Enillwyr Gwobr Cwrs Nodedig yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol

Gwobr ECA

Roedd yn bleser gweld cynifer o wynebau yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu rithwir eleni. Un o’r uchafbwyntiau imi oedd gallu dathlu’r pump a enillodd Wobr Cwrs Nodedig. Ers cychwyn y pandemig, nid ydym wedi gallu cydnabod ein henillwyr yn ystod y seremonïau graddio fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Felly, mae sesiwn gwobrwyo’r enillwyr yn ein galluogi ni i rannu’r arferion gwych a blaengar yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Rydym ar fin dechrau llunio ein cyrsiau ar gyfer blwyddyn academaidd 2021-22. Felly, os oes angen ysbrydoliaeth arnoch, ewch ar y teithiau o gwmpas y gwahanol fodiwlau drwy ddilyn y dolenni yn y testun isod.

Enillydd:

Dr Hanna Binks, Yr Adran Seicoleg: PS11320: Introduction to Research Methods

Mae’r modiwl craidd blwyddyn gyntaf hwn yn rhoi’r sgiliau y mae eu hangen ar fyfyrwyr i’w cynnal drwy gydol eu gradd Seicoleg. O ganlyniad i’r modd arloesol y cynlluniwyd y gwaith asesu, y cynnwys dwyieithog, y drefn dda oedd ar bethau a’r cyfathrebu clir â myfyrwyr, Hanna oedd enillydd y gystadleuaeth eleni. Os ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth i’ch helpu chi i ddod â’r canlyniadau dysgu, y gwaith asesu a’r cynnwys ynghyd, edrychwch ar y modiwl hwn. Mynnwch gip ar y daith o gwmpas modiwl PS11320.

Canmoliaeth Uchel:

Dr Martine Garland, Ysgol Fusnes Aberystwyth: AB27120: Marking Management

Prif bwyslais modiwl ail flwyddyn Martine oedd pwysigrwydd cydweithredu a gweithgareddau dysgu myfyriol gan ddefnyddio byrddau trafod a chynnwys yr oedd trefn glir iddo.  Â chymorth dros 900 o gyfraniadau at fyrddau trafod drwy gydol y modiwl, a thrwy ddefnyddio offeryn y maes llafur ar y Bwrdd Du, gallai Martine reoli modiwl swmpus. Ysgrifennai Martine flogiau am ei dull o gael myfyrwyr i gymryd rhan mewn byrddau trafod ar ein blog ni, a chafwyd cyflwyniad ganddi am y peth yn AULTC21.

Mynnwch gip ar y daith o gwmpas modiwl AB27120.

Prysor Mason Davies, Yr Ysgol Addysg: ED30620: Children’s Rights

Roedd dull Prysor o drefnu cynnwys yn ganmoladwy – trefnwyd y cynnwys yn ffolderi wythnosol a chyflwynwyd y tasgau wythnosol yn glir i’r myfyrwyr. Cryfhawyd sgiliau a gwybodaeth y myfyrwyr drwy gydol y gwaith o lunio’r modiwl, a rhoddwyd digon o gyfleoedd i’r myfyrwyr gael myfyrio ar eu dysgu mewn sypiau hawdd eu prosesu. 

Mynnwch gip ar y daith o gwmpas modiwl ED30620.

Dr Rhianedd Jewell, Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd: CY10920, Trafod y Byd Cyfoes Trwy’r Gymraeg

Nod y modiwl hwn yw cynorthwyo siaradwyr Cymraeg ail iaith. Mae Rhianedd wedi cynnwys llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr i wrando ar yr hyn y maent yn ei ddysgu, a’i ymarfer. Llwyddodd yr eirfa a luniwyd ar y cyd, ynghyd â’r ymgais i feithrin cymuned ddysgu y tu mewn i’r dosbarth ac oddi allan, i wirioneddol gryfhau cynnwys y modiwl. Rhoddwyd cyfle i fyfyrwyr i fod yn rhan o gynllun mentora. Roedd hyn yn hyrwyddo dysgu mewn grŵp. 

Mynnwch gip ar y daith o gwmpas modiwl CY10920.  

Mary Jacob, Yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu: PDM0520: Action Research and Reflective Practice in HE

Mae’r modiwl uwchraddedig hwn yn helpu pobl i ddatblygu’u sgiliau dysgu Addysg Uwch. Nod Mary yw meithrin a thyfu cymuned ymarfer drwy guradu adnoddau allanol, drwy ddefnyddio Trydar mewn ffordd arloesol, a thrwy ddod ag adnoddau ynghyd bob wythnos. Yn rhan o’r asesu, rhoddir adborth â’r dyfodol mewn golwg er mwyn helpu’r rhai sy’n dilyn y modiwl i ddatblygu’u harferion dysgu. 

Mynnwch gip ar y daith o gwmpas modiwl PDM0520.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â sut y mae cydweithwyr wedi defnyddio’r offer hyn, cysylltwch â ni (eddysgu@aber.ac.uk).

Edrychwn ymlaen at allu dathlu cyflawniadau ein cydweithwyr wyneb yn wyneb yn y dyfodol. 

Pe hoffech ymgeisio am Wobr Cwrs Nodedig, edrychwch ar ein tudalennau gwe a dilynwch ein blog.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*