeg ddigidol effeithiol.  Er bod y sesiynau wedi’u cynllunio yn gyfres pedair rhan sy’n cyflenwi ei gilydd, mae croeso i chi ddod i sesiynau unigol yn ôl eich diddordebau a’ch anghenion.

Mae’r sesiynau canlynol ar gael: 

  • Exemplary Assessment Design
  • Exemplary Course Design
  • Exemplary Interaction and Collaboration
  • Exemplary Learner Support
  • Submitting an Exemplary Course Award
  •  

Rydym wedi ymrwymo i wneud ein hyfforddiant mor hygyrch a chynhwysol â phosibl.  Os nad ydych yn gallu dod i sesiwn ond byddech yn hoffi gallu defnyddio’r deunyddiau hyfforddi, neu os hoffech drafod unrhyw agwedd ar fformat y sesiwn neu ofynion hygyrchedd, cysylltwch â’r Grŵp Addysg Ddigidol yn eddysgu@aber.ac.uk.

Edrychwn ymlaen at eich gweld mewn digwyddiad cyn hir.

Beth sy’n Newydd yn Blackboard mis Awst 2026   

Yn y diweddariad ym mis Awst, hoffem dynnu eich sylw at y gwelliannau Blackboard canlynol:    

  • Rheoli aelodaeth grŵp drwy lusgo a gollwng   
  • Creu mwy nag un grŵp ar yr un pryd  
  • Gwneud hysbysiadau yn fwy cywir a dibynadwy  
  • Ychwanegu rheolyddion didoli ar gyfer defnyddwyr Trafodaethau  
  • Gwedd grid Llyfr Graddau wedi’i ailstrwythuro (Hyfforddwyr)  
  • Allforio banciau cwestiynau (Hyfforddwyr)    
  • Dangos adborth lefel ateb ar gyfer opsiynau a ddewisir yn unig (Hyfforddwyr a Myfyrwyr)  
  • Llywio trwy gyrsiau’n gyflymach gyda rhyngwyneb defnyddiwr gwell  
  • Gosod amodau rhyddhau yn seiliedig ar gyflwyniadau dyddlyfr 

Rheoli aelodaeth grŵp drwy lusgo a gollwng  

Mae rheoli grwpiau bellach yn gyflymach diolch i nodweddion llusgo a gollwng newydd.  

Hyfforddwyr 

O’r ardal rheoli Grwpiau, gall hyfforddwyr nawr wneud y canlynol:   

  • Llusgo myfyrwyr yn uniongyrchol i grŵp o’r rhestr ‘heb eu clustnodi’.  
  • Tynnu myfyrwyr unigol o grŵp heb orfod clirio pob aelod.  
  • Parhau i ddefnyddio’r dulliau sy’n bodoli eisoes ar gyfer aseiniadau ochr yn ochr â llusgo a gollwng. 

Mae hyn yn ei gwneud hi’n llawer haws creu ac addasu grwpiau, yn enwedig wrth wneud newidiadau bach i aelodaeth neu gydbwyso myfyrwyr ar draws sawl grŵp.  

Delwedd 1:  Gall hyfforddwyr lusgo a gollwng myfyrwyr i’w clustnodi i grŵp. 

Delwedd 2:  Gall hyfforddwyr dynnu myfyrwyr unigol o grŵp yn hytrach na’u tynnu i gyd ar unwaith. 

Creu mwy nag un grŵp ar yr un pryd 

Mae sefydlu grwpiau hefyd wedi dod yn llawer mwy effeithlon.  

Hyfforddwyr 

Yn hytrach na chreu grwpiau fesul un, gall hyfforddwyr nawr greu sawl grŵp mewn un weithred.  Gellir cynhyrchu unrhyw nifer rhwng dau a 5,000 o grwpiau ar y tro, gan wneud y broses sefydlu yn llawer cyflymach ar gyfer modiwlau mawr.  

Ar ôl creu grwpiau, gellir ychwanegu aelodau â llaw, eu mewnforio, neu eu clustnodi’n awtomatig.  

Dyma rai pethau i’w nodi:  

  • Wrth ddefnyddio Clustnodi yn awtomatig, mae Blackboard yn creu’r nifer angenrheidiol o grwpiau yn seiliedig ar faint y grŵp a ddewiswyd gennych chi.  
  • Wrth ddefnyddio Hunan-gofrestru, mae tri grŵp yn cael eu creu’n awtomatig.  Mae unrhyw grwpiau ychwanegol a grëwyd trwy’r opsiwn creu swmp yn cael eu hychwanegu at y grwpiau hynny sy’n bodoli eisoes.  

Mae’r diweddariad hwn yn lleihau’n sylweddol ar faint o ailadrodd sydd ei angen yn y broses sefydlu wrth baratoi gweithgareddau cydweithredol.  

Delwedd 1:  Gall hyfforddwyr nawr greu sawl grŵp ar yr un pryd yn hytrach na’u hychwanegu fesul un.   

Delwedd 2:  Gall hyfforddwyr nodi faint o grwpiau i’w creu ar y tro, gan greu o leiaf 2 a hyd at uchafswm o 5,000. 

Gwneud hysbysiadau yn fwy cywir a dibynadwy 

Mae Blackboard wedi gwella dibynadwyedd ei system hysbysu trwy drwsio sawl peth a oedd o’r blaen yn achosi hysbysiadau coll, rhai wedi’u dyblygu neu wedi’u camamseru.  

Hyfforddwyr a myfyrwyr  

Mae’r gwelliannau yn cynnwys y canlynol:   

  • Dim ond ar gyfer y grwpiau y maent yn aelodau ohonynt mewn gwirionedd y mae myfyrwyr yn cael hysbysiadau yn rhybuddio am ddyddiadau cau sydd i ddod neu’n hwyr. 
  • Mae hysbysiadau dyblyg wedi’u dileu ar gyfer Trafodaethau Grŵp sydd wedi’u copïo.  
  • Mae hysbysiadau ar gyfer trafodaethau, blogiau, dyddlyfrau, a wikis bellach yn gweithio’n gywir ar ôl copïo cynnwys y cwrs.  
  • Mae’r e-byst sy’n crynhoi negeseuon bellach yn cynnwys gwybodaeth am ddiweddariadau graddau a graddau wedi’u clirio.  
  • Nid yw’r e-byst crynhoi sydd heb gyrraedd pen eu taith bellach yn dangos, yn anghywir, eu bod wedi cyrraedd.    
  • Dim ond ar ôl y dyddiad dechrau a bennir y mae e-byst Cyhoeddiadau yn cael eu hanfon gan sicrhau nad yw myfyrwyr yn cael y negeseuon cyn i’r cynnwys fod ar gael.  

Dylai’r newidiadau hyn leihau’r llif o hysbysiadau diangen gan roi sicrwydd bod y rhybuddion a geir yn adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd mewn cwrs.  

Ychwanegu rheolyddion didoli ar gyfer defnyddwyr Trafodaethau  

Mae’r meysydd trafod bellach yn cynnwys rheolyddion didoli i helpu defnyddwyr i ymdrin â sgyrsiau hir yn haws.  

Hyfforddwyr a myfyrwyr  

Gall defnyddwyr nawr wneud y canlynol:   

  • Trefnu postiadau yn ôl Y mwyaf newydd yn gyntaf neu Yr hynaf yn gyntaf
  • Dychwelyd at drafodaethau a’u gweld yn yr un drefn a ddewiswyd o’r blaen.  

Mae didoli yn ôl trefn yn berthnasol ym mhob rhan o’r trafodaethau, gan gynnwys trywydd yr atebion, ac mae’n gweithio’n gyson ar ddyfeisiau symudol.   

Mae hyn yn ei gwneud hi’n haws dilyn trafodaethau gweithredol, adolygu cyfraniadau, a dod o hyd i weithgarwch diweddar.  

Gwedd grid Llyfr Graddau wedi’i ailstrwythuro (Hyfforddwyr) 

Mae Gwedd Grid y Llyfr Graddau wedi’i ailwampio i fod yn symlach i hyfforddwyr o ran graddio.  

Ceir erthygl ar wahân gan Blackboard yn rhoi diweddariad mwy manwl ar y newidiadau hyn , ond y nod cyffredinol yw gwneud tasgau graddio yn haws i’w rheoli trwy gynllun a llif gwaith cliriach.  

Allforio banciau cwestiynau  

Gellir allforio banciau cwestiynau yn uniongyrchol o Blackboard.  

Hyfforddwyr 

O’r dudalen rheoli banciau cwestiynau, gall hyfforddwyr allforio banc cwestiynau fel ffeil a’i gadw’n lleol.  

Mae hyn yn galluogi staff i wneud y canlynol:  

  • Creu copïau wrth gefn o gynnwys asesiadau.  
  • Rhannu banciau cwestiynau gyda chydweithwyr. 
  • Ailddefnyddio cynnwys ar draws sawl cwrs. 

Mae’r broses allforio yn rhoi mwy o hyblygrwydd i hyfforddwyr wrth reoli a chadw deunyddiau asesu. 

Dangos adborth ar lefel ateb ar gyfer opsiynau a ddewisir yn unig   

Mae Blackboard wedi newid sut mae adborth yn cael ei arddangos ar gyfer cwestiynau amlddewis. 

Hyfforddwyr 

Nid oes unrhyw newidiadau i’r ffordd y mae adborth yn cael ei greu.  Gall staff barhau i ychwanegu adborth ar gyfer opsiynau ateb unigol gan ddefnyddio’r llif gwaith sy’n bodoli eisoes.  

⁠Myfyrwyr 

Ar ôl cyflwyno ymgais ar asesiad, dim ond yr adborth ar gyfer yr opsiynau ateb a ddewiswyd ganddynt mae myfyrwyr bellach yn eu gweld.   

Yn flaenorol, gallai myfyrwyr weld adborth ar gyfer pob opsiwn.  Mae’r dull newydd yn rhoi cyfarwyddyd mwy penodol ac yn atal myfyrwyr rhag gweld adborth sy’n gysylltiedig ag atebion nad oeddent wedi’u dewis.  

Mae hyn yn sicrhau bod adborth yn parhau i gael ei dargedu a’i fod yn berthnasol i ymatebion unigol. 

Llywio trwy gyrsiau’n gyflymach gyda rhyngwyneb defnyddiwr gwell 

Mae Blackboard wedi parhau â’i waith i wella’r llywio a phrofiad cyffredinol y defnyddiwr.  

Bwriad y newidiadau hyn yw:  

  • Ei gwneud hi’n haws i ddeall lle rydych chi o fewn cwrs. 
  • Lleihau camgymeriadau llywio damweiniol. 
  • Gwella cysondeb a pherfformiad. 
  • Helpu myfyrwyr i ganolbwyntio yn ystod asesiadau. 

Mae’n bwysig nodi bod strwythurau a chynnwys y cwrs yn aros yr un peth, felly nid oes angen i hyfforddwyr ail-ddylunio unrhyw beth. 

Llywio cynnwys tudalen lawn 

Mae modiwlau dysgu, ffolderi, dogfennau, asesiadau, cyfryngau, ac eitemau cynnwys eraill bellach yn agor fel tudalennau llawn yn hytrach nag mewn paneli troshaen.  

Mae agor cynnwys mewn tudalen bwrpasol yn creu profiad mwy cyson ac yn ei gwneud hi’n haws i symud yn ôl trwy ddeunyddiau’r cwrs heb golli eich lle. 

Delwedd 1:   Mae’r cynnwys bellach yn agor fel tudalen lawn gyda phenawdau a llywio cyson, yn hytrach na phaneli troshaen wedi’u pentyrru.  

Briwsion bara i ddangos y cyd-destun 

Mae tudalennau cynnwys bellach yn cynnwys llywio gan ddefnyddio briwsion bara.  

Mae briwsion bara yn dangos lle mae eitem wedi’i osod o fewn strwythur y cwrs ac yn darparu mynediad cyflym yn ôl i’r ffolderi a’r modiwlau gwreiddiol.  Maent yn cael eu cynhyrchu’n awtomatig ac nid oes angen i hyfforddwyr gymryd camau i’w sefydlu.   

Mae’r cyd-destun ychwanegol hwn yn helpu defnyddwyr i gadw golwg ar eu lleoliad o fewn y cwrs ac i symud o gwmpas yn fwy effeithlon.   

Delwedd 2:  Dyma friwsion bara ar dudalen cynnwys sy’n dangos lleoliad y defnyddiwr ac yn galluogi’r defnyddiwr i  symud yn ôl yn gyflym trwy fodiwlau a ffolderi. 

Ffordd gliriach, bwriadol i ddod allan o’r cynnwys 

Mae’r “X” porffor a ddefnyddiwyd o’r blaen i adael y cynnwys wedi’i ddisodli gan opsiwn ymadael wedi’i labelu’n glir yn yr ardal llywio.  

Mae sicrhau bod y dull rheoli ymadael yn fwy gweladwy a bwriadol yn helpu i leihau achosion o gau tudalennau yn ddamweiniol gan wneud llywio yn fwy rhagweladwy.  

Delwedd 3:  Mae’r opsiwn ymadael bellach yn rhan o’r faner lywio, gan leihau achosion o adael ar ddamwain.  

Cyflwr Ffocws ar gyfer profion ac aseiniadau (Myfyrwyr) 

Pan fydd myfyrwyr yn agor prawf neu aseiniad, mae Blackboard yn newid i gyflwr ffocws yn awtomatig.  

Mae’r olwg hon yn lleihau ymyriadau gweledol trwy leihau’r elfennau llywio nad ydynt yn hanfodol a chyflwyno sgrin asesu lanach.   

Mae’r nodwedd yn:  

  • Helpu myfyrwyr i ganolbwyntio ar asesiadau. 
  • Nid yw’n effeithio ar raddio nac ymarferoldeb. 
  • Mae’n dal i adael i fyfyrwyr lywio i rywle arall os oes angen.  
  • Nid oes angen unrhyw weithredu gan hyfforddwyr.  

Mae’r cyflwr ffocws wedi ei alluogi’n awtomatig ac ni ellir ei ddiffodd. 

Delwedd 4:  Yn y cyflwr ffocws, mae llywio nad yw’n hanfodol yn cael ei leihau fel y gall myfyrwyr ganolbwyntio ar gwblhau’r asesiad.  

Gosod amodau rhyddhau yn seiliedig ar gyflwyniadau dyddlyfr 

Gellir cysylltu amodau rhyddhau nawr â chyflwyniadau dyddlyfr.  

Hyfforddwyr 

Wrth bennu amodau rhyddhau, gall hyfforddwyr ddewis gwneud statws cyflwyno dyddlyfr yn ofyniad.   Unwaith y bydd myfyriwr yn cyflwyno’r cofnod dyddlyfr gofynnol, mae’r cynnwys cysylltiedig ar gael yn awtomatig.  

Mae’n bwysig nodi, nid oes angen i hyfforddwyr raddio’r dyddlyfr cyn i’r cynnwys gael ei ryddhau.   Mae Blackboard yn cofnodi’r cyflwyniad fel un sydd wedi’i gwblhau gan ddefnyddio’r broses olrhain cynnydd ac mae’n defnyddio’r statws hwnnw i beri i’r cynnwys gael ei ryddhau.  

Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd wrth ddylunio llwybrau dysgu strwythuredig a gweithgareddau rhagofynnol.  

Delwedd 1:   Mae hyfforddwyr yn dewis Cyfrannu (Engagement) fel y gweithgaredd sy’n ofynnol ar gyfer dyddlyfr.  

⁠Myfyrwyr 

Mae’r myfyrwyr yn cael mynediad awtomatig at gynnwys newydd unwaith y byddant yn cyflwyno’r cofnod dyddlyfr sy’n gysylltiedig â’r amod rhyddhau.  

Nid oes angen aros i’r gwaith gael ei farcio neu am gymeradwyaeth yr hyfforddwr cyn symud ymlaen, gan greu profiad dysgu llyfnach a lleihau’r oedi rhwng gweithgareddau.  

Cronfa Gwobr Addysg a Phrofiad y Myfyrwy

Mae’r Gynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr Flynyddol yn dwyn cydweithwyr ynghyd i ddathlu, rhannu, a rhoi llwyfan i’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud ledled ein Prifysgol i gyfoethogi’r dysgu, addysgu a phrofiad y myfyrwyr.

Er mwyn cefnogi ac annog y gwaith hwn, rydym ni’n falch o wahodd ceisiadau ar gyfer Gwobrau Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr eleni.

Eleni, mae cyfanswm o £10,000 ar gael, a chroesewir ceisiadau ar gyfer prosiectau o hyd at £2,000 yr un.

Dylai prosiectau alinio â themau’r gynhadledd eleni.

  • Creu cwricwlwm mwy amrywiol
  • Sgiliau, nodweddion graddedigion, a chymhwyso cymwyseddau yn y byd go iawn.
  • Myfyrwyr fel Cyd-grewyr a Chydweithwyr

Mae’r gwobrau’n cael eu hariannu trwy’r Gronfa Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a’r Gronfa Siarter Cydraddoldeb Hil.

Rydym yn annog ceisiadau o bob rhan o gymuned y Brifysgol ac yn croesawu cynigion a fyddai’n gwneud gwahaniaeth i’n haddysg a phrofiad y myfyrwyr.

Dylai ymgeiswyr fynychu’r gynhadledd eleni, sy’n cael ei chynnal rhwng 8-10 Medi. Gallwch archebu eich lle drwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein hon.

Mae rhaglen y gynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau gan dderbynwyr gwobrau’r llynedd.

I gyflwyno cais:

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys cwestiynau cyffredin, ar gael ar dudalennau gwe’r Gwobrau Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr.

Bydd y cronfeydd hyn yn cael eu gweinyddu gan drefnwyr y gynhadledd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk.

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich ceisiadau ac at weld sut mae cydweithwyr yn parhau i ddatblygu a rhannu arferion arloesol ar draws y Brifysgol.

Cynhadledd Flynyddol Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr:   Adborth am y Gynhadledd Flaenorol

Ydych chi’n ystyried dod i’r gynhadledd Addysg a Phrofiad Myfyrwyr ym mis Medi? Efallai nad ydych erioed wedi mynychu o’r blaen, neu eich bod chi’n newydd i’r brifysgol. Efallai nad ydych chi’n siŵr a fyddai’n ddefnydd da o’ch amser. Gydag ychydig llai na mis i fynd, roeddem am ryddhau blogbost yn amlinellu adborth blaenorol am y gynhadledd.

Wrth gwrs, byddem ni’n dweud mai dyma’r tri diwrnod gorau yn y dyddiadur (ni yw’r trefnwyr!), ond beth mae mynychwyr y llynedd yn ei ddweud?

Bob blwyddyn rydym yn cynnal arolwg adborth gydag unigolion sydd wedi bod i’r gynhadledd. Y llynedd gwnaeth 97% o’r bobl a ymatebodd i’r arolwg roi sgôr o 4 neu 5 allan o 5 i’r gynhadledd. A dywedodd 90% ei bod yn bodloni eu disgwyliadau.

Yr agweddau ar y gynhadledd yr oedd mynychwyr yn eu gwerthfawrogi fwyaf oedd ei bod yn rhoi cyfle i drafod pynciau cyfredol ym maes dysgu ac addysgu, ac adeiladu cymunedau. Mae’r cymysgedd o siaradwyr mewnol ac allanol yn golygu eich bod chi’n cael y cyfle i ddarganfod beth sy’n digwydd mewn adrannau eraill yn PA, yn ogystal â phrifysgolion yn y DU a thu hwnt. A gallwch gwrdd â staff mewn adrannau eraill a allai rannu’r un diddordebau addysgu neu ymchwil â chi. Mae digon o amser yn ystod egwyliau i gwrdd â phobl newydd yn ogystal â dal i fyny â chydweithwyr nad ydych wedi’u gweld ers tro.

Nid yn unig y mae’r gynhadledd yn ddigwyddiad gwych, ond mae mynychwyr yn dweud ei bod yn cael effaith uniongyrchol ar eu hymarfer addysgu. Trwy bapurau a gweithdai’r gynhadledd, a’r sgyrsiau, dywed staff eu bod yn defnyddio dulliau newydd a ddysgwyd o’r gynhadledd yn eu haddysgu. Ar ôl y gynhadledd y llynedd, dywedodd sawl aelod o staff wrthym eu bod yn mynd i bwyso a mesur defnyddio DA yn eu haddysgu. Os ydych chi’n ystyried gwneud cais am gymrodoriaeth AUYmlaen, mae’r gynhadledd hefyd yn ffordd wych o gymryd rhan mewn DPP a myfyrio ar eich ymarfer addysgu.

Un o’r negeseuon a awgrymodd mynychwyr ein bod ni’n ei rhannu’n ehangach yw bod croeso i chi bigo i mewn ac allan o’r gynhadledd. Gwyddom efallai na fyddwch chi’n gallu mynychu ar y tri diwrnod, ond gallwch ddod draw ar gyfer rhai o’r sgyrsiau sydd o ddiddordeb i chi. Ac wrth gwrs, gallwch aros cyhyd ag y dymunwch os ydych chi’n teimlo eich bod eisiau parhau â’r sgwrs, neu os oes sesiwn arall yn mynd â’ch bryd.

Felly, nid y tîm trefnu yn unig sydd â barn ffafriol am y gynhadledd – mae staff o bob rhan o’r brifysgol yn cytuno ei bod hi’n ffordd dda o gwrdd â chydweithwyr, trafod pynciau addysgu, a dysgu rhywbeth y gallant ei ddefnyddio yn eu haddysgu. Dewch draw ac ymunwch â nhw a darganfod drosoch eich hun. Byddem wrth ein bodd yn eich gweld yno.

Gallwch fwrw golwg dros ein rhaglen lawn ac archebu eich lle ar-lein.